Skip to Main Content

Cafodd cam diweddaraf y cymorth ariannol ar gyfer busnesau ei lansio gan Gyngor Sir Fynwy ddydd Gwener 12 Chwefror 2021. Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ddiwedd y mis diwethaf y caiff Grant Ardrethi Annomestig (NDR) y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau ei ymestyn i ddiwedd mis Mawrth 2021.

Mae busnesau a dderbyniodd y grant hwn yn flaenorol naill ai ym mis Rhagfyr 2020 neu fis Ionawr 2021 yn gymwys i dderbyn taliad atodol o naill ai £3,000 neu £5,000. Nid oes angen ail-ymgeisio. Bu Tîm Grantiau Busnes y cyngor yn prosesu taliadau ac maent wedi cadarnhau y dylai cyllid gyrraedd cyfrifon banc busnesau cymwys yn yr wythnos yn cychwyn 15 Chwefror 2021.

Yn flaenorol, roedd y cynllun hwn ar gael i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth gyda gwerth trethiannol o hyd at £150,000. Fodd bynnag, mae ymestyn y cynllun hefyd yn awr yn rhoi grant newydd o £5,000 ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth gyda gwerth trethiannol rhwng £150,000 a £500,000.

Gall busnesau nad ydynt wedi gwneud cais am y grant NDR hyd yma ddal i wneud hynny drwy lenwi ffurflen ar-lein, sydd ar gael drwy ddolen ar dudalen busnes y cyngor yn monmouthshire.gov.uk/cy/cyngor-i-fusnesau/ Gall busnesau hefyd wirio os ydynt yn gymwys drwy ddarllen y canllawiau ar y wefan.

Ar gyfer busnesau heb gofrestru am Ardrethi Busnes yn y sir, mae cymorth ar gael drwy Grant Dewisol y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.Mae’r grant yma i gefnogi busnesau bach a masnachwyr unigol y mae’r cyfyngiadau estynedig wedi effeithio’n uniongyrchol arnynt. Os yw busnes wedi derbyn grant yn flaenorol dan y Gronfa Ddewisol ym mis Rhagfyr 2020 neu fis Ionawr 2021 bydd angen iddynt wneud cais newydd ar gyfer y cynllun estynedig hwn, gan na wneir unrhyw daliadau awtomatig. Un cais yn unig a ganiateir i fusnesau a bydd y gronfa yn rhedeg nes y bydd wedi ei hymrwymo yn llawn. I wneud cais, ymwelwch â gwefan y cyngor, megis uchod.

Cyhoeddwyd cymorth ychwanegol ar gyfer gweithwyr llawrydd hefyd. Mae’r cylch newydd hwn o gymorth, o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol, ar gael i weithwyr llawrydd a dderbyniodd grant yn flaenorol dan y cynllun Grant Gweithwyr Llawrydd. Bydd taliad ychwanegol o £2,500 ar gael. Os yw’r gweithiwr llawrydd wedi derbyn grant ers hynny dan y cynllun Grant Dewisol, mae’n bwysig nodi y byddant yn anghymwys am y taliad ychwanegol hwn yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru. Bydd unigolion sydd wedi derbyn grant yn flaenorol dan y Cynllun Grant Gweithwyr Llawrydd yn derbyn e-bost yn y dyfodol agos gan Dîm Grantiau Busnes y cyngor yn gofyn iddynt gadarnhau os bu unrhyw newidiadau yn eu hamgylchiadau. Dim ond ar ôl derbyn yr wybodaeth hon y gwneir y taliadau ychwanegol hyn. Yn anffodus nid yw’r grant hwn ar agor i geisiadau newydd, fodd bynnag gall unrhyw un na chafodd y cyllid gwreiddiol wneud cais am y Grant Dewisol diweddaraf (manylion uchod).

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Rydym yn falch i fedru cadarnhau cam diweddaraf y grantiau sydd ar gael i fusnesau yn Sir Fynwy. Bu’r ychydig fisoedd diwethaf hyn yn neilltuol o anodd i’r busnesau y bu’n rhaid iddynt gau yn dilyn cyflwyno Lefel Rhybudd 4 ym mis Rhagfyr. Roeddent eisoes mewn trafferthion, hyd yn oed cyn y cyfyngiadau diweddaraf, felly byddwn yn parhau i lobio Llywodraeth Cymru am gymorth, yn arbennig ar gyfer y busnesau hynny sydd hyd yma wedi llithro drwy’r rhwyd yn y cynlluniau cyllid.

“Buom yn gweithio’n galed i ymestyn y grantiau a’r cymorth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru cyn gynted ag sy’n bosibl. Hyd yma, rydym wedi prosesu tua £30 miliwn o gymorth ariannol ar gyfer busnesau yn y sir. Gobeithiwn y bydd goleuni ar ben draw’r twnnel yn fuan iawn, a byddwn yn disgwyl cyhoeddiadau’r dyfodol gan Lywodraeth Cymru gyda diddordeb, yn y gobaith o fwy o gymorth, ac y caiff y cyfnod clo ei lacio maes o law pan mae’n ddiogel gwneud hynny.”

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gymorth i fusnesau ewch i monmouthshire.gov.uk/cy/cyngor-i-fusnesau/ a dilyn negeseuon y cyngor ar Twitter a Facebook @MonmouthshireCC