Skip to Main Content

Hoffai Cyngor Sir Fynwy glywed gan fusnesau a allai fod yn ansicr pa gyllid y gallent fod yn gymwys i dderbyn, a pha grantiau sydd ar gael i’w sector. Anogir perchnogion busnes i gofrestru ar gyfer digwyddiad Fforwm Busnes awr o hyd am ddim ar ddydd Iau 28ain Ionawr. Mae dwy sesiwn ar gael i ddewis ohonynt, ar naill ben y diwrnod busnes: 8.30am a 5.30pm.

Yn dilyn y cyfyngiadau a roddwyd ar fusnesau o ganlyniad i’r pandemig, lansiwyd grantiau amrywiol gan Lywodraeth Cymru i geisio helpu’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol gan y cyfnodau cau a cholli derbyniadau incwm o ganlyniad i’r rheiny. Mae’r sesiynau holi ac ateb ar-lein sy’n cael eu cynnal gan y cyngor wedi’u cynllunio i egluro’r cynlluniau ac i ateb cwestiynau a godir gan berchnogion busnes ar draws y sir.

Er mwyn ymuno, bydd angen i fusnesau gofrestru eu diddordeb drwy ffurflen fer ar y wefan: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cyllideb-2021-22/. Bydd dolen i ymuno â’r cyfarfod drwy Microsoft Teams yn cael ei e-bostio at fusnesau sy’n ymateb.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Ar ôl yr hyn a fu’n flwyddyn anodd, ac ar ôl lansio amrywiaeth o gynlluniau ariannu busnes, rwy’n gwerthfawrogi y gallai fod dryswch ynghylch pa gynlluniau grant a allai fod yn berthnasol i fusnesau penodol, pa gronfeydd ariannu sydd ar agor, sydd wedi cau, a sut i wneud cais. Mae hyn ond yn ychwanegu at y straen sydd eisoes yn cael ei deimlo gan berchnogion busnes. Mae hyn yn rhywbeth yr hoffem fynd i’r afael ag ef drwy siarad â busnesau’n uniongyrchol, er mewn lleoliad rhithwir ar-lein.  Byddwn yn annog unrhyw fusnes sydd â chwestiynau, neu a hoffai derbyn cyngor, i gofrestru ar gyfer un o’r sesiynau a fydd yn cael eu cynnal ar yr 28ain Ionawr.

“Mae ein tîm busnes wedi bod yn gweithio’n galed i gael cyllid i fusnesau cymwys sydd eisoes wedi gwneud cais am grant ond mae llawer mwy o fusnesau na fyddant wedi gwneud cais eto.  Mae hyn yn bryder difrifol a byddwn yn pwysleisio pwysigrwydd archwilio pa gymorth sydd ar gael, drwy ymweld ag adran cyngor busnes ein gwefan.”

“Rwy’n gobeithio, drwy’r digwyddiadau rhithwir hyn, ein bod yn gallu cyrraedd cynifer o fusnesau Sir Fynwy â phosibl a chynnig cymorth.  Mae eu goroesiad yn allweddol i’n sir er mwyn gallu gwella unwaith y bydd y pandemig hwn wedi mynd heibio yn y pen draw,” dywedodd y Cynghorydd Greenland.

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth busnes ac i gofrestru ar gyfer y sesiynau holi ac ateb ffrydio’n fyw ar-lein, ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cyllideb-2021-22/