Skip to Main Content

CYNGOR SIR FYNWY DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFORDD 1984

GORCHYMYN CYFUNO (RHEOLEIDDIO TRAFFIG A THERFYN CYFLYMDER 2019) (DIWYGIAD RHIF 2)

GWAHANOL FFYRDD, SIR FYNWY

HYSBYSIR DRWY HYN bod Cyngor Sir Fynwy yn cynnig, yn unol â Gorchymyn Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Lloegr a Chymru) 1996 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel ‘y Ddeddf”), fel y’i diwygiwyd a Rhan IV Atodlen 9 y Ddeddf a’r holl bwerau galluogi eraill ac ar ôl ymgynghori gyda Phrif Swyddog yr Heddlu, i wneud y Gorchymyn uchod, ac i ddiwygio’r cyfyngiadau ar y ffyrdd dilynol fel yr amlinellir islaw ac yn yr Atodlen.

1. Mae’r Cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Diwygiad Rhif 2 fydd â’r effaith cyffredinol o ddiwygio Gorchymyn Cyfuno (Traffig a Therfyn Cyflymder) 2019 Cyngor Sir Fynwy (“y Gorchymyn Cyfuno”) i sicrhau defnydd diogel ac effeithiol o’r rhwydwaith priffyrdd.

2. Mae dogfennau’n rhoi mwy o fanylion o’r cynigion ar gael ar-lein yn www.monmouthshire.gov.uk/public-consultation-traffic tan ddiwedd cyfnod o 21 diwrnod o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad hwn. Bydd hyn yn cynnwys copïau o’r Gorchymyn Cyfuno, ynghyd â’r Atodlenni a’r Mapiau a gynigir yn dangos y darnau o ffyrdd y mae’r Gorchymyn arfaethedig yn cyfeirio atynt, ynghyd â Datganiad Rhesymau y Cyngor am gynnig gwneud y Gorchymyn.

3. Os dymunwch ffonio i gael mwy o wybodaeth neu eglurhad, ffoniwch 01633 644644, neu anfon e-bost at LauraBazely@monmouthshire.gov.uk os gwelwch yn dda.

4. Dylai unrhyw berson sy’n dymuno gwrthwynebu’r Gorchymyn arfaethedig anfon datganiad ysgrifenedig o’u gwrthwynebiadau gan roi manylion ar ba sail y cânt eu gwneud at Matthew Phillips, Pennaeth Cyfraith a Swyddog Monitro yn Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. Dylai unrhyw sylwadau gael eu hanfon a chyrraedd o fewn 21 diwrnod o gyhoeddi’r hysbysiad a’u marcio’n glir: “Er sylw Matthew Phillips – Gorchymyn Cyfuno Diwygiad Rhif 1”. Bydd y Cyngor Sir yn ystyried gwrthwynebiadau a sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r Hysbysiad hwn. Gall y rhain gael eu lledaenu’n eang ar gyfer dibenion hyn a bod ar gael i’r cyhoedd.