Skip to Main Content

Mae plant o ysgolion cynradd ledled Sir Fynwy wedi bod yn gweithio’n galed i gynhyrchu arddangosfeydd ffenestr Nadolig mewn prosiect ‘Siopa Lleol’ gyda Chyngor Sir Fynwy. Mae’r fenter wedi’i chynllunio i ddod â rhywfaint o hwyl yr ŵyl i’r stryd fawr tra’n atgoffa pawb i gefnogi busnesau drwy brynu eu rhoddion Nadolig, eu bwyd a’u gwasanaethau yn lleol.

Mae gan siop Go Mobile yn Sgwâr Agincourt olygfa’r Enedigaeth, Siôn Corn a negeseuon plu eira o ddiolch gan Ysgol Gynradd Tryleg

Heriwyd ysgolion a wirfoddolodd i gymryd rhan i lunio eu dyluniadau creadigol eu hunain, gan ddefnyddio deunydd wedi’i ailgylchu a gyda neges Siopa Lleol, i addurno ffenestri siopau a Hybiau Cymunedol. Mae Ysgol Gynradd Tryleg, Ysgol Gynradd Gwndy, Ysgol Gynradd Pembroke, Ysgol Gynradd The Dell, Dewstow, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Brynbuga, Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Rhaglan, Ysgol Gynradd Kymin View, Ysgol Gynradd y Santes Fair, Ysgol Gynradd Cross Ash ac Ysgol Gynradd Llaneuddogwy i gyd wedi cymryd rhan ac mae’r rhan fwyaf o’r gosodiadau bellach ar waith.

Ysgol Gynradd Cross Ash

“Rydym wrth ein bodd yn gweld ystod mor wych o addurniadau,” meddai’r Cynghorydd Richard John, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl ifanc. “Mae’r plant wir wedi cynnig addurniadau, golygfeydd a negeseuon ysbrydoledig sy’n codi’r galon. Hoffwn ddiolch i bob un athro a phlentyn sydd wedi gweithio mor galed i wneud addurniadau ar gyfer lleoliadau yn y Fenni, Cas-gwent, Cil-y-coed, Magwyr, Trefynwy, Brynbuga, Rhaglan a Thyndyrn. Maen nhw wir wedi ein helpu i ledaenu’r neges Siopa Lleol, a hefyd hwyl y Nadolig y mae mawr ei hangen.”

Mae ffenest Archer & Co wedi cael ei droi’n Ystafell Bost Siôn Corn gan Ysgol Gynradd yr Egwlys yng Nghymru Brynbuga.

Yn y cyfamser, mae’r neges Siopa Lleol hefyd yn cael ei lledaenu diolch i fand bach o ellyllon 4 troedfedd o uchder. Mae cynorthwywyr bach Siopa Lleol wedi’u gweld mewn trefi a phentrefi ar draws y sir, gan symud o siop i siop yn ystod oriau tywyllwch. Mae trigolion yn cael eu hannog i gymryd #hunlun gyda nhw os ydyn nhw’n eu gweld, ac wedyn rhannu’r lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r tag #SiopaLleol @MonmouthshireCC i helpu i gefnogi’r ymgyrch. Hyd yn hyn, fe’u gwelwyd yn Nhrefynwy, y Fenni, Tyndyrn, Cas-gwent, Cil-y-coed, Magwyr a Brynbuga.

HelmetHers, Trefynwy

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r ymgyrch Siopa Lleol yn gwneud argraff wirioneddol gyda siopwyr ac yn codi pwysigrwydd cefnogi busnesau Sir Fynwy ar adeg pan fo’n hangen ni fwy nag erioed o’r blaen.” “Rydym wedi gweld nifer o luniau’n cael eu rhannu ar-lein o’r Hunlun gyda’r Ellyllon, a dynnwyd gan drigolion sy’n gwneud y gorau o bopeth sydd gan ein strydoedd mawr i’w gynnig. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i ledaenu’r neges ymhellach yn y cyfnod cyn y Nadolig. Ar ôl y flwyddyn y mae pawb wedi’i chael, mae angen i ni i gyd ledaenu ychydig o hwyl lle gallwn.”

“Hoffwn ychwanegu fy niolch i’r holl ysgolion a’r disgyblion sydd wedi croesawu her grefftio Nadolig Siopa Lleol,” ychwanegodd y Cynghorydd Greenland. “Mae’r creadigrwydd y maent wedi’i gyflwyno i’r prosiect yn dyst i dalent a brwdfrydedd pobl ifanc ar draws Sir Fynwy.”

Ble y gallwch ddod o hyd i osodiadau Siopa Lleol yr ysgolion:

Y Fenni: Y Siop Un Stop a Hyb Cymunedol, wedi’i addurno gan Ysgol Gynradd Cross Ash.

Cil-y-coed: Mae lleoliadau amrywiol yn cael eu haddurno gan Ysgol Gynradd Dewstow.

Cas-gwent: Neuadd Fwyd Marks & Spencer, wedi’i addurno gan Ysgol Gynradd Pembroke. Ysgol Gynradd y Santes Fair ac Ysgol Gynradd The Dell, Hyb Cymunedol Cas-gwent.

Magwyr: Lleoliadau amrywiol yn cael eu haddurno gan Ysgol Gynradd Gwndy.

Trefynwy: Mae gan siop Go Mobile yn Sgwâr Agincourt olygfa’r Enedigaeth, Siôn Corn a negeseuon plu eira o ddiolch gan Ysgol Gynradd Tryleg. Siop Bidmead Cook ar Stryd Mynwy, Ysgol Gynradd Kymin View.

Rhaglan: Lleoliadau amrywiol yn cael eu haddurno gan Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Rhaglan.

Brynbuga: Mae ffenest Archer & Co wedi cael ei droi’n Ystafell Bost Siôn Corn gan Ysgol Gynradd yr Egwlys yng Nghymru Brynbuga.

Tyndyrn:  Mae Ysgol Gynradd Llaneuddogwy yn creu addurniadau ar gyfer busnesau’r pentref.

I gael gwybod mwy am yr ymgyrch Siopa Lleol ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/siopa-yn-lleol-siopa-yn-sir-fynwy/