Skip to Main Content

Mae trigolion ar draws y sir, sy’n derbyn gwasanaeth Prydau Sir Fynwy, wedi dweud diolch ar y cyd yn ystod Wythnos Prydau ar Glud (2il – 6ed Tachwedd), i’r tîm sy’n rhedeg y gwasanaeth hanfodol hwn. Mae’r gwasanaeth, sydd wedi bod yn rhedeg ers dros 16 mlynedd, wedi ymateb i gynnydd yn y galw oherwydd pandemig COVID-19, ac mae ei gyfraniad wedi mynd lawer ymhellach na dim ond prydau bwyd.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, yr aelod cabinet dros ofal cymdeithasol: “Mae Prydau Sir Fynwy wedi bod yn rhan hanfodol o’r ymdrechion i gadw ein cymuned mewn cysylltiad, a darparu cefnogaeth yn ystod y pandemig hwn.” “Roedd y tîm wedi ymrwymo i ddarparu ‘busnes fel arfer’, ond maen nhw wedi gwneud cymaint mwy. Yn ogystal â darparu prydau bwyd, maent wedi darparu gwasanaeth amser te ychwanegol, wedi derbyn galwadau gyda’r nos, wedi helpu i fwydo pobl ddigartref, wedi darparu Offer Diogelwch Personol i gartrefi preswyl ac asiantaethau gofal, ac wedi darparu pecynnau gofal i ysgolion wrth iddynt baratoi i ailagor. Maent hefyd wedi darparu wyneb cyfeillgar a rhywun i gael sgwrs â hwy, sy’n bwysig mewn ffyrdd gallwn byth eu rhestru.”

Er mwyn ateb y cynnydd yn y galw, cynorthwywyd tîm Prydau Sir Fynwy gan gydweithwyr o wasanaethau eraill y cyngor, megis gorfodi sifil, ac mae cerbydau ychwanegol wedi’u llogi i ddarparu nifer cynyddol o brydau bwyd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Penny Jones:  “Rwy’n hynod ddiolchgar i bob un person sy’n helpu i ddarparu ein gwasanaeth Prydau Sir Fynwy.  Yn ystod y pandemig hwn, mae Prydau Sir Fynwy wedi arloesi ac addasu i sicrhau bod y rhai sydd mewn angen yn parhau i gael yr achubiaeth gymdeithasol hanfodol sy’n gwella ansawdd bywyd, sy’n gymaint mwy na dim ond pryd o fwyd. Mae nifer y bobl sy’n agored i niwed sy’n byw yn y gymuned, sydd wedi’u cyfyngu i’w cartrefi eu hunain ac sy’n dibynnu ar eraill, wedi cynyddu ond mae’r ymateb gan Brydau Sir Fynwy wedi bod yn rhyfeddol.  Hoffwn ychwanegu fy niolchiadau diffuant i at y rhai a roddwyd eisoes gan gwsmeriaid y gwasanaeth, at ein Harwyr Prydau ar Glud.”

Dywedodd Pauline Batty o Brydau Sir Fynwy:  “Ar hyn o bryd rydym yn helpu 211 o gwsmeriaid, ac yn darparu tua 195 o brydau bwyd y dydd, saith diwrnod yr wythnos.  Ciniawau poeth yw’r rhan fwyaf o’r prydau bwyd, ond mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig prydau wedi’u rhewi a phrydau wedi’u lapio ar gyfer amser te. Rwy’n falch iawn o’r tîm.  Nid dim ond darparu bwyd y maent, byddan nhw’n gwneud paned o de, yn platio’r bwyd, a lle bynnag y bo modd byddan nhw’n treulio amser yn siarad â’r cwsmeriaid, ac yn rhoi adborth ar unrhyw bryderon i’r person priodol. Nid ar hap yw’r ffaith mai arwyddair ein tîm yw ‘mwy na dim ond pryd o fwyd, mwy na dim ond munud’. Ar ran y tîm cyfan, hoffwn ddiolch i’n holl gwsmeriaid; y wobr orau y gallem ofyn amdano yw gweld y wên ar eu hwynebau.”

I gael mynediad i wasanaeth Prydau Sir Fynwy, e-bostiwch meals@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch y tîm ar 01873 882910. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/monmouthshire-meals/