Skip to Main Content

O ddydd Llun 30 Tachwedd bydd dwy ysgol yn Sir Fynwy yn cymryd rhan mewn cynllun newydd a gynlluniwyd i helpu cadw plant yn ddiogel. Mae Ysgol Gynradd Goetre Fawr ym Mhenperllenni, ger Pont-y-pŵl ac Ysgol Gynradd a Meithrinfa Cantref yn y Fenni yn bwriadu gweithredu parth arbrofol i gerddwyr a beiciau am gyfnod o 18 mis a elwir yn ‘Stryd Ysgol’ er mwyn helpu disgyblion a theuluoedd i gadw pellter cymdeithasol ac aros yn ddiogel tu allan i glwydi’r ysgol yn ystod amserau mynd â phlant i’r ysgol yn y bore a’u casglu yn y prynhawn.

Ar gyfer Ysgol Gynradd Goetre Fawr bydd hyn yn effeithio ar y cyfan o Lôn yr Ysgol tra bydd Ysgol Gynradd Cantref yn gweld y Gorchymyn ‘Stryd Ysgol’ ar Heol Harold i gyd. Cytunodd y ddwy ysgol hyn i ddod yn ardaloedd peilot cyntaf y cyngor, a rhagwelir y gellid gweithredu trefniadau tebyg mewn ysgolion eraill yn y dyfodol, os yw’r cynllun yn profi’n llwyddiannus.

“Rwy’n falch fod ysgolion cynradd Goetre Fawr a Cantref yn cefnogi’r cynllun ‘Stryd Ysgol’. Mae’n gam pwysig ymlaen wrth gadw plant yn ddiogel pan fyddant yn cael eu cludo i’r ysgol ac oddi yno a rhagwelir y bydd hefyd yn helpu teuluoedd i gadw pellter cymdeithasol yn haws”, meddai’r Cynghorydd Richard John, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc. “Os yw’r cynllun hwn i lwyddo, byddwn angen i bawb gefnogi a chydymffurfio er mwyn iddo weithio.”

Anfonwyd manylion y cynigion at breswylwyr yn y strydoedd yr effeithir arnynt. Fel rhan o’r cynllun, rhoddir pas i’r holl breswylwyr ac athrawon yn caniatáu eithriad iddynt yrru ar hyd  y strydoedd yn ystod y cyfnod cau. Gall preswylwyr hefyd ofyn am basiau ychwanegol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys mynediad i’r anabl ar gyfer unrhyw berson sy’n dangos bathodyn glas dilys. Bydd y Gorchymyn yn weithredol yn ystod amserau tymor ysgol yn unig, o ddyddiau Llun i ddydd Gwener, a bydd yn dod i rym o ddydd Llun 30 Tachwedd 2010. Bydd yr oriau gweithredu yn gwahaniaethu yn dibynnu ar yr ysgol; fodd bynnag bydd cynllun Goetre Fawr yn gweithredu rhwng 8.50am – 9.20am a 3.10pm – 3.40pm tra bydd cynllun Cantref yn gweithredu rhwng 8.30am – 9.00am a 3.00pm – 3.40pm.

Caiff y Gorchymyn ei gefnogi i ddechrau gan arwyddion dros dro a chonau ond cyflwynir arwyddion parhaol yn y dyfodol os bydd y cynllun yn llwyddiannus.

“Mae’r cyngor yn ymroddedig i hyrwyddo Teithio Llesol ar draws y sir i wella diogelwch ffordd ar gyfer plant sy’n mynychu’r ysgolion cynradd ond hefyd i annog defnydd dulliau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth tebyg i gerdded, seiclo a theithio ar sgwter,” meddai’r Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am seilwaith. Caiff y cynllun ‘Stryd Ysgol’ ei osod i ddechrau ar sail arbrofol er mwyn galluogi asesu ei effaith cyn symud ymlaen ag unrhyw gynllun parhaol. Byddai’r Gorchymyn arbrofol mewn grym am uchafswm o 18 mis a chaiff ei fonitro yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd y tîm Traffig yn rhoi ystyriaeth lawn i unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau a geir yn ystod yr arbrawf, a byddant yn ystyried os oes angen unrhyw newidiadau cyn penderfynu os y dylai’r gorchymyn gael ei wneud yn barhaol neu ei ddiddymu. Mae’r cynllun wedi cael cefnogaeth gan deuluoedd a gan yr ysgolion dan sylw, felly rydym yn obeithiol y bydd yn profi’n llwyddiannus ac y caiff ei fabwysiadu maes o law gan ysgolion eraill ar draws y sir.”