Skip to Main Content

Am y degfed flwyddyn yn olynol, mae Gwasanaeth Cynllunio Brys Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn gwobr PawPrint gan RSPCA Cymru. Rhoddwyd y Wobr Aur i’r tîm Cynllunio Wrth Gefn am ei waith yn diogelu lles anifeiliaid anwes o fewn cynlluniau wrth gefn – yn y broses gynllunio ac o fewn hyfforddiant ac ymarfer. Mae hefyd yn cydnabod y cyngor y mae’r awdurdod yn ei roi i berchnogion anifeiliaid anwes ar barodrwydd ar gyfer argyfyngau. 

Ers ymuno â’r gwobrau yn 2010, mae Cyngor Sir Fynwy wedi cael anrhydedd bob blwyddyn ond nid yw’n gorffwys ar ei fri, mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth barhaus. 

Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Mae hyn yn gyflawniad gwych, ac yn ganlyniad i’r gwaith caled gan ein Tîm Cynllunio Brys. Da iawn i’n Tîm Cynllunio Brys am ennill yr anrhydedd hon. Er gwaethaf yr holl heriau y mae digwyddiadau 2020 wedi’u cyflwyno, mae eu hystyriaeth o les anifeiliaid wedi parhau fel mater o ganolbwyntio’n fanwl. Mae’r Wobr Aur PawPrint hon yn gydnabyddiaeth briodol o hyn.” 

Lansiwyd cynllun gwobrau’r RSPCA yn 2008 ac mae’n cydnabod arfer da ym maes lles anifeiliaid gan awdurdodau lleol a darparwyr tai ledled Cymru a Lloegr.  Mae Gwobr PawPrints yn cwmpasu pedwar maes gwaith sy’n effeithio ar les anifeiliaid – cynllunio wrth gefn; gwasanaethau cŵn crwydr; gwasanaeth tai ac egwyddorion lles anifeiliaid. Rhennir gwobrau yn bum categori, a ddyfernir i safon efydd, arian neu aur.  Maent yn cydnabod cyflawniadau sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus am eu gwasanaethau cŵn crwydr, cynllunio wrth gefn, polisi tai, trwyddedu gweithgarwch anifeiliaid a lles cŵn sydd wedi’u cynelu.  

Cefnogir y gwobrau gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig a Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.