Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn aros am gadarnhad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r cymorth economaidd sydd wedi’i gyhoeddi i fusnesau y mae’r cyfnod atal byr yn effeithio arnynt. Cyn gynted ag y caiff y manylion llawn eu cadarnhau bydd y meini prawf cymhwysedd a’r broses ymgeisio yn cael eu rhoi ar wefan y cyngor yn https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cyngor-i-fusnesau/

Dywedodd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:  “Rydym yn croesawu’r newyddion bod y Gronfa Cadernid Economaidd yn cael ei gwella i bron £300m, sy’n cynnwys £150m yn ychwanegol i gefnogi busnesau y mae’r cyfnod atal byr yn effeithio arnynt. Mae’n ddealladwy bod busnesau, a oedd mewn perygl gwirioneddol o gael eu cau’n barhaol yn ystod y cyfnod cloi cenedlaethol yn y gwanwyn, yn poeni sut y byddant yn mynd drwy’r cyfnod atal byr diweddaraf hwn. Rydym yn paratoi ein holl adnoddau i helpu busnesau i gael gafael ar y cyllid o Lywodraeth Cymru y mae ganddynt yr hawl iddo. Ni all ddod yn rhy fuan. 

“Roedd y cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys £20m ychwanegol i’r gronfa £80m a gyhoeddwyd eisoes, i helpu busnesau i ddatblygu yn y tymor hwy, ac mae £20m ohono wedi’i neilltuo ar gyfer twristiaeth a lletygarwch – sectorau sy’n cael eu taro’n galed gan archebion hanner tymor wedi’u canslo, adeg pan fydd llawer o deuluoedd yn ceisio cymryd gwyliau,” esboniodd y Cynghorydd Greenland.

Hyd yma, y manylion sydd wedi’u cadarnhau yw y bydd trydydd cam y Gronfa Datblygu Economaidd (Cronfa Cadernid Economaidd) ar agor ar gyfer ceisiadau o ddydd Llun 26ain Hydref a bydd yn parhau ar agor am bedair wythnos. Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd hefyd yn cynnwys Cronfa Fusnes Cyfnod Cloi a fydd yn cael ei darparu gan Gyngor Sir Fynwy i fusnesau cymwys:

  • Bydd pob busnes sy’n meddiannu eiddo sydd â gwerth trethadwy o £12,001 neu lai yn gymwys i gael taliad o £1,000.
  • Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n gorfod cau yn ystod y cyfnod atal byr, sy’n meddiannu eiddo sydd â gwerth trethadwy rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys i gael taliad o hyd at £5,000.
  • Bydd grant dewisol ychwanegol o £2,000 ar gael, ar sail cais, i’r busnesau hynny sydd â gwerth trethadwy o £12,000 neu lai sy’n cael eu gorfodi i gau gan y cyfnod atal byr.
  • Bydd grant dewisol pellach o £1,000 ar gael i fusnesau ar yr un sail, lle mae mesurau cloi lleol wedi effeithio arnynt yn sylweddol am 21 diwrnod neu fwy, cyn dechrau’r cyfnod atal byr.
  • Mae angen i fusnesau fod wedi cofrestru ar gyfer Ardrethi Busnes a bod ganddynt rif ardrethi busnes.

Bydd busnesau hefyd yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ar gael drwy’r Cynllun Cadw Swyddi presennol neu’r Cynllun Cymorth Swyddi estynedig newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Greenland: “Rydym yn rhagweld cadarnhad o fanylion y cyllid diweddaraf yn fuan iawn ac rydym yn bwriadu cyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl, fel bod busnesau Sir Fynwy yn derbyn eu grantiau cyn gynted â phosibl.” “Mae busnesau ar draws y sir eisoes wedi teimlo effaith y cloeon cyfagos, a bydd y pythefnos nesaf hwn yn eu taro’n galed. Yn ogystal â gwneud cais am gylch diweddaraf y Gronfa Cadernid Economaidd, byddwn yn gofyn i fusnesau ddefnyddio’r gwiriwr cymhwysedd i sicrhau bod ganddynt bob cymorth y mae ganddynt yr hawl iddo yn ystod yr adeg anodd hon.”

I gael gwybod mwy ac i gael mynediad i’r Gwiriwr Cymhwysedd ewch i https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy