Skip to Main Content

Mae perchnogion busnes yn ein Canol Trefi’n cael eu gwahodd i fynegi eu diddordeb mewn grant newydd i’w helpu i wella yn dilyn effaith y pandemig.

Mae’r Grant Addasu Mannau Awyr Agored Canol Trefi yn cynnig cyfle i fusnesau sicrhau hyd at £8,000 tuag at welliannau sy’n cyfrannu nid yn unig at y busnesau eu hunain, ond hefyd at amgylchedd ac amwynder canol trefi Sir Fynwy.

Wedi’i ariannu drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, bydd y grant yn galluogi busnesau i fuddsoddi mewn gwelliannau allanol ac offer fel seddi awyr agored, byrddau, cysgodlenni, rhwystrau, planwyr, parcdiroedd, cyflenwad trydan awyr agored, goleuadau a gwresogi.

Y bwriad yw y bydd buddsoddi mewn mesurau fel y rhain yn galluogi busnesau i fasnachu y tu allan, nid yn unig drwy gydol misoedd yr haf ond hefyd yn ystod tymor y gaeaf. 

Er y disgwylir y bydd y cynllun grant hwn yn apelio’n bennaf at fusnesau lletygarwch, mae croeso i fusnesau canol tref eraill, sy’n dymuno creu neu wella lle masnachu yn yr awyr agored tra’n galluogi cwsmeriaid i gadw at ymbellhau cymdeithasol yn ddiogel, i gyflwyno eu cynigion i’w hystyried.

Bydd angen i ymgeiswyr fodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynllun, y gellir eu gweld ar-lein ar dudalen https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cyngor-i-fusnesau/

Er mwyn gallu cyflwyno cais, bydd angen i fusnesau ddangos bod eu cynigion o safon uchel addas, eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion statudol a’u bod yn ddiogel.  Hefyd eu bod yn meddu ar drwydded i fasnachu yn y gofod a nodwyd a bod ganddynt yswiriant atebolrwydd cyhoeddus at ddibenion o’r fath.

Y cam cyntaf yn y broses ymgeisio yw cwblhau ffurflen mynegi diddordeb fer a fydd yn cael ymateb o fewn pum diwrnod gwaith.


Llun: Y Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Hoffem glywed oddi wrth fusnesau a fyddai â diddordeb mewn gwneud cais am y grant. Er bod gan y grant feini prawf caeth, rydym yn agored i syniadau newydd.

“Dylai mesurau sy’n cael eu cyflwyno o ganlyniad i gais llwyddiannus am grant fod o fudd i’r busnes, ond bydd hefyd yn helpu i wella golwg ein strydoedd mawr, gan greu amgylchedd masnach groesawgar a diwylliant caffi.  Nid mesurau tymor byr yw’r rhain, y gobaith yw y bydd manteision y cynllun hwn yn para’n hir, drwy fuddsoddi mewn seddi, planwyr a chysgodlenni deniadol o ansawdd, ac ati, a bydd hyn yn helpu i wella canol ein trefi ymhellach.

“Nid ydym yn ôl i sefyllfa busnes fel arfer, mae COVID-19 o hyd yn bresennol. Gobeithio, drwy gefnogi busnesau Sir Fynwy a’u helpu i greu llecynnau awyr agored deniadol i fasnachu, y gallwn helpu i greu amgylchedd diogel a gwell ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.”

Am wybodaeth ychwanegol ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cyngor-i-fusnesau/