Skip to Main Content

Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi lansio Cynllun Grant Dechrau Busnes Newydd i gefnogi’r rhai sy’n hunangyflogedig ond sy’n dod tu allan i Gynllun Cymorth Incwm Hunan-gyflogaeth (SEISS) Llywodraeth y Deyrnas Unedig oherwydd mai dim ond ers 2019 maent yn masnachu.

Nod y Grant Dechrau Busnes Newydd yw rhoi cymorth i rai a sefydlodd eu busnes ar ôl 31 Mawrth 2019 a’u helpu i barhau i fasnachu drwy’r pandemig Covid-19. Diben y grant yw cefnogi busnesau newydd gyda chymorth llif arian ar unwaith i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd pandemig Covid-19. Mae’r grant yn anelu i ategu mesurau ymateb eraill Covid-19 i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.

Bydd y gronfa yn werth £5 miliwn a bydd yn rhoi grant o £2,500 yr un i fusnesau cymwys. Rhagwelir y bydd y cynllun yn cefnogi tua 2,500 o fusnesau, a chaiff ei weithredu ar sail cyntaf i’r felin.

“Gobeithiwn y bydd y cynllun diweddaraf hwn yn medru helpu rhai o’r busnesau annibynnol, llai hynny sydd wedi disgyn rhwng stolion yn y cynlluniau presennol a gynigir gan Lywodraeth Cymru hyd yma. Byddwn yn annog unrhyw fusnes sy’n credu y gallent fod yn ateb y meini prawf i fynd ar-lein a defnyddio’r gwiriwr cymhwyster cyn gynted ag sydd modd, gan y caiff y cynllun ei gau unwaith y dyrannwyd y gronfa yn llawn”, meddai’r Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd, Cyngor Sir Fynwy.

Gall busnesau wneud cais o ddydd Llun 29 Mehefin 2020 a chaiff y cynllun ei gau pan fydd y gronfa wedi’i hymrwymo i gyd. Gweinyddir y grantiau gan Gyngor Sir Fynwy. Y nod yw prosesu pob cais o fewn cyfnod 30-diwrnod.

Meini prawf cymhwyster Llywodraeth Cymru ar gyfer y Grant Busnesau Newydd yw:

·         Rhaid i fusnesau fod yn gweithredu yng Nghymru

·         Bod wedi dechrau masnachu rhwng 1 Ebrill 2019 a 1 Mawrth 2020

·         Rhagweld trosiant blynyddol o lai na £50,000

·         Heb fod yn derbyn y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, y Gronfa Cadernid Economaidd na’r Grant Ardrethi Busnes

·         Mae’n rhaid i fusnesau fod ag un neu fwy o’r dilynol:

– Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr HMRC (UTR)

– Rhif Cofrestru TAW neu dystysgrif eithriad TAW

– Gohebiaeth ysgrifenedig yn cadarnhau cofrestru gyda HMRC

·         Bod wedi profi gostyngiad o fwy na 50% mewn trosiant fel canlyniad i’r pandemig Covid-19 rhwng Ebrill a Mehefin 2020

·         Rhaid i fusnesau a gefnogwyd anelu i gynnal cyflogaeth am 12 mis

 Gall busnesau wirio os ydynt yn gymwys am Grant Dechrau Busnes Newydd drwy ddefnyddio’r gwiriwr cymhwyster Cronfa Cadernid Ariannol sydd ar gael ar wefan Busnes Cymru  https://fundchecker.businesswales.gov.wales/  Os ydynt yn gymwys, caiff busnesau eu cyfeirio at y ffurflen gais ar-lein.

I gael mwy o wybodaeth
https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2020/06/Start-Up-Grant-Guidance-Notes.pdf

DIWEDD