Skip to Main Content

Mae Trefynwy wedi’i henwi’n swyddogol fel y dref wenyn gyntaf yn y DU. Mae’r gydnabyddiaeth hon, a ddyfernir ar Ddiwrnod Gwenyn y Byd, yn dilyn y gwaith rhagorol a arweinir gan Gyngor Sir Fynwy, Cyngor Tref Trefynwy a Bees for Development i wneud y dref yn lle gwell i beillwyr.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn ymgyrch llwyddiannus 2019 Sir Fynwy, sef ‘Natur Wyllt’, sydd bellach yn cael ei hymestyn i bob sir yng Ngwent. Ariennir yr ymgyrch drwy gymunedau gwledig Llywodraeth Cymru o dan Fesur LEADER Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.   

Mae’r ymgyrch ‘Natur Wyllt’ wedi cyflwyno mesurau gan gynnwys torri mannau gwyrdd ac ymylon, a reolir gan y cyngor, yn ddetholus. Mae hyn wedi galluogi i flodau gwyllt ffynnu, gan ddod â mwy o bryfed, gwenyn a ieir-bach-yr-haf gyda nhw. Mae hyn wedi dwyn gwobrwyon ecolegol nid yn unig i Drefynwy, ond i drefi a phentrefi ar draws y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth: “Mae hyn yn newyddion gwych.  Mae Trefynwy wedi arwain y ffordd o ran hyrwyddo pwysigrwydd gwenyn yn yr ecosystem. Mae’r dref wedi dod ynghyd i gynnal garddio sy’n gyfeillgar i beillwyr. Dylai pawb sydd wedi gweithio i hyrwyddo hyn yn y Cyngor Sir, y Cyngor Tref, Bees for Development a holl drigolion Trefynwy deimlo’n haeddiannol falch.

“Fel Cyngor rydyn ni wedi cefnogi’r cynllun Natur Wyllt, ers i’r argyfwng hinsawdd gael ei ddatgan y llynedd. Mae’r canlyniadau ar gael i bawb eu gweld ac rydym wedi cael adborth cadarnhaol gan breswylwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.  Byddwn yn parhau i weithredu mesurau fel y bo’n bosibl i barhau i wella bioamrywiaeth a chynefinoedd naturiol ein sir.”

Mae’r syniad ar gyfer Tref Gwenyn Trefynwy wedi bod ar y gweill ers rhai blynyddoedd bellach, gyda nifer o unigolion a grwpiau yn y dref ac o’i hamgylch yn cymryd camau i wneud amodau yma’n well ar gyfer peillwyr. Mae Bees for Development, yr elusen yn Nhrefynwy sy’n defnyddio gwenyna i leddfu tlodi ledled y byd, wedi cynnig yn 2019 i wneud y statws yn swyddogol, ac mae’r Cyngor Tref wedi cymryd ymlaen y cysyniad yn frwd. 

Dywedodd Nicola Bradbear, Cyfarwyddwr Bees for Development : “Mae Trefynwy yn lle poblogaidd i bobl sydd ag arbenigedd o ran gwenyn, ecoleg, botaneg, dylunio gerddi sy’n gyfeillgar i beillwyr a gwenyna gyda gwenyn mêl.  Erbyn hyn mae gennym fap o safleoedd gwenyn diddorol yn Nhrefynwy, ac rydym wrth ein boddau gyda’r proffil gwenyn unigryw hwn i Drefynwy.”

Mae Trefynwy yn gartref i’r Ŵyl Wenyn Flynyddol, sydd yn anffodus wedi’i chanslo eleni oherwydd y pandemig. Wedi’i drefnu gan Bees for Development a’i gynnal yng Ngerddi Nelson, mae’r Ŵyl Wenyn wedi tyfu i ddenu cannoedd o bobl bob blwyddyn i fwynhau byd diddorol gwenyn, y manteision maent yn dod i ni, a rhannu gwybodaeth ymarferol am sut y gallwch wneud eich gardd yn fwy cyfeillgar i wenyn.

/DIWEDD/