Skip to Main Content

Fel rhan o’r Bythefnos Masnach Deg, 24 Chwefror – 8 Mawrth, ymunodd grwpiau o blant o 18 ysgol yn Sir Fynwy ynghyd ar gyfer cynhadledd yn Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Rhaglan. Cafodd dysgu a hwyl eu cyfuno mewn cyfres o weithdai’n dangos pwysigrwydd gwybod tarddiad ein bwyd a’n diod, sut y cafodd ei gynhyrchu a’i effaith ar ein hamgylchedd.

Bu ymgyrch Masnach Deg eleni yn barhad o’i alwad i ffermwyr coco ennill incwm byw, yn ogystal â bod yn gyfle i rannu straeon sy’n dangos effaith gadarnhaol Masnach Deg ar fenywod sy’n gweithio ar y ffermydd.

Mwynhaodd y plant flasu rhai o’r llu o gynnyrch oedd ar gael gan ddysgu sut i sylwi ar fathodyn Masnach Deg. Roedd hefyd weithdy yn esbonio o ble daw’r bwyd o bob rhan o’r byd, yn ogystal ag edrych ar y stori tu ôl i siocled.

Mae Masnach Deg hefyd yn cefnogi mwy o fenywod sy’n ffermwyr coco i gymryd yr awenau a bod yn llawn gyfartal â dynion. Mae safonau Masnach Deg yn gwneud yn siŵr fod ganddynt lais yn eu cymuned, y cânt eu cynrychioli mewn gwneud penderfyniadau ac yn manteisio o fasnach deg. Mae incwm annibynnol yn nwylo menywod yn sicrhau newid cyflym a chadarnhaol i gymunedau.

Gwestai arbennig y diwrnod oedd ffermwr coffi o Uganda, Jennifer Wettaka Sambazi, a fu’n siarad am y gwahaniaeth a wnaeth yr ymgyrch Masnach Deg i fywydau llawer o deuluoedd, yn cynnwys ei theulu hi ei hun. Fel dirprwy gadeirydd MEACCE (Mt Elgon Agroforestry Coffee Community Enterprise), bu Jenipher yn mynd o amgylch Cymru yn ystod y bythefnos Masnach Deg yn ymweld ag ysgolion, grwpiau cymunedol ac eglwysi i rannu ei stori.

“Rwy’n fam i chwech o blant a fyddwn i ddim wedi medru fforddio anfon fy holl blant i’r ysgol oni bai am Masnach Deg. Rwyf wedi medru cymryd rheolaeth o fywydau fy nheulu a nawr mae fy fferm yn derbyn pris teg a chyfiawn am ein ffa coffi”, esboniodd Jenipher. “Bu’r cyfle i rannu fy stori gyda rhai o’r plant ysgol yn Sir Fynwy, gan ddangos rôl a phwysigrwydd masnach deg iddynt yn werth chweil iawn.”

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol: “Mae cael plant ein sir i holi o ble daw eu cynnyrch a sut y cafodd ei gynhyrchu yn hollbwysig, fel y byddant yn gwneud dewisiadau gwybodus fel oedolion. Gobeithio, un diwrnod caiff mwyafrif helaeth nwyddau o’r fath ei gynhyrchu’n foesegol, gyda gweithwyr yn gael tâl teg am eu hymdrechion.”

Nodiadau i’r golygydd

Yr ysgolion a gymerodd ran oedd:

Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Rhaglan

Ysgol Eglwys yng Nghymru Osbaston, Trefynwy

Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair, Cas-gwent

Ysgol Gynradd Llan-ffwyst Fawr, y Fenni

Ysgol Gynradd Llanfihangel Crucornau

Ysgol Gynradd Penfro, Cas-gwent

Ysgol Gynradd Durand, Cil-y-coed

Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Magwyr

Ysgol Gynradd Thornwell, Cas-gwent

Ysgol Gynradd Drenewydd Gellifarch

Ysgol Gynradd y Dell, Cas-gwent

Ysgol Gynradd Tryleg

Ysgol Gynradd Cross Ash

Ysgol Cas-gwent

Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Brynbuga

Ysgol Gynradd Gilwern

Ysgol y Fenni

Ysgol Goetre Fawr

Mae ymgyrch Masnach Deg eleni yn parhau’r galwad i ffermwyr coco ennill cyflog byw, yn ogystal â rhannu straeon sy’n dangos yr effaith gadarnhaol a gafodd Masnach Deg ar y menywod tu ôl i’ch bar siocled.

Am Masnach Deg

Masnach Deg yw’r unig sefydliad sy’n gwarantu rhwyd ddiogelwch o isafswm pris ar gyfer ffermwyr ar adegau o ddirywiad mewn prisiau byd-eang ynghyd â phremiwm, swm ychwanegol o arian a aiff yn uniongyrchol i ffermwyr i’w fuddsoddi mewn busnes neu brosiectau o’u dewis hwy yn eu cymunedau eu hunain. Gwahoddir preswylwyr ac ymwelwyr i ddigwyddiadau Masnach Deg y sir a drefnwyd dros y bythefnos ac edrych am farc Masnach Deg i fwynhau blas ar siocled amheuthun a chefnogi symud tuag at incwm byw.

@FairtradeUK  #Fairtrade #SheDeserves

I gael mwy o wybodaeth Fairtrade.org.uk