Skip to Main Content

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo ceisiadau cynllunio ar gyfer adeiladu 269 o gartrefi (68 o dai fforddiadwy yn cynnwys 7 byngalo) a chartref gofal yn Heol Crug. Mae Cyngor Sir Fynwy a Cartrefi Melin wedi gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno’r prosiect uchelgeisiol i’r cam hwn.

Y gymeradwyaeth yw’r cam cyntaf tuag at adeiladu safle fydd yn fan cynaliadwy i bobl fyw a gweithio ynddo ac mae’n gwella llesiant cymunedau o fewn y safle a hefyd tu hwnt i gymunedau Porthysgewin a Chil-y-coed.

Mae’r elfennau allweddol yn cynnwys:

  • Cartrefi hyfryd – bydd dyluniad ardderchog ac adeiladu ansawdd uchel yn ganolog i’r datblygiad newydd.
  • Amgylchedd cyfeillgar i dementia – mae’r cartref gofal 32 ystafell wely yn seiliedig ar greu amgylchedd cyfeillgar i dementia gyda ‘thai’ unigol yn canoli ar ardd fuarth wedi’i dylunio’n hyfryd a chyfeillgar i dementia. Caiff hyn ei integreiddio ymhellach mewn gofod preswyl cysylltiedig ansawdd uchel sy’n neilltuol, a chyfarwydd fel y gall pawb yn y gymuned fanteisio.
  • Seilwaith gwyrdd – mae gofodau gwyrdd yng ngwahanol rannau’r datblygiad, yn cynnwys ardal dyfu gymunedol, cadw cynefinoedd a warchodir gyda chyfleoedd ar gyfer chwarae awyr agored. Mae llwybrau gyda meinciau, ardaloedd chwarae a llwybrau cerdded tu allan i’r safle.
  • Llwybrau troed – yn cysylltu’r safle fel gall pobl gerdded yn ddiogel i’r ardal breswyl sy’n bodoli eisoes i’r de a’r ysgolion a’r cyfleusterau ym Mhorthysgewin. Cafodd llwybr troed newydd ei gynnwys wrth ochr y B4245 i gysylltu gyda Cil-y-coed a’r ardaloedd cyflogaeth i’r gorllewin.
  • Cynllun ffyrdd – wedi ei wella ymhellach i sicrhau symudiad diogel a chyfleus ar draws y safle i bawb yn y gymuned. Lle’n bosibl, o fewn pob ardal ddatblygu bydd gan y ffyrdd derfyn cyflymder o 20 milltir yr awr neu lai, gan roi strydoedd y gall cerddwyr, seiclwyr a cheir eu rhannu’n ddiogel.

Dywedodd y Cyng Bob Greenland, Aelod Cabinet dros Fenter a Chynllunio Defnydd Tir: “Hoffwn ddiolch i’n partneriaid yn Cartrefi Melin a chydweithwyr yng Nghyngor Sir Fynwy am hybu’r prosiect uchelgeisiol hwn hyd yma. Mae amrywiaeth o dimau’n cynnwys rheoli datblygu, seilwaith gwyrdd, ecoleg a pheirianwyr priffordd wedi gweithio’n uniongyrchol gyda’r datblygwyr a phenseiri i ddarparu cynlluniau ar gyfer datblygiad ansawdd uchel a gofodau cyhoeddus sy’n hyrwyddo ffyniant, iechyd, hapusrwydd a llesiant i bawb.”

Ychwanegodd Adrian Huckin, Cyfarwyddwr Gweithredol Arloesedd a Diwylliant Cartrefi Melin: “Y gymeradwyaeth heddiw yw’r cam cyntaf tuag at wneud y cynllun hwn yn realaeth. Bydd y dyluniad ardderchog ac adeiladu ansawdd uchel y safle yn helpu i adeiladu cymuned gynhwysol yn ogystal â chartrefi newydd. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Chyngor Sir Fynwy i wneud i hyn ddigwydd.”