Skip to Main Content

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus i rannu eu cynigion cyllideb 2020/21 gyda phreswylwyr.

Cynhelir y cyfarfodydd yng ngogledd a de’r sir, gyda chyfarfod arbennig Mynediad i Bawb hefyd mewn partneriaeth gyda’r Prosiect Cyngor ar Anabledd a grwpiau 50+ lleol.

•           Dydd Mawrth 14 Ionawr, 6.30pm, Hyb Cymunedol Cas-gwent, 9 Stryd Banc, Cas-gwent, NP16 5EN.

•           Dydd Mercher 22 Ionawr, 6.30pm, Llyfrgell y Fenni, Stryd Baker, Y Fenni, NP7 5BD.

•           Fforwm Mynediad i Bawb, Cyfarfod Cyllideb – dydd Gwener 17 Ionawr 11.00am-2pm Canolfan Priordy Santes Fair, Y Fenni

Nod y cyfarfodydd yw rhoi cyfle i breswylwyr glywed gan y Cyng Phil Murphy, Aelod Cabinet dros Adnoddau a gofyn unrhyw gwestiynau a all fod ganddynt. Gall preswylwyr na allant fynychu’r cyfarfod weld ffilm fer, edrych ar yr holl gynigion a rhoi eu sylwadau drwy arolwg ar-lein drwy ymweld â gwefan Cyngor Sir Fynwy: https://www.monmouthshire.gov.uk/budget-2020-2021/

Bydd cyfarfod Mynediad i Bawb yn canolbwyntio ar gynigion cyllideb Cyngor Sir Fynwy fydd yn effeithio ar breswylwyr bregus. Yn y digwyddiad, bydd pobl gydag anableddau, rhieni plant gydag anableddau a phobl hŷn o bob rhan o Sir Fynwy yn clywed gan swyddogion y cyngor am gynigion y gyllideb a bydd cyfle i ofyn cwestiynau.

Mae’r fforwm yn llwyfan gwerthfawr i alluogi preswylwyr i gael eu lleisiau wedi’u clywed, derbyn gwybodaeth a chyfrannu at brosesau ymgynghori ac ymgysylltu.

Caiff y fforwm Mynediad i Bawb ei gefnogi a’i gydlynu gan Tony Crowhurst o Brosiect Cyngor ar Anabledd (DAP). Mae DAP yn gorff sy’n eiriolydd dros hawliau unigolion gydag anableddau. Bydd y cyfarfod yn llwyfan i breswylwyr glywed am y cyllid mae DAP newydd ei sicrhau gan y Loteri fydd yn helpu’r prosiect i gefnogi pobl anabl a’u teuluoedd gyda chyngor ar ystod llawn o faterion. Bydd cynrychiolydd o’r Loteri Genedlaethol hefyd yn y cyfarfod i hyrwyddo’r ystod o gyfleoedd cyllid sydd ar gael ar gyfer cymunedau yn Sir Fynwy.

Dywedodd y Cyng Phil Murphy, Aelod Cabinet dros Adnoddau:

“Gobeithiaf y gall preswylwyr ddod draw i’r cyfarfodydd. Maent yn gyfle gwych i gael gwybodaeth ac i roi sylwadau ar y cynigion. Rydym wedi ceisio darparu cynifer o lwybrau ag sydd modd i’n cymunedau gymryd rhan, mae gennym arolwg ar-lein a byddwn yn gwrando ar adborth drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Teimlaf y bydd y cyfarfod Mynediad i Bawb yn rhoi cyfle i’n preswylwyr mwyaf bregus i gael eu lleisiau wedi’u clywed, rhannu syniadau ac awgrymiadau a chael gwybodaeth am bethau fydd yn effeithio arnynt. Os na all preswylwyr ddod draw, mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y cyngor lle mae arolwg ar gael i roi sylwadau.”