Skip to Main Content

Diben y gwasanaethau i lywodraethwyr yw darparu gwasanaeth proffesiynol a hygyrch i gynorthwyo llywodraethwyr ysgolion a chyrff llywodraethu wrth gyflawni eu dyletswyddau.

Mae’r gwasanaeth yn cynnwys cynnig cyngor, cymorth gweinyddol, a rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer penaethiaid, llywodraethwyr a chyrff llywodraethu. Mae’r gwasanaethau i lywodraethwyr hefyd yn darparu gwasanaeth clercio i gyrff llywodraethu.

Caiff clercod i gyrff lywodraethu eu recriwtio o’r tu mewn i’r Gyfarwyddiaeth Dysgu Gydol Oes a Hamdden. Fodd bynnag, eu cylch gwaith yw gweithio’n annibynnol ar ran y corff llywodraethu a bennwyd iddynt.

Mae’r gwasanaethau i lywodraethwyr hefyd yn gyfrifol am gynghori a darparu hyfforddiant ar iechyd a diogelwch, gan gynnwys cydlynu’r broses gymeradwyo ar gyfer teithiau ac ymweliadau gan ysgolion a’r gwasanaeth ieuenctid.

Mae’r gwasanaeth i lywodraethwyr yn cydlynu’r broses hon – o gael cymeradwyaeth yr awdurdodau i geisiadau ar gyfer teithiau ac ymweliadau gan ysgolion a’r gwasanaeth ieuenctid – yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydledig.

Yn ogystal, mae’r tîm yn monitro safonau gofal cwsmeriaid a cheisiadau rhyddid gwybodaeth ar gyfer y gyfarwyddiaeth.

Cysylltwch â ni: governor.support@sewaleseas.org.uk

Mae gwahanol fathau o lywodraethwyr ysgolion.
Mae’r dudalen hon yn esbonio pwy sydd ar y corff llywodraethu a pham:

  • Y Pennaeth

Mae’r pennaeth yn aelod o’r corff llywodraethu trwy rinwedd ei swydd. Gall ef neu hi ddewis peidio â bod yn llywodraethwr, ond byddai disgwyl iddo/iddi fynychu cyfarfodydd i gynnig cyngor a gwybodaeth.

  • Rhiant Lywodraethwyr

Mae rhiant lywodraethwr yn unigolyn sy’n cael ei ethol fel llywodraethwr gan rieni disgyblion cofrestredig yr ysgol.

Pan fydd swydd wag ar gyfer rhiant lywodraethwr, gofynnir am enwebiadau gan rieni’r disgyblion cofrestredig. Cynhelir etholiad os derbynnir mwy nag un enwebiad.

  • Llywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol

Nid yw llywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol o reidrwydd yn gynghorwyr sir, ond gallant fod yn aelodau o blaid wleidyddol. Ceisir enwebiadau o’r ysgol a chan gynghorwyr sir yn nalgylch yr ysgol.

Mae gan Sir Fynwy gôd ymarfer ar gyfer penodi llywodraethwyr AALl er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau a’r amser angenrheidiol i fod yn llywodraethwr.

Gwelir y Côd Ymarfer ar gyfer Penodi Llywodraethwyr AALl.

  • Athrawon Lywodraethwyr

Caiff athrawon lywodraethwyr eu hethol gan eu cydweithwyr i’w cynrychioli ar y corff llywodraethol. Ni all athrawon fod yn llywodraethwyr oni bai eu bod yn gweithio yn yr ysgol.

  • Llywodraethwyr Cymunedol

Penodir llywodraethwyr cymunedol gan y corff llywodraethu o’r gymuned leol a’r gymuned busnesau lleol.

  • Llywodraethwyr Awdurdod Llai

Enwebir y llywodraethwyr hyn gan gyngor cymuned neu dref yn yr ardal a wasanaethir gan yr ysgol.

  • Llywodraethwyr Sylfaen

Mae llywodraethwyr sylfaen yn aelodau o gyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ysgolion sylfaen, ac ysgolion gwirfoddol a reolir. Maent yn sicrhau bod yr ysgol yn cadw ei chymeriad crefyddol arbennig neu ei bod yn cael ei rheoli yn unol â thelerau gweithred ymddiriedolaeth.

  • Llywodraethwyr Staff

Mae’r llywodraethwyr hyn yn cynrychioli staff cymorth yr ysgol. Ni allant fod yn aelod o’r corff llywodraethu oni bai eu bod yn cael eu cyflogi yn yr ysgol.

  • Llywodraethwyr Partneriaeth

Mae llywodraethwyr partneriaeth yn eistedd ar gyrff llywodraethu ysgolion sylfaen na reolir gan eglwys – h.y. ysgolion a gynhelid gynt â grant. Mae’r corff llywodraethol yn gyfrifol am geisio enwebiadau ar gyfer llywodraethwyr partneriaeth a’u penodi.

Llywodraethwyr Cymru

Mae Llywodraethwyr Cymru yn cydnabod bod llywodraethwyr yn atebol am ymddygiad a safonau ysgolion yng Nghymru. Nod Llywodraethwyr Cymru yw cefnogi llywodraethwyr a bod yn eiriolydd ar gyfer eu pryderon a’u buddiannau.