Skip to Main Content

Mae’r ‘Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus’ yn craffu ar effeithiolrwydd partneriaethau strategol (gan gynnwys y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus) a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill i sicrhau bod gwasanaethau a ddarperir mewn partneriaeth â chyrff eraill yn cael eu dwyn i gyfrif ac i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer preswylwyr. 
 
Gall y cyhoedd gyflwyno cyflwyniadau sain, fideo ac ysgrifenedig i’r pwyllgor hwn a mynychu ei gyfarfodydd.  I gyfrannu at waith y pwyllgor hwn neu i awgrymu pwnc i graffu arno, cliciwch ar yr adran ‘Cymryd Rhan’ ar y wefan. 

Cylch gorchwyl y pwyllgor hwn yw; 
 
“Herio’n adeiladol (lle mae pwerau’n caniatáu) gwaith ac effeithiolrwydd partneriaethau strategol (gan gynnwys y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus) a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill er mwyn sicrhau atebolrwydd cyhoeddus am wasanaethau cydweithredol, gwerth am arian a gwell canlyniadau i bobl yn Sir Fynwy. 

Dylanwadu ar benderfyniadau, polisi ac arferion darparwyr gwasanaethau cyhoeddus drwy gasglu tystiolaeth i wneud argymhellion ar gamau gweithredu amlasiantaethol effeithiol i wella’r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus”.