Mae Amgueddfa Cas-gwent yn arddangos gorffennol cyfoethog ac amrywiol y dref hynafol hon, a fu unwaith yn borthladd a chanolfan farchnad pwysig. Mae yna arddangosfeydd am fasnach gwin Cas-gwent, adeiladu llongau a physgota eogiaid, yn ogystal â ffotograffau, rhaglenni a phosteri sy’n dwyn i gof gweithgareddau hamdden pobl leol. Mae’r paentiadau a phrintiau o’r 18fed a’r 19eg ganrif yn dangos apêl tragwyddol Cas-gwent a Dyffryn Gwy i artistiaid a thwristiaid fel ei gilydd.
Mae’r Amgueddfa yn union ar draws y ffordd o Gastell Cas-gwent mewn tŷ cain o’r 18fed ganrif a adeiladwyd gan deulu o fasnachwyr ffyniannus o Gas-gwent. Enw’r adeilad yw Tŷ Gwy ac mae ganddo straeon hynod ddiddorol i’w hadrodd am bobl amlwg y gorffennol yng Nghas-gwent.
Mae cyfleusterau yn cynnwys:
- Arddangosfeydd arbennig yn rheolaidd
- Gweithdai a gweithgareddau
- Cwisiau a thaflenni gwaith ar gyfer plant
- Cyfleusterau arbennig ar gyfer ymweliadau gan grwpiau a sefydliadau addysg
- Siop yr Amgueddfa
- Mynediad i’r llawr gwaelod a thoiled ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn
- Meysydd parcio cyfagos
Oriau Agor (gan gynnwys Gwyliau Banc):
Mawrth, Ebrill, Mai, Mehefin, Hydref
Llun – Sadwrn 11.00 am – 5.00 pm
Dydd Sul 2.00 – 5.00 pm
Gorffennaf, Awst, Medi
Bob dydd 10.30 am – 5.30 pm
Tachwedd, Rhagfyr, Ionawr, Chwefror
Bob dydd 11.00 am – 4.00 pm
Mynediad:
Yn rhad ac am ddim i bawb
Cysylltu:
01291 625981