Skip to Main Content

Os dymunwch gwyno, ein canmol neu roi sylwadau am wasanaeth, gallwch wneud hynny drwy:

Os oes gennych gŵyn byddwn yn ceisio delio gyda hi yn syth. Os na allwn drin y gŵyn yn syth, byddwn yn:

  • Anfon cydnabyddiaeth atoch o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn eich cwyn
  • Dweud wrthych pwy sy’n edrych ar eich cwyn
  • Dweud wrthych pryd y byddwn yn anfon ateb atoch am eich cwyn

Edrychwch ar ein Edrychwch ar ein Polisi Cwynion a Chanmoliaeth yr Awdurdod Cyfan Gweithdrefn Cwynion a Chanmoliaeth yr Awdurdod Cyfan a’n Polisi Awdurdod Cyfan parthed Gweithredoedd Annerbyniol gan Achwynwyr

Gwasanaethau Cymdeithasol

Os nad ydych yn hapus am y gwasanaeth a drefnwn ar eich cyfer mewn Gofal Cymdeithasol neu am y ffordd y cawsoch eich trin, gallwch gwyno i’r tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2024/01/Complaints-Compliments-and-Comments-Feedback-Form-SCH.doc

Polisi Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol Awst 2014

Cwynion Ysgol

Dylid anfon cwynion am ysgolion at Bennaeth yr ysgol yn y lle cyntaf. Os yw’r cwyn am Bennaeth yr ysgol, yna dylid anfon y gŵyn at Gadeirydd y Llywodraethwyr.

Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Fel arfer ni fydd yr Ombwdsman yn edrych ar eich cwyn nes ei bod wedi bod drwy’r weithdrefn cwynion mewnol.

Gallwch gysylltu ag Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5LJ

Rhif Ffôn Ymholiadau: 0300 790 0203

Gwefan: www.ombudsman.wales

Cwynion Ynghylch Cynghorwyr

Os ydych eisiau gwneud cwyn am gynghorydd ewch i’r dudalen hon os gwelwch yn dda