Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Cyflwyniad

Caiff Ysgol Gynradd Mair Forwyn a Mihangel Sant ei gweithredu dan ymddiriedolaeth Abaty Belmont ac Archesgobaeth Caerdydd. Caiff ei chynnal gan Awdurdod Lleol Sir Fynwy. Fel ysgol wirfoddol a gynorthwyir, y Corff Llywodraethu yw’r awdurdod derbyn ac sy’n gyfrifol am gymryd penderfyniadau ar geisiadau ar gyfer derbyn. Nod y Llywodraethwyr yw cynnig addysg holistig Gatholig a gofynnir i’r rhieni sy’n gwneud cais am leoedd ar gyfer eu plant i gefnogi cymeriad ac ethos Catholig yr ysgol. Mae Ysgol Gynradd Mair Forwyn a Mihangel Sant yn parchu yn llawn gredoau rieni a phlant o bob enwad a chefndir, yn cynnwys y rhai gyda neu heb ffydd. Caiff disgyblion Ysgol Mair Forwyn a Mihangel Sant eu haddysgu i drin eraill gyda thrugaredd, parch a goddefgarwch. Mae darpariaeth yn y rhaglen Addysg Grefyddol hefyd i blant ddysgu am ffyddau eraill y byd.

Nodau’r Ysgol

Bod yn gymuned neilltuol Gatholig groesawgar o gariad a gofal dwfn, lle caiff pawb eu gwerthfawrogi am bwy ydynt.

• Creu partneriaeth gref rhwng y cartref, ysgol a’r plwyf a bod o wasanaeth i’r gymuned leol a byd-eang.

• Adnabod presenoldeb Crist yn ein bywydau ac i ddathlu Ei gariad atom drwy weddïau, addoli ac ym mhopeth a wnawn.

• Bod yn ysgol gyda dealltwriaeth ddofn o’r angen am sancteiddrwydd er mwyn bod yn dyst i Grist ym myd heddiw.

• Darparu addysg ansawdd uchel sy’n ysbrydoli ac sy’n greadigol i alluogi plant a staff i gyflawni eu potensial llawn wrth gyflawni heriau’r byd modern.

• Sicrhau ein bod i gyd yn rhannu perchnogaeth o genhadaeth a datganiadau cenhadaeth yr ysgol wrth chwilio am ragoriaeth.

• Bod yn gymuned efengylol lle rydym yn maethu ffydd ein plant a’r teulu ysgol ehangach drwy weddi a bywyd litwrgaidd a sagrafennol yr ysgol.

• Parhau â’n taith pererin fel ysgol gyda brwdfrydedd am deyrnas Dduw a phenderfyniad i feithrin yr holl berson.

Mae croeso bob amser i deuluoedd i gysylltu â’r ysgol i drefnu ymweliad ar unrhyw adeg.

Derbyn

Caiff y Corff Llywodraethu ei arwain yn y cyfrifoldeb am dderbyn i’r ysgol gan ofynion y gyfraith, cyngor ymddiriedolwyr yr Archesgobaeth a’i ddylestwydd i’r Ysgol a’r gymuned Gatholig. Yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol, mae’r Corff Llywodraethu wedi dirprwyo cyfrifoldeb am benderfynu i’w ‘Banel Derbyn’, pwyllgor o’r Corff Llywodraethu. Bydd y Panel Derbyn yn ystyried pob cais a wneir yn unol â’r meini prawf a osodwyd, heb gyfeirio at hil, rhywedd, gallu, anabledd, cefndir cymdeithasol neu ddoniau’r plentyn.

Caiff ceisiadau hwyr eu hystyried yn unol â gofynion y Cod Derbyn i Ysgolion. Ar ôl ymgynghori gyda’r Awdurdod Lleol ac eraill yn unol â gofynion y gyfraith, mae’r Corff Llywodraethu wedi gosod y nifer derbyn arfaethedig ar 30 disgybl yn y dosbarth Derbyn ar gyfer y flwyddyn ysgol yn dechrau ym mis Medi 2026. Mae lleoedd mewn grwpiau blwyddyn eraill hefyd wedi ei gyfyngu i 30 disgybl.

Yn unol â Chod Ymarfer Derbyniadau Ysgolion 2013, rhaid i rieni gwblhau “Ffurflen Gais Gyffredin” gan yr Awdurdod Lleol. Mae’r ysgol yn gweithredu cynllun dewis cyfartal, sy’n golygu bod pob dewis yn cael ei ystyried yn gyfartal yn unol â meini prawf gor-danysgrifio’r ysgol, ac nid ar sail y drefn y maent wedi’u rhestru ar y cais. Os gellir bodloni mwy nag un dewis, cynigir y dewis safle uchaf fel y’i datganwyd ar y ffurflen gais.

Mae’n rhaid amgáu tystiolaeth o fedyddio ar gyfer pob cais dan faen prawf 1, 2 a 3 (plant Catholig wedi’u beddyddio). Caiff plant gyda datganiad AAA yn enw’r ysgol eu derbyn.

Yr oedran isaf ar gyfer derbyn i’r ysgol yw 4 oed os yw pen-blwydd y plentyn yn 5 rhwng 1 Medi a 31 Aawst y flwyddyn academaidd honno. Gall rhieni ddewis gohirio mynediad eu plentyn i’r ysgol tan y tymor yn dilyn eu penblwydd yn 5.

Anfonir llythyrau ar y dyddiad cynnig cyffredin a gyhoeddwyd yn hysbysu am benderfyniad y Panel Derbyn ynghylch ceisiadau. Lle mae’r cais yn aflwyddiannus, nodir y rheswm/rhesymau yn glir yn y llythyr a rhoddir gwybodaeth ar sut i apelio yn erbyn y penderfyniad. Caiff ymgeiswyr na chaiff eu derbyn eu rhoi ar restr aros yr ysgol. Bydd ymgeiswyr yn aros ar y rhestr aros tan 30 Medi. Pe byddai lleoedd yn dod ar gael, caiff yr ymgeiswyr ar y rhestr aros eu hadolygu ar y meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael a gwneir cynigion i lenwi’r lleoedd hynny.

Dylai ceisiadau ar gyfer trosglwyddo i’r ysgol o ysgol gynradd arall yn

ystod y flwyddyn academaidd gael eu gwneud yn defnyddio Ffurflen Cais

Trosglwyddo Ysgolion. Bydd Panel Derbyn y Corff Llywodraethu yn ystyried pob cais. Os yw’r nifer sy’n gwneud cais am drosglwyddo yn fwy na’r nifer oleoedd sydd ar gael, defnyddir y meini prawf pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael i benderfynu ar yr ymgeiswyr llwyddiannus.

Mae gan rieni hawl apelio yn erbyn gwrthodiad gan y Corff Llywodraethu i dderbyn eu plentyn. Os dymunant wneud hynny, dylent wneud eu hapêl mewn ysgrifen i Glerc Llywodraethwyr yr Ysgol o fewn 14 diwrnod (10 diwrnod gwaith) o’r dyddiad hysbysu. Caiff apeliadau eu trefnu gyda phanel annibynnol a’u cynnal yn unol â Chod Apeliadau Derbyn yr Ysgol.

Ar gyfer pob cais llwyddiannus, caiff y data a gynhwysir yn y ffurflen gais ei gadw ar system gwybodaeth rheoli’r ysgol a’i defnyddio ar gyfer dibenion a amlinellir yn y ‘gorchymyn prosesau teg’. Gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb a diogelwch y data personol a gedwir gan yr ysgol. Dan y Ddeddf Diogelu Data mae gan unigolion hawl mynediad i wybodaeth bersonol a gedwir amdanynt a hefyd yr hawl i unrhyw gamgymeriadau gael eu cywiro.

Bydd y Corff Llywodraethu yn asesu ceisiadau ar gyfer derbyn i’r ysgol, yn defnyddio’r wybodaeth a roddir ar y Ffurflen Ymrestru Ysgol OLSM. Lle mae nifer y ceisiadau yn gyfartal neu’n is na’r nifer derbyn, caiff pob cais eu derbyn. Lle mae nifer y ceisiadau’n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd Panel Derbyn y Corff Llywodraethu yn gweithredu’r meini prawf dilynol ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ac yn dyrannu lleoedd yn unol â hynny.

Meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael

1. Plant Catholig sy’n derbyn gofal neu blant Catholig sy’n flaenorol wedi derbyn gofal (mae’n rhaid cyflwyno tystiolaeth bedydd gyda’r ffurflen gais).

2. Plant Catholig a fedyddiwyd (mae’n rhaid cyflwyno tystiolaeth bedydd gyda’r ffurflen gais).

3. Siblingiaid plant Catholig a fedyddiwyd fydd yn mynychu Ysgol Gynradd Mair Forwyn a Mihangel Sant adeg derbyn (gweler nodyn 3 islaw).

4. Plant eraill sy’n derbyn gofal neu sy’n flaenorol wedi derbyn gofal.

5. Plant sy’n mynychu ysgol gynradd Gatholig adeg y cais ac y mae’r rhieni/ gwarcheidwaid yn parhau i geisio addysg benodol Gristnogol iddynt.

6. Plant sy’n mynychu ysgol gynradd yr Eglwys yng Nghymru adeg gwneud y cais ac y mae’r rhieni/gwarcheidwaid yn parhau i geisio addysg benodol Gristnogol iddynt.

7. Siblingiaid plant eraill fydd yn mynychu Ysgol Gynradd Mair Forwyn a Mihangel Sant adeg derbyn (gweler nodyn 3 islaw).

8. Plant eraill y mae eu rhieni/gwarcheidwaid yn ceisio addysg benodol Gristnogol iddynt. Os yw nifer y plant yn unrhyw un o’r categorïau uchod yn fwy na’r nifer derbyn, os yw popeth arall yn gyfartal bydd y Corff Llywodraethu yn defnyddio’r pellter byrraf ar gyfer y disgybl o’r cartref i’r ysgol gan ddefnyddio’r cyfrifydd pellter a ddefnyddiwyd gan yr Awdurdod Lleol.

Nodiadau:

1. Mae ‘Catholig’ hefyd yn cynnwys Eglwysi Catholig Dwyreiniol mewn undeb gyda Phabaeth Rhufain.

2. Mae’n rhaid anfon tystiolaeth o fedydd gyda phob cais ar gyfer maen prawf 1, 2 a 3.

3. Diffinnir ‘siblingiaid’ fel y rhai sy’n rhannu mam neu dad yn gyffredin, mab neu dad mabwysiadol, neu’n ffurfio rhan o uned deuluol sefydledig. Bydd blaenoriaeth drwy gyfeirio at y sibling ieuengaf yn yr ysgol, gyda’r ieuengaf yn cael y flaenoriaeth uchaf. Wrth ddyrannu lleoedd, os cynigir y lle olaf i blentyn o enedigaeth luosog (e.e. gefell neu dribled), bydd yr ysgol hefyd yn derbyn y sibling(iaid) eraill.

Sut i wneud cais

Gall unrhyw riant wneud cais i’w blentyn/phlentyn cael eu derbyn i’r ysgol. Gellir cael ffurflen gais o swyddfa’r ysgol. Caiff pob cais ei ystyried drwy gyfeirio at y polisi yma. Gellir cael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â’r ysgol. Dylid dychwelyd pob ffurflen gais at:

Ysgol Gynradd Mair Forwyn a Mihangel Sant, 14 Pen-y-Pound, Y Fenni, NP7 5UD ourladystmichaels@monmouthshire.gov.uk,

olsm.co.uk,

Rhif Ffon: 01873 735080

Amserlen Derbyn i’r Ysgol

Dosbarth Derbyn

Gwneud cais o 13 Tachwedd 2026

Dyddiad Cau: 15 Ionawr 2027 am 4pm

Hysbysu rhieni erbyn: 16 Ebrill 2027

Trefniadau Ceisiadau Hwyr:

Derbyn Y Cais:Dyddiad Y Cynnig
16 – 31 Ionawr 20271 Mai 2027
Chwefror 20273 Mai 2027
Mawrth 202714 Mai 2027
Ebrill 202721 Mai 2027
Mai 202711 Mehefin 2027
Mehefin 20279 Gorff 2027
1 – 10 Gorff 202716 Gorff 2027
11 – 17 Gorff 202723 Gorff 2027
18 – 24 Gorff 202730 Gorff 2027
25 – 31 Gorff 20276 Awst 2027
1 – 7 Awst 202713 Awst 2027
8- 14 Awst 202720 Awst 2027
15 – 21 Awst 202727 Awst 2027
22 – 28 Awst 2027o fewn wythnos