Mae’r uned Diogelwch Cymunedol yn cefnogi Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Fynwy i gyflawni ei phrif nodau:
- Mae Sir Fynwy yn sir lle y mae pobl yn ddiogel rhag trais
- Mae eiddo pobl Sir Fynwy yn fwy diogel
- Mae Sir Fynwy yn ardal lle y mae pobl wedi’u heffeithio yn llai gan ymddygiad gwrth-gymdeithasol
- Mae pobl o fewn y sir wedi’u heffeithio yn llai gan gamddefnydd cyffuriau ac alcohol
- Mae Sir Fynwy yn sir lle y mae’r ffyrdd yn fwy diogel i bobl eu defnyddio
- Mae Sir Fynwy yn sir lle y mae llai o ofn ar bobl o ran trosedd ac anhrefn
Mae gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol nifer o is-grwpiau sydd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â cham-drin domestig a chamddefnyddio sylweddau.
Yn ychwanegol i hyn, y mae’r uned yn cynnig y canlynol:
- Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol
- Hyrwyddo teledu cylch cyfyng
- Mynd i’r afael â cham-drin domestig a hyrwyddo ymwybyddiaeth am berthnasau mwy diogel
- Mynd i’r afael â materion yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau gan gynnwys alcohol a hyrwyddo ymwybyddiaeth amdanynt
- Cynnig cymorth i Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Fynwy
- Cefnogi a threfnu’r cynllun cyllid Cist Ddiogelwch Cymunedol
- Asesu ceisiadau ar gyfer cyllid allanol fel cyfraniad at gyflawni prif nodau’r Bartneriaeth