Skip to Main Content

O dan y Cod Derbyn i Ysgolion Cymru (Gorffennaf 2013), mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol ymgynghori ar y trefniadau derbyn ar gyfer yr ysgolion hynny y mae’n awdurdod derbyn iddynt.  Lle cynigir newidiadau i drefniadau sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys dalgylchoedd ysgolion, mae’n rhaid ymgynghori â’r rheini sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y cynigion.

Mae’r Cyngor wedi ymgynghori’n ddiweddar ar ei drefniadau derbyn i ysgolion ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26.  Yn benodol mae’r Cyngor wedi ymgynghori ar ddiwygio’i drefniadau derbyn i ysgolion i gynnwys pentrefi Tredynog, Llanhenwg a Llandegfedd i ddalgylch Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Brynbuga.  Ar hyn o bryd mae’r ardal yr effeithir arni yn rhan o ddalgylch Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Charles Williams, Casnewydd, ac nid oedd ganddi ddalgylch cynradd dynodedig sy’n dod o fewn Sir Fynwy.

Ar 10fed Mis Ebrill, cyfarfu Cabinet y Cyngor i adolygu’r Adroddiad Ymgynghori, a gyflwynodd yr adborth a gafwyd yn ystod camau ymgynghori’r broses hon.  Yn eu cyfarfod, cytunodd y Cabinet i gymeradwyo’r trefniadau derbyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, gan gynnwys y diwygiad i’r dalgylch ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Brynbuga i ymgorffori pentrefi Tredynog, Llanhenwg a Llandegfedd o fis Medi 2025.

Gellir gweld y Polisi Derbyn i Ysgolion 2025/26 y cytunwyd arno yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar y cynigion, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r Uned Mynediad ar 01633 644508 neu anfon e-bost at accesstolearning@monmouthshire.gov.uk.