Skip to Main Content

Ymateb argyfwng

Os bydd unrhyw risgiau/tarfu ar wasanaethau cyhoeddus a sectorau eraill yn ymddangos yn y cyfnod cyn y diwrnod ymadael a thu hwnt, bydd y cyngor yn cychwyn ei ymateb brys ei hun, a byddwn yn cydgysylltu ein hymateb gyda Chanolfan Cydgysylltu Argyfwng Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd. Bydd hyn yn galluogi cydweithio agos â’r holl bartneriaid yng Nghymru a bydd hefyd yn cysylltu â mecanweithiau Llywodraeth y DU tebyg o fewn Llywodraeth y DU. Mae’r cyngor yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i sicrhau bod anghenion penodol Sir Fynwy yn cael eu cydnabod, eu deall a’u diwallu yn ei gwaith cynllunio.