Bu staff o Ganolfan Hamdden Cas-gwent yn gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gynnig cyngor gwerthfawr ar achub bywyd i dros 500 o blant yn ystod Wythnos Atal Boddi, 14-21 Mehefin. Bu’r tîm yn gweithio i gyflwyno ymgyrch ‘Ymwybodol o Ddŵr’ Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid Tân, a gaiff ei chynnal bob mis Mehefin.

Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o beryglon dŵr a gostwng marwolaethau cysylltiedig â dŵr gan 50 cant erbyn 2026. Gyda tua 34% o achosion damweiniol o foddi yn digwydd yn yr haf, mae’n bwysig atgoffa ac addysgu pobl o’r peryglon y gall dŵr ei achosi.

Mae ysgolion cynradd lleol yn cynnwys Ysgol Gynradd Santes Fair, Ysgol Gynradd y Dell, Ysgol Gynradd Pembroke, Ysgol Gynradd Thornwell ac Ysgol Gynradd Drenewydd Gellifarch wedi cymryd rhan mewn gwersi diogelwch dŵr. Manteisiodd plant yn mynychu gwersi nofio Hamdden Mynwy hefyd o arddangosiadau CPR a’r cyfle i wisgo sbectol Rhith Realaeth sy’n amlygu’r peryglon y gall dŵr ei achosi.

Bydd nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol yn parhau i godi ymwybyddiaeth o ymgyrch ‘Ymwybyddiaeth o Ddŵr’ a chodi arian gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a’r Gymdeithas Frenhinol Achub Bywyd. Cynhaliwyd sesiwn golchi ceir ddydd Sadwrn 22 Mehefin a bydd y ganolfan hamdden yn parhau i rannu ffotograffau hwyl o’r gymuned yn ffrâm ffotograffau’r ymgyrch. Mewn blynyddoedd diweddar cafodd cylch a rhaff achub bywyd eu gosod tu allan i far gwin The Riverside diolch i gyllid gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Ysywaeth, mae dros 700 o bobl yn boddi ym Mhrydain ac Iwerddon bob blwyddyn – sef cyfystyr ag un bob 10 awr ac er fod pyllau nofio gydag achubwr bywyd yn un o’r lleoedd mwyaf diogel i ymdrochi, mae’n bwysig addysgu pobl ar beryglon y traeth, afonydd, llynnoedd, chwareli a hyd yn oed ddŵr o amgylch y cartref. I gael mwy o gynghorion ar ddiogelwch dŵr ewch i www.rlss.org.uk   

Dywedodd y Cyng Richard John, Aelod Cabinet Hamdden Mynwy:

‘Roeddwn yn ffodus i gael fy ngwahodd gan Duncan a’r tîm i ymweld â’r ganolfan hamdden yn ystod yr Wythnos Atal Boddi. Fe wnaeth ymrwymiad Duncan, cydweithwyr yn Hamdden Mynwy a swyddogion Tân ac Achub De Cymru argraff enfawr arnaf wrth iddynt weithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o beryglon dŵr. Gobeithiaf y bydd y bartneriaeth yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod. Mae nofio yn sgil bywyd pwysig. Gall Hamdden Mynwy gynnig llawer o opsiynau ar gyfer preswylwyr o bob oed a gallu i wella hyder a sgiliau. Hoffwn annog pawb i neilltuo amser i ymweld â gwefan Cymdeithas Brenhinol Achub Bywyd y Deyrnas Unedig (RLSS UK) i ganfod sut i ddod yn fwy ymwybodol o ddŵr.’

Mae dysgu i nofio mor bwysig. Mae Hamdden Mynwy yn cynnig amrywiaeth o wersi nofio ar gyfer plant a phobl ifanc o bob gallu o sesiynau rhieni a baban i wersi achub bywyd ar gyfer nofwyr mwy galluog. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: https://www.monmouthshire.gov.uk/things-to-do/monleisure/swim/

Bu Cyngor Sir Fynwy yn dathlu agoriad swyddogol adeilad Ysgol Gyfun Trefynwy ddydd Gwener 21 Mehefin. Dadorchuddiwyd plac coffa i nodi’r achlysur gan yr Arglwydd Raglaw, y Brigadydd Robert Aitken CBE ynghyd â Phrif Fachgen a Phrif Eneth yr Ysgol. Roedd cynghorwyr, llywodraethwyr, staff, myfyrwyr a rhieni yn bresennol yn y digwyddiad a welodd agoriad yr adeilad dinesig mwyaf i’w adeiladu yn Sir Fynwy.

Roedd yr adeilad yn gynllun ar y cyd rhwng Cyngor Sir Fynwy a Llywodraeth Cymru ynghyd â BDP Architects ac Interserve a gododd yr adeilad rhagorol.

Cafodd yr adeilad eisoes ei gydnabod yn rhyngwladol ac enillodd ddwy wobr o fewn y mis diwethaf, y Wobr Arloesedd Digidol yng Ngwobr Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru a gwobr bwysig ‘Prosiect y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru 2019.

Dywedodd beirniaid y wobr fod y prosiect yn: “Rhoi gwerth gwych am arian, yn ysgol wedi’i dylunio’n dda iawn gydag amrywiaeth o ardaloedd dysgu sy’n cefnogi llawer o wahanol ffyrdd o weithio a hefyd yn creu ymdeimlad o gymuned.”

Mae’r gwobrau yn cydnabod yr adeilad a’r dyluniad o’r math diweddaraf. Mae buddsoddiad enfawr mewn technoleg a defnydd creadigol o olau a gofod yn rhoi amgylchedd dysgu aeddfed, sy’n debycach i gampws prifysgol neu amgylchedd swyddfa ym myd gwaith. Mae’r adeilad yn rhoi cyfleoedd di-ben-draw a bu’n hwb enfawr i addysgu a dysgu yn yr Ysgol.

Gwelodd adeiladu’r ysgol fuddsoddiad sylweddol o fewn yr economi gyda 80% o’r costau adeiladu’n cael eu gwario ar is-gontractwyr o fewn cylch 25-milltir o safle’r ysgol. Cafodd prentisiaethau hefyd eu cynnig a’u defnyddio.

Mae’r cyfleusterau newydd yn rhoi amgylchedd addysgu a dysgu arloesol a digidol gyfoethog i ddisgyblion gyda’r hyblygrwydd i ateb y newid yn anghenion system addysg Cymru yn awr ac i’r dyfodol. Mae gan yr ysgol systemau AV o’r math diweddaraf, stiwdios gweithgaredd, gofodau dawns a pherfformiad, neuadd chwaraeon a hybiau cyflwyno.

Mae’r adeilad yn cyfoethogi gallu’r ysgol i gyflawni ei gweledigaeth o ‘Dysgu i arwain ein bywydau’.

Dywedodd y Cyng Richard John, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc:

“Cyflwynodd myfyrwyr a staff agoriad gala anhygoel, yn cynnwys nifer o berfformiadau cerddorol gwefreiddiol.

Mae’r agoriad yn foment falch i sir Fynwy – cwblhau ysgol yr 21ain ganrif sy’n garbon isel, llawn technoleg ac yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Bu adeiladu’r ysgol hon yn daith hir ac rwy’n ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd at ei llwyddiant yn cynnwys swyddogion y cyngor, llywodraethwyr, myfyrwyr, athrawon a’n partneriaid yn Interserve, Llywodraeth Cymru a BDP.

Rhwng yr ysgol newydd a’r ganolfan hamdden newydd, rydym wedi buddsoddi £51.5 miliwn yn addysg, iechyd a llesiant pobl Trefynwy – y buddsoddiad sengl mwyaf yn y dref mewn cenedlaethau. Mae cyflwyno campws dysgu a llesiant arloesol yn ased gymunedol wirioneddol ar gyfer pobl Trefynwy a’r cylch.

Mae gennyf bob hyder y bydd Ysgol Gyfun Trefynwy, gyda’i hethos gynhwysol, arweinyddiaeth gryf a bellach gartref newydd sbon, yn parhau i rymuso ei disgyblion i gyflawni.

Gyda dwy ysgol uwchradd newydd wedi’u darparu yng Nghil-y-coed a Threfynwy, rydym eisiau i bob disgybl yn Sir Fynwy fedru dysgu mewn ysgol 21ain ganrif a’r her yn awr yw cyflawni hynny ar gyfer disgyblion yn y Fenni a Chas-gwent.

Rwy’n anhygoel o falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni yn Nhrefynwy ac yn gyffrous am y cenedlaethau o ddysgwyr gydol oes uchelgeisiol a galluog fydd yn mynd drwy’r ysgol.”

Dywedodd Kirsty Williams, Gweinidog Addysg:

“Llongyfarchiadau i Ysgol Gyfun Trefynwy ar eu hagoriad swyddogol dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, y rhaglen adeiladu ysgolion mwyaf uchelgeisiol ers y 1960au. Yn gynharach y mis hwn lansiais  yn swyddogol ‘Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif’, ail gyfnod y rhaglen, fydd yn gweld buddsoddiad pellach o £2.3m biliwn i ddarparu’r amgylcheddau dysgu mae ein disgyblion yn eu haeddu. Hoffwn ddymuno pob lwc i’r holl ddisgyblion a’r staff yn eu hysgol newydd, sydd eisoes wedi ennill gwobrau.”

Dywedodd Vaughan Davies, Pennaeth:

“Gan arwain yr holl ysgol, fe wnaeth y Dirprwy Bennaeth Tim Bird gefnogi pawb wrth greu’r adeilad newydd gwych yma. Am bum mlynedd cynhaliodd gyfarfodydd wythnosol, weithiau ddyddiol, lle cafodd pob agwedd o’r dyluniad ac adeiladu eu hymchwilio gyda myfyrwyr a’i staff. Mae ei ymroddiad ac ymrwymiad wedi sicrhau y cafodd pawb gyfle i fod yn rhan o greu amgylchedd ar gyfer dysgu yn y 21ain ganrif. Mae’r holl gymuned yn ddyledus iawn i Tim a phopeth a wnaeth dros addysg bellach yng Nghymru a thu hwnt.

Bu’n gyfnod cyffrous iawn i’n hysgol ac rydym wedi croesawu llawer o ysgolion o’r Deyrnas Unedig ac Ewrop yma, sy’n dechrau eu rhaglenni adeiladu. Roedd pob un ohonynt yn awyddus sut aeth yr ysgol ati gyda’r adeilad newydd. Gall Trefynwy, Sir Fynwy a Chymru fod yn falch tu hwnt o’r hun a gyflawnwyd.

Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i Mrs Jane Baker a roddodd 42 mlynedd o wasanaeth i’r ysgol a 49 mlynedd i Gyngor Sir Fynwy. Roedd agor yr ysgol newydd yn gwireddu breuddwyd i Mrs Baker ar ôl 42 mlynedd o wneud yn siŵr fod amgylchedd yr ysgol yn rhagorol ar gyfer myfyrwyr.”

Dywedodd yr Arglwydd Raglaw, y Brigadydd Robert Aitken:

“Roedd yn fraint cael fy ngwahodd i ymuno â’r myfyrwyr yn Ysgol Gyfun Trefynwy ar gyfer agoriad gala eu hadeilad ysgol newydd. Perfformiadau hynod gan y myfyrwyr a noswaith hyfryd iawn – llongyfarchiadau i bawb yng Nghyngor Sir Fynwy.”

Mae’r A466 ar gau ar hyn o bryd(o 7 Mai) rhwng St Arvans a Dyndyrn i gynnal gwaith sefydlogi ar adran 200m o wyneb craig ansefydlog. Bu’n rhaid cau’r ffordd am resymau diogelwch pan mae’r gwaith yn mynd rhagddo oherwydd natur gyfyngedig y ffordd a’r ardal o amgylch.

Disgwylir y bydd y gwaith yn parhau am bump wythnos, ac mae’r contractwr yn gweithio i ddyddiad cwblhau o ddydd Gwener 19 Gorffennaf.

Codwyd arwyddion yng Nghas-gwent, Trefynwy ac ar hyd y llwybr gyda’r prif ddargyfeiriad ar hyd y B4293 drwy Devauden a Thryleg.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn dathlu agoriad swyddogol Ysgol Gyfun Trefynwy, ei Ysgol 21ain Ganrif wobrwyol, ddydd Gwener 21 Mehefin. Bydd yr Arglwydd Raglaw, y Brigadydd Robert Aitken CBE ynghyd â Phrif Fachgen a Phrif Eneth yr ysgol, yn dadorchuddio plac coffa yn nodi’r achlysur.

Adeiladwyd yr ysgol fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Mewn cysylltiad â Chyngor Sir Fynwy a Llywodraeth Cymru, cafodd yr ysgol ei chreu a’i dylunio gan fyfyrwyr, staff a rhieni. Bu’r penseiri BDP ac Interserve yn gweithio gyda’r gymuned i adeiladu ysgol ar gyfer y dyfodol.

Enwebwyd yr ysgol am wyth gwobr bwysig. Enillodd Wobr Arloesedd Digidol yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru. Neithiwr roedd yr ysgol a thîm y prosiect yn falch iawn i dderbyn gwobr Prosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru, sy’n cydnabod ac yn arddangos dylunio ac adeiladu gwych mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru. Dywedodd beirniaid:

‘Mae’r prosiect yn rhoi gwerth gwych am arian, mae’n ysgol wedi’i dylunio’n dda iawn gydag amrywiaeth o ardaloedd dysgu sy’n cefnogi llawer o wahanol ffyrdd o weithio ac mae hefyd yn creu ymdeimlad o gymuned’.

Mae dyluniad blaengar yr adeilad yn adlewyrchu gweledigaeth yr ysgol i ddarparu’r sgiliau, gwybodaeth ac agweddau i bob myfyriwr  ‘ddysgu sut i arwain eu bywydau’. Mae nifer o ofodau dysgu ym mhob rhan o’r ysgol sy’n caniatáu dysgu unigol, grŵp, dosbarth a blwyddyn.

Dywedodd y Cyng Richard John, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc:

“Rwyf mor falch o bob un aelod o’r tîm addysgu, y tîm adeiladu a’r awdurdod lleol, a aeth yr ail filltir i wneud Ysgol Gyfun Trefynwy yn safle gwych ar gyfer ein dysgwyr. Mae mor hyfryd gweld yr ysgol a’i hethos yn cael eu cydnabod gyda gwobrau pwysig, fel ysgol arloesol a blaengar. Gall Trefynwy, Sir Fynwy a Chymru fod yn falch tu hwnt o’r hyn a gyflawnwyd.”

Dywedodd Kirsty Williams, Gweinidog Addysg:

“Llongyfarchiadau i Ysgol Gyfun Sir Fynwy ar eu hagoriad swyddogol dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, y rhaglen adeiladu ysgolion mwyaf uchelgeisiol ers y 1960au. Yn gynharach y mis hwn lansiais yr ‘Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif’, ail gyfnod y rhaglen, fydd yn gweld buddsoddiad pellach o £2.3 biliwn i sicrhau’r amgylcheddau dysgu mae’n disgyblion yn eu haeddu. Dymunaf bob lwc i’r holl ddisgyblion a staff yn eu hysgol newydd.”

Dywedodd Vaughan Davies, Pennaeth yr Ysgol:

“Gan arwain yr holl ysgol, fe wnaeth y Dirprwy Bennaeth Tim Bird gefnogi pawb wrth greu’r adeilad newydd gwych yma. Am bum mlynedd cynhaliodd gyfarfodydd wythnosol, weithiau ddyddiol, lle cafodd pob agwedd o’r dyluniad a’r adeiladu eu hymchwilio gyda myfyrwyr a staff. Fe wnaeth ei ymroddiad ac ymrwymiad sicrhau y cafodd pawb gyfle i fod yn rhan o greu amgylchedd ar gyfer dysgu yn y 21ain ganrif. Mae’r holl gymuned yn ddyledus iawn i Tim a phopeth a wnaeth i addysg bellach yng Nghymru a thu hwnt.”

Caiff amgylchedd yr ysgol newydd a’r strategaethau addysgu a dysgu creadigol a weithredir eu cydnabod yn rhyngwladol ac mae arweinwyr addysgol yn gwrando ac eisiau dysgu o’r hyn fu’n digwydd yno. Mewn misoedd diweddar bu’r ysgol yn fegwn arfer da ac mae wedi croesawu llawer o ysgolion o’r Deyrnas Unedig ac Ewrop sy’n dechrau ar eu rhaglenni adeiladu. Roeddent i gyd yn awyddus sut aeth yr ysgol ati gyda’r adeilad newydd. Ym mis Medi, bydd yr ysgol yn rhan o gynhadledd ryngwladol yn Nenmarc, gyda’r ysgol yn cyflwyno’r cyflwyniad cyweirnod am ddysgwyr hunan-reoleiddiol.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn annog preswylwyr i fod yn ofalus ar ôl i ni dderbyn adroddiadau am negeseuon e-bost yn cynnig ad-daliadau Treth Gyngor. Ymddengys fod y neges yn dweud wrth bobl fod ad-daliad yn ddyledus iddynt ac yn eu hannog i glicio ar ddolen.

Mae tîm Refeniw Sir Fynwy yn dweud nad yw hon yn ohebiaeth swyddogol am y cyngor a dylai preswylwyr fod yn ofalus cyn rhoi unrhyw fanylion i drydydd parti. Roedd yn rhaid i’r Cyngor roi rhybuddion diweddar pan dderbyniodd pobl yn y sir alwadau ffôn yn dweud wrthynt fod ganddynt hawl i ad-daliad ar eu bil treth gyngor.

Tîm Menter Cyngor Sir Fynwy yn dathlu’r Wythnos Cyflogadwyedd gyda sioe deithio ar draws y sir.

Gwaetha’r modd mae’r tîm wedi canslo’r Diwrnod Cyflogadwyedd oedd i’w gynnal ddydd Gwener 21 Mehefin yn Neuadd y Sir, Brynbuga. Bydd y Tîm Menter yn parhau i gynnal nifer o sioeau teithio ar draws y sir mewn ymgais i gynyddu ymwybyddiaeth o’r llu o brosiectau sydd ar gael i annog preswylwyr i sicrhau cyfleoedd hyfforddiant neu gyflogaeth.

Cynhelir y sioeau ffordd cyflogadwyedd fel sy’n dilyn:

  • Marchnad y Fenni, dydd Mawrth 25 Mehefin 2019 11.00am – 2.30pm
  • Ffair Swyddi Cil-y-coed, Neuadd y Côr, Cil-y-coed dydd Mawrth 25 Mehefin 11.30am – 2.30pm
  • Hyb Brynbuga, Dydd Mercher 26 Mehefin 2019 11.30am – 2.30pm
  • Hyb Cas-gwent, Dydd Iau 27 Mehefin 2019 11.30am – 2.30pm
  • Hyb Trefynwy, Dydd Gwener 28 Mehefin 2019 11.30am – 2.30pm 

Bydd y tîm yn cynnal diwrnod meddiannu cyfryngau cenedlaethol ar Ddiwrnod Cenedlaethol Cyflogadwyedd ddydd Gwener 28 Mehefin i dynnu sylw at y gwaith da i roi sylw i’r gwaith a gaiff ei gyflwyno gan ddarparwyr cyflogadwyedd yn Sir Fynwy. Mae’r Tîm Menter yn annog busnesau lleol i ymuno ar y dydd, drwy dagio @MonmouthshireYE a defnyddio hashnod #empday2019.

Mae’r Tîm Menter yn cynnwys tri phrosiect sy’n anelu i ymgysylltu a grymuso preswylwyr 16 oed a throsodd i ennill cymwysterau, canfod cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae’r prosiectau – Ysbrydoli i Gyflawni, Ysbrydoli i Weithio a Cymunedau am Waith a Mwy – yn helpu llawer o breswylwyr i fanteisio o arbenigedd staff y bartneriaeth unigryw sydd ganddynt gyda sefydliadau a busnesau lleol.

Mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi gwneud cynnydd rhagorol ers iddo ddechrau ym mis Gorffennaf 2019. Mae’r tîm wedi gweithio gyda llawer o breswylwyr yn Sir Fynwy i sicrhau gwaith neu hyfforddiant a rhagori ar ei ganlyniadau a osodwyd yn 2018.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Steve Cooper  StephenCooper@monmouthshire.gov.uk

Mae Tyndyrn a’r cylch ar agor i fusnes er gwaethaf gwaith ffordd i’r A466. Mae’r haf yma ac mae’n nodi dechrau gwyliau a gweithgareddau yn Nyffryn Gwy. Amser i ymweld ag Abaty Tyndyrn a mwynhau ardaloedd gwledig godidog Sir Fynwy. Mae cyngor Sir Fynwy yn annog preswylwyr ac ymwelwyr i fod yn ofalus oherwydd y gwaith sefydlogi hanfodol i ffordd Dyffryn Gwy, A466 Tyndyrn i St Arvans. Disgwylir y bydd y gwaith yn parhau am bump wythnos, ac mae’r contractwr yn gweithio i ddyddiad cwblhau o ddydd Gwener 19 Gorffennaf.

Cynhaliwyd astudiaethau helaeth ac ymgynghori yn yr ardal cyn caniatáu i’r gwaith fynd yn ei flaen. Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio’n agos gyda’r contractwr i sicrhau nad yw’r ymyrraeth yn parhau dim mwy nag sy’n hanfodol a chafodd ei sicrhau fod y contractwr yn gweithio patrwm o 11 diwrnod mewn 11 gyda diwrnod gwaith 11 awr.

Fodd bynnag mae’r gwaith yn gymhleth ac yn cynnwys drilio angorau i wyneb y graig. Mae’r cyngor yn gweithio’n agos gyda’r contractwr i ymchwilio’n barhaus sut y gellid newid y gwaith i ostwng y cyfnod y bydd y ffordd ar gau.

Mae dargyfeiriad yn ei le ar hyd y B4293 drwy Devauden a Thryleg a gobeithir y bydd hynny’n galluogi preswylwyr ac ymwelwyr i ymweld a theithio drwy Ddyffryn Gwy. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn:

Bydd cyfathrebu rhwng y cyngor a busnesau a phreswylwyr yn parhau yn ystod y gwaith. Mae natur y gwaith a chau’r ffordd wedi arwain at ymyriad a chafodd hynny effaith ar fusnesau.

Cynhelir nifer o ddigwyddiadau yn yr wythnosau nesaf a chaiff preswylwyr ac ymwelwyr eu hannog i ddefnyddio’r dargyfeiriadau sydd ar gael i ymweld â Ffair Tyndyrn ddydd Sadwrn 29 Mehefin, edrych o amgylch Hen Orsaf Tyndyrn, cerdded o amgylch yr Abaty ac ymweld ag un o’r llu o dafarndai yn yr ardal.

Dywedodd y Cyng Jane Pratt, Aelod Cabinet dros Weithrediadau:

‘Rwy’n deall ac yn cydymdeimlo gyda’r rhai y mae cau’r ffordd yn effeithio arnynt. Cynhelir y gwaith i sicrhau y gall llawer o bobl ymweld â’r rhan hardd hon o’r sir yn ddiogel yn awr ac yn y dyfodol. Rwy’n canmol gwaith fy nghyd-gynghorydd Ann Webb. Mae ei chyfathrebu cadarnhaol cyson gyda phreswylwyr lleol wedi sicrhau fod hwyliau yn uchel a bod y pentref a’i fusnesau yn ffynnu’.

Mae enwebiadau wedi agor ar gyfer Gwobrau Cyflawniad Gwirfoddolwyr Sir Fynwy 2019. Mae’r gwobrau’n dathlu’r gwirfoddolwyr ysbrydoledig sy’n gweithio’n galed ac yn rhoi eu hamser i helpu’r gymuned.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn i weithio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) i gydnabod y bobl ragorol sy’n byw yn y sir ac yn gyfle i ddweud ‘Diolch yn Fawr’ am eu cyfraniad i Sir Fynwy.

Mae croeso i breswylwyr Sir Fynwy enwebu unigolion a deimlant sy’n rhoi cyfraniad amhrisiadwy i’r Sir. Mae’r gwobrau yn gyfle perffaith i gydnabod ymrwymiad unigolion a grwpiau cymunedol a dangos eu heffaith ar fywyd yn Sir Fynwy.

Mae nifer o fusnesau a mudiadau lleol yn noddi’r gwobrau ac yn galluogi GAVO a’r cyngor i gynnal Gwobrau Cyflawniad Gwirfoddolwyr 2019. Dyma restr o’r gwobrau:

  • Oedolyn yn Gwirfoddoli – Noddir drwy garedigrwydd Tai Siarter
  • Grŵp – Noddir drwy garedigrwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Gwirfoddolwr Ifanc – Noddir gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
  • Gwirfoddolwr Amgylcheddol – Noddir drwy garedigrwydd Bwrdd Crwn Cas-gwent
  • Ymddiriedolwr Gwirfoddol – Noddir drwy garedigrwydd Cyngor Tref Cil-y-coed
  • Taith Bersonol – Noddir drwy garedigrwydd Bethany Homes
  • Gwobr Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy – Noddir drwy garedigrwydd Cyngor Sir Fynwy

Caiff yr holl enwebiadau eu hasesu gan banel beirniadu annibynnol a chaiff enillwyr a’r gwirfoddolwyr sy’n ennill Cymeradwyaeth Uchel eu gwahodd i’r digwyddiad.

Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet:

“Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i’r miloedd o wirfoddolwyr sy’n rhannu eu hamser i gefnogi eraill yn ein sir, mae’r gwahaniaeth a wnânt i fywydau pobl bob dydd yn anhygoel. Mae neilltuo amser i ddweud diolch yn fawr i’n gwirfoddolwyr mor bwysig i ni; mae ein gwirfoddolwyr yn galluogi cymunedau i fodoli ac nid yw llawer hyd yn oed yn cydnabod y gwahaniaeth a wnaethant. Felly os gwyddoch am unrhyw un sy’n gwneud gwahaniaeth – enwebwch nhw heddiw os gwelwch yn dda!’

Dywedodd Clare Watkins, Rheolwr Tîm Gwirfoddoli GAVO:

“Mae’n wych y gallwn ddod â phawb ynghyd yn y noswaith Wobrwyo i anrhydeddu arwyr tawel y Sir ac mae’n wych gweld yr Awdurdod Lleol a GAVO, ynghyd ag amrywiaeth o bartneriaid yn cynnwys llawer o grwpiau trydydd sector ac elusennau a’r gymuned fusnes leol i gyd yn cydweithio i ddathlu effaith gwirfoddoli yn Sir Fynwy. Mae’r noswaith bob amser yn dod â llawer o straeon ysbrydoledig am wirfoddoli ac os gwyddoch chi am rywun sy’n gwirioneddol haeddu gwobr, gan barhau gyda slogan Wythnos Gwirfoddolwyr eleni – ‘Mae’n Amser Dathlu’, rydym yn eich hannog i’w henwebu yn awr.”

Mae gan dîm Safonau Masnach Cyngor Sir Fynwy nifer o gynghorion da ac awgrymiadau i gadw preswylwyr yn ddiogel. Mae’r tîm yn cefnogi  Ymgyrch Genedlaethol Ymwybyddiaeth Sgamiau sy’n anelu i godi proffil yr amrywiaeth o sgamiau a thriciau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd ar draws y Deyrnas Unedig. Mae sgamiau’n effeithio ar bob rhan o’r gymdeithas;  rhyngddynt, amcangyfrifir fod unigolion ar draws y Deyrnas Unedig yn colli £10 biliwn y flwyddyn oherwydd twyll.

Mae’r Tîm Safonau Masnach yn dweud nad yw llawer o breswylwyr yn credu y cânt eu twyllo; yn arbennig, y rhai yn y grŵp ‘bywyd sefydlog’, yn bennaf rai rhwng canol eu 40au â chanol eu 60au, sydd leiaf tebygol o gredu y byddant yn dioddef sgam. Hoffai’r tîm bwysleisio nad oes neb yn ddiogel; mae sgamiau yn eang a gallant fod yn soffistigedig.

Defnyddir y dechnoleg ddiweddaraf, gan dargedu pobl ar-lein, drwy negeseuon e-bost a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, neu medrant fod ar wedd hen ddulliau fel gwerthu ar garreg y drws, llythyrau annisgwyl a galw oer.

Er fod diffyg ariannol amlwg yn gysylltiedig â sgamiau – dangosodd adroddiad diweddar gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol fod y golled ariannol gyfartalog i ddioddefwyr sgamiau rhwng 75-79 oed yn £4,500 – gall hefyd fod effeithiau tymor hirach ac yr un mor niweidiol ar hunanbarch pobl. Mae’r rhai sy’n dioddef sgamiau’n aml yn teimlo cywilydd. Gall y stigma hwnnw hefyd arwain at dan-adrodd sgamiau, gyda dioddefwyr yn teimlo gormod o embaras i gyfaddef iddynt gael eu twyllo.

Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet Safonau Masnach:

“‘Stopiwch, adroddwch, siaradwch: byddwch yn ymwybodol o sgamiau’ yw fy neges i bobl Sir Fynwy. Er fod llawer o bobl wedi dod i gysylltiad gyda sgamwyr, ychydig iawn sy’n siarad am y mater. Gall pobl weithiau deimlo’n wirion neu’n chwithig siarad amdano, neu roi gwybod am eu profiadau, ond gwaetha’r modd mae hyn yn golygu fod sgamwyr yn mynd yn ddi-gosb.

Mewn gwirionedd, gall pawb ohonom gael yr anffawd o gael ein targedu gyda sgam. Gobeithiwn y bydd yr ymgyrch Ymwybyddiaeth Sgamiau yn annog pobl i rannu eu straeon a dysgu cynghorion i atal sgamwyr rhag rhedeg i ffwrdd gydag arian pobl eraill.’

Mae gan Gareth Walters, Rheolwr Safonau Masnach Cyngor Sir Fynwy gynghorion pwysig ar gyfer defnyddwyr:

  • Os yw cynnig yn swnio’n rhy dda i wir, mae’n debyg ei fod – pwyll piau hi a pheidiwch gwneud penderfyniad sydyn wrth brynu
  • Os nad ydych wedi clywed am gwmni, gwnewch ychydig o ymchwil drwy safleoedd adolygu cwsmeriaid a thystebau i wirio eu bod yn ddilys cyn rhoi eich arian
  • Os ydych yn ansicr mewn unrhyw fodd am y busnes yr ydych yn ymwneud ag ef, peidiwch rhoi manylion eich cyfrif banc

Os ydych yn poeni fod rhywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef sgam, cadwch olwg ar y dilynol. Ydyn nhw’n:

  • Derbyn mwy o bost nag arfer?
  • Derbyn galwadau ffôn annisgwyl neu’n treulio mwy o amser ar y ffôn?
  • Mewn trafferthion gydag arian neu wedi codi symiau mawr o arian yn ddiweddar?

Os credwch fod rhywun yr ydych yn ei adnabod yn cael ei sgamio, cymerwch y camau dilynol:

  • Os ydych yn poeni am sgamiau ffôn, ystyriwch osod dyfais rhwystro galwadau
  • Anogwch nhw i ddweud wrth eu banc ar unwaith os oes unrhyw weithgaredd neu drafodion amheus o’u cyfrif neu gardiau credyd
  • Os ydynt yn ei chael yn anodd talu biliau neu ddyledion, anogwch nhw i ymweld â’r ganolfan Cyngor Ar Bopeth leol.

Gallwch hefyd gymryd y camau dilynol i’ch diogelu eich hun ac eraill:

  • Bod yn amheus os oes rhywun yn cysylltu â chi yn annisgwyl, hyd yn oed enw rydych yn ei adnabod
  • Peidiwch byth anfon arian i rywun nad ydych erioed wedi’i gwrdd
  • Peidiwch byth roi eich manylion banc os na allwch fod yn sicr y gallwch ymddiried yn y person sy’n cysylltu â chi
  • Peidiwch â chael eich rhuthro – nid oes byth angen gwneud penderfyniad yn syth a dywedwch ‘na’ os ydych yn teimlo dan bwysau
  • Amau sgam? Rhowch y ffôn i lawr, aros pum munud i glirio’r llinell neu ddefnyddio ffôn arall i alw
  • Peidiwch dioddef yn dawel – codwch lais am sgamiau

Os yw pobl yn amheus os yw cynnig yn ddilys ai peidio, dylent gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth 03454 04 05 05 (Cymraeg) neu 03454 04 05 06 (Saesneg) neu eu canolfan Cyngor Ar Bopeth leol.

Os cafodd pobl eu sgamio, dylent hysbysu  Action Fraud.

I gael mwy o wybodaeth am sut i atal, adrodd a siarad am sgamiau, edrychwch ar https://www.citizensadvice.org.uk/wales/consumer/scams/scams/ neu alw heibio eich swyddfa Cyngor Ar Bopeth leol.

Helo bawb

Hoffwn roi diweddariad i chi ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol o fis Medi 2019. Mae hyn yn berthnasol i geisiadau newydd yn unig ac nid i ddefnyddwyr cludiant presennol.

Cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol

Erbyn hyn dylech fod wedi clywed os ydych yn gymwys (neu beidio) ar gyfer cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol o fis Medi 2019. Ni chaiff llwybrau cludiant, amserau codi a gollwng neu fanylion bws/gyrrwr tacsi eu cadarnhau tan ddiwedd yr haf.

Os nad ydych yn gymwys, ond yn dal i fod angen cludiant rhwng y cartref a’r ysgol, dyma’r hyn sydd angen i chi wneud:

Llenwi’r ffurflen hon ar gyfer cludiant rhatach cyn gynted ag y gallwch os gwelwch yn dda.

Gofynion teithio ôl-16

Yn draddodiadol mae hyn bob amser wedi parhau i dymor yr hydref tra’n bod yn gweithio drwy pwy sydd angen/dim angen teithio. Eleni anelwn ddyrannu lleoedd ôl-16 ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol yn llawer cynharach

Llenwi’r ffurflen hon cyn gynted ag sydd modd (erbyn dydd Gwener 5 Gorffennaf) os ydych angen teithio ôl-16? Rydym wedyn yn dyrannu lleoedd ar sail cyntaf i’r felin. Peidiwch poeni os nad yw pobl ifanc 100% yn siŵr beth fyddant yn ei wneud o fis Medi (yn naturiol, gallai eu hamgylchiadau newid yn dibynnu ar eu canlyniadau TGAU), ond os oes gan bobl ifanc syniad ble hoffent astudio o fis Medi ymlaen, anfonwch eich ceisiadau yn awr fel y gallwn ddechrau cynllunio (gallwn ddal wneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen ym mis Awst).

Cawsom rai ymholiadau am gludiant o fis Medi 2020, ond ofnaf y byddwn yn canolbwyntio ar y flwyddyn academaidd nesaf cyn edrych ar ddewisiadau ar gyfer mis Medi 2020.

Gallwch gysylltu â ni yn passengertransportunit@monmouthshire.gov.uk;  fodd bynnag, gofynnwn i chi fod yn amyneddgar os nad ydym yn ateb yn syth gan ein bod yn brysur yn paratoi pethau ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd.

Dymuniadau gorau

Richard Cope

Rheolwr Uned Cludiant Teithwyr

Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymuno â’r “Chwyldro Ail-lenwi” ym mis Mehefin eleni ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Ail-lenwi ar 19 Mehefin! Fel rhan o ymrwymiad y cyngor i ddod yn sir ddi-blastig, mae llawer o adeiladau’r cyngor yn awr wedi cofrestru fel Gorsafoedd Ail-lenwi. Mae hyn yn golygu y gall aelodau o’r cyhoedd ddod â’u potel ddŵr ailddefnyddio eu hunain a’i hail-lenwi am ddim. Pe byddai dim ond un mewn deg o bobl Prydain yn ail-lenwi unwaith yr wythnos, byddai gennym 340 miliwn yn llai o boteli plastig y flwyddyn o gwmpas.

Bydd hyn yn helpu pobl i arbed arian, torri syched a helpu i atal llygredd plastig yn y ffynhonnell. Gall preswylwyr lawrlwytho ap Ail-lenwi o www.refill.org.uk i ganfod lle gallant ail-lenwi eu potel. Mae gan safleoedd sy’n Orsafoedd Ail-lenwi sticer ffenestr i ddangos i’r cyhoedd fod croeso iddynt ail-lenwi yno.

Mae Hyb Trefynwy, Siop Un Stop y Fenni, Llyfrgell Gilwern, Hyb Cas-gwent a Chanolfan Hamdden Trefynwy i gyd wedi cofrestru neu yn y broses o gofrestru fel Gorsafoedd Ail-lenwi. Bydd safleoedd eraill yn dilyn pan wnaed trefniadau. Mae’r rhain yn ymuno â rhwydwaith eang o gaffes a safleoedd eraill sydd eisoes yn cynnig ail-lenwi poteli dŵr.

Dywedodd y Cyng Jane Pratt, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Ddatgarboneiddio a Sir Fynwy Ddi-blastig:

“Mae’r cyngor yn cymryd ei ymrwymiad i Sir Fynwy ddi-blastig o ddifrif calon. Yn ogystal â chymryd camau fel defnyddio poteli llaeth gwydr ar gyfer holl laeth ysgol ac atal defnyddio cwpanau taflu ymaith yn ein hadeiladau, ymddengys fod ymuno â’r cynllun Ail-lenwi yn ffordd wych i helpu ein preswylwyr a’n hymwelwyr i ostwng plastig un defnydd. Caiff miliwn o boteli plastig eu prynu bob munud o amgylch y byd a rhagwelir y bydd y ffigur hwnnw yn cynyddu gan 20% erbyn 2021. Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wneud eu rhan yn herio hyn, ond mae’n bwysig fod y cyngor hefyd yn chwarae eu rhan.”

Mae Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Brynbuga yn falch iawn i weithio mewn partneriaeth gydag Ymgynghoriaeth ARUP i greu Prif Gynllun blaengar ac uchelgeisiol ar gyfer Brynbuga a Woodside. Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar ddylunio gofod strydoedd a chyhoeddus blaengar mewn ymgais i wneud Brynbuga yn dref gyfeillgar i gerddwyr.

Mae preswylwyr Brynbuga wedi dymuno cael priffordd ddiogel a mwy cyfeillgar ers blynyddoedd lawer. Mae’r dref dawel wedi gweld cerbydau mawr yn mynd ar hyd Stryd y Bont ac mae difrod yn gyson i Bont Brynbuga. Mae cerddwyr ar Stryd y Bont yn dweud  nad ydynt yn teimlo’n ddiogel ac mae cynnydd mewn traffig wedi arwain at i’r stryd ddod yn ardal rheoli ansawdd aer.

Cafodd preswylwyr flas o sut beth fyddai gofod i gerddwyr pan gafodd Stryd y Bont a Pharêd y Castell eu cau ar gyfer gwaith hanfodol i ddiweddaru pibelli nwy yn 2018. Roedd busnesau a phreswylwyr yn bryderus ar y dechrau ond cafodd ofnau eu lliniaru mewn dim o dro. Dywedodd preswylwyr eu bod yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus i gerdded fel y mynnent ar y stryd heb orfod poeni am draffig prysur. Arweiniodd cynnydd yn y nifer ar y strydoedd mewn effaith gadarnhaol i fusnesau lleol.

Bu Cyngor Tref Brynbuga a Chyngor Sir Fynwy yn gweithio i ganfod datrysiad drwy orchmynion traffig traddodiadol ond ni fu fawr o gynnydd. Mae’r Prif Gynllun yn canolbwyntio ar waith gan y diweddar Ben Hamilton-Baille ac arolwg ac ymgynghoriad cymunedol Brynbuga’r Dyfodol yn rhoi llinell sylfaen ar gyfer adeiladu gweithgareddau ymgysylltu cymunedol yn y dyfodol.

Tynnodd arolwg cymunedol Dyfodol Brynbuga a gynhaliwyd gan Gyngor y Dref gyda phreswylwyr Brynbuga sylw at wahanol faterion pwysig. Roedd cynaliadwyedd a dyfodol siopau a masnach, hamdden, parcio yn ogystal â rheoli traffig i gyd yn faterion pwysig i breswylwyr. Yn ychwanegol mae gan y dref sector gymunedol ragweithiol a phrysur iawn gyda grwpiau’n trefnu digwyddiadau. Efallai mai’r mwyaf adnabyddus o’r digwyddiadau hyn yw’r arddangosiadau blodau, gyda Brynbuga yn cael teitl ‘Tref Blodau’.

Dywedodd y Cyng Jane Pratt, Aelod Cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth: ‘Rydym yn falch iawn i gael cyfle i weithio gyda Chyngor Tref Brynbuga ar y cynllun cyffrous hwn. Ers blynyddoedd lawer rydym wedi sylweddoli fod Brynbuga angen darn cadarn o waith i ddynodi’r cyfleoedd fydd yn galluogi Brynbuga i fod yn addas i’r dyfodol drwy gefnogi busnesau lleol a chreu cyrchfan lle gall ymwelwyr a phreswylwyr fel ei gilydd fwynhau’r dref. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld y canlyniadau’.

Dywedodd Mrs Christine Wilkinson, Maer Brynbuga: “Rydym yn falch iawn i gael ARUP gyda ni ar gyfer y cam nesaf a hefyd i gael Gyngor Sir Fynwy yn ymuno gyda ni i symud ymlaen â hyn. Yn ogystal â chreu Prif Gynllun gyda gweledigaeth ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol – yn bendant iawn gydag ethos ‘rhannu gofod’ yn ganolog iddo – bydd ARUP yn ymchwilio, denu a sicrhau ffrydiau cyllid fel y gall breuddwydion o ddifrif gael eu gwireddu.”

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:

Sadie Beer, Swyddog Ymgysylltu Prosiect Canol Tref Cyngor Sir Fynwy ffôn 07970036191 neu e-bost: sadiebeer@monmouthshire.gov.uk

Clerc Cyngor Tref Brynbuga: Tracy Huxley, e-bost clerk.usk@usktown.org neu ffôn 01291 673011          

Mae prosiect garddio i’r anabl Greenfingers, sy’n seiliedig yn Theatr Melville, y Fenni, yn helpu i ddod â lliw i gymunedau lleol a swyddfeydd Cyngor Sir Fynwy gyda blychau plannu gwych yn llawn blodau hyfryd. Mae’r prosiect yn rhan o gynllun Fy Niwrnod Fy Mywyd a gaiff ei arwain gan Gyngor Sir Fynwy gyda’r nod o rymuso pobl gydag anableddau dysgu a chorfforol i ddysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd.

Bu’r tîm yn brysur yn gwneud blychau plannu pren hardd a’u llenwi gyda phlanhigion bendigedig. Derbyniodd Swyddfa Gofrestru’r Cyngor yn Neuadd y Sir, Brynbuga ddau flwch plannu hardd gan y prosiect yn ddiweddar.

Mae Greenfingers yn brosiect cymunedol ac yn croesawu aelodau o’r cyhoedd i ddod draw ac edrych o gwmpas a phrynu. Caiff y blychau plannu eu gwneud i archeb a’u dosbarthu i gartrefi yn ogystal â swyddfeydd.

Mae chwaer brosiect i Greenfingers yn helpu i gynnal nifer o ofodau gwyrdd cymunedol yn yr ardal leol yn cynnwys Gerddi Linda Vista a Pharc Bailey.

Yn 2018 roedd y prosiect yn falch iawn i dderbyn gwobr gan Gyngor Tref y Fenni am gyfraniad arbennig i wella’r ardal yng nghystadleuaeth Y Fenni yn ei Blodau. Yn y flwyddyn nesaf bydd y prosiect yn darparu planhigion i amrywiaeth o sefydliadau lleol yn cynnwys Llyfrgell y Fenni ac Ysgol Gynradd Our Lady & St Michael i helpu dod â lliw i’r dref yn barod ar gyfer Y Fenni yn ei Blodau 2019.

Dywedodd y Cyng Penny Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:

‘Mae Greenfingers yn cynnig cymaint i unigolion gydag anableddau a hefyd i’r gymuned ehangach. Rwyf mor falch i weld fod y prosiect yn dod â lliw i Neuadd y Sir ym Mrynbuga a’u llongyfarch am eu gwobr cyfraniad arbennig yn 2018. Mae garddio yn cael effaith enfawr ar iechyd meddwl a chorfforol ac rwyf wrth fy modd gweld y prosiect yma’n helpu cynifer o bobl yn y gymuned i aros yn iach ac yn egnïol. Hoffwn annog preswylwyr i alw yn Theatr y Melville a gweld yr hyn sydd gan Greenfingers i’w gynnig’.

Mae’r prosiect ar agor i’r cyhoedd rhwng dydd Llun a dydd Iau tan 3.30pm a dydd Gwener tan 3.00pm. Mae croeso i ymwelwyr ymweld â’r prosiect ac archebu blychau plannu. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â: 01873 854489.

Cafodd staff Dechrau’n Deg Sir Fynwy gyngor arbenigol a sesiwn hyfforddiant Llythrennedd Gorfforol ymarferol gan Dîm Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy ddydd Llun 3 Mehefin yng Nghanolfan Acorn, y Fenni.

Mae Llythrennedd Corfforol (datblygu sgiliau fel rhedeg, neidio, hopian, taflu a dal) yn hanfodol ar gyfer unrhyw fath o chwaraeon neu weithgaredd corfforol. Mae’r tîm wedi darparu’r rhaglen Llythrennedd Corfforol Cyn Ysgol mewn dros 33 safle gofal plant yn Sir Fynwy am y pedair blynedd ddiwethaf, mewn partneriaeth gyda’r Rhwydwaith Ysgolion Iach. Roedd y sesiwn yma yn estyniad i’r ddarpariaeth bresennol. Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen a gyllidir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant dan oed ysgol a theuluoedd. Mae’r hyfforddiant yn ategu’r sesiynau gweithgaredd amrywiol a gynhelir mewn safleoedd Dechrau’n Deg.

Rhoddodd y Tîm Datblygu Chwaraeon wybodaeth werthfawr ar bwysigrwydd datblygu sgiliau sylfaenol o oedran cynnar i roi’r hyder a’r cymhwysedd iddynt gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol am weddill eu bywydau.

Cymerodd staff ran mewn cyflwyniad ar Anatomeg a Ffisioleg yn canolbwyntio ar ffeithiau a ffigurau i ddangos yr effaith y gall ymarfer a gweithgaredd corfforol rheolaidd ei gael i ostwng cyflyrau iechyd y medrir eu hatal. Dilynodd sesiwn ymarferol wedyn lle cododd staff Dechrau’n Deg eu cyflymder calon eu hunain gyda chyfres o gemau hwyliog i ddangos faint o hwyl y gall ymarfer fod. Dywedodd staff fod y sesiynau yn wych.

Dywedodd y Cyng Richard John, Aelod Cabinet dros Hamdden a Phlant a Phobl Ifanc:

‘Rwyf mor falch i weld y Tîm Datblygu Chwaraeon yn gweithio mewn partneriaeth gyda Dechrau’n Deg i drosglwyddo sgiliau i helpu cenedlaethau’r dyfodol. Mae datblygu sgiliau sylfaenol fel rhedeg, neidio, hopian, taflu a dal yn hanfodol ar gyfer unrhyw fath o chwaraeon neu weithgaredd corfforol, ac yn hanfodol i fywyd hapus a iach. Mae gwaith Dechrau’n Deg a darparwyr gofal plant eraill yn hanfodol i roi cyfleoedd crwn i’n plant a rhieni i sefydlu negeseuon llesiant cadarnhaol.

‘Dylai plant gael llawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau o oedran cynnar i sicrhau eu bod yn hyderus ac yn gymwys i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol am weddill eu bywydau. Gelwir datblygiad y sgiliau yma yn Llythrennedd Corfforol, y sgiliau sylfaenol sy’n ffurfio blociau adeiladu ymgysylltu gydol oes mewn gweithgaredd corfforol rheolaidd. Bu Tîm Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy yn hanfodol wrth alluogi plant rhwng 4-18 oed i ennill sgiliau a chyfleoedd. Rwyf mor falch i weld y rhaglen yn cael ei throsglwyddo i blant dan oed ysgol.”

Mae Tîm Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy yn darparu cyfoeth o weithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae Gemau Mynwy poblogaidd iawn yn uchafbwynt gwyliau llawer o bobl ifanc. I gael mwy o wybodaeth am y tîm cysylltwch â Paul Sullivan:

E-bost: paulsullivan@monmouthshire.gov.u, ffonio 07825 853882 neu ymweld â www.monmouthshire.gov.uk/things-to-do/monleisure/the-monmouthshire-games i gael mwy o wybodaeth am Gemau Mynwy.

Ar 5 Mehefin mae Cabinet Cyngor Sir Fynwy yn ystyried adroddiad perfformiad ariannol y Cyngor am flwyddyn ariannol 2018/2019. Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i danwariant cyllideb o £49k ar gyllideb gwariant net o £139.6 miliwn (ac eithrio presaeptau ac ardollau a gasglwyd ar ran eraill).

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o feysydd gwariant lle mae pwysau sylweddol yn parhau i ddangos. Y meysydd hyn yn bennaf yw’r twf parhaus yn nifer y plant sy’n derbyn gofal gan y Cyngor, cyllido anghenion addysgol ychwanegol ar gyfer plant yn ysgolion Sir Fynwy a chynnydd mewn costau i ddarparu cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol i ddisgyblion. Bu cynnydd o £2.436 miliwn yn ystod y flwyddyn yn y tri maes hyn yn unig a chafodd hyn ei drin drwy sicrhau arbedion mewn rhannau eraill o’r Cyngor.

Yn ychwanegol at hyn mae nifer fach o ysgolion yn adrodd sefyllfaoedd diffyg sylweddol ar ddiwedd y flwyddyn y bydd yn rhaid i gyrff llywodraethu eu trin eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Mae pawb yn sylweddoli pa mor anodd yw trin cyllid cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd ac yn Lloegr rydym yn dechrau gweld Cynghorau yn disgyn. Rwy’n falch ein bod unwaith eto wedi llwyddo i gyflawni ein hagenda o fewn y gyllideb ond dylai’r cyhoedd ddeall bod hyn yn beth caled i’w wneud. Nid ydym yn gwneud dewisiadau rhwydd ac mae’r rhagolygon ar gyfer y flwyddyn nesaf yn heriol os nad yw Llywodraeth Cymru yn penderfynu fod llywodraeth leol yn bwysig iddynt a bod siroedd gwledig yn dechrau cael lefel o gefnogaeth ariannol sy’n gymesur gyda darparu gwasanaethau mewn ardaloedd mawr gyda phoblogaeth wasgaredig.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd y Cyngor: “Ni all fod yn iawn fod gan rai cynghorau yng Nghymru fwy na £100 miliwn o gronfeydd wrth gefn heb eu dyrannu a’u bod yn parhau i gael lefelau anghymesur o grantiau gan Lywodraeth Cymru ar ben setliad blynyddol gor-hael tra’n bod ni’n gorfod cadw golwg ar bob un geiniog. Mae’n amser cael trefn ar hyn ac mae angen i Aelodau’r Cynulliad a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ymateb i’r her. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i redeg un o’r Cynghorau mwyaf effeithiol, effeithlon ac sy’n perfformio orau yng Nghymru yn gweitho gyda ac ar ran holl ddinesyddion Sir Fynwy.”

Gwahoddir busnesau lleol i fynychu Diwrnod Cyflogadwyedd Cyngor Sir Fynwy ddydd Gwener 21 Mehefin o 9.30am yn Neuadd y Sir, Brynbuga. Mae’r bore’n nodi dechrau Wythnos Cyflogadwyedd Sir Fynwy, sy’n anelu i ysbrydoli a chydnabod gwaith gwych tîm Menter Ieuenctid y cyngor a Phartneriaeth Cyflogadwyedd Sir Fynwy.

Mae’r Bartneriaeth Cyflogadwyedd yn cynnwys Cyngor Sir Fynwy – Menter Ieuenctid a Dysgu Cymunedol, Cymdeithas Tai Sir Fynwy, Cartrefi Melin a PaCE (‘Parent Child Care and Employment’) yn cydweithio i wella cyfleoedd cyflogadwyedd ar gyfer dinasyddion Sir Fynwy. Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn dathlu ei flwyddyn gyntaf o ddarpariaeth yn Sir Fynwy gyda chanlyniadau cyflogaeth rhagorol.

Mae’r diwrnod yn gyfle i fusnesau lleol rannu eu sylwadau i helpu’r cyngor i ddeall mwy am anghenion adnoddau busnesau lleol fel y gellir darparu cynlluniau prentisiaeth yn Sir Fynwy o amgylch anghenion busnesau lleol a sicrhau fod pobl ifanc wedi paratoi ar gyfer dyfodol gwaith.

Dywedodd llefarydd Cyngor Sir Fynwy: ‘Rydym yn ymroddedig i gefnogi menter yn Sir Fynwy ac annog pobl ifanc leol i ddatblygu sgiliau fydd yn cynorthwyo gyrfa wych nawr ac yn y dyfodol. Croesawn sylwadau pob busnes lleol i’n helpu i gynllunio ein rhaglenni prentisiaeth yn seiliedig ar eu hanghenion. Edrychaf ymlaen at gwrdd ag amrywiaeth eang o fusnesau lleol – croeso i bawb’.

Bydd y bore hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau dinasyddion a wnaeth gynnydd rhagorol i fynd i mewn i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Bydd y digwyddiad yn cychwyn am 9.30pm yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga, bydd lluniaeth ar gael tan 10.00am a bydd amrywiaeth o siaradwyr gwadd yn bresennol. Daw’r digwyddiad i ben am 12.00pm.

I gael mwy o wybodaeth ac archebu lle cysylltwch â Steve Cooper
StephenCooper@monmouthshire.gov.uk

Max Boyce

Ar ôl i bob tocyn gael eu gwerthu ar gyfer ei sioe bedair blynedd yn ôl, mae Max Boyce yn dychwelyd i Ganolfan Hamdden Cil-y-coed ddydd Sadwrn 5 Hydref – bydd yn noson anhygoel! Cafodd taith 2018 Max ei hymestyn i’r hydref oherwydd maint y galw.

Mae Max Boyce wedi diddanu pobl ym mhob rhan o’r byd am dros 40 mlynedd gyda’i allu i beintio darluniau mewn gair a chân. Yn ddiweddar mae cynulleidfa ifanc sylweddol wedi darganfod y diddanwr eithriadol, gan ddwlu arno a’i wneud yn arwr gwerin modern go iawn.

Nid oes angen unrhyw gyflwyniad ar berfformiadau byw Max, mae ymateb y gynulleidfa gyda phawb yn sefyll ar eu traed i gymeradwyo yn siarad drostynt eu hunain. Peidiwch colli’r profiad unigryw o weld Max Boyce yn fyw mewn cyngerdd, a medru dweud, “I Was There!”

Mae tocynnau ar gael am £28 (gyda ffi archebu) ar gael o: boroughtheatreabergavenny.co.uk gyda’r drysau’n agor am 6.45pm ar y noswaith. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan neu drwy anfon e-bost at events@monmouthshire.gov.uk ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dewis Cadeirydd newydd i wasanaethu am y deuddeg mis nesaf. Etholwyd y Cynghorydd Sheila Woodhouse yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y cyngor ar 14 Mai yn dilyn enwebiad gan Peter Fox, Arweinydd y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Fox: “Mae Sheila yn berson uchel ei pharch sy’n gweithio’n galed iawn a bu’n Is-gadeirydd rhagorol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.”
Cafodd y Cynghorydd Woodhouse ei geni a’i magu yn y Fenni, ei haddysgu yn Ysgol Gatholig St Albans ac Ysgol Gyfun Trefynwy, a chafodd yrfa lwyddiannus gyda Swyddfa’r Post, gan gael dyrchafiad i fod yn rheolwr cangen ac ardal. Mae’n gwirfoddoli’n aml yn y dref a’r cylch ac mae ganddi gysylltiad ers amser maith gyda Chlwb Gateway y Fenni, mae’n aelod o’r WRVS, yn ymwneud â chymdeithas gefeillio y Fenni, yn sefydlydd ac ysgrifennydd Cymdeithas Mind y Fenni yn ogystal â chymryd rhan mewn llawer o achosion eraill. Mae’r Cynghorydd Woodhouse yn gwasanaethu fel aelod dros ward Grofield ac mae ganddi brofiad blaenorol yn ei rôl newydd ar ôl bod yn Faer y Fenni. Ei chonsort am ei blwyddyn yn y swydd fydd ei gŵr Chris, a wasanaethodd fel Cadeirydd Sir Fynwy yn 2007, a’i chaplan yw’r Canon Mark Soady.
Meddai’r Cynghorydd Woodhouse: “Mae’n anrhydedd a braint enfawr cael fy ethol yn Gadeirydd eleni. Mae’r holl gynghorwyr a phleidiau a gynrychiolir yma heddiw yn ymroddedig i les pobl Sir Fynwy. Drwy gyfnodau anodd a heriol, mae eu cydweithrediad wedi bod yn sylfaen i bopeth y safwn drosto a gwnaf fy ngorau glas i sicrhau y caiff pob barn ei chlywed a’i chlywed yn deg.”
Yr elusennau a ddewisodd y Cynghorydd Woodhouse ar gyfer ei blwyddyn yn y swydd yw Cymdeithas Alzheimer a Cherddoriaeth Gwent – gwasanaeth cerdd yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â cynghorau Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Casnewydd a Thorfaen.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Clarke, wrth ymadael â swydd y Cadeirydd: “Bu hon yn flwyddyn ryfeddol ac aeth heibio’n sydyn iawn. Mae Sir Fynwy yn lle gwych gyda phawb yn gwrtais iawn ac awyddus i helpu. Mae’r uchafbwyntiau i fi yn cynnwys gweld awyren olaf Lancaster Bomber yr Awyrlu Brenhinol yn hedfan dros Gas-gwent i gofio am beilot o sgwadron y Dambusters oedd yn byw yn y dref, a chlywed perfformiadau gwych gan blant a phobl ifanc yr elusen a ddewisais, Cerddoriaeth Gwent.
Etholwyd y Cynghorydd Bryan Jones, sy’n cynrychioli ward Goetre Fawr, yn Is-gadeirydd y cyngor.

Gall holl breswylwyr Sir Fynwy sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Seneddol Ewropeaidd yr wythnos hon wneud hynny yn eu gorsaf bleidleisio (gyda neu heb gerdyn pleidleisio). Gall preswylwyr ganfod pa un yw’r orsaf bleidleisio agosaf yn maps.monmouthshire.gov.uk.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi rhoi sicrwydd i breswylwyr yn ardal Magwyr a Gwndy y bydd ganddynt hawl i bleidleisio yn yr Etholiad Seneddol Ewropeaidd ddydd Iau hyd yn oed os nad ydynt wedi cael cerdyn pleidleisio. Hysbyswyd y cyngor nad yw’r Post Brenhinol wedi dosbarthu cardiau pleidleisio i rai cartrefi ym Magwyr a Gwndy ond pwysleisiodd y Swyddog Etholiadol, Paul Matthews y gall preswylwyr gymryd rhan yn yr etholiad, cyn belled â’u bod wedi cofrestru i bleidleisio.

Dywedodd Paul Matthews: “Ymddiheurwn am sefyllfa nad ydym yn gyfrifol amdani ac sydd tu allan i’n rheolaeth. Os oes gan unrhyw un gwestiynau, byddwn yn gofyn iddynt gysylltu â’n tîm etholiadau drwy e-bost: elections@monmouthshire.gov.uk”.

Bydd canolfan ymwelwyr Hen Orsaf Tyndyrn yn estyn croeso cynnes i wirfoddolwyr sy’n fodlon addurno a phlannu hadau a blodau mewn hen esgidiau a welis a gyfrannwyd i dîm ailgylchu Sir Fynwy. Cynhelir y sesiwn plannu ddydd Mawrth 28 Mai rhwng 11am a 2pm a bydd yr esgidiau lliwgar yn croesawu ymwelwyr a cherddwyr yn cynnwys y rhai’n hyfforddi ar gyfer taith gerdded codi arian Heic Fawr elusen Macmillan a gynhelir ar 7 Medi. Mae’r Hen Orsaf ger yr Afon Gwy yng nghalon Dyffryn Gwy ychydig i’r gogledd o Dyndyrn.

Bydd grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr a disgyblion Ysgol Gynradd Llandogo gerllaw yn ymuno yn yr hwyl ac yn creu eu celfweithiau eu hunain. Mae tîm cynnal a chadw tir Sir Fynwy wedi cyfrannu planhigion hyfryd i’w plannu i roi lliw i’r esgidiau ac annog gwenyn a pheillwyr eraill.

Caiff yr esgidiau creadigol eu dangos dwy’r haf a byddant yn rhan o helfa drysor i weld yr esgidiau blodeuog. Caiff ymwelwyr i’r orsaf eu hannog i rannu lluniau o’u ffefrynnau ar gyfryngau cymdeithasol gyda hashnod #bootifulboots.

Mae safle delfrydol 10 erw yr Hen Orsaf yn dangos Sir Fynwy ar ei gorau gyda’i gaffe yn darparu detholiad amrywiol o fwyd yn ogystal â digwyddiadau teuluol a cherddoriaeth fyw drwy gydol yr haf, ardal chwarae i plant a sip-wifren.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Arloesedd, Menter a Hamdden Cyngor Sir Fynwy: “Rwy’n edrych ymlaen at weld yr esgidiau godidog yn ymddangos o amgylch Hen Orsaf Tyndyrn. Byddwn yn annog cerddwyr, ymwelwyr dydd a phobl ar eu gwyliau i fwynhau popeth sydd gan yr orsaf i’w cynnig yn ysblander Dyffryn Gwy. Edrychwn ymlaen at groesawu pobl sy’n hyfforddi am Heic Fawr Macmillan – mae’n bendant yn werth rhoi cyunnig ar ddringo Pulpud y Diafol cyn y diwrnod mawr!”

Gwahoddir gwirfoddolwyr i alw heibio i’r digwyddiad esgidiau blodeuog ar unrhyw amser rhwng 11am a 2pm ar 28 Mai yn Hen Orsaf Tyndyrn, Tyndyrn, Cas-gwent NP16 7NX. Caiff unrhyw hen esgidiau neu welis a deunyddiau crefft dros ben neu baent eu derbyn yn ddiolchgar yn yr Hen Orsaf cyn 28 Mai.

Mae Gwasanaethau Gwastraff a Stryd Cyngor Sir Fynwy yn falch i gyhoeddi eu bod wedi ennill contract gyda Chymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA) i ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw a chefnogaeth i dros 250 o safleoedd penodol.

Bydd tîm Cynnal a Chadw Tiroedd y cyngor yn darparu gwasanaeth torri glaswellt, cynnal a chadw perthi, clirio lloriau caled, clirio chwyn a cynnal a chadw tiroedd cysylltiedig am gyfnod dechreuol o 4 blynedd, gydag opsiwn am 2 estyniad o 3 blynedd yr un. Mae cyfanswm gwerth y contract yn £2.5 miliwn am y cyfnod posibl o 10 mlynedd.

Mae’r contract yn cynnwys ymrwymiad parhaus i helpu cymunedau i ffynnu. Bydd tenantiaid yn manteisio o gefnogaeth timau Tiroedd yn helpu tenantiaid i ddatblygu cynlluniau garddio cymunedol. Mae MHA yn ymfalchïo mewn gweithio gyda chymunedau i helpu tenantiaid gael cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi.

Bydd y cyngor yn gweithio gyda MHA i gefnogi’r cynllun hyfforddiant Pasbort i Waith. Cytunwyd ar fuddion cymunedol sylweddol, yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd ar draws Gwasanaethau Gwastraff a Stryd, yn cynnwys prentisiaethau, profiad gwaith a lleoliadau gwaith.

Bu Cyngor Sir Fynwy yn darparu’r gwasanaeth i MHA ers trosglwyddo’r stoc tai dan Gytundeb Lefel Gwasanaeth. Yn 2018 cyflwynodd MHA dendr am gontract hirdymor ar gyfer darparu Cynnal a Chadw Tiroedd i’w safleoedd, anheddau a gwaith dydd yn dilyn ymgynghoriad helaeth gyda’u tenantiaid. Dynodwyd mai Cyngor Sir Fynwy oedd y cynigydd a ffafrir ar gyfer contract Cynnal a Chadw Tiroedd Cymdeithas Tai Sir Fynwy.

Mae sicrhau’r contract yn adlewyrchu gwaith anhygoel Cyngor Sir Fynwy mewn sicrhau contract gwerth uchel mewn marchnad gystadleuol iawn. Mae’r cyngor yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth ardderchog yn cyflenwi gwasanaethau cynnal a chadw tiroedd o’r radd flaenaf i gymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Gwastraff a Stryd:

‘Mae’n wych clywed fod Gwasanaethau Gwastraff a Stryd wedi ennill y contract. Gweithiodd y tîm yn anhygoel o galed i gyflawni hyn. Mae Sir Fynwy wedi darparu’r gwasanaeth am flynyddoedd lawer ac rydym yn falch fod MHA wedi dyfarnu’r contract i ni mewn maes mor gystadleuol. Mae penderfyniad, proffesiynoldeb a dyfalbarhad yr holl staff wedi talu’r ffordd. Bydd y safon uchel o wasanaeth a ddarparwn yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod a bydd yn rhoi sicrwydd swyddi i’n staff.’

Caiff prosiect peilot newydd Natur Wyllt ei lansio yn ystod Wythnos Gwenyn Trefynwy yng Ngardd Nelson ddydd Sul 19 Mai. Mae’r prosiect peillio yn rhoi gwybodaeth a syniadau i gymunedau i annog mwy a mwy o wenyn, pili pala a phryfed eraill i beillio a byw mewn gerddi, dolydd, gwrychoedd ac ar ymyl ffyrdd.

Cyllidwyd y prosiect drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru dan fesur LEADER y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a’i nod yw annog y cyhoedd i feddwl sut y gallant warchod rhywogaethau sy’n helpu i ddarparu llawer iawn o fwyd.

Caiff y prosiect yn Nhrefynwy ei arwain gan Gyngor Tref Trefynwy mewn partneriaeth gydag arbenigwyr lleol o Gwenyn Datblygu, Trosiant Trefynwy, Sir Fynwy Gyfeillgar i Wenyn a Grŵp Dolydd Trefynwy. Cefnodir y prosiect gan Gyngor Sir Fynwy a bydd yn rhedeg tan fis Mehefin 2020.

Mae’r prosiect yn edrych am breswylwyr, ysgolion lleol a grwpiau cymunedol i gymryd rhan ac ymuno â thudalennu Twitter neu Facebook. Mae’n rhoi cyfle i gymunedau rannu’r hyn sy’n digwydd eisoes i hybu peillio yn Sir Fynwy.

Dywedodd y Cyng Bryan Jones, Aelod Cabinet dros Fioamrywiaeth:

“Mae peillwyr mor bwysig i helpu ein hamgylchedd i ffynnu. Mae Natur Wyllt yn enghraifft wych o sut y gall grwpiau gydweithio i gael argraff gadarnhaol yn y sir. Rydym yn ymfalchïo yn ein hymrwymiad i fioamrywiaeth yn Sir Fynwy ac yn edrych yn gyson am ffyrdd y gallwn drin ein gofodau gwyrdd mewn ffordd gadarnhaol i annog gwenyn, pili pala, blodau a phlanhigion. Rwy’n annog pobl leol o bob oed i feddwl am beth maent yn ei blannu, pa bynnag mor fach neu fawr yw’ch gardd. Gall y prosiect newydd eich helpu i wneud gwahaniaeth.

Mae llawer o ffyrdd i ganfod sut i gael argraff gadarnhaol neu ganfod pa weithgareddau sy’n digwydd ar hyn o bryd drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Natur Wyllt, dilyn @naturisntneat ar Twitter a Nature Isn’t Neat ar Facebook.

Caiff preswylwyr eu hannog i gymryd rhan mewn arolwg byr i ganfod faint mae cymunedau yn ei ddeall am beillwyr a’r hyn y gall y prosiect ei wneud i helpu codi ymwybyddiaeth a pheillwyr yn Sir Fynwy. Mae’r arolwg ar gael yma: https://www.monmouthshire.gov.uk/nin/

Cynhelir mwy o weithgareddau, diweddariadau rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, gweithdai a chystadlaethau yn y misoedd nesaf. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â NiN@monmouthshire.gov.uk.

Bydd Tîm Gofal Maeth Cyngor Sir Fynwy yn dathlu Pythefnos Maethu rhwng dydd Llun 13 Mai a dydd Gwener 26 Mai gyda chyfres o sesiynau galw heibio mewn lleoliadau yng ngogledd a de’r sir. Caiff preswylwyr eu hannog i ddod draw i ganfod sut y gall maethu newid dyfodol plentyn.

Mae Pythefnos Maethu yn ymgyrch genedlaethol i godi proffil maethu a dangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau.

Mae gofal maeth yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd  a gall gael effaith enfawr ar fywydau babanod, plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy. Gall maethu fod am gyfnod byr, yn hirdymor neu ofal seibiant. Mae angen neilltuol am ofalwyr a all gynnig lleoliad i famau neu dadau agored i niwed a’u babanod, er mwyn rhoi cefnogaeth ac arweiniad wrth eu cynorthwyo i ddatblygu eu sgiliau fel rhieni. Mae tîm Gofal Maeth Sir Fynwy yn hapus i roi gwybodaeth ar bob opsiwn mewn ymgais i annog mwy o bobl i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc sydd angen gofal a chymorth ychwanegol.

Cynhelir y sesiynau galw heibio yng Nghlwb Golff St Pierre ddydd Iau 16 Mai 10.00am – 12.00pm a 5.30 – 7.30pm a’r wythnos wedyn yng Ngwesty’r Angel, y Fenni ar ddydd Iau 23 Mai 10.00am – 12.00pm a 5.30pm – 7.30pm.

Dywedodd y Cyng Penny Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd:

“Mae’r Bythefnos Maethu yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o Ofalwyr Maeth. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, os ydych yn ystyried dod yn ofalwr maeth dewch draw a siarad gyda’n tîm cyfeillgar fyddai’n hoffi cwrdd â chi. Gallai dim ond un sgwrs ddechrau eich taith i drawsnewid bywydau babanod, plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy.’

Mae gofal  maeth yn brofiad sy’n cyfoethogi, fel yr esboniodd un o Ofalwyr Maeth Sir Fynwy:

‘Fy mhrofiad gorau o fod yn ofalwr maeth yw fy mod yn clywed bob wythnos gan yr holl blant a fu yn fy ngofal, maent yn dod a dweud wrthyf beth sy’n digwydd yn eu bywydau. Mae mor hyfryd pan ydych mor agos â hynny atyn nhw, dyna’r teimlad gorau yn y byd.’

Gall gwrandawyr brwd Sunshine Radio glywed hysbysebion cyfeillgar yn hyrwyddo’r sesiynau galw heibio.

I gael mwy o wybodaeth anfonwch neges destun gyda’r gair FOSTER ac enw cyswllt neu ffonio 01873 735950. Mae mwy o wybodaeth am daith maethu ar gael ar wefan Cyngor Sir Fynwy, edrychwch ar www.monmouthshire.gov.uk/fostering i gael mwy o fanylion.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cyflwyno newidiadau i Ganolfannau Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu. O ddydd Sadwrn 1 Mehefin bydd angen i ddefnyddwyr ddangos tystiolaeth o ble maent yn byw ar ffurf trwydded i gael mynediad i bob safle. Mae’r dyddiad hefyd yn nodi dechrau cau rhan-amser ym mhob Canolfan.

Bydd pob aelwyd yn Sir Fynwy yn derbyn un drwydded a anfonir atynt ynghyd â thaflen gwybodaeth. Bydd y trwyddedau yn rhad ac am ddim a disgwylir iddynt gyrraedd preswylwyr erbyn 1 Mehefin. Caiff preswylwyr nad ydynt yn derbyn trwydded erbyn 1 Mehefin eu hannog i gysylltu â 01633 644644 neu anfon e-bost at Contact@monmouthshire.gov.uk i gael trwydded. Byddir yn derbyn trwydded yrru yn y cyfamser.

Bydd pob aelwyd yn cael un drwydded, a gellir trosglwyddo’r trwyddedau rhwng cerbydau lle mae gan aelwyd fwy nag un car. Os caiff trwydded ei cholli neu ei anghofio, bydd staff yn derbyn trwydded yrru ddilys yn dangos cyfeiriad yn Sir Fynwy.

Bydd staff cwrdd a chyfarch ar gael ym mhob safle. Gofynnir i breswylwyr ddangos trwyddedau ar ffenestr y cerbyd fel y gall staff ei weld pan fyddant yn mynd i’r safle gan ostwng faint o amser mae ymweliad yn ei gymryd.

Cyflwynwyd y trwyddedau mewn ymgais i atal gadael gwastraff o awdurdodau cyfagos yn y pedair Canolfan Gwastraff yn y sir sydd ag oblygiadau ariannol enfawr i’r awdurdod. Mae llawer o awdurdodau cyfagos wedi cyflwyno cynlluniau tebyg.

Mae trwyddedau eisoes yn cael eu defnyddio ar gyfer cerbydau math masnachol a threlars, ac mae’n rhaid dangos y drwydded newydd ynghyd â’r trwyddedau hyn.

Bydd Canolfannau Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu yn cael eu cau yn rhan-amser o ddydd Sadwrn 1 Mehefin.

Caiff y safleoedd dilynol eu cau:

  • Canolfan Llan-ffwyst, ar gau bob dydd Mercher
  • Canolfan Five Lanes, ar gau bob dydd Iau
  • Canolfan Llanfihangel Troddi, ar gael bob dydd Llun a dydd Iau
  • Canolfan Brynbuga, ar gau bob dydd Mawrth a dydd Gwener

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, Aelod Cabinet Gweithrediadau:

‘Cafodd y newidiadau i Ganolfannau Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu eu gweithredu i wneud arbedion. Cafodd cau’r Canolfannau yn rhan-amser ei lywio gan adborth gan ddefnyddwyr yn ystod ymgynghoriad diweddar. Gobeithiaf fod preswylwyr yn deall fod cau rhan-amser yn gadarnhaol ac wedi arwain at arbedion heb gau unrhyw safle yn barhaol. Bu newidiadau sylweddol i wastraff ac ailgylchu mewn misoedd diweddar. Hoffwn ddiolch i breswylwyr am eu cydweithrediad parhaus yn ystod y broses hon.’

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Sir Fynwy:

www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste/household-waste-recycling-centres/

Mae Cyngor Sir Fynwy, ynghyd â’r pedwar awdurdod lleol arall yng Ngwent, yn cynnal astudiaeth ddichonolrwydd ar yr angen am fwy o fannau gwefru cerbydau trydan ar draws y sir. Mae’r cyngor yn dymuno cael barn preswylwyr lleol am yr angen am wasanaeth o’r fath a lle y medrid eu darparu. Bydd canfyddiadau o’r astudiaeth ddichonolrwydd yn helpu’r cyngor i gynllunio darpariaeth ar gyfer y sir yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet y cyngor am weithrediadau’r sir: “Bydd cael mwy o fannau gwefru cerbydau trydan ar draws Sir Fynwy yn ein helpu i weithio i gael amgylchedd mwy gwyrdd a glân”.

Gofynnir i breswylwyr Sir Fynwy gysylltu â’r cyngor os oes ganddynt angen gwefru ar hyn o bryd neu os y byddent yn ystyried newid i gerbyd trydan pe byddai cyfleusterau gwefru ar y stryd ar gael.

Ychwanegodd y Cynghorydd Jones: “Fyddech chi’n ystyried newid i gerbyd trydan pe byddai mwy o fannau gwefru ar draws Sir Fynwy? Rydym yn neilltuol o awyddus i glywed gan breswylwyr sydd ganddynt gerbyd trydan neu’n ystyried cael un ond na all barcio neu wefru oddi ar y stryd yn agos at eu cartref.”

Caiff preswylwyr ledled Gwent eu hannog i gwblhau arolwg ar-lein sydd ar gael yn wGofynnir i breswylwyr ddewis ym mha fwrdeistref sirol y maent yn byw ynddi a gofynnir iddynt roi eu cod post wrth ymateb fel y gall awdurdodau lleol ddeall lle mae’r mwyaf o alw. https://getinvolved.torfaen.gov.uk/pssu/electric-vehicle-charging-points/

Defnyddir yr wybodaeth hon fel tystiolaeth i gefnogi cyfleoedd cyllid. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 20 Mai.

I gael mwy o wybodaeth neu i roi adborth cysylltwch â Mark Lloyd, Cydlynydd Rhaglenni Gwledig ar 01633 644865 neu e-bost MarkLloyd@monmouthshire.gov.uk

Bydd y swyddfeydd ar gau ddydd Llun 6 Mai

Byddwn yn ailagor am 9am ddydd Mawrth 7 Mai.

Os yw’ch ymholiad yn un brys ffoniwch 0300 123 1055

Ar gyfer argyfyngau Gwasanaethau Cymdeithasol ffoniwch 0800 328 4432

Bydd eich holl gasgliadau Ailgylchu a Gwastraff un diwrnod yn hwyrach yr wythnos honno.

Ymunodd timau iechyd yr amgylchedd a gwastraff & glanhau strydoedd Cyngor Sir Fynwy mewn partneriaeth gyda chyrff cyhoeddus eraill drwy gynnal diwrnod ymwybyddiaeth ddydd Iau 11 Ebrill i dynnu sylw at natur wrthgymdeithasol baw cŵn. Gan weithio gyda chynghorau tref a chymuned lleol a’r heddlu, roedd yr ymdrechion yn canolbwyntio ar ogledd y sir, yn arbennig Gilwern, Clydach a Goetre, yn unol â chynllun cymunedol Rhoi’r Cerdyn Coch i Faw Cŵn.

Hefyd yn canolbwyntio ar natur wrth-gymdeithasol baw cŵn oedd disgyblion o Ysgol Gynradd Gilwern. Yn ogystal â thrafod y mater gyda phreswylwyr a thynnu sylw at yr ardaloedd yr effeithir arnynt gyda chwistrellion seiliedig ar sialc, maent wedi cynllunio arwyddion newydd ar gyfer Cyngor Cymunedol Llanelli a anelwyd i atal baw cŵn. Fel gyda dyddiau ymwybyddiaeth blaenorol, cafwyd adborth cadarnhaol gan breswylwyr, gan gydnabod yr angen i barhau i dynnu sylw at faw cŵn sy’n parhau’n gonsyrn amgylcheddol.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am iechyd yr amgylchedd: “Gwnaed gwelliannau amlwg mewn blynyddoedd diweddar gyda gostyngiad yn faint o faw cŵn sydd ar ein strydoedd a caeau chwaraeon. Rydym yn wirioneddol werthfawrogi ymdrechion mwyafrif helaeth cerddwyr cŵn sy’n casglu a chael gwared â’r gwastraff yn y ffordd gywir. Serch hynny, mae digwyddiadau yn dal i fod ac mae ardaloedd lle mae hyn yn broblem ym mhob rhan o’r sir. Mae dyddiau ymwybyddiaeth fel hyn yn dda i’n hatgoffa yn arbennig pan fo plant yn cymryd rhan mewn cynlluniau, sydd bob amser yn galonogol. Mae’r neges yn syml – bagiwch a biniwch.”

Mae gan awdurdodau lleol a Heddlu Gwent bŵer i osod hysbysiadau cosb sefydlog ac mae perchnogion sy’n methu codi baw eu cŵn yn wynebu dirwy o £75 yn y fan a’r lle. Os yw person yn gwrthod talu ac yr aiff yr achos i’r llys, gall y troseddwr gael dirwy o hyd at £1,000. Mae’n rhwydd rhoi adroddiad am berchnogion cŵn nad ydynt yn glanhau ar ôl eu cŵn drwy: http://www.monmouthshire.gov.uk/home/streets-parking-and-transport/recycling-and-waste/dogfouling/

Bydd y swyddfeydd ar gau ddydd Gwener 19eg ,  dydd Llun 22ain  a dydd Mawrth 23ain

Byddwn yn ailagor am 9am ddydd Mercher 24 Ebrill.

Os yw’ch ymholiad yn un brys ffoniwch  0300 123 1055

Ar gyfer argyfyngau Gwasanaethau Cymdeithasol ffoniwch 0800 328 4432

Bydd casgliadau sbwriel/ailgylchu ddydd Gwener 19eg

Ac un diwrnod yn hwyr yr wythnos ddilynol.

Lansiodd elusen leol gaffe cyfeillgar i dementia yng Nghanolfan Gymunedol Palmer yng nghanol tref hanesyddol Cas-gwent ddydd Sadwrn 13 Ebrill. Wedi’i gyd-ariannu gan Gyngor Sir Fynwy a Chronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, bydd y prosiect a gaiff ei redeg gan Ymddiriedolaeth Pensiynwyr Cas-gwent o fudd sylweddol i bobl sy’n byw gyda dementia yn yr ardal a’u teuluoedd.

Gosodwyd gwahanol ddulliau ar gyfer helpu pobl gyda dementia yn y caffe, yn cynnwys mygu sŵn i ostwng atseinio, cynlluniau lliw soled i ostwng y risg o ddryswch gweledol, modiwlau goleuadau amrywiol a naturiol i ail-greu golau dydd, ac arwyddion clir i’r caffe ac oddi yno.

Dywedodd Margaret Gore, Rheolwr Gweithrediadau y Ganolfan: “Mae galw heibio’r dref am goffi a sgwrs yn rhywbeth y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol, ond i rywun sy’n byw gyda dementia gall hwn fod yn brofiad rhwystredig ac anodd iawn. Gall gosodiad a chynlluniau lliw caffes fod yn ddryslyd i berson gyda dementia, gall golau gwael achosi rhith a gall sŵn a gredir sy’n dderbyniol i staff a chwsmeriaid caffe achosi gofid a dryswch.

Ychwanegodd Margaret: “Rydym mor falch i fod wedi ailddatblygu’r caffe yn gaffe cyfeillgar i dementia, lle gall pobl deimlo’n ddiogel a sicr, mwynhau lluniaeth, cymdeithasau a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Gobeithiwn apelio at y cyhoedd yn gyffredinol hefyd gyda digonedd o le i deuluoedd fwynhau bwyd cartref hyfryd a wneir gan ein tîm o staff a gwirfoddolwyr.”

Mae tîm Margaret yn gweithio gydag elusennau a sefydliadau eraill i gynnal cyfarfodydd, grwpiau a dosbarthiadau rheolaidd wedi’u trefnu yn y cyfleuster newydd.

Ychwanegodd Peter Farley, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Pensiynwyr Cas-gwent: “Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gawsom gan Gyngor Sir Fynwy a Llywodraeth Cymru i ddod â’r prosiect hwn i ffrwyth ac rydym yn neilltuol o ddiolchgar i staff o dîm cynnal a chadw adeiladu’r cyngor, Rhodri Dean ymgynghorydd y cyngor ac A.J. Quinn Building Contractors Cyf. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Llewod Cas-gwent a Chil-y-coed sy’n darparu offer newydd i’n cegin.”

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: “Gyda disgwyl i’r nifer o achosion dementia gynyddu gan 82% yn y 12 mlynedd nesaf, mae darparu amgylcheddau diogel a sicr yn hollbwysig i’r gymuned. Mae caffe newydd cyfeillgar i dementia Cas-gwent yn gyfleuster a groesewir yn fawr a bydd yn cynnig llawer o gefnogaeth ac yn cyfrannu at lesiant pobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd.”

Cafodd preswylwyr Sir Fynwy eu hannog i sicrhau eu bod wedi cofrestru ac yn gymwys i bleidleisio yn yr Etholiadau Seneddol Ewropeaidd.
I bleidleisio yn yr etholiad ar ddydd Iau 23 Mai mae’n rhaid derbyn ceisiadau i fod ar y gofrestr etholiadol erbyn dydd Mawrth 7 Mai fan bellaf. Gall etholwyr sydd eisoes wedi cofrestru ddisgwyl derbyn eu cardiau pleidleisio erbyn dydd Iau 18 Ebrill. Mae hyn yn hwyrach nag a ddisgwylid fel arfer oherwydd yr ansicrwydd am yr etholiad hwn. Yn ychwanegol, gyda nifer o wyliau banc yn y cyfnod cyn yr etholiad, gofynnir i breswylwyr sy’n dymuno gwneud trefniadau eraill i bleidleisio wneud hynny cyn gynted ag sydd modd gan roi ystyriaeth i’r dyddiadau cau a fanylir islaw.
Mae’n rhwydd ac yn syml i gofrestru. Y cyfan sy’n rhaid wneud yw ymweld â: www.gov.uk./registertovote a chwblhau’r broses gofrestru ar-lein. Yn lle hynny, gall preswylwyr wneud cais am y ffurflenni priodol neu wirio bod eu henwau ar y gofrestr drwy gysylltu â Swyddfa Etholiadau Cyngor Sir Fynwy ar 01633 644212 neu e-bost elections@monmouthshire.gov.uk. Mae preswylwyr sydd wedi derbyn cerdyn pleidleisio ar gyfer yr etholiadau hyn yn eu cyfeiriad eisoes wedi cofrestru ac yn gymwys i bleidleisio.
Gall preswylwyr bleidleisio hyd yn oed os ydynt i ffwrdd drwy wneud cais am bleidlais post erbyn 5pm ar ddydd Mercher 8 Mai neu drwy ffurflen gais ddirprwy, lle mae person arall yn pleidleisio ar eu rhan (nid dirprwyon post neu argyfwng) erbyn 5pm ddydd Mercher 15 Mai. Gall etholwyr sydd eisoes wedi cofrestru i bleidleisio drwy’r post cyn 2 Ebrill 2019 ddisgwyl derbyn eu pleidlais bost tua 10 Mai. Gall unrhyw geisiadau am bleidlais post a dderbyniwyd ers 2 Ebrill 2019 ddisgwyl derbyn eu pleidlais bost tua 17 Mai.
Bydd y 93 gorsaf bleidleisio yn Sir Fynwy ar agor ar 23 Mai rhwng 7am a 10pm. Caiff pleidleisiau eu dilysu yn syth ar ôl i’r bythau gau a’u cyfrif ddydd Sul 26 Mai pan gafodd y pleidleisiau terfynol eu bwrw ym mhob un o’r 28 gwladwriaeth sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae manylion pellach ar gael yn: https://www.monmouthshire.gov.uk/european-parliamentary-elections-23-may-2019/

Disgwylir llanw uchel. Byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa ac, os oes angen, byddwn yn trefnu cau’r A466 drwy Dyndyrn am gyfnodau byr ar y dyddiadau ac amserau dilynol:

Dydd Gwener 19 Ebrill rhwng 20.55 – 21.25 (tua)

Dydd Sadwrn 20 Ebrill rhwng 09.15 – 09.45 (tua)

Dydd Sadwrn 20 Ebrill rhwng 21.35 – 22.05 (tua)

Dydd Sul 21 Ebrill rhwng 09.55 – 10.25 (tua)

Dydd Sul 21 Ebrill rhwng 22.30 – 23.00 (tua)

Bydd y pwyntiau cau fel sy’n dilyn:

  • Cau Pen Gogleddol: Cyffordd Heol Tryleg
  • Cau Pen Deheuol: Cyffordd Royal George

Amcangyfrif yw amserau cau’r ffordd yn seiliedig ar yr amserau llanw a ragwelir. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro’r sefyllfa ac yn cyhoeddi Rhybuddion Llifogydd fel sydd angen. Dim ond dros dro y caiff ffyrdd eu cau a dim ond pan fo’r dŵr llanw yn llifo ar y briffordd. Bydd y ffordd yn ailagor cyn gynted ag mae’r dŵr wedi cilio o’r briffordd.

Bydd yr awdur lleol Godfrey Brangham yn cyflwyno sgwrs gyda theitl Poisoners: the Sandwich, Cake and Cup of Tea yn hyb cymunedol Brynbuga am 7pm ddydd Iau 25 Ebrill. Trefnwyd y digwyddiad rhad ac am ddim mewn cysylltiad gydag elusen yr Asiantaeth Ddarllen ac mae’n ddathliad Noson Llyfr y Byd o lyfrau a darllen er pleser. Bydd te, coffi a lluniaeth ar gael.
Bydd y sgwrs yn edrych ar dair llofruddiaeth; un gyda brechdan, un gyda theisen ac un gyda dishgled o de.
Ganwyd Godfrey Brangham ym Mhontnewydd, Cwmbrân a chafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Gorllewin Mynwy cyn cymhwyso yn Ysgol Fferylliaeth Cymru. Cafodd MSc mewn iachau briwiau ac atgyweirio meinwe yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae gwaith blaenorol Godfrey Brangham yn cynnwys gwaith hanesyddol Hangings and Hangmen at Usk Prison, The Day’s Portion, casgliad o waith Arthur Machen a Where Memory Slept, bywgraffiad am Purefoy Machen, gwraig Arthur Machen.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol: “Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiad hwn i fwynhau sgwrs ddiddorol tu hwnt gan Mr Brangham. Mae ein hybiau cymunedol ar draws y sir yn cynnig achlysuron tebyg drwy gydol y flwyddyn ac mae’r cyfan yn werth eu mynychu.”
I gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at uskhub@monmouthshire.gov.uk – neu ffonio 01291 426888. Mae Hyb Cymunedol Brynbuga yn 35 Stryd Maryport, NP15 1AE ac mae dau faes parcio am ddim gerllaw.

Bydd ymwelwyr i Drefynwy yn gweld ychwanegiad newydd i’r dref ar wedd celfwaith yn dathlu’r farchnad wartheg hoff. Mae Trefynwy yn un o 79 cymuned i gymryd rhan yn Y Fainc Luniau, prosiect cenedlaethol Sustrans ar hanes cymdeithasol.

Nod prosiect Y Fainc Luniau yw cydnabod a chofio unigolion ysbrydoledig mewn trefi ar draws y Deyrnas Unedig. Yn Nhrefynwy cafodd Jim Shankland, cymhorthydd yr asiantau tirol/arwerthwyr amaethyddol a elwid bryd hynny yn Rennie Taylor a Till (Rennies erbyn heddiw), ynghyd â dafad fynydd Gymreig a tharw Henffordd eu coffau mewn tri llun dur maint go iawn.

Cafodd ffigurau maint go iawn eu torri o ddur llen a’i osod yn ymyl mainc syml sy’n annog pobl leol ac ymwelwyr i eistedd neu gamu lan i’r gofod a dod yn rhan o’r llun. Mae’r fainc ym mhen deheuol y dref ar hen safle’r farchnad da byw.

Cafodd nodweddion pob cymeriad eu symleiddio gan gadw eu nodweddion hanfodol. Mae’r cymeriadau’n adlewyrchu’r pethau hynny sy’n bwysig i’r gymuned ac yn dathlu natur unigryw pob lleoliad.

Cafodd y cymeriadau eu dewis gan grŵp llywio Monmouth Links o restr o awgrymiadau a gyflwynwyd gan y cyhoedd. Enwebodd cymunedau ar draws Prydain o bobl leol am eu cyfraniad i fywyd, diwylliant neu hanes lleol i ddod yn ffigurau ar eu Mainc Luniau leol eu hunain i fod yn rhan o gasgliad o dros 250 portread.

Dywedodd y Cyng Bryan Jones, Aelod Cabinet dros Weithrediadau:

‘Mae Trefynwy yn dref gyforiog mewn hanes. Rwyf mor falch y cafodd y farchnad da byw ei choffau mewn ffordd mor ystyriol a rhyngweithiol. Gobeithiaf y bydd pobl leol ac ymwelwyr i’r dref yn neilltuo munud neu ddau i eistedd ar y fainc a meddwl am yr hyn oedd yn bodoli unwaith yn y dref. Mae’n wych gweld pobl leol yn cael eu cofio a hyd yn oed yn well gweld y cafodd yr enwebiadau eu gwneud gan bobl leol.’

Mae Sustrans yn elusen sy’n hyrwyddo ac yn galluogi pobl i deithio ar droed, beic neu drafnidiaeth gyhoeddus am fwy o’r teithiau a wnawn bob dydd. Mae mwy o wybodaeth yn: www.sustrans.org.uk

Darllenwch fwy am Connect2 yn Nhrefynwy a sut i ganfod y fainc luniau yn www.sustrans.org.uk/portraitbench

Mae Theatr y Borough yn y Fenni yn dathlu’r newyddion y bydd grant gan Gyngor y Celfyddydau yn galluogi gwelliannau a groesewir i strwythur yr adeilad, gan ei wneud yn lleoliad addas ar gyfer perfformwyr rhyngwladol, grwpiau cymunedol lleol a dathliadau ysgol. Bydd Cyngor Sir Fynwy, perchennog y theatr, hefyd yn rhoi arian cyfatebol ar gyfer y prosiect y disgwylir fydd yn costio tua £300,000.

Ymysg y nodweddion a gaiff eu gwella fydd seddi newydd, gwella mynediad a goleuadau ac ailwampio ardal y cyntedd.

Bydd y gwaith yma’n gostwng costau rhedeg dydd-i-ddydd ac yn rhoi amgylchedd gwaith diogel o fewn lleoliad gydag offer proffesiynol yn ogystal â chynnig gwasanaeth gwell i gynulleidfaoedd y theatr.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am wasanaethau diwylliannol: “Mae’r gwaith a wneir yn gydnaws gyda chynllun busnes y theatr fel y gallwn gyflwyno rhaglen digwyddiadau yn tynnu o’r lleol i’r byd-eang – dathlu, diddanu, heriol ac ymgysylltu â’n cymuned a’r rhai sy’n dod i ymweld â ni. Bydd yn rhoi hwb i’r theatr a’r celfyddydau perfformio yn y rhanbarth ac mae’n golygu y gallwn gynnig profiad ansawdd gwych i gwsmeriaid mewn gosodiad proffesiynol”.

Mae mwy o wybodaeth ar Theatr Borough ar gael yn:
https://boroughtheatreabergavenny.co.uk/

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau gwych i blant dros wyliau’r Pasg!

Bydd pedair canolfan hamdden y sir yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy unwaith eto’n cynnal y Gemau Sir Fynwy poblogaidd iawn am saith diwrnod yn llawn hwyl, cyfeillgarwch a gweithgaredd corfforol – mae rhywbeth i bawb. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.monmouthshire.gov.uk/the-monmouthshire-games neu drwy gysylltu â’r ganolfan hamdden agosaf i archebu.

Mae Gemau Sir Fynwy hefyd yn cynnwys rygbi arbenigol, pêl-droed a dyddiau antur awyr agored newydd mewn gwahanol safleoedd ar gyfer pob gallu.

Bydd hyfforddwyr o dîm y Dreigiau o Gasnewydd yn cyflwyno dau wersyll rygbi rhwng 9am a 3pm ddydd Iau 18 Ebrill yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed a dydd Iau 25 Ebrill yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent. Caiff pob sesiwn eu cyflwyno gan hyfforddwyr cymunedol y Dreigiau ac mewn partneriaeth gyda Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy. Y gost fesul plentyn yw £18.50 a gellir archebu drwy ffonio Canolfan Hamdden Cil-y-coed (01291 426850) neu Ganolfan Hamdden Cas-gwent (01291 635745).

Cynhelir gwersylloedd pêl-droed yng Nghanolfan Hamdden y Fenni a Chanolfan Hamdden Cil-y-coed rhwng 9am a 3pm ddydd Gwener 26 Ebrill. Y gost y plentyn yw £18.50 a gellir archebu drwy ffonio Canolfan Hamdden Cil-y-coed (01291 426850) neu Ganolfan Hamdden y Fenni (01873 735360).

Bydd menter newydd – Dyddiau Antur Awyr Agored Gemau Sir Fynwy – yn rhoi cyfle i bobl ifanc 12 i 15 oed i’w herio eu hunain, dysgu sgiliau newydd a chael hwyl yn yr awyr agored.

Dydd Llun 15 Ebrill bydd cyfle i ddringo ac abseilio a’r diwrnod dilynol bydd canŵio ar yr Afon Gwy. Bydd y ddau ddiwrnod yn rhedeg rhwng 9am a 5pm a’r gost yw £35 y person y dydd. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly anogir unrhyw un sydd â diddordeb i archebu’n gynnar drwy ffonio Canolfan Hamdden Trefynwy (01600 775135). Darperir yr holl offer a chludiant o Ganolfan Hamdden Trefynwy a chaiff yr holl weithgareddau eu cyflwyno gan staff wedi’u hyfforddi sydd â chymwysterau llawn. Gofynnir i blant ddod â chinio pecyn gyda nhw.

Mae rhaglen Pasg lawn ar gyfer plant yn hybiau cymunedol a llyfrgelloedd y cyngor. Bydd straeon a chrefftau Pasg yn Hyb Cymunedol Cas-gwent rhwng 11am a 12 canol-dydd ddydd Mawrth 16 Ebrill a dydd Iau 25 Ebrill ar gyfer plant pump i wyth oed gyda sesiynau amser rhigwm i fabanod rhwng 2.15pm a 2.45pm ddydd Iau 18 Ebrill a dydd Iau 25 Ebrill. Ddydd Gwener 26 Ebrill gall plant dan bump fwynhau amser stori rhwng 10.15am a 10.45am.

Bydd Hyb Cymunedol Cil-y-coed yn cynnig amser rhigwm i fabanod rhwng 2pm a 2.30pm ddydd Iau 16 Ebrill a gweithdy Lego ar gyfer plant rhwng pump a naw oed rhwng 10am a 11am ddydd Mercher 24 Ebrill. Yn ychwanegol, bydd amser stori ar gyfer plant dan bump rhwng 2pm a 2.30pm ddydd Iau Ebrill a dydd Iau 25 Ebrill, a gall plant rhwng tair ac wyth oed fynd ar Helfa Arth a gynhelir rhwng 10am a 11am ddydd Mercher 17 Ebrill.

Yn Llyfrgell Gilwern bydd y bythol-boblogaidd Louby Lou yn diddanu plant pedair oed a iau rhwng 10am a 10.45am (cost £4) ddydd Mawrth 16 Ebrill. Mae’r llyfrgell hefyd yn cynnal sesiynau lliwio Pasg ddydd Mercher 17 Ebrill (1.30pm a 4.30pm), dydd Mercher 24 Ebrill (1.30pm a 4.30pm) a dydd Gwener 26 Ebrill (10am i 1pm a 1.30pm i 5pm).

Bydd Llyfrgell y Fenni yn cynnig straeon a chrefftau Pasg ynghyd â helfa wyau Pasg ar gyfer plant dan bump rhwng 10.30am a 11.15am ddydd Iau 18 Ebrill gyda helfa wyau Pasg arall ar gyfer pob oedran fore dydd Sadwrn 20 Ebrill. Cynhelir sesiynau rhigymau babanod yn y Gymraeg rhwng 2.15pm a 2.45pm ddydd Iau 18 Ebrill a dydd Iau 25 Ebrill. Bydd mwy o straeon a crefftau Pasg gyda dawns byni ar gyfer plant dan bump rhwng 10.30am a 11.15am ddydd Iau 25 Ebrill gyda sesiynau Minecraft i blant hŷn. Mae’r rhain yn rhedeg rhwng 10am a 12 canol-dydd ddydd Mercher 17 Ebrill a 10am i 12 canol-dydd ddydd Gwener 26 Ebrill – codir tâl o £8 yr awr ar gyfer y ddau achlysur Minecraft.

Bydd Hyb Cymunedol Brynbuga yn ymuno yn hwyl Pasg Sir Fynwy gyda Helfa Arth ar gyfer plant tair i wyth oed rhwng 10.30am ddydd Iau 18 Ebrill a straeon Pasg ac addurno wyau ar gyfer plant tair i naw oed rhwng 10.30am ddydd Iau 25 Ebrill.

Bydd straeon a chrefftau Pasg yn Hyb Cymunedol Trefynwy am 2pm ddydd Mercher 17 Ebrill. Bydd hefyd amser rhigwm i fabanod am 10.30am ddydd Llun 15 Ebrill ac amser stori i blant dan bump am 2pm ddydd Mawrth 16 Ebrill.

Mae’r holl ddigwyddiadau Pasg yn yr hybiau cymunedol a llyfrgelloedd am ddim os na nodir fel arall.

Mae gwasanaeth amgueddfa Sir Fynwy yn cynnal gweithdy diddorol pontio’r cenedlaethau yng Nghastell y Fenni rhwng 10am a 12 canol-dydd ddydd Sadwrn 13 Ebrill gyda’r nod o ddod â phobl ynghyd i ganfod ysbrydoliaeth, cael hwyl a mwynhau ysgrifennu. Dan arweiniad yr awdur lleol Lynn Clausen, bydd plant ac oedolion yn gweithio mewn parau i recordio eu hatgofion o’r castell. Argymhellir ar gyfer plant saith oed a throsodd, y gost yw £7 ar gyfer dau gyfranogydd ac mae’n cynnwys taith fer o’r castell a’r tiroedd gyda gweithdy ysgrifennu creadigol i ddilyn. I gael manylion llawn digwyddiad Gŵyl Ysgrifennu’r Fenni, ffoniwch yr amgueddfa ar 01873 854282.

Cynhelir helfa wyau a chystadleuaeth i ddylunio’r wy addurnedig delfrydol yn cychwyn am 11am i 4pm ddydd Llun 8 Ebrill i ddydd Sul 28 Ebrill gyda phosau Pasg i fynd â nhw adref.

Mae’r amgueddfa hefyd yn cynnig prynhawniau crefft galw heibio ddydd Iau 18 Ebrill a dydd Iau 25 Ebrill rhwng 2pm a 4pm yn y Neuad Dril. Mae’r sesiynau hyn yn addas ar gyfer plant o bob oed ond mae’n rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn. Awgrymir cyfraniad o £2 ar gyfer plant dros dair oed tuag at gost deunyddiau a lluniaeth.

Hefyd yn Amgueddfa Cas-gwent rhwng 11am a 4pm ddydd Iau 16 Ebrill bydd arddangosiad gan David Smith o’r RSPB yn rhoi sylw i brosiectau cyffrous sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i wrthdroi tueddiadau yn y dirywiad sylweddol o fywyd gwyllt dros y 40 mlynedd diwethaf. Bydd yr arddangosiad hefyd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a rhyngweithiol i blant ddysgu mwy am sut y gallant helpu bywyd gwyllt Prydain yn eu gerddi eu hunain.

Bydd pob un o dair amgueddfa Sir Fynwy – yn y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy – yn cynnal gweithgareddau Past ar gyfer plant, llwybrau a chwisiau, pethau i’w gwneud a dillad y cyfnod i’w gwisgo. Mae gweithgareddau arbennig yn gysylltiedig gydag arddangosfeydd presennol yn cynnwys darganfod hanes Tŷ Castell a thiroedd y Fenni, celfweithiau gwych yn Nhrefynwy gan y cyn athro celf Otto Maciag a’i ddisgyblion, ac arddangosfa arbennig Amgueddfa Cas-gwent, ” Stwffio, Piclo a Phinio” yn dangos 50 o ryfeddodau o’r byd naturiol ar draws Cymru a phwysigrwydd y casgliadau hyn i astudiaeth gwyddorau naturiol.

Mae prosiect a ddechreuwyd gan therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion yn nhîm iechyd a gofal cymdeithasol integredig Sir Fynwy yn Nhrefynwy wedi manteisio o’r swm o £2,150 diolch i haelioni corff tai lleol. Derbyniodd Tylluanod a Mes, cynllun pontio’r cenedlaethau sy’n mynd i’r afael ac unigrwydd ac ynysigrwydd ymysg pobl hŷn, siec gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy fydd yn ei alluogi i ehangu ei weithgareddau.
Mae grŵp Tylluanod a Mes yn cwrdd unwaith yr ysgol yn Ysgol Gynradd Rhaglan ar hyn o bryd gan ddod â phobl hŷn a phlant o ddosbarthiadau cyfnod sylfaen ynghyd i fwynhau celfyddydau, crefftau ac ymarferion am awr a hanner. Mae’r gweithgaredd ar y cyd hwn o fudd i’r bobl hŷn a’r plant fel ei gilydd.
Rhoddwyd y dyfarniad gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy drwy ei gynllun cyllid Pitshio eich Prosiect – mae hyn yn cynnig cyfle i grwpiau ac elusennau gyda syniadau gwych am eu cymuned i wneud cais am gyfraniad ariannol. Mae’n golygu y gall Tylluanod a Mes gyflwyno ei wasanaethau yn y dyfodol agos ym Mrynbuga a Threfynwy ac mae staff sy’n ymwneud â’r cynllun yn gobeithio maes o law i weithio ar draws Sir Fynwy.
Dywedodd John Keegan, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Sir Fynwy: “Rydym yn falch iawn i gefnogi’r prosiect gwych hwn i’w alluogi i ehangu tu hwnt i’r Rhaglan i rannau eraill y sir. Nid yw’r cynlluniau hyn yn digwydd drwy ddamwain; maent angen pobl sy’n ymroddedig i’w cymuned ac sy’n fodlon rhoi’r oriau i wneud y cymunedau hynny’n gryf, egniol a bywiog. Rydym wedi rhoi cyllid i nifer o brosiectau pontio’r cenedlaethau dros y blynyddoedd ac wrth ein bodd yn gweld pobl yn dod ynghyd a chanfod fod ganddynt gymaint yn gyffredin ac mor barod i rannu eu straeon a’u hamser. Dymunwn lwyddiant parhaus i’r Tylluanod a Mes a hoffem eu llongyfarch ar gynnig safon gwirioneddol uchel am gefnogaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Mae hyn yn gynnig gwych gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy ac fe’i gwerthfawrogir yn fawr gan y bydd yn gwella llesiant nifer gynyddol o bobl hŷn ar draws y sir ac chynnig amgen rhag byw’n unig ac ynysig. Gwelais drosof fy hun pa mor llwyddiannus yw’r prosiect a hoffwn ddiolch i’r staff sy’n cymryd rhan am eu gwaith i’w ddatblygu.
Cysylltwch â LucyHeath@monmouthshire.gov.uk i gael mwy o wybodaeth ar brosiect Tylluanod a Mes.

Cynhaliodd yr artist ifanc lleol Matt Dixon (a gaiff ei adnabod yn y byd celf fel Matt Crossfield) arddangosfa o’i waith yng nghampws Coleg Gwent ym Mrynbuga yn ddiweddar, gan gael ymateb ffafriol gan y rhai a fynychodd. Mae Matt (24) yn byw yng Nghil-y-coed a graddiodd o Brifysgol De Cymru yn 2017 gyda gradd BA Anrhydedd mewn Animeiddio.

Noddwyd yr arddangosfa un-dydd gan Arc Spectrum, prosiect cymunedol arloesol sy’n darparu gweithgareddau creadigol ar gyfer plant ac oedolion gydag amrywiaeth o anghenion cyfathrebu a synhwyraidd. Mae gan Matt ei hunan awtistiaeth gweithredu lefel uchel ac mae’n aelod o’r prosiect. Mae Arc Spectrum yn gweithio mewn partneriaeth gyda Choleg Gwent, Grŵp Rhanddeiliaid ASD (Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig) Cyngor Sir Fynwy ac Action for Children.

Enillodd Matt wobr Cartwnydd y Flwyddyn 2018 gan Gymdeithas Cartwnwyr Prydain am ei lun animeiddiedig o Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, ar y ffin gyda Mecsico. Mae Matt hefyd wedi cyhoeddi llyfr plant “Rusty the Red Dragon” fid Hydref ddiwethaf.

Cafodd Matt ei gomisiynu i ddarlunio cyfres lyfrau “The Forest Railway Stories” ar gyfer y cyhoeddwr Lightmoor Press. Yn seiliedig ar reilffordd Coedwig Deon, enw’r llyfr cyntaf yn y gyfres yw “Counting Sheep” a bydd ar gael adeg y Pasg eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: “Mae arddangosfa Matt yn dangos gwaith gan ddyn ifanc hynod ac roedd yn ddiddorol tu hwnt gweld ystod eang ei dalentau. Gobeithiwn y bydd yn arddangos yn Neuadd y Sir cyn hir er budd aelodau, staff ac ymwelwyr.”

Mae mwy o wybodaeth ar Matt a’i waith ar gael yn: www.mattcrossfield.com

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cytuno ar ddau gynnig fydd yn llywio strategaethau derbyn i ysgolion a dalgylchoedd ysgolion am y dyfodol rhagweladwy. Cymeradwyodd aelod cabinet Sir Fynwy y newidiadau hyn ddydd Mercher 3 Ebrill.

Daw’r polisi diwygiedig ar ddalgylchoedd ysgolion i rym o ddechrau blwyddyn academaidd 2020/21 a bydd yn creu’r newidiadau dilynol i’r trefniadau presennol:

• Caiff dalgylch Ysgol Gyfun Trefynwy ei ymestyn i alinio gyda’r prif ddalgylchoedd ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru ym Mrynbuga, Ysgol Gynradd Tryleg ac Ysgol Gynradd Llandogo.
• Caiff dalgylch Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII yn y Fenni ei ymestyn i alinio gyda phrif ddalgylch Ysgol Gynradd Goetre Fawr.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet Sir Fynwy dros Blant a Phobl Ifanc: “Hoffwn ddiolch i’r cannoedd o bobl a ddaeth draw i’n 11 cyfarfod cyhoeddus a sesiynau galw heibio neu a gyflwynodd ymatebion ar-lein i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad manwl hwn ar newidiadau sylweddol i ddalgylchoedd ysgolion uwchradd.

“Mae tystiolaeth glir fod y cyhoedd yn cefnogi’r newidiadau hyn, sy’n alinio dalgylchoedd ysgolion cynradd ac uwchradd, yn well wrth alluogi well grwpiau o gyfoedion i aros gyda’i gilydd ar bontio i addysg uwchradd a grymuso rhieni i wneud dewis gwybodus am eu dewis ysgol.

“Nid yw ond iawn, wrth i ni barhau i fuddsoddi miliynau o bunnau mewn ysgolion newydd sbon, y gall teuluoedd sy’n byw yn Sir Fynwy, yn talu treth gyngor yn Sir Fynwy ac yn ethol cynghorwyr yn Sir Fynwy i wneud penderfyniadau am gyllid ysgol, gael mynediad i leoedd ysgol yn Sir Fynwy.

“Ar gyfer ardaloedd Goetre a Brynbuga, a fydd yn y dyfodol yn ffurfio rhan o ddalgylchoedd Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII ac Ysgol Gyfun Trefynwy, byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd, yr awdurdod derbyn ar gyfer Ysgol Gyfun Caerllion, i sicrhau y bydd brodyr a chwiorydd disgyblon sydd eisoes yn Ysgol Caerllion yn parhau i gael blaenoriaeth ym meini prawf derbyn Casnewydd. Fel yr awdurdod derbyn ar gyfer Ysgol Gyfun Caerllion, bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn parhau i ystyried ceisiadau gan ardaloedd o ardaloedd Brynbuga a Goetre fel bod yn y dalgylch. Cynhelir adolygiad o drefniadau cludiant rhwng y cartref a’r ysgol y cyngor i roi ystyriaeth i’r newidiadau hyn. Ni fydd yr adolygiad polisi yn effeithio ar ddisgyblion sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ysgolion ffydd.

Yn y cyfamser, bydd trefniadau newydd ar gyfer derbyn i ysgolion a ddaw i rym o ddechrau blwyddyn academaidd 2020/21 yn penderfyn ar y meini prawf ar gyfer dyfarnu lleoedd i ymgeiswyr i’w dewis ysgol pan fo mwy o alw nag o leoedd ar gael. Bydd y trefniadau hyn yn golygu y caiff plant yn nalgylch ysgol flaenoriaeth dros y plant hynny sydd â brawd neu chwaer yn yr ysgol ond sy’n byw tu allan i’r dalgylch. Fodd bynnag, bydd cyfnod pontio o bum mlynedd i ostwng y tebygrwydd o wahanu cysylltiadau presennol rhwng siblingiaid.

Ychwanegodd y Cynghorydd John: “Bydd y newidiadau i’n meini prawf derbyn i ysgolion yn helpu i gadw grwpiau o gyfoedion gyda’i gilydd pan fyddant yn pontio i ysgol uwchradd ac yn helpu i sicrhau tegwch wrth gael mynediad i leoedd ysgol gynradd i deuluoedd o fewn dalgylchoedd ysgolion cynradd. Cafodd y newidiadau hyn eu cefnogi gan fwyafrif helaeth y cannoedd o bobl a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ac mae’n galonogol iawn fod cymaint o gefnogaeth gyhoeddus i’n polisïau newydd ar dderbyn i ysgolion.”

Ymgynghorodd y cyngor yn eang ar y ddau gynnig, gan gynnal 11 cyfarfod yn yr ysgolion yr effeithir arnynt, darparu holiadur ar-lein a gwahodd rhai â diddordeb i anfon sylwadau ysgrifenedig.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r elusen tai Llamau i lansio prosiect sy’n anelu i helpu pobl ifanc ac oedolion bregus drwy ddarparu cymorth ychwanegol a dod yn ffactor warchodol wrth gynorthwyo unigolion i lywio’n glir o ddigartrefedd.

Cafodd y prosiect Llety â Chymorth ei greu i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn digartrefedd a dod o hyd i ddatrysiad fforddiadwy seiliedig yn y gymuned. Mae’r cynllun yn rhoi ystafell eu hunain i rywun mewn cartref preifat lle maent yn aelod o’r aelwyd, ond ni ddisgwylir iddynt ddod yn aelod o’r teulu. Mae’r deiliad y cartref, neu’r gwesteiwr, yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol, gan weithio wrth ochr gwasanaethau proffesiynol i helpu a chefnogi’r unigolyn wrth ailadeiladu eu bywyd.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am dai a digartrefedd: “Mae cysyniad llety â chymorth wedi hen ennill ei blwyf ac mae nifer o awdurdodau eisoes yn helpu pobl ifanc ond bydd ein prosiect newydd yn arwain y ffordd drwy gynnwys oedolion a phobl hŷn. Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu fod lleoli rhai unigolion o fewn gosodiad sy’n cynnig mwy o gymorth neu deuluol gael canlyniadau cadarnhaol o gymharu ag opsiynau eraill.”

Mae’r cyngor a Llamau wrthi’n gweithio i ddynodi darpar westeiwyr ar draws Sir Fynwy. Ni fydd gwesteiwyr angen cymwysterau arbennig a gallent fod yn briod neu’n sengl, yn gweithio neu’n ddi-waith. Y cyfan sydd ei angen ganddynt yw ystafell sbâr a pharodrwydd a gallu i helpu unigolion i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i fyw’n annibynnol a rhoi amgylchedd diogel a chynnes i oedolion. Yn ôl am ddarparu ystafell, bydd Llamau yn rhoi taliad wythnosol i’r gwesteiwyr a bydd y person sy’n derbyn cymorth yn gwneud cyfraniad at gostau a chyfleustodau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: “Bydd Llamau a’r cyngor yn rhoi hyfforddiant ac arweiniad parhaus, yn ogystal â chefnogaeth ariannol ac ymarferol. Mae’r ddau sefydliad yn cydnabod fod pob person yn wahanol ac felly byddwn yn llywio gwesteiwyr a’r rhai a gaiff eu lletya i gytuno ar gefnogaeth ychwanegol. Gallai hyn gynnwys tasgau fel coginio, trefnu cyllideb, biliau, addysg neu gefnogaeth emosiynol.”

Mae Llamau eisoes yn rhedeg prosiectau tebyg ym Mro Morgannwg, Sir Gaerfyrddin, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot a Chasnewydd, gan alluogi’r cyngor i weld manteision ymrwymo i berthynas cydweithio gefnogol gyda chymunedau’r sir i atal digartrefedd. Mae’r awdurdod yn cydnabod yr arferion da a’r canlyniadau cadarnhaol a gafwyd mewn man arall a bydd yn eu haddasu – gyda’r elfen ychwanegol o weithio gydag oedolion a phobl hŷn.

Wedi gyllido gan y cyngor drwy raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru, ychydig o orbenion sydd gan y prosiect gan ei fod yn seiliedig yn y gymuned ac yn cael ei weithredu yn ychwanegol at y ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.

Cysylltwch â Llamau ar 01633 244134 yn ystod oriau swyddfa i gael sgwrs anffurfiol neu anfon e-bost at enquiries@llamau.org.uk – mae manylion pellach ar gael drwy fewngofnodi ar: www.monmouthshire.gov.uk/supported-lodgings/

Ddydd Sadwrn 6 Ebrill bydd yr Hen Orsaf yn Nhyndyrn, Castell Cil-y-coed a Phont Mynwy yn agor eu drysau ar gyfer yr haf. Mae’r tri atyniad yn cynnig mynediad am ddim ac yn rhoi cyfle i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i ymweld ag amrywiaeth o adeiladau mewn lleoliadau godidog.

Mae’r Hen Orsaf yng nghalon Dyffryn Gwy ger yr Afon Gwy ac yn agos iawn at Dyndyrn, y gefnlen hardd ar gyfer y gyfres drama comedi ddiweddar ar Netflix, Sex Education. Mae caffe Yr Orsaf yn cynnig danteithion a lluniaeth hyfryd ynghyd ag ardal chwarae newydd sbon i blant a sip-wifren. Y diwrnod perffaith mas i’r teulu a hefyd ganolbwynt gwych am deithiau ar hyd Dyffryn Gwy.

Yn ogystal â mynediad am ddim, gall ymwelwyr i Neuadd y Sir, Trefynwy yn awr archebu dwy daith am ddim o amgylch Neuadd y Sir a Phont Mynwy. Gall ymwelwyr i Neuadd y Sir, Trefynwy ymweld â’r llys barn hanesyddol, mynd lawr i’r celloedd a cherdded o amgylch yr adeilad Sioraidd hardd.

Gofynnir i ymwelwyr sy’n archebu  lle ar daith Pont Mynwy i gwrdd ger Pont Mynwy, yr unig bont afon gaerog sydd ar ôl ym Mhrydain Fawr. Caiff teithiau eu harwain gan wirfoddolwyr ac maent yn rhoi gwybodaeth fanwl ar bob agwedd o’r bont, ei hanes a’r ystafell warchod.

Bydd taith gyntaf y tymor yn dechrau ddydd Sadwrn 20 Ebrill a byddant yn rhedeg bob dydd Sadwrn rhwng 1.30pm – 3.30pm tan ddydd Sadwrn 26 Hydref. Mae’r teithiau wedi eu cyfyngu i ddim mwy na chwech o bobl ac mae angen eu harchebu ymlaen llaw. I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i

www.visitmonmouthshire.com/thedms.aspx?dms=72&shop=43&prod=10205

Mae Castell Cil-y-coed yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau. Mae’r castell mewn gerddi tawel hardd ac mae parc gwledig coediog ar agor rhwng 11.00am a 4.00pm dydd Mawrth i ddydd Sadwrn, gyda mynediad am ddim. Mae lluniaeth ar gael o’r caffe yn y safle. Mae’r gerddi yn fan perffaith i fwynhau disghled o de a theisen flasus.

Mae croeso i deuluoedd gymryd rhan mewn helfa Wy Pasg ddydd Gwener 19 Ebrill. Mae croeso i blant wisgo boned Pasg, a bydd gorymdaith am 12.00pm. Bydd amrywiaeth o weithgareddau ar gael yn cynnwys peintio wynebau, gemau a digonedd o weithgareddau’r Pasg i’r plant eu mwynhau.

Cynhelir Diwrnod Chwaraeon Gemau Sir Fynwy am ddim ar gyfer plant a theuluoedd yn y castell ddydd Mawrth 23 Ebrill 11.00am – 4.00pm. Bydd y diwrnod yn gyfle i bobl o bob oed roi cynnig ar fathau newydd o chwaraeon neu edrych o amgylch y castell fel y mynnant.

Dywedodd y Cyng Bob Greenland, Aelod Cabinet dros dwristiaeth:

“Mae’n wych gweld ein hatyniadau yn dod yn fwy poblogaidd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydym mor ffodus i gael adeiladau hanesyddol mor unigryw yn llawn cymeriad a diddordeb. Rydym mor falch i fedru cynnig dyddiau mas yn rhad ac am ddim i bawb eu mwynhau. Mae pob un o’r tri atyniad yn codi cwr y llen ar ein treftadaeth unigryw a rhoi profiadau dan do ac awyr agored y gellir ymweld â nhw ym mhob tywydd. Gyda’r bonws ychwanegol bod mynediad am ddim iddynt i gyd. Rwy’n annog cynifer o bobl ag sydd modd i wneud rhestr fwced Sir Fynwy ac ymweld â’n holl atyniadau yr haf hwn.”

Mae mwy o wybodaeth ar yr hyn sydd ar gael a ble i fynd yr haf hwn ar

www.visitmonmouthshire.co.uk.

Ddydd Llun 8 Ebrill mae Cymraeg i Blant Sir Fynwy yn cynnal Parti Piws yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy 1.30pm – 2.30pm i ddathlu pen-blwydd Dewin a Doti, masgotiaid annwyl y Mudiad Meithrin, yn 10 oed. Mae’r digwyddiad ar agor i blant 0-3 oed, ynghyd â’u rhieni, gofalwyr, mam-guod a thad-cuod a gânt i gyd eu hannog i wisgo eitem o ddillad piws. Mae ystod eang o weithgareddau yn cynnwys mynediad i’r ardal chwarae meddal, amser rhigwm babanod a phlant bach, crefftau a llawer o bethau eraill.

Mae mynediad i blant dan 12 mis oed yn rhad ac am ddim a bydd cost fach o £3.10 ar gyfer plant 1-3 oed, sef pris arferol am ddefnyddio chwarae meddal yn y Ganolfan Hamdden. Cynhelir Parti Piws mewn llu o osodiadau gofal plant cyfrwng Cymraeg yn Sir Fynwy. I gael mwy o wybodaeth am y Parti Piws cysylltwch â Michaela Carrington Michaela.carrington@meithrin.cymru

Bydd cyfle yn y parti i rieni a gofalwyr gael mwy o wybodaeth am Cymraeg i Blant, sy’n cael ei reoli gan Mudiad Meithrin ac sy’n rhoi gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i hyrwyddo manteision dwyieithrwydd o oedran ifanc. Mae Cymraeg i Blant yn cynnig ystod eang o weithgareddau hwyliog ar gyfer plant a’u teuluoedd, yn cynnwys tylino babanod a sesiynau yoga i fabanod, a grwpiau stori a chân.

Mae nifer o gyfleoedd i fynychu sesiynau gweithgaredd dwyieithog yn Nhrefynwy. Mae Cymraeg i Blant yn cynllunio cynnal sesiynau wythnosol am ddim o Yoga Babanod ar gyfer plant o 10 wythnos oed yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy o ddydd Llun 29 Ebrill rhwng 1.00pm – 2.00pm. Nid yw’n rhaid siarad Cymraeg i fynychu – mae croeso cynnes i bawb, Bydd y sesiynau hefyd yn helpu i gynyddu hyder rhieni i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u plant.

Sefydlwyd Cylch Ti a Fi / grŵp Babanod a Phlant Bach newydd yng Nghanolfan Gymunedol Rockfield ar ddyddiau Llun rhwng 9.45am – 11.15am. Mae’r grŵp yn gyfle perffaith i gwrdd â rhieni a gofalwyr eraill i gymdeithasu a rhannu profiadau mewn awyrgylch Cymraeg anffurfiol. Mae babanod a phlant bach yn datblygu ymwybyddiaeth o’r Gymraeg drwy amrywiaeth o weithgareddau, straeon, rhigymau a chaneuon.

Dywedodd y Cyng Richard John, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc:

‘Mae dwyieithrwydd yn rhoi sgil bywyd ychwanegol gwerthfawr i blant a phobl ifanc – y gallu i gyfathrebu mewn dwy iaith. Rydym yn ffodus i gael amrywiaeth o grwpiau Mudiad Meithrin yma yn Sir Fynwy sy’n hwyliog, anffurfiol ac yn rhoi sylfeini i ddechrau taith ddwyieithog y plentyn. Gobeithiaf y bydd llawer o rieni yn mynychu’r Parti Piws yn ein Canolfan Hamdden Trefynwy, sydd newydd gael ei adnewyddu, neu alw heibio i un o’r llu o grwpiau Meithrin.’

I gael mwy o wybodaeth ar weithgareddau neu osodiadau gofal plant cyfrwng Cymraeg, ewch i wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Fynwy: www.monfis.org.uk/ neu ddilyn tudalen Facebook @cymraegiblantmynwy

Cyfarfu pobl ifanc o Ysgol Cil-y-coed gyda Chynghorwyr Sir o bob rhan o Gyngor Sir Fynwy ddydd Gwener 15 Mawrth i ganfod mwy am ddemocratiaeth a rôl y cyngor. Trefnwyd y digwyddiad gan Wasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy gyda’r nod o roi llais a mwy o wybodaeth i bobl ifanc am rôl y cyngor a’r effaith a gaiff ar gymunedau.

Roedd y diwrnod yn gyfle i bobl ifanc drafod a rhannu pethau sy’n bwysig iddynt. Roedd cynghorwyr yn hapus i ateb cwestiynau diddorol ac amrywiol gan y disgyblion. Roedd yn gyfle i weld beth sy’n bwysig a sut mae pobl ifanc yn teimlo am y materion sy’n effeithio arnynt yn genedlaethol ac yn lleol.

Ymysg y materion y bu mwyaf o drafod arnynt ar lefel genedlaethol oedd Brexit a newid yn yr hinsawdd. Gofynnodd disgyblion gwestiynau perthnasol am faterion lleol megis gwastraff ac ailgylchu, tlodi mislif ac amserau aros ysbyty sydd i gyd yn effeithio arnynt hwy a’u teuluoedd.

Cyflwynodd Jade Atkins, Gweithiwr Ieuenctid, weithdy rhyngweithiol ar gyfer disgyblion a chynghorwyr yn rhoi gwybodaeth am y 54 erthygl yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Roedd y sesiwn yn hwyliog a diddorol iawn.

Rhannodd y Cyng Sara Jones, sy’n hyrwyddwr angerddol dros hawliau pobl ifanc ac yn aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, ei sylwadau gyda disgyblion ar bwysigrwydd codi llais.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones:

‘Roeddwn mor falch i weld disgyblion yn cysylltu gyda chynghorwyr. Roedd y cwestiynau a ofynnwyd yn rhai da a pherthnasol. Mae’n amlwg fod gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth genedlaethol ac roedd yn wych gweld disgyblion yn codi materion lleol sy’n bwysig i ddisgyblion a gwleidyddiaeth ac roedd yn wych gweld disgyblion yn codi materion lleol sy’n bwysig i ddisgyblion a’u teuluoedd. Rwy’n edrych ymlaen at fwy o ddigwyddiadau i alluogi mwy o bobl ifanc i gael gwybodaeth am ddemocratiaeth a gwleidyddiaeth a sylweddoli pwysigrwydd cael eu lleisiau wedi’u clywed.’

Daeth y diwrnod i ben gyda thaith o amgylch Neuadd y Sir lle cyfarfu swyddogion gyda swyddogion o ystod eang o adrannau, cyfle berffaith i gael golwg tu ôl i’r llenni ar y cyngor.

Roedd yr adborth gan ddisgyblion yn gadarnhaol: “Fe wnes fwynhau’r diwrnod, roedd yn ddiddorol iawn clywed barn pawb. Roeddwn yn hoffi’r sesiwn Cwestiynau ac Atebion yn fawr iawn.”

“Roedd hwn yn brofiad gwych. Fy hoff ran oedd pan gawsom gyfle i drafod materion perthnasol gyda chynghorwyr. Hoffwn drafodaeth ar faterion penodol, rwy’n meddwl y byddai’n llawer o hwyl.”

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy yn edrych am fwy o bobl i gymryd rhan yn Engage 2 Change, fforwm ieuenctid y sir. Mae’r fforwm yn dod ynghyd â phobl ifanc 11-18 oed ac yn eu helpu i gymryd rhan mewn materion lleol a chwrdd â phobl newydd. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â: Jade Atkins

Charlie-Jadeatkins@monmouthshire.gov.uk  neu ffonio 07790355724.

Mae tîm o Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd Cyngor Sir Fynwy wedi ennill cydnabyddiaeth y bu cystadlu mawr amdani ar ôl cael eu henwebu ar gyfer Gwobrau BASW (Cymdeithas Brydeinig Gweithwyr Cymdeithasol) Cymru. Enillodd gwasanaeth Anabledd Oedolion y cyngor wobr am y tîm gwaith cymdeithasol gorau yng Nghymru mewn seremoni yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher 20 Mawrth.

Enwebwyd y tîm am y prosiect tai arloesol a gynhaliwyd mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Tai Sir Fynwy, Gwasanaeth Ailalluogi Sir Fynwy a Pobl Care & Support, sydd wedi galluogi pump o unigolion gydag anabledd dysgu i fyw mewn fflatiau unigol yn y Fenni. Roedd saith tîm o bob rhan o Gymru hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr a dywedodd Julie Heal, Rheolwr Tîm Gwasanaeth Anableddau Oedolion: “Roeddem wrth ein bodd i ennill y wobr yma, yn arbennig gan fod y timau eraill yn ein categori wedi cyflwyno cynigion mor rhagorol.”

Yn bresennol roedd Julie Boothroyd, Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd Sir Fynwy ac Eve Parkinson, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn ogystal â Julie Heal a’i thîm a hefyd Sarah Vaughan, Uwch Therapydd Galwedigaethol yn cynrychioli Tîm Integredig y Fenni. Roedd tri o’r denantiaid yn y safle yn y Fenni hefyd yn bresennol yn y seremoni wobrwyo a disgrifiodd un ohonynt ef fel “y noson orau erioed”.

Methodd Louise Dovey, gweithiwr cymdeithasol sy’n gweithio yng ngwasanaeth integredig Monnow Vale yn Nhrefynwy, fod yn bresennol yn y seremoni ond roedd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr gweithiwr cymdeithasol arloesol.

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: “Mae ennill gwobr o’r fath yn seremoni BASW Cymru yn dangos safon uchel gofal cymdeithasol yn y sir ac mae’n tîm Anabledd Oedolion yn llawn haeddu’r anrhydedd yma am ei berfformiad cyson ragorol ac ysbrydoledig.”

Oes gennych chi syniad da? Pe byddai tri o bobl eraill yn fodlon helpu, beth fyddech chi’n hoffi ei wneud i sicrhau fod eich cymuned yn lle gwell?

Mae Tîm Partneriaeth a Datblygu Cymunedol y Cyngor yn awyddus i helpu unigolion a grwpiau lleol i gyflawni eu huchelgeisiau cymunedol. Mae’r tîm yn arbenigo mewn ymgysylltu ac yn anelu i helpu datblygu a grymuso grwpiau ac unigolion sydd eisiau gwneud eu tref neu bentref yn lle gwell ac maent yn mynd â’u harbenigedd allan ar hyn o bryd i gymunedau drwy sioe deithio Syniadau Mawr.

Cafodd sioe deithio Syniadau Mawr ddechrau llwyddiannus. Bu preswylwyr Trefynwy yn rhannu eu syniadau mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws y dref. Daeth y gymuned ynghyd a chroesawu’r cysyniad o rannu syniadau drwy bobl cardfwrdd bach. Caiff syniadau eu dangos yn Hyb Trefynwy, a chaiff hyn ei wneud hefyd mewn hybiau cymunedol ar draws y sir.

Roedd disgyblion o Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Osbaston, Trefynwy wrth eu bodd yn llenwi cymylau breuddwydion i ddatgelu eu Syniadau Mawr. Mae mwy o ymweliadau ysgol ar y gweill yn yr wythnosau nesaf.

Mae’r tîm yn awyddus i wrando ar syniadau a rhoi gwybodaeth a chefnogaeth werthfawr i wireddu syniadau ac maent yn edrych ymlaen at gwrdd â mwy o bobl o Frynbuga, Rhaglan, y Fenni, Cil-y-coed a Chas-gwent yn yr wythnosau nesaf.

Mae llawer o wybodaeth ar gael eisoes, yn cynnwys sut i gael cyllid, cyfleoedd i gysylltu unigolion gyda grwpiau sydd â nodau tebyg a chynnig cyfleoedd hyfforddi i unrhyw un sy’n rhoi eu hamser i helpu eraill.

Cynhelir cyfres o sesiynau galw heibio ynghyd ag ymweliadau i grwpiau cymunedol lleol a chyfleoedd cwrdd a chyfarch mewn gofodau cyhoeddus poblogaidd ar draws Sir Fynwy.

Bydd y Tîm yn ymweld ag amrywiaeth o leoliadau ar draws y sir yn y pedair wythnos nesaf yn cynnwys Brynbuga, y Fenni, Cil-y-coed a Chas-gwent. Mae’r dyddiadau dilynol ar gyfer yr wythnos nesaf a rhoddir cyhoeddusrwydd i fwy o ddyddiadau ar gyfer Cil-y-coed a Chas-gwent maes o law.

Hyb Brynbuga – dydd Iau 21 Mawrth 1.00pm – 4.00pm a 5.00pm – 7.00pm

Canolfan ACE, y Fenni – dydd Llun 25 Mawrth 9.00am – 11.00am

Canolfan Hamdden y Fenni – dydd Llun 25 Mawrth 5.00pm – 7.00pm

Marchnad y Fenni – dydd Mawrth 26 Mawrth 10.00am – 2.00pm

Mae croeso i breswylwyr gysylltu â’r tîm drwy dudalen Facebook Sir Fynwy, Twitter @MonmouthshireCC neu e-bost Partnerships@monmouthshire.gov.uk

Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet Datblygu Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol:

‘Mae hwn yn gyfle gwych i gymunedau gael yr help a’r gefnogaeth maent eu hangen gan y Tîm Partneriaeth a Datblygu Cymunedol. Mae’r tîm yn cydweithio gydag amrywiaeth o fudiadau ac mae ganddo gyfoeth o wybodaeth i ddatgloi potensial unigolion a grwpiau yn Sir Fynwy i helpu cymunedau i’w helpu eu hunain. Rwy’n annog unrhyw un sydd â syniad pa bynnag mor fawr neu fach i ddod i gysylltiad.’

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.monmouthshire.gov.uk/partnerships 

Mae gwasanaeth safonau masnachu Sir Fynwy yn annog preswylwyr i barhau’n wyliadwrus ar ôl derbyn mwy o adroddiadau am alwadau ffôn twyllodrus yn honni bod gan y tîm treth gyngor. Dywedir wrth bobl fod ganddynt hawl i gael ad-daliad ar eu bil treth gyngor ac mae’r galwr wedyn yn ceisio cael manylion cerdyn banc.

Rhybuddiodd Gareth Walters, Arweinydd Tîm Safonau Masnach: “Dywedodd preswylwyr fod galwyr yn ymddangos yn argyhoeddiadol ac maent eisoes yn gwybod beth yw eu henw a’u cyfeiriad llawn. Gallant hefyd fod yn honni fod gan y cyngor wybodaeth anghywir am nifer yr ystafelloedd gwely a band treth gyngor yr adeilad mewn ymgais i wneud i’r ad-daliad ymddangos yn fwy credadwy.”

Dylai preswylwyr gysylltu â thîm treth gyngor Sir Fynwy ar 01633 644640 neu e-bost: counciltax@monmouthshire.gov.uk os dymunant wirio unrhyw wybodaeth am y dreth gyngor. Gallant hefyd wirio eu cyfrif ar-lein: www.monmouthshire.gov.uk – cânt eu cynghori’n gryf i beidio ymateb i alwadau ffôn neu negeseuon testun yn awgrymu y gallent fod yn gymwys am ad-daliad.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ddiogelu’r cyhoedd: “Wrth i ni symud i’r misoedd pan fydd preswylwyr Sir Fynwy yn derbyn eu biliau treth gyngor newydd, credwn ei bod yn bosibl y bydd sgamwyr yn defnyddio eu cyfle i dargedu pobl. Mae angen i breswylwyr fod yn wyliadwrus iawn o unrhyw un sy’n gofyn am fanylion eu cerdyn banc dros y ffôn.”

Dylai preswylwyr sy’n dymuno gwneud adroddiad am alwadau o’r fath a chael cyngor ymarferol â llinell gymorth Gwasanaethau Defnyddwyr Cyngor Dinasyddion ar 03454 0404506.

Derbyniodd staff o un ar ddeg o ysgolion Sir Fynwy a fynychodd bum diwrnod o hyfforddiant yn llwyddiannus yn nhymor y gwanwyn wedi derbyn tystysgrifau cyflawniad gan faer y Fenni, y Cynghorydd Teslin Davies a fu’n bresennol fel gwestai mewn seremoni ym Magwyr yr wythnos hon (dydd Llun 18 Mawrth). Mae gan y Cynghorydd Davies gefndir mewn addysg ac anghenion dysgu ychwanegol.

Roedd y pymtheg o staff wedi hyfforddi i ddod yn Gymhorthwyr Cefnogaeth Llythrennedd Emosiynol (ELSA) ac mae’r cwrs yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau i helpu disgyblion yn ysgolion y sir gydag anghenion emosiynol dros dro neu dymor hirach. Bydd y cymhorthwyr ELSA yn derbyn cefnogaeth barhaus gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysg drwy oruchwyliaeth rheolaidd.

Mae’r rhaglen ELSA yn ffurfio rhan o ymrwymiad y cyngor i weithio gydag ysgolion i sicrhau cynhwysiant, cyflawniad a llesiant pob disgybl, yn cynnwys y rhai y mae anawsterau emosiynol yn effeithio ar eu dysgu. Cafodd ei datblygu i feithrin gallu ysgolion i gefnogi anghenion emosiynol disgyblion o fewn eu hadnoddau eu hunain.

Caiff cymhorthwyr ELSA eu hyfforddi i gynllunio a datblygu rhaglenni cefnogaeth unigol neu grŵp. Gallent weithio gyda disgyblion sy’n ymddangos yn bryderus, swil, trist neu ddig yn ogystal â’u cefnogi i ddatblygu sgiliau cymdeithasol neu gyfeillgarwch neu gynyddu hunanbarch.

Cyflwynwyd y cwrs gan Wasanaeth Seicoleg Addysgol Sir Fynwy. Dywedodd Dr Casey Stephens o’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol: “Bu rhaglen ELSA yn rhedeg yn Sir Fynwy am bedair blynedd ac ar hyn o bryd mae 29 o gymhorthwyr ELSA yn gweithio yn ein hysgolion. Mae’r rhaglen yn parhau i fynd o nerth i nerth ac yn ennill ei blwyf mewn llawer o’n hysgolion. Mae gwerthusiadau o’r prosiect wedi dangos fod cymhorthwyr ELSA yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad emosiynol plant a phobl ifanc. Mae canlyniadau penodol wedi cynnwys llwyddiant academaidd, cynyddu presenoldeb ysgolion a gostwng atgyfeiriadau i asiantaethau allweddol yn ogystal â newidiadau cadarnhaol mewn disgyblion gydag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.”

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet dros Blant a Phobl Ifanc ar Gyngor Sir Fynwy: “Ar ôl gorffen eu hyfforddiant, bydd ein haelodau diweddaraf o staff i ennill dyfarniad ELSA yn medru helpu plant sydd ag anawsterau emosiynol ac ar anfantais addysgol i oresgyn eu problemau, gwella eu llesiant emosiynol a chyflawni yn yr ysgol.”

Mae paratoadau Cyngor Sir Fynwy i ddod yn gyfrifol am orfodaeth parcio yn lle Heddlu Gwent yn mynd rhagddynt yn dda.

Cyflwynir Gorfodaeth Parcio Sifil ddydd Llun 8 Ebrill pan fydd y cyngor yn cymryd pwerau i weithredu cyfyngiadau parcio ar y stryd yn Sir Fynwy – yn ychwanegol at y meysydd parcio oddi ar y stryd mae’r cyngor eisoes yn eu rheoli. Bydd yr heddlu yn parhau i fod yn gyfrifol am drin cerbydau sydd wedi parcio’n beryglus, rhwystro traffig a thraffig yn symud.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros weithrediadau’r sir: “Gall parcio anystyriol yn aml arwain at dagfeydd neu broblemau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus ac atal cerbydau gwasanaeth argyfwng rhag cael mynediad i ardaloedd yn ogystal ag achosi problemau i fusnesau lleol pan mae cerbydau’n aros yn fwy o amser nag a ganiateir tu allan i siopau.

“Bydd y cyngor yn creu tîm gorfodaeth sifil neilltuol i fod yng ngofal rheoliadau parcio traffig o fewn y sir. Bydd hyn yn arwain at wella parcio mewn ardaloedd gyda phroblemau presennol yn ogystal â chynyddu trosiant lleoedd parcio a gwella diogelwch i gerddwyr a defnyddwyr ffyrdd. Bydd hefyd yn atal parcio amhriodol ac anystyriol ar barthau cyfyngedig fel llinellau melyn dwbl neu farciau ogam ogam a chreu rhwydwaith priffyrdd diogelwch ar gyfer pawb sy’n defnyddio’r ffyrdd.”

Dan Orfodaeth Parcio Sifil gall y cyngor weithredu:

• Llinellau melyn dwbl a sengl
• Baeau i’r anabl
• Baeau aros cyfyngedig
• Safleoedd tacsi
• Baeau coetsis
• Baeau llwytho
• Marciau ogam ogam mewn ysgolion (os oes cyfyngiadau) a chroesiadau cerddwyr
• Parcio dwbl neu barcio rhy bell o ymyl y cwrbyn
• Parcio mewn safleoedd bws

Rhoddir hysbysiad tâl cosb i gerbyd lle mae swyddog gorfodaeth sifil yn gweld ei fod wedi parcio yn groes i orchymyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod dwy haen o dâl cosb yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw’r tramgwydd. Bydd y tâl yn £70 am y tramgwyddau mwyaf difrifol a £50 am rai llai.

Os caiff yr hysbysiad tâl cosb ei dalu o fewn 14 diwrnod o’r hysbysiad, caiff y tâl ei ostwng gan 50%. Os na dderbynnir tâl neu unrhyw gyfathrebu o fewn 28 diwrnod, gall y cyngor gyhoeddi tystysgrif codi tâl a chaiff y gosb ei chynyddu i £105 am y troseddau mwyaf difrifol a £75 am dramgwyddau llai.

Gall modurwyr dalu hysbysiadau tâl cosb drwy’r post, gan ddefnyddio’r amlen a anfonir gyda’r hysbysiad, ar-lein drwy dudalen Grŵp Parcio De Cymru www.swpg.co.uk (taliad cerdyn credyd/debyd) neu drwy ffonio 033 332 008 67. Yn ychwanegol, gall modurwyr apelio yn erbyn y gosb os credant iddi gael ei rhoi’n anghywir. Dylid nodi mai’r ceidwad cofrestredig, neu ddefnyddiwr y cerbyd os yw wedi ei logi, sy’n gyfrifol am dalu’r hysbysiad tâl cosb.

Bydd yr incwm a gynhyrchir gan y cosbau yn cyfrannu at gost y gwasanaeth ac aiff unrhyw warged at gynlluniau traffig a gwelliannau ffyrdd y sir, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Disgwylir llanw uchel. Byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa ac, os oes angen, byddwn yn trefnu cau’r A466 drwy Dyndyrn am gyfnodau byr ar y dyddiadau ac amserau dilynol:

Dydd Iau 21 Mawrth rhwng 7.50 – 8.20 (tua)

Dydd Iau 21 Mawrth rhwng 20.20 – 20.50 (tua)

Dydd Gwener 22 Mawrth rhwng 8.35 – 09.05 (tua)

Dydd Gwener 22 Mawrth rhwng 21.00 – 21.30 (tua)

Dydd Sadwrn 23 Mawrth rhwng 09.20 – 09.50 (tua)

Dydd Sadwrn 23 Mawrth rhwng 21.40 – 22.10 (tua)

Dydd Sul 24 Mawrth rhwng 09.55 – 10.25 (tua)

Bydd y pwyntiau cau fel sy’n dilyn:

Cau Pen Gogleddol: Cyffordd Heol Tryleg

Cau Pen Deheuol: Cyffordd Royal George

Amcangyfrif yw amserau cau’r ffordd yn seiliedig ar yr amserau llanw a ragwelir. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro’r sefyllfa ac yn cyhoeddi Rhybuddion Llifogydd fel sydd angen. Dim ond dros dro y caiff ffyrdd eu cau a dim ond pan fo’r dŵr llanw yn llifo ar y briffordd. Bydd y ffordd yn ailagor cyn gynted ag mae’r dŵr wedi cilio o’r briffordd.

Bydd digwyddiad ymgysylltu cymunedol yn Nhrefynwy yr wythnos nesaf yn anelu i ddod â phreswylwyr a grwpiau lleol ynghyd i feithrin cysylltiadau newydd a chryfhau rhwydweithiau presennol er budd y dref a’r ardal leol. Wedi’i drefnu ar ran y gymuned leol, fe’i cynhelir rhwng 4:30 i 8pm ddydd Mercher, 27 Mawrth yn Ysgol Gyfun Trefynwy a bydd yn cynnwys cyrff cyllido, cyrff gwirfoddol a trydydd sector, cymunedau a chyrff statudol. Mae’n dilyn llwyddiant achlysuron tebyg yn y Fenni a Chas-gwent.
Bydd y digwyddiad yn codi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth ardderchog – yn cynnwys cyngor, arweiniad, cyllid a chyfleoedd hyfforddi – a gynigir i wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol tra’n cyflwyno sefydliadau syn ceisio cyllid i’r rhai sy’n ei ddarparu. Bydd hefyd yn gyfle i ddiolch i unigolion am weithgaredd rhagorol gwirfoddolwyr yr ardal.
Yn ychwanegol, bydd y cyfarfod yn dynodi aelodau grŵp llywio craidd i gynhyrchu a chyflwyno cynllun Gweledigaeth ar gyfer Trefynwy i gefnogi cynlluniau cymunedol.
Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy dros ddatblygu cymunedol: “Rydym yn anelu am gyfarfod anffurfiol ac yn croesawu unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio gan roi lle canolog i fuddiannau gorau’r ardal. Rydym eisiau cael cynifer o bobl ag sydd modd ynghyd, gan wybod y gellir cael syniadau gwych drwy siarad gyda’n gilydd.”
Gall unrhyw un sy’n dymuno mynychu gadw lle drwy edrych ar https://www.facebook.com/events/1188529647985996/ er y bydd hefyd groeso i’r rhai sy’n dod draw ar y noswaith heb wneud trefniant ymlaen llaw.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Joe Skidmore, Swyddog Datblygu Cymunedau a Phartneriaeth Cyngor Sir Fynwy JoeSkidmore@monmouthshire.gov.uk

Dechreuodd casgliadau gwastraff ac ailgylchu newydd yn Sir Fynwy ddydd Llun 4 Mawrth er mwyn gwella gwasanaethau ailgylchu a gostwng costau. Mae’r newidiadau hyn yn un o’r newidiadau gweithredol mwyaf yn Sir Fynwy ar gyfer casglu gwastraff – gyda chyflwyno gwasanaeth ar wahân i gasglu gwydr, newidiadau mewn amserau casglu a cherbydau casglu gwastraff newydd.

Mae Sir Fynwy yn casglu o tua 44,000 o gartrefi a arferai olygu 102,000 o gasgliadau yr wythnos. O 4 Mawrth gostyngwyd casgliadau i 80,000 yr wythnos. Cafodd amserau casglu newydd eu hyrwyddo drwy daflen a chafodd y wefan ei diweddaru i ddangos yr amserau casglu newydd.

Mae problemau casglu wedi effeithio ar rai preswylwyr. Mae criwiau’n gweithio ymhell tu allan i’w horiau gwaith arferol gyda rhai allan tan 7pm i unioni problemau. Bu canolfan gyswllt a hybiau Sir Fynwy yn brysur tu hwnt gydag ymholiadau ar y newidiadau ailgylchu ac adnewyddu trwyddedau gwastraff gardd.

Beth i’w wneud os yw oedi gyda chasglu gwastraff ac ailgylchu yn effeithio arnoch:

• Rhowch wybod am unrhyw broblemau drwy adran ‘Ailgylchu a Gwastraff’ ap Fy Sir Fynwy sydd ar gael i’w lawrlwytho o’r stôr apiau neu anfon neges at Monty, sgyrsfot Sir Fynwy drwy wefan monmouthshire.gov.uk neu Facebook Messenger: @MonmouthshireCC.
• Mae’r ganolfan cyswllt yn derbyn nifer fawr o alwadau ar hyn o bryd oherwydd ymholiadau am y newidiadau mewn casglu gwastraff ac ailgylchu ac mae’n rhaid aros am fwy o amser nag arfer. Os yw cwsmeriaid yn dymuno dal i aros, caiff eu galwadau eu hateb cyn gynted ag y daw gweithredydd ar gael.
• Gall unrhyw breswylwyr sy’n dal i fod angen blwch casglu gwastraff fynd i’w hyb cymunedol lleol i gasglu un.
• Gall preswylwyr sy’n dymuno cael gwybod am eu dyddiau casglu newydd fynd i: monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste

Dywedodd Carl Touhig, Pennaeth Gwastraff a Gwasanaethau Stryd: “Hoffwn ymddiheuro i unrhyw breswylwyr y mae’r oedi yn eu casgliadau gwastraff wedi effeithio arnynt a hoffwn ddiolch iddynt am eu dealltwriaeth ar yr amser prysur iawn yma. Gofynnwn chi fod yn amyneddgar a rhoi eich cefnogaeth gadarnhaol i’r criwiau casglu a staff y ganolfan cyswllt a hybiau sy’n gwneud eu gorau glas i gael y problemau wedi’u datrys. Nid yw’n waith rhwydd i’r criwiau sy’n gwneud gwaith rhyfeddol, gan weithio oriau hir mewn tywydd gwlyb a gwyntog”.

Ymunodd Cyngor Sir Fynwy gydag awdurdodau lleol a swyddogion dinesig, grwpiau cymunedol ac elusennau ledled y Deyrnas Unedig i gymryd rhan mewn digwyddiadau codi baner a seremonïau ymroddiad lleol i nodi Diwrnod y Gymanwlad ddydd Llun 11 Mawrth.

Am 10am tu allan i Neuadd y Sir, arweiniodd y Cadeirydd y Cynghorydd Peter Clarke seremoni i ddathlu undeb 57 o genhedloedd ar draws y byd a darllen neges gan Patricia Scotland, Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad. Amlygodd neges yr Ysgrifennydd Cyffredinol fod yr achlysur yn cydnabod yn gyhoeddus ac ar y cyd uchelgais parhaus y Gymanwlad i adeiladu ar draddodiadau cyffredin a chynnal rhannu gwerthoedd democratiaeth, datblygu cynhwysol a pharch at amrywiaeth.

Yna cododd y Cynghorydd Clarke y faner. Darllenodd y Cynghorydd Paul Jordan, aelod cabinet Sir Fynwy dros lywodraethiant gadarnhad y Gymanwlad tra arweiniodd y Parch Malcolm Lane y gweddïau.

Yn bresennol oedd:
• Murray Kerr – Dirprwy Arglwydd Raglaw
• Nick Ramsay AC
• Meiri Cyngor Tref Cas-gwent, Cyngor Tref Cil-y-coed a Chyngor Tref Trefynwy
• Maer a Chonsort, Cyngor Tref Brynbuga
• Cadeiryddion Cyngor Cymuned St Arvans a Chyngor Cymuned Rogiet
• Helen Morgan, Pennaeth Ysgol Cyrsiau Tir-seiliedig a Chwaraeon Campws Brynbuga Coleg Gwent gyda myfyrwyr yn cynrychioli Coleg Gwent
• Cynrychiolwyr Heddlu Gwent a GAVO
• Cynghorwyr a staff Cyngor Sir Fynwy

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Fly a Flag for the Commonwealth: http://www.flyaflagforthecommonwealth.co.uk/

Oes gennych chi syniad da? Pe bai tri o bobl eraill yn fodlon helpu, beth fyddech chi’n hoffi ei wneud i sicrhau fod eich cymuned yn lle gwell?

Mae Tîm Partneriaeth a Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Fynwy yn awyddus i helpu unigolion a grwpiau i gyflawni eu huchelgeisiau cymunedol. Mae’r tîm yn arbenigo mewn helpu i ddatblygu a grymuso grwpiau ac unigolion sydd eisiau gwneud eu tref neu bentref yn lle gwell, ac yn edrych ymlaen at gwrdd â phobl mewn amrywiaeth o leoliadau drwy gydol mis Mawrth a mis Ebrill.

Bydd y tîm yn bresennol i wrando ar syniadau a rhoi gwybodaeth werthfawr a chefnogaeth i wireddu syniadau. Mae llawer o wybodaeth ar gael, yn cynnwys sut i sicrhau cyllid, cyfleoedd i gysylltu unigolion gyda grwpiau sydd â nodau tebyg a chynnig cyfleoedd hyfforddiant i unrhyw un sy’n rhoi eu hamser i helpu eraill.

Cynhelir cyfres o sesiynau galw heibio. Bydd y tîm hefyd yn ymweld â grwpiau cymunedol a bydd yn bresennol mewn gofodau cyhoeddus ar draws Sir Fynwy. Bydd plant a phobl ifanc o ysgolion lleol yn cymryd rhan yn y broses ymgysylltu gan fod y tîm yn awyddus i wrando ar syniadau cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd y Tîm yn ymweld â nifer o leoliadau ar draws y sir yn y pump wythnos nesaf, gan fynd i Frynbuga, y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy. Dewch i gwrdd â’r tîm yn Nhrefynwy yn yr wythnos yn cychwyn dydd Llun 11 Mawrth.

Galwch heibio Hyb Trefynwy ddydd Mawrth 12 Mawrth 5.00pm – 7pm neu ddydd Gwener 15 Mawrth rhwng 1.00pm – 4.00pm. Dewch i Hyb Brynbuga ddydd Iau 21 Mawrth 1.00pm – 4.00pm a 5.00pm – 7.00pm a rhannu eich syniadau gyda’r tîm ym Marchnad y Fenni ar 26 Mawrth 10.00am – 2.00pm.

Mae mwy o leoliadau a dyddiadau ar y gweill. Mae croeso i breswylwyr gysylltu â’r tîm drwy dudalen Facebook Sir Fynwy, twitter @MonmouthshireCC neu anfon neges e-bost at y tîm.

Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol: ‘Mae hwn yn gyfle gwych i gymunedau gael yr help a’r gefnogaeth maent ei hangen gan y Tîm Datblygu Partneriaeth a Datblygu Cymunedol. Mae’r tîm yn cydweithio gyda nifer o sefydliadau ac mae ganddo gyfoeth o wybodaeth i ddatgloi potensial unigolion a grwpiau yn Sir Fynwy i helpu cymunedau i’w helpu eu hunain. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â syniad pa bynnag mor fawr neu fach i gysylltu.”

Mae mwy o wybodaeth am y Tîm Datblygu Partneriaeth a Datblygu Cymunedol yn:

www.monmouthshire.gov.uk/partnerships

E-bostiwch syniadau at Partnerships@monmouthshire.gov.uk

Denodd cystadleuaeth i ddylunio cardiau newydd ar gyfer gwasanaeth llyfrgelloedd Sir Fynwy dros 130 o geisiadau gyda chynigion rhagorol gan ddosbarthiadau ysgol ac unigolion yn arwain at benderfyniadau anodd i’r panel beirniadu. Gwahoddwyd plant pedair i saith oed i ddylunio cerdyn ar gyfer aelodau iau a gofynnwyd i bobl ifanc rhwng 8 a 15 oed i greu cerdyn i bobl ifanc yn eu harddegau.
Rhoddodd y panel beirniadu yn cynnwys yr awdur a’r darlunydd lleol Shoo Rayner dri chynnig o bob categori ar y rhestr fer. Yn dilyn llunio’r rhestr fer, denodd pôl cyhoeddus ar gyfrif Facebook hybiau cymunedol y cyngor a phenderfynu ar y dyluniadau buddugol. Enillydd y gystadleuaeth iau oedd Ariana McCarthy, 5 oed, o’r Fenni gyd Gethin Griffiths (7) o Drefynwy ac Abigail Esbester (6) o Fagwyr yn gydradd ail. Lucy Brady 13 oed o Gil-y-coed enillodd yr adran dylunio i’r arddegau gyda Arwen Skinner (12) ac Owen Hill (15), y ddau o Gil-y-coed, yn gydradd ail.
Cyfrannwyd gwobrau gan Gyfeillion Gwasanaeth y Llyfrgell y Fenni, Cyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed a Chyfeillion Llyfrgell Cas-gwent. Dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, aelod cabinet llyfrgelloedd a hybiau cymunedol ar gyngor Sir Fynwy: “Mae’n wych gweld artistiaid mor dalentog yn y sir a hoffwn ddiolch i bawb a gyflwynodd ddyluniad. Rydym wrth ein bodd gyda’n cardiau newydd hyfryd! Hoffwn hefyd ddiolch i gefnogwyr ein gwasanaeth llyfrgell a gyflenwodd wobrau.”
I gael mwy o wybodaeth ar hybiau cymunedol a llyfrgelloedd y cyngor, mewngofnodwch i: www.monmouthshire.gov.uk/community-hubs-libraries/

Mwynhaodd grwpiau cymunedol yn ardal Cas-gwent noswaith rwydweithio lwyddiannus ddydd Mercher 6 Mawrth a roddodd gyfle i hyrwyddo eu gwaith cadarnhaol yn yr ardal.
Trefnwyd y digwyddiad gan grŵp llywio o actifyddion lleol gyda chefnogaeth Tîm Partneriaeth a Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Fynwy, sefydliad The Bridges a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) gydag unigolion, grwpiau, clybiau a mudiadau fel Age Cymru Gwent, Canolfan Gymunedol Bulwark, Gweithredu Ieuenctid Cas-gwent, Canolfan Dyled Cristnogion yn erbyn Tlodi (CAP), y clwb rotari lleol a Phrifysgol y Drydedd Oes (U3A).
Roedd y noswaith a gynhaliwyd yn Hyb Cymunedol Cas-gwent yn gyfle i’r rhai a fynychodd i gwrdd a dysgu gan bobl gyda diddordebau tebyg, darganfod pa weithgareddau defnyddiol ac ategol a gaiff eu trefnu yn yr ardal a chanfod mwy am y gefnogaeth am ddim sydd ar gael i wirfoddolwyr. Roedd hefyd yn cynnwys cyfres o ddosbarthiadau meistr ar gynnal digwyddiadau cymunedol yn ogystal â dysgu a datblygu ar gyfer gwirfoddolwyr, diogelu a chodi arian – roedd nifer dda yn bresennol ym mhob un.
Cododd 25 o grwpiau lleol stondinau yn yr hyb a chyfrannu at y digwyddiad dros y noswaith. Cafodd te ei ddarparu gan Siop Coffi Top Stop a gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr o Ganolfan Gymunedol Bulwark gyda stôr Tesco yng Nghas-gwent wedi cyfrannu teisennau.
Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy ar gyfer datblygu cymunedol “Mae pobl wedi canmol y noswaith gyda chryn nifer yn dweud pa mor ddefnyddiol oedd hi i gysylltu gyda grwpiau eraill yn gweithio’n lleol. Mae’r grŵp lleol wrthi’n cynllunio digwyddiad tebyg ar gyfer cymunedau o amgylch Cas-gwent ddechrau’r haf ac edrychwn ymlaen at gyfarfod llwyddiannus arall”.

Cynhaliwyd digwyddiadau ar draws Sir Fynwy i ddathlu llwyddiannau menywod y sir gydag ysgolion cyfun Cil-y-coed a Threfynwy yn cynnal achlysuron arbennig Diwrnod Rhyngwladol Menywod ar gyfer merched yr ysgol. Bu amrywiaeth o siaradwyr yn bresennol yn Ysgol Cil-y-coed yn dilyn apêl ar Facebook yn gofyn i bobl leol enwebu menywod sy’n eu hysbrydoli – daeth 101 o sylwadau i law gydag enghreifftiau rhyfeddol o’r gwahaniaeth a wnaiff menywod yn eu cymunedau bob dydd.

Cafodd straeon ysbrydoledig eu rhannu a chynhaliwyd trafodaethau i helpu merched i ystyried eu nodau ar gyfer y dyfodol. Roedd y siaradwyr yn cynnwys:

• Catherine Baker – gwirfoddolydd lleol sy’n gwneud gwahaniaeth yn ei chymuned fel rhan o Parkrun Rogiet (cyd-gyfarwyddwr y digwyddiad), Cyfeillion Parc Gwledig Rogiet, Rainbows Magwyr, Panel Atal Troseddu Magwyr a Gwndy a Chymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Magwyr. Dywedodd Catherine: “Fy nghyngor yw gwneud y pethau sy’n codi braw arnoch. Bydd cynifer o rwystrau i’w goresgyn yn eich bywyd ond wnewch chi ddim llwyddo heb roi cynnig arni. Rwy’n gwneud pethau di-dâl er budd y gymuned. Ni all neb wneud i chi wirfoddoli. Os ydych yn croesawu’r syniad o roi amser i helpu eraill, byddwn yn argymell gwirfoddoli; byddwch yn dysgu sgiliau newydd, cynyddu hyder ac ehangu eich rhwydwaith. Mae llwyddiant fel arfer yn dod i’r rhai sy’n rhy brysur i fod yn edrych amdano.”

• Enillodd Chloe-Beth Morgan-James gystadleuaeth Miss Wales 2008 a chystadlu yng nghystadleuaeth Miss World 2008 yn Ne Affrica. Dywedodd Chloe: “Rwy’n cael fy ysbrydoli gan bobl sy’n cyflawni pethau nad oedden nhw erioed yn meddwl y gallent eu gwneud. Mae pobl yn ffurfio barn amdanaf heb fy adnabod. Mae wedi fy helpu fel person. Mae angen i ferched eraill gefnogi ei gilydd e.e. am dlodi mislif, yn lle beirniadu a lladd ar ferched eraill am gyflawni rhywbeth. Byddwch yn garedig bob amser gan na wyddoch chi byth pa frwydrau y gall y ferch yn eich ymyl fod yn mynd drwyddynt a wyddoch chi byth pan y gall fod angen i’r ferch honno eich helpu chi. Cewch wared ag ynni negyddol a chael grŵp diffuant, go iawn o’ch amgylch – byddwch yno i’ch ffrindiau, eich mam neu eich chwaer. Byddwch yn fwy caredig gyda’ch gilydd a bod yn garedig gyda’ch hunan. Peidiwch beirniadu, peidiwch gwneud sylwadau difeddwl a byddwch yn garedig.”

• Carol Bogue-Lloyd – Is-lywydd Ewrop Manwerthu a Chynnyrch Defnyddwyr a fu’n gyfrifol am Ganolfannau Cyswllt a Gweithrediadau Gwasanaeth Cwsmeriaid ym mhob rhan o’r byd ac sydd â dros 30 mlynedd o brofiad o’r Canolfannau Cyswllt Cyfleustodau a Chwsmeriaid Technoleg Gwasanaeth a Desgiau Gwasanaeth. Dywedodd Carol: “Does dim byd yn amhosibl – ewch amdani. Dysgwch gymaint ag y medrwch a mwynhau’r hyn a wnewch gan wenu. Bu hwn yn ddiwrnod gwych ac mae wedi ysbrydoli, gallwn wneud unrhyw beth.”

• Jayne Brown – sy’n cynnig dyddiau chwaraeon a ffitrwydd i ganolfannau hamdden ac ysgolion ac sy’n gweithio o fewn y sector Gofal Iechyd a Therapi Ategol. Ysbrydolodd Jayne bawb yn yr ystafell gan esbonio: “Gallwch wneud unrhyw beth yr hoffwch, rydych yn wych – rydyn ni gyd yn gyfartal. Gweithiwch yn galed a gofyn cwestiynau i’ch hunan. Gwthiwch eich hunan a’ch ffrindiau a dyna sut y gallwn i gyd lwyddo. Os ydynt yn dymuno sefydlu eu busnes eu hunain, cysylltwch gyda Syniadau Mawr Cymru a chofrestru a byddwn yn anfon y manylion atoch. Dylai unrhyw athro neu bennaeth ysgol, coleg a phrifysgol a hoffai i fodel rôl ddod draw i siarad gyda nhw edrych ar dudalennau gwefan Syniadau Mawr Cymru.”

• Irene Cameron– a gafodd MBE am Wasanaethau i Addysg yn 1995. Penodwyd Irene yn ynad yn 1981 ac fel Aelod o’r Tribiwnlys Troseddwyr Ifanc, roedd Irene yn gadeirydd Pwyllgor Casnewydd Macmillan Cancer Support am flynyddoedd lawer a gweithredodd fel cynghorydd lleol. Dywedodd Irene: “Rwy’n hoffi cymryd rhan mewn pethau i wneud gwahaniaeth. Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod gwych.”

• Eira Culverwell o Syniadau Mawr Cymru – sy’n rhedeg cwmni Resolveit sy’n darparu hyfforddiant a gweithdai ar sut i gadw’n ddiogel o fewn y sector Amddiffyn a Diogelwch. Mae gan Eira dri gwregys du, pedwerydd Dan mewn Karate Kyokushin ac mae’n rhedeg clwb crefftau ymladd yn ei hamser hamdden. Meddai Eira: “Cefais fy mwlio mewn dwy ysgol a doeddwn i ddim mor hyderus ag ydw i nawr. Roeddwn yn casáu mynd i’r ysgol oherwydd fod pob dydd yn hunllef llwyr. Eich grym yw’r unig hyder y gallwch ei gael. Dewch o hyd i rywbeth rydych yn angerddol amdano a mynd amdani. Hyd yn oed pan oeddwn yn hyfforddi fel gwregys du, roeddwn yn gwrthod taro’n ôl mewn dicter. Rwy’n byw, hyfforddi a gweithio. Rwy’n astudio bob dydd. Os yw’ch syniad yn od a’ch bod yn ei garu – ewch amdani, gallai wneud arian i chi. Ysgrifennwch eich nodau i lawr, maen nhw’n wirioneddol bwysig; rydw i’n ysgrifennu fy nodau i lawr ac yn eu dilyn”.

• Maddison Davies – sydd â phedwar gwregys du gwahanol ac aelod ieuengaf erioed Taekwondo Tîm Cymru. Uchafbwynt Maddison hyd yma oedd ennill medal Efydd yng Ngemau’r Gymanwlad ac Efydd Cymhwysydd Olympaidd. Mae Maddison yn gobeithio cyrraedd y Gemau Olympaidd yn yr ychydig flynyddoedd nesaf ac ennill medal aur. Meddai Maddison: “Rwy’n cael fy ysbrydoli am fod yn wahanol i ferched tebyg i fi. Efallai fy mod yn fach ond mae’r frwydr ynddo i, y gallu i freuddwydio, y dymuniad, yr angerdd a’r egni i wthio drwy anawsterau a chaledi nad yw’n dod gyda thaldra neu bwysau neu ryw – mae hynny’n dod gyda chalon. Fel menywod, goroeswn ac er y gallwn ymddangos yn fach rydym yn nerthol.”

• Joanna Goodwin – cyn ddisgybl yn Ysgol Cil-y-coed a Phennaeth Ymarfer Digidol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Cynghorodd Joanna bobl ifanc i: “Byddwch yn gwch! Rydych yn llong rhyfel gyda’r holl ynnau ac arfau o’ch cwmpas – peidiwch gadael i unrhyw sbwriel o’ch amgylch wneud i chi suddo. Rwy’n cael fy ysbrydoli gan bobl sy’n herio’r norm ac yn gwthio i adeiladu pethau gwell a gwneud pethau ychydig yn wahanol.”

• Helen Kings – Rheolwr Gyfarwyddwr Touchstone, cwmni rheoli eiddo sy’n gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig gan arbenigo yn y sector rhent preifat ac adeiladu i rentu. Dywedodd Helen: “Po fwyaf yr ewch â’ch hunan allan o’ch parth cysur, cymryd rhan, gofyn cwestiynau a bod yn frwdfrydig, y cyntaf y byddwch yn tyfu. Ewch allan, siarad gyda phobl a rhoi cynnig ar lawer o bethau gwahanol.”

• Andrea Rodley – Comisiynydd Girl Guiding Gwent a mam lawn-amser. Dywedodd Andrea: “Rwyf eisiau rhoi cyfle i’r merched fynd allan a phrofi hwyl, cyfeillgarwch a theithio. Peidiwch bod yn hunan-ymwybodol. Byddwch yn llawen ym mhopeth a wnewch.”

• Eleri Rosier – darllenydd mewn Marchnata a Strategaeth yn Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, aelod o’r Sefydliad Siartredig Marchnata a Chymrawd o’r Academi Addysg Uwch. Mae Eleri yn gwirfoddoli yng Ngŵyl Gerdd Rhaglan a gynhelir ar benwythnos 7/9 Mehefin. Mae Eleri yn cael ei “Hysbrydoli gan bobl sy’n gwthio eu hunain yn llwyr allan o’u parth cysur ac sy’n llwyddo i wneud pethau rhyfeddol er eu bod yn goresgyn rhwystrau anodd. Gallwch fod yn beth bynnag rydych eisiau bod, peidiwch gadael i unrhyw un ddweud fel arall wrthych!”.

• Elaine Theaker – sy’n rhedeg ei chwmni cyfreithiol ei hun, Advantage Legal. Y llynedd a hithau’n 54 oed rhwyfodd Elaine 3,000 milltir ar draws Môr Iwerydd mewn cwch rhwyfo bach ac ennill dwy record byd Guinness. Dywedodd Elaine: “Rhowch gynnig arni – gallech synnu eich hun. Rwy’n falch i mi ddechrau fy musnes fy hun o ddim. Rwy’n hynod falch fod y cyfle yno felly fe wnes ei gymryd. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oeddwn eisiau ei wneud – ond drwy ddweud ie i gyfleoedd sy’n dod draw, gallai’r cyfle hwnnw arwain at rywbeth arall. Fe wnes orffen fy lefel A heb wybod beth oeddwn eisiau ei wneud, fe wnes roi cynnig ar swydd yn y gyfraith. Peidiwch byth troi dim byd i lawr gan y gallai fod yn gyfle newid bywyd. Does dim cwestiynau ffol.”

Yn Ysgol Gyfun Trefynwy rhannodd saith o siaradwyr gwadd ysbrydoledig eu taith gyrfa a straeon llwyddiant gyda merched o Flynyddoedd 9 a 10. Roedd y siaradwyr yn amrywio o ddiplomat tramor i ymladdwyr tân.
Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol ar Gyngor Sir Fynwy: “Rwyf wedi gwir fwynhau clywed gan y menywod rhyfeddol yn Sir Fynwy. Rwy’n teimlo’n wirioneddol falch i fod yn byw mewn sir lle mae pobl yn cyflawni eu nodau beth bynnag y gallai hynny fod – gyrfa, chwaraeon, gwirfoddoli – mae’r rhestr yn faith. Cafwyd trafodaethau gwych heddiw, gyda llawer o gyngor i bobl ifanc am sut i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rhoddodd merched eu barn ar sut y gall cymunedau wella nawr ac yn y dyfodol. Rwy’n gobeithio y bydd y bobl ifanc a gymerodd ran yn y trafodaethau heddiw yn teimlo eu bod wedi eu hysbrydoli i fynd ar ôl eu breuddwydion – beth bynnag ydynt. Rwy’n rhoi fy nghefnogaeth lwyr i ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol Menywod eleni sy’n ymroddedig i adeiladu byd cytbwys o ran y rhywiau. Mae gan bawb ran i’w chwarae.”


Mae Cyngor Sir Fynwy wedi prynu rhydd-ddaliad Parc Hamdden Casnewydd ar Heol Spytty yng Nghasnewydd am £21m. Mae’r safle 141,000 tr sg yn cynnwys sinema mawr 13-sgrin Cineworld, campfa xercise4less, uwchfarchnad Home Bargains, parc Energi Adventure ac amrywiaeth o fwytai megis McDonalds, Burger King, Pizza Hut a Harvester.

Mae’r safle 11 erw mawr yn cynnwys 705 o leoedd parcio ac yn cysylltu gyda Pharc Manwerthu Casnewydd a’r Tesco Extra ar ochr ddwyreiniol y ddinas. Mae nifer fawr o dai newydd yn cael eu datblygu yn yr ardal o amgylch sy’n agos hefyd at y llwybr newydd posibl ar gyfer ffordd gyswllt gynlluniedig yr M4. Mae’r Parc mewn lleoliad blaenllaw yn Ne Cymru.

Gwelodd y parc fuddsoddiad newydd sylweddol yn y tair blynedd ddiwethaf yn ogystal â llawer o denantiaid fel ei fod bellach wedi’i osod yn llawn.

Alder King oedd yn gweithredu dros Sir Fynwy, a KLM a Cooke Arkwright dros Otium ar y trafodiad.

Dywedodd Paul Matthews, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Fynwy: “Rydym yn falch i fod wedi sicrhau ased incwm hir, wedi’i osod yn dda fydd yn rhoi adenilliad blynyddol rhagorol i’r Cyngor a’n helpu i gynnal ein portffolio darparu gwasanaeth ehangach yn y blynyddoedd i ddod. Mae Parc Hamdden Casnewydd yn gwasanaethu dalgylch mawr yn Ne Cymru ac yn manteisio ar y galw hirdymor am brofiad gwariant defnyddwyr a gwasanaethau hamdden. Dyma’r ychwanegiad diweddaraf i’n portffolio buddsoddiad masnachol yn dilyn ein caffaeliad diweddar o Barc Busnes a Gwyddoniaeth Castle-gate.”

Dywedodd Ashley Blake, Prif Swyddog Gweithredol Otium Real Estate: “Rydym wedi buddsoddi’n helaeth ym Mharc Hamdden Casnewydd ers ei gaffael yn 2015. Mae pum tenant newydd wedi ymuno â’r cynnig, cafodd y parc ei adnewyddu ac mae tenantiaid presennol wedi gwella eu safleoedd. Rydym yn falch iawn fod Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn flaengar drwy gaffael yr ased hwn ac y bydd ardal De Cymru yn parhau i fanteisio o’r buddsoddiad sicr, hirdymor yn dilyn ein gwaith i adnewyddu’r parc. Rydym wedi mwynhau’r profiad o weithio gyda Chyngor Sir Fynwy a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.”

Mae ein canolfan gyswllt yn derbyn nifer fawr o alwadau oherwydd ymholiadau’n cyfeirio at newidiadau gwastraff ac ailgylchu felly mae amser aros yn hirach nag arfer; mae hyn yn llwyr oherwydd nifer y galwadau a dderbyniwn. Os yw cwsmeriaid yn dymuno aros ar y ffôn, caiff eu galwadau eu hateb cyn gynted ag y daw gweithredydd ar gael – fel arall, gallant ddefnyddio Fy Sir Fynwy i gofnodi ymholiadau neu anfon neges at Monty, sgyrsfot Sir Fynwy drwy wefan monmouthshire.gov.uk nu drwy Facebook Messenger: @MonmouthshireCC. Gwnawn ein gorau i ateb yr ymholiadau cyn gynted ag sydd modd ond gall yr amser aros fod mor hir â 20 i 30 munud. Diolch i bawb ohonoch am eich amynedd ar yr amser prysur iawn yma.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi sefydlu partneriaeth gyda thri clwb pysgota gêm i reoli pysgota yn nhref y Fenni. Bu Cynghrair Pysgota Merthyr, Pysgotwyr Isca a Chymdeithas Bysgota Gwent yn llwyddiannus wrth wneud cynnig i reoli’r afon ar ran y cyngor.

Mae’r clybiau’n deall y bydd rheoli’r afon yn canolbwyntio ar sicrhau budd i genedlaethau’r dyfodol ac felly bydd yr holl bysgota ar gyfer pobl ifanc dan 17 sydd â thrwydded yn rhad ac am ddim. Bydd hefyd angen iddynt gael y drwydded bysgota amgylcheddol berthnasol, sy’n rhad ac am ddim i blant dan 17 oed ar hyn o bryd.

Cytunwyd ar reolau newydd ar gyfer y darn o’r afon a’r pwysicaf yw y bydd y bysgodfa yn gweithio’n llwyr ar sail dal a rhyddhau am o leiaf y ddwy flynedd nesaf. Bydd hyn yn sefydlu a chasglu tystiolaeth o’r poblogaethau presennol o frithyll gwyllt ac eogiaid.

Dim ond pysgota plu a ganiateir ar gyfer brithyll a physgota plu neu abwyd ar gyfer eogiaid. Dim ond gydag un bachyn heb adfach y caniateir pysgota abwyd ar gyfer eogiaid i sicrhau y caiff unrhyw bysgod a gaiff eu dal eu dychwelyd yn ddiogel.

Gall pysgotwyr lleol a physgotwyr sy’n ymweld heb fod yn aelod o unrhyw un o’r tri chlwb brynu trwyddedau i bysgota. Cafodd y prisiau ar gyfer trwyddedau blynyddol, wythnosol a dyddiol eu hadolygu a’u gostwng ac maent ar gael yng Ngarej Keith Price yn y Fenni. Byddant hefyd ar gael yn y dyfodol agos drwy gynllun Pasbort Pysgota Afonydd Wy a Wysg www.fishingpassport.co.uk .

Trefnir dyddiau datblygu ar gyfer y rhai sydd â diddordeb yn y gamp gyda hyfforddiant gan hyfforddwyr pysgota gyda thrwyddedau a chymwysterau.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am wasanaethau cefn gwlad: “Rwy’n edrych ymlaen at bartneriaeth hir a llwyddiannus gyda’r tri chlwb er budd rheoli’r rhan werthfawr yma o un o afonydd gorau’r wlad”.

Bydd grŵp wythnosol newydd Chatterbooks ar gyfer plant wyth a naw oed yn cychwyn yn Llyfrgell y Fenni ddydd Gwener 8 Mawrth rhwng 4pm a 5pm. Yn sesiynau Chatterbooks gall plant gwrdd â ffrindiau newydd tra’n darganfod a rhannu angerdd am ddarllen wrth iddynt siarad am lyfrau a chymryd rhan mewn gemau, gweithgareddau crefft a chystadlaethau. Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb.

Chatterbooks yw rhwydwaith mwyaf Prydain o grwpiau darllen plant a chafodd ei greu gan elusen genedlaethol The Reading Agency.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol a llyfrgelloedd: “Mae darllen er pleser yn ffactor bwysig iawn wrth helpu plant i sicrhau llwyddiant academaidd ac mae’n agor eu llygaid i fyd cyfan newydd yn ystod plentyndod a hefyd drwy gydol oes.”

Cysylltwch â Llyfrgell y Fenni ar 01873 735980 i gael mwy o wybodaeth.

Gyda’r gwanwyn yn agosáu, bydd gwasanaeth cynnal a chadw tiroedd Sir Fynwy yn gweithio i gefnogi’r amgylchedd a rhoi hwb i fywyd gwyllt drwy addasu arferion torri gwair. Bydd timau’n marcio gofodau agored gyda ffyn top glas neu wyn i ddangos ardaloedd a allai fod yn gynefinoedd addas a ddynodwyd gan staff y cyngor, preswylwyr neu drwy bartneriaethau’r cyngor gyda grwpiau lleol. Mae hyn yn cynnwys Sir Fynwy Cyfeillgar i Wenyn, Gwenyn dros Ddatblygu ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent fel rhan o’r brosiect ‘Dyw Natur Ddim yn Daclus a gyllidwyd gan Gynllun Datblygu Gwledig Dyffryn Wysg.

Mae’r gwaith yn cefnogi’r strategaeth peillio genedlaethol ac amcanion hirdymor y cyngor o wella iechyd amgylchedd naturiol Sir Fynwy ac mae’n cynnwys torri gwair yn llai aml a chynyddu uchder torri gwair. Bydd y dull hwn yn rhoi mwy o gyfle i blanhigion mewn tir glas i flodeuo, gan roi mwy o borthiant i wenyn, pili pala a phryfed eraill sy’n peillio. Mae’r glaswellt hirach hefyd yn rhoi cartref ar gyfer llawer o ddulliau eraill cyffrous o fywyd gwyllt. Yn ychwanegol at y manteision hyn, mae torri gwair yn llai aml yn galluogi gwair a phlanhigion cysylltiedig i fwrw gwreiddiau dyfnach gan eu gwneud yn fwy galluog i wrthsefyll sychder. Drwy wreiddiau dyfnach, mae glaswellt hefyd yn helpu agor y pridd, gan alluogi dŵr i gael ei amsugno’n well i ostwng llifogydd lleol. Mae glaswellt hirach hefyd yn arafu dŵr sy’n rhedeg oddi ar lethrau.

Caiff yr ardaloedd eu dynodi eu torri yn yr hydref a symudir y gwair wedi’i dorri i ostwng ffrwythlondeb y pridd gan felly alluogi mwy o flodau gwyllt cynhenid i ffynnu.

Gall preswylwyr Sir Fynwy ddisgwyl gweld y dull hwn yn cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau o amgylch y sir, yn neilltuol ar gyrion gofodau agored ac o amgylch coed – yn aml y cyrion yw’r lleoedd yr ymyrrir arnynt leiaf ac sydd fwyaf bioamrywiol. Gall coed hefyd fanteisio o newidiadau dan ddaear yn y pridd, gan wella’r amodau ar gyfer eu gwreiddiau.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am dirluniau a bioamrywiaeth: “Bydd ein hagwedd newydd at dorri gwair yn creu cynefinoedd newydd ar gyfer pryfed sy’n peillio a helpu i gynyddu eu niferoedd ledled y sir, gan ychwanegu at harddwch naturiol yr ardal a hyrwyddo ystod ehangach o flodau a phlanhigion. Mae arferion o’r fath yn allweddol i sicrhau ein cynaliadwyedd hirdymor.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: waste&streetservices@monmouthshire.gov.uk.

Monty, sgyrsfot Cyngor Sir Fynwy, yw’r sgyrsfot awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru ac mae ymhlith y sgyrsfotiau Cymraeg cyntaf. Ers lansio Monty ar 25 Ionawr, mae miloedd o gwsmeriaid wedi manteisio ar siarad gydag ef i gael atebion i lawer o’u cwestiynau am bopeth yn ymwneud â Sir Fynwy. Gall preswylwyr gysylltu â Monty ar monmouthshire.gov.uk neu ar Facebook Messenger: @MonmouthshireCC
Mae Monty’n esblygu drwy’r amser ac yn dysgu sut i ateb cwestiynau cyffredin preswylwyr gyda chwsmeriaid yn medru cael mynediad i wybodaeth yn gyflymach ar unrhyw amser, ddydd neu nos. Mae staff gwasanaethau gwsmeriaid wedi gweld gwelliannau gan y gall Monty ddatrys cwestiynau cymharol syml ar unwaith fel hysbysu os collwyd casgliad biniau gan ryddhau staff i helpu gydag anghenion llawer mwy cymhleth – megis digartrefedd neu fabwysiadu. Ers ei lansio, mae Monty wedi ateb amrywiaeth o ymholiadau’n ymwneud â phrydau ysgol, diweddaru ar gau ysgolion mewn eira a gwastraff gardd i gwestiynau mwy cymhleth yn ymwneud â budd-daliadau ac ymholiadau am y dreth gyngor.
Dywedodd Peter Fox, Arweinydd y Cyngor: “Rydym yn wirioneddol falch o Monty, sy’n ateb pawb yn Gymraeg neu Saesneg i roi dewis i bobl pan fyddant yn cysylltu gyda ni’n ddigidol. Byddwn yn annog pawb i siarad gyda Monty ar Ddydd Gŵyl Dewi gan po fwyaf o atebion y mae’n eu dysgu, y cyflymaf fydd wrth roi’r wybodaeth mae pobl ei heisiau, pryd maent ei heisiau.
“Rydym yn arloesi’n barhaus yn Sir Fynwy a bu’n wych gweithio gyda We Build Bots, ein partneriaid cwmni technoleg yn Ne Cymru, i ehangu ein gallu digidol i ddysgu peiriannau a deallusrwydd artiffisial. Hoffwn ddiolch i’n cydweithwyr sy’n gweithio gyda Monty i sicrhau bod y gallu i ymateb yn gwella drwy’r amser.”
Dywedodd Paul Shepherd, Prif Swyddog Gweithredol We Build Bots: “Mae gan Gyngor Sir Fynwy enw da am arloesi felly roedd yn ddewis naturiol pan oeddem yn edrych ar gynghorau i gysylltu â nhw i drafod ein dulliau Deallusrwydd Artiffisial ac awtomeiddio. Roedd y ffaith fod gennym gyfleusterau dwyieithog hyblyg ar y prosiect yn fonws. Rydym yn ymroddedig i helpu awdurdodau lleol ym mhob rhan

Cymerodd disgyblion o bob rhan o Sir Fynwy ran mewn cystadleuaeth i enw fflyd newydd y cyngor o gerbydau ailgylchu gydag enwau dychmygus yn gysylltiedig â gwastraff. Defnyddiodd disgyblion a rhieni eu dychymyg i’r eithaf gan awgrymu amrywiaeth fawr o enwau gyda chystadleuaeth gref. Ysgogodd y gystadleuaeth ddiddordeb mawr ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y cyngor, ac awgrymodd nifer o breswylwyr eu hoff enwau hefyd.

Syniad Cameron Gilchrist, disgybl o Ysgol Gynradd Cross Ash, y Fenni oedd y prif enillydd gyda ‘Sir Binwy’. Rhoddwyd gwobr ychwanegol i Ysgol Gynradd Tryleg am gyflwyno’r nifer fwyaf o gynigion. Ymwelodd y Swyddogion Addysg ac Ymwybyddiaeth Sue Parkinson a Paul Qualye y ddwy ysgol gydag un o’r loriau newydd ddydd Gwener 22 Chwefror. Cyflwynwyd sypyn o lyfrau newydd i Cameron a disgyblion o Ysgol Gynradd Tryleg ar gyfer llyfrgelloedd eu hysgolion.

Cafodd disgyblion yn y ddwy ysgol gyfle i ymchwilio’r loriau, a all gasglu 2000 bag o wastraff. Roedd yn brofiad diddorol tu hwnt ac roedd disgyblion yn awyddus i ofyn cwestiynau, cael mwy o wybodaeth a dysgu ffeithiau hanfodol am y loriau. Bu rhai disgyblion hefyd yn pwyso’r botymau llwytho a chywasgu, wedi eu cyfareddu gan allu’r loriau i agor a gwagu bagiau gwastraff ac ailgylchu.

Bydd y cerbydau newydd ar y ffordd o ddydd Llun 4 Mawrth. Cadwch eich llygaid am yr enwau dilynol: Sir Binwy, O Bin-Wan-Kanobe, Rhys Seiclo, Binny McBin Face, Taclus Ted, Binnie The Pooh, Bin Terfel, Rob Bin Hood, Binderella, Mission Bin Possible, Bin a Long Day, Bin Around Town, Bin Diesel, Ter-Bin-Ator, Bindiana Jones, Gunge & Roses, Bin and Dunnit, Dumpledore, Nick Binit a Jonny Trash.

Dywedodd y Cyng Bryan Jones, Aelod Cabinet dros Weithrediadau:

“Roeddwn mor falch i weld faint o awgrymiadau a gafwyd gan ysgolion lleol a’r cyhoedd. Rwy’n sicr y bydd yr enwau yn gwneud i breswylwyr wenu, fe wnaethant yn sicr wneud i mi chwerthin.

“Rwyf mor falch gyda’r ymateb i ailgylchu yn Sir Fynwy. Bydd y fflyd newydd o loriau yn ei gwneud yn bosibl i wahanu mwy o’n gwastraff gan olygu deunyddiau ailgylchu safon uwch.

“Bydd y newidiadau yn arwain at ddyddiau casglu newydd ar gyfer ein preswylwyr. Gobeithiaf y byddant yn parhau i gefnogi ein hymdrechion ac addasu i’r newidiadau hyn.

“Caiff preswylwyr eu hannog i beidio poeni am y newidiadau i’r diwrnodau casglu, ac anfonir llythyr drwy’r post yn eu hysbysu am y newidiadau.”

I gael mwy o wybodaeth am ddyddiau casglu edrychwch ar: https://www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste/  neu holi Monty, sgyrsfot y Cyngor ar https://www.monmouthshire.gov.uk/ neu anfon neges at dudalen Facebook Sir Fynwy.

Bydd Hyb Cymunedol Brynbuga yn cynnal marchnad wledig Dydd Gŵyl Dewi ddydd Iau 28 Chwefror yn ogystal â sesiwn amser stori ar gyfer plant hyd at wyth oed. Mae’r farchnad yn rhedeg rhwng 10am a 2pm ac yn cynnig teisennau, jam, cadwolion, blodau, bara, planhigion ac eitemau wedi eu gweu. Bydd te, coffi a phice ar y maen ffres hefyd ar werth.
Ar yr un diwrnod ac yn dechrau am 10.30am, bydd Dave y Dyn Balŵn, yn dweud straeon gyda gwahaniaeth am uncyrn a phynciau eraill. Mae Dave yn defnyddio ei sgil i greu anifeiliaid o falŵns i ddarlunio ei straeon, gan roi diddanwch mawr i blant ifanc.
Mae croeso i bawb i’r ddau ddigwyddiad rhad ac am ddim.
I gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at uskhub@monmouthshire.gov.uk – neu ffonio 01291 426888. Mae Hyb Cymunedol Brynbuga yn 35 Stryd Maryport, NP15 1AE ac mae dau faes parcio rhad ac am ddim gerllaw.

Ymddiheuriadau ond oherwydd problemau gyda’n serfiwr TG a gyda’n systemau ni allwn ar hyn o bryd gofnodi adroddiadau ar Fy Sir Fynwy na derbyn taliadau ar gyfer cofrestru gwastraff gardd yn ein hybiau cymunedol neu’r ganolfan gyswllt. Mae’n darparwyr TG yn gobethio y caiff hyn ei unioni erbyn 12pm heddiw. Gofynnwn i chi roi cynnig arall unwaith y bydd y system yn gweithio a byddwn yn hapus i’ch helpu.

Mae ysgolion a grwpiau cymunedol ar draws Sir Fynwy yn uno gyda’r cyngor i ddathlu Bythefnos Masnach Deg rhwng dydd Llun 25 Chwefror a dydd Sul 10 Mawrth.
Bydd digwyddiadau ar draws y sir yn anelu i annog siopwyr i brynu mwy o nwyddau Masnach Deg oherwydd fod ffermwyr mewn gwledydd sy’n datblygu yn haeddu chwarae teg – gan arwain at iddynt ennill incwm byw. Mae ysgolion lleol yn cynnal gwasanaethau arbennig, gwerthu cynnyrch pobi a gwaith dosbarth gyda thema Masnach Deg a gwahoddir y cyhoedd i foreau coffi, sesiynau gwerthu a blasu, i gyd yn anelu i hysbysu pobl am y gwahaniaeth y gall Masnach Teg ei wneud.
Gwnaeth Masnach De lawer i wella bywydau llu o bobl, ond nid yw’n ddigon na’n ddigon cyflym. Mae llawer o ffermwyr – yn ddynion a menywod – yn cael cyflog pitw ac yn cael eu hecsbloetio. Mae hynny’n golygu na allant ennill digon o arian ar gyfer y pethau sylfaenol y mae llawer ohonym yn eu cymryd yn ganiataol, yn cynnwys bwyd, addysg a thai.
Mae incwm byw yn nod sylfaenol i Masnach Deg, ac nid yw hyn yn fwy amlwg unrhyw le nag yn y diwydiant coco; felly coco yw thema Bythefnos Masnach Deg eleni. Caiff y rhan fwyaf o goco ei fewnforio i Ewrop, eto mae’n arswydus bod 60% o’r holl ffermwyr coco yn byw o dan y llinell dlodi.
Dyna pam, yn dechrau gyda Bythefnos Masnach Deg, y gall cymunedau Sir Fynwy helpu.
Masnach Deg yw’r unig sefydliad sy’n gwarantu rhwyd ddiogelwch o isafswm pris ar gyfer ffermwyr ar adegau o ddirywiad mewn prisiau byd-eang ynghyd â premiwm, swm ychwanegol o arian a aiff yn uniongyrchol i ffermwyr i fuddsoddi mewn busnes eu brosiectau o’u dewis yn eu cymunedau eu hunain. Gwahoddir preswylwyr ac ymwelwyr i ddigwyddiadau Masnach Deg y sir a drefnwyd dros y benwythnos ac i edrych am Nod Masnach Deg i fwynhau blas o siocled moethus a chefnogi symud tuag at incwm byw.
Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod gyda chyfrifoldeb am Gyfiawnder Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol ar gabinet Sir Fynwy: “Mae ffermwyr yn cael gwell chwarae tag pan werthant eu cnydau ar delerau Masnach Deg. Mae hyn yn arwain at incwm uwch a mwy sefydlog a all eu helpu i dorri cylch tlodi y cawsant eu dal ynddo. Drwy Masnach Deg, gall ffermwyr fuddsoddi mewn gwell ffermio ac ennill mwy o arian, sicrhau y caiff plant eu bwydo ac y gallant fynd i’r ysgol. Gall cymunedau fuddsoddi mewn dŵr gân a chlinigau, gan wella iechyd pawb.”
Cynhelir llawer o ddigwyddiadau yn Sir Fynwy dros y Bythefnos Masnach Deg:
Canol Tref Cas-gwent
Arddangosiadau ffenestr Masnach Deg ym mwa’r dref, Toytastik ac Oxfam.

Hyb cymunedol Trefynwy
Arddangosiad Masnach Deg

Dydd Mawrth 19 Chwefror – Ysgol Gynradd Penfro, Cas-gwent
Gwasanaethau Masnach Deg ac ysgrifennu darbwyllo gyda thema Masnach Deg

Dydd Gwener 22 Chwefror – Parlwr y Maer, Neuadd y Sir, Trefynwy
Lansio cystadleuaeth cynllunio matiau diod ar gyfer Parlwr y Maer, ar gyfer ysgolion cynradd lleol.

Dydd Sadwrn 23 Chwefror (10am i 12 canol-dydd) – Y Priordy, Trefynwy
Bore coffi gyda thema siocled

Dydd Mercher 27 Chwefror – Hyb Cymunedol Cas-gwent
Stondin Masnach Deg

Dydd Sadwrn 2 Mawrth – Oxfam y Fenni, Stryd Frogmore
Blasu bwyd Masnach Deg

Dydd Sadwrn 2 Mawrth (9.30am i 12.30pm) – Neuadd Goffa, Brynbuga
Stondin Masnach Deg ym Marchnad Ffermwyr Brynbuga

Dydd Mawrth 5 Mawrth am 9.15am – Ysgol Gynradd Rhaglan
Gwasanaeth Masnach Deg a gwers gyda thema siocled i Flwyddyn 3

Dydd Mawrth 5 Mawrth am 10am – Little Tots, Neuadd y Drindod, Stryd Baker, Y Fenni
Hwyl gyda thema Masnach Deg

Dydd Mawrth 5 Mawrth o 12 canol-dydd – Neuadd y Methodistiaid, Stryd y Castell, y Fenni
Cinio Pancws Masnach Deg a stondin Masnach Deg

Dydd Mercher 6 Mawrth (10.30 i 12 canol-dydd) – Neuadd Pentref Llangybi
Stondin Masnach Deg

Dydd Iau 7 Mawrth am 9.30am – Ysgol Gynradd Cross Ash
Gwasanaeth Masnach Deg

Dydd Iau 7 Mawrth o 10.30am – Eglwys Crist, Stryd y Gogledd, y Fenni
Bore coffi Masnach Deg

Dydd Iau 7 Mawrth (12 – 2pm) – Neuadd y Sir, Brynbuga
Arwerthiant Masnach Deg

Dydd Sadwrn 9 Mawrth o 10am – Neuadd y Methodistiaid, Stryd y Castell, y Fenni
Digwyddiad Masnach Deg gydag offer sain, cerddoriaeth, stondinau a lluniaeth

Dydd Sul 10 Mawrth – Marchnad Cas-gwent
Stondin Masnach Deg

Gweithgareddau mewn ysgolion eraill
• Ysgol Gynradd Goetre Fawr – cystadleuaeth bobi Masnach Deg
• Ysgol y Fenni – gwasanaeth Masnach Deg
• Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Magwyr – gwasanaeth Masnach Deg
• Ysgol Gynradd Thornwell – gwasanaeth Masnach Deg
• Ysgol Gynradd Osbaston – bore coffi

Disgwylir llanw uchel. Byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa ac os oes angen, byddwn yn trefnu cau’r A466 drwy Dyndyrn am gyfnodau byr ar y dyddiadau ac amserau dilynol:

Dydd Mercher 20 Chwefror rhwng 8.10 – 8.40 (yn fras.) 

Dydd Mercher 20 Chwefror rhwng 20.35 – 21.05 (yn fras.) 

Dydd Iau 21 Chwefror rhwng 8.55 – 9.25 (yn fras.) 

Dydd Iau 21 Chwefror rhwng 21.20 – 21.50 (yn fras.) 

Dydd Gwener 22 Chwefror rhwng 9.40 – 10.10 (yn fras.) 

Dydd Gwener 22 Chwefror rhwng 22.00 – 22.30 (yn fras.) 

Dydd Sadwrn 23 Chwefrorr rhwng 10.20 – 10.50 (yn fras.) 

Bydd y mannau cau fel sy’n dilyn:

Cau Pen Gogleddol: Cyffordd Heol Tryleg. 

Cau Pen Deheuol: Cyffordd Royal George

Caiff yr amserau cau eu hamgangyfrif yn seiliedig ar yr amserau llanw a ragwelir. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw golwg ar y sefyllfa ac yn cyhoeddi rhybuddion llifogydd fel sydd angen. Dim ond dros dro y caiff y ffordd ei chau a dim ond pan mae dŵr llanw yn llifo i’r briffordd. Bydd y ffordd yn ailagor cyn gynted ag mae’r dŵr wedi cilio o’r briffordd.

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cymryd cam sylweddol tuag at osod ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf pan fydd y Cabinet yn amlinellu’r gyllideb a argymhellir ar 20 Chwefror, a gaiff wedyn ei hystyried gan y Cyngor llawn ar 7 Mawrth. Bu’n broses anodd ac rydym wedi gwrando ar adborth preswylwyr am ein cynigion dechreuol ers 19 Rhagfyr 2018. Fel canlyniad, caiff rhai newidiadau eu cyflwyno.

Dywedodd y Cyng Phil Murphy, Aelod Cabinet Adnoddau:

“Hoffem ddiolch i bawb a roddodd adborth i ni. Rydym wedi gwrando arnoch. Mae’r newidiadau a gynigir i’r gyllideb yr ydym ei hystyried yn seiliedig ar yr hyn a ddywedsoch wrthym sy’n bwysig i chi. Mae Sir Fynwy yn derbyn llai o gyllid fesul pen o boblogaeth nag unrhyw awdurdod arall yng Nghymru – mae grant cynnal refeniw, y cyllid craidd a dderbynnir gan y llywodraeth ganolog wedi gostwng yn sylweddol ers 2013/14. Dyma’r gostyngiad mwyaf o blith unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru – mae’n bwysicach nag erioed i wrando ar ein preswylwyr gyda thoriadau mor sylweddol i’r gyllideb. Mae ein dull gweithredu yn parhau i fod i newid, gwella ac addasu ein gwasanaethau yn hytrach na dod â nhw i ben. Rydym yn gwrthod colli ein huchelgais ar gyfer y sir er fod realaeth ariannol yn cyfyngu rhywfaint ar ein galluoedd.

“Bydd y Cyngor yn derbyn £600k yn llai o arian caled gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf nac eleni. Ynghyd â thua £6 miliwn o bwysau gwariant a ddynodwyd drwy broses y gyllideb a £3.6 miliwn o gynnydd arall mewn cyflogau a phrisiau, bu’n rhaid i ni ganfod pecyn arbedion yn gyfanswm o tua £10.2 miliwn. Canfyddir £3.6 miliwn o ostyngiadau cost, £3.2 miliwn o gynnydd mewn incwm a £3.4 miliwn o gynnydd Treth Gyngor o 5.95%.’

Ychwanegodd y Cynghorydd Murphy y bu strategaeth y Cabinet yn syml ac wedi’i gysylltu’n uniongyrchol gyda Chynllun Corfforaethol cymeradwy y Cyngor. Rhai o’r prif fuddsoddiadau a gynigir gan y Cabinet yw:

1.         Gwarchod ysgolion drwy roi cyllid llawn ar gyfer pob cynnydd cynllun a pensiwn ar gost o £1.9 miliwn.

2.         Cydnabod pwysau mewn gofal cymdeithasol, yn bennaf o amgylch poblogaeth sy’n heneiddio a’r cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal ar gost o £1.2 miliwn.

3.         Anrhydeddu pob dyfarniad cyflog cenedlaethol a parhau â’i sefyllfa i osod cyflog byw yn unol â’r Sefydliad Cyflog Byw.

4.         Darparu £300,000 ychwanegol ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl i alluogi mwy o bobl i fyw’n annibynnol yn hirach.

5.         Gwario £1.2 miliwn ychwanegol ar gynlluniau cadw a chynnal priffyrdd.

6.         Parhau gwaith ar ysgol 3-18 newydd yn y Fenni.

7.         Dechrau adeiladu hyb cymunedol y Fenni a gorffen rhaglen adnewyddu canol y dref.

8.         Gwneud y ddarpariaeth angenrheidiol i sicrhau cyfleuster i gymryd lle cartref preswyl Severn View.

9.         Gwneud darpariaeth i symud ymlaen gyda gwaith dichonoldeb ar seilwaith trafnidiaeth newydd yng Nghas-gwent a’r cylch.

10.       Darparu swyddfa bost newydd yn hyb cymunedol Brynbuga.

11.       Parhau gyda chynlluniau i adfywio canol Cil-y-coed.

12.       Neilltuo £100,000 i gefnogi masnachwyr stryd fawr drwy drethi busnes dewisol dros ac yn uwch na’r lefelau cenedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Murphy ymhellach y bydd amrywiaeth o newidiadau gwasanaeth/ gostyngiadau cost yn mynd rhagddynt, er y bydd rhai newidiadau allweddol yn deillio o wrando ar farn preswylwyr sef:

  • Ffioedd bathodynnau glas – Ni fydd y cynnig i gyflwyno ffioedd parcio ar gyfer deiliaid bathodynnau glas yn mynd ymlaen yn Sir Fynwy. Ymhellach, byddwn yn gwella arwyddion a gorfodaeth ar gyfer gofodau parcio ceir i’r anabl. Ni fyddwn yn ystyried cyflwyno ffioedd am weddill tymor hwn y Cyngor.
  • Ffioedd parcio ceir: teimlai rhai preswylwyr y byddai codi ffi am barcio ar ddyddiau Sul yn atal pobl sy’n galw i’w stryd fawr leol am ymweliad byr ar ddyddiau Sul. Fel canlyniad, bydd y Cabinet yn argymell y bydd y ddwy awr gyntaf am ddim gydag un ffi o bunt am weddill y dydd.
  • Parcio Nadolig – Bydd y cyngor yn parhau i ddarparu parcio ceir am ddim am flwyddyn arall i breswylwyr ac ymwelwyr i’r sir.
  • Cynllun rhyddhad ardrethi busnes – Bydd y Cabinet yn argymell rhoi mwy o gymorth i fusnesau drwy Gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes a benderfynir yn lleol. Rhoddir ystyriaeth i farn y gymuned fusnes wrth baratoi’r cynllun. Bydd mwy o wybodaeth am sut y gall busnesau wneud cais am gymorth rhyddhad ardrethi busnes ar gael maes o law. Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu cynnig i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i archwilio opsiynau ar gyfer diwygio trethi lleol yn y tymor hirach ac i wneud yn siŵr fod system o’r fath yn gynyddol, teg a thryloyw.

Gwasanaeth Anawsterau Dysgu Penodol Sir Fynwy – Codwyd pryderon am ddwy swydd yr ystyrid eu dileu o fewn y tîm anawsterau dysgu penodol sy’n cefnogi ysgolion – mae gan y Cyngor ymroddiad i gefnogi pob dysgwr ac fel canlyniad i’r adborth, ni chaiff y swyddi hyn yn awr eu dileu

Mae cofrestru wedi dechrau ar gyfer preswylwyr i dderbyn gwasanaeth gwastraff gardd tymhorol Cyngor Sir Fynwy ac mae’n rhaid i’r rhai sy’n dymuno defnyddio’r gwasanaeth brynu trwydded. Mae un drwydded yn darparu ar gyfer casglu cynnwys un bag gwastraff gardd brown yn wythnosol sy’n costio £18 y tymor heb unrhyw gyfyngiad ar nifer y bagiau y gall preswylwyr eu prynu. Dim ond os yw’r drwydded  i’w weld ar y bag y caiff gwastraff gardd ei gasglu.

Bydd casgliadau wythnosol gwastraff gardd yn cychwyn ddydd Llun 4  Mawrth ac yn dod i ben ddydd Gwener 29 Tachwedd 2019 – ni fydd unrhyw gasgliadau rhwng dydd Llun 2 Rhagfyr 2019 a 28 Chwefror 2020. Caiff preswylwyr eu hannog i gofrestru nawr cyn 4 Mawrth i dderbyn eu trwydded mewn pryd ar gyfer y casgliad cyntaf.

Mae’n syml prynu trwydded a gall preswylwyr gofrestru mewn amrywiaeth o ffyrdd:

•             Gwefan Sir Fynwy: www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste/garden-waste

•             Ap ‘Fy Sirfynwy’

•             Ymweld â Hyb Cymunedol.

•             Ffôn: 01633 644705 (dydd Llun i ddydd Iau rhwng 9am a 5pm a dydd Gwener rhwng 9am a 4:30pm)

Unwaith y byddant wedi cofrestru, mae’n rhaid i breswylwyr ganiatáu hyd at 14 diwrnod i’r drwydded gyrraedd. Bydd cwsmeriaid y llynedd yn derbyn llythyr cyn hir yn eu hatgoffa i ail-gofrestru.

Dywedodd y Cyng Bryan Jones, aelod Cabinet Gwastraff ac Ailgylchu:

‘Rwy’n annog preswylwyr sydd angen casgliadau gwastraff gardd i wneud cais am drwydded heddiw! Mae angen i’r rhai a brynodd drwydded yn y dyfodol wneud cais eto drwy ddefnyddio’r nifer o wahanol ffyrdd i gysylltu. Gobeithiaf y bydd preswylwyr sy’n newydd i’r gwasanaeth yn fodlon gyda’r safon uchaf a ddarparwn yn Sir Fynwy.’

Mae adborth ar y gwasanaeth yn bwysig, anogir preswylwyr i ddweud eu barn drwy arolwg ar-lein ar y gwasanaeth gwastraff gardd sy’n anelu canfod beth fyddai preswylwyr yn ei hoffi gan y gwasanaeth yn y dyfodol. I lenwi’r arolwg ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste/garden-waste

Cynhelir gweithdai sefydlu busnes, dan nawdd Busnes Cymru, gwasanaeth cymorth busnes arweiniol Llywodraeth Cymru, i helpu a chefnogi pobl yn Sir Fynwy sy’n ystyried sefydlu neu redeg eu busnesau eu hunain.

Mae’r gweithdai yn rhoi sylw i amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys datblygu syniad busnes, sicrhau cyllid, cynllunio busnes, prisio a marchnata ac fe’i cynhelir rhwng 9.15am a 4pm ddydd Mercher 27 Chwefror yng Nghanolfan Ieuenctid y Fenni (Hen Heol Henffordd) ac yng Nghanolfan Bridges yn Nhrefynwy ddydd Iau 21 Mawrth.

Nod y cyrsiau yw cynorthwyo darpar entrepreneuriaid i fynd â’r maen i’r wal a phenderfynu p’un ai yw hunan-gyflogaeth yn iawn ar eu cyfer nhw. Caiff yr holl weithdai eu cynllunio a’u cyflwyno gan gynghorwyr profiadol Busnes Cymru a rhoi cyfle i ofyn cwestiynau a rhwydweithio gyda phobl o’r un anian.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Aelod Cabinet dros Fenter yng Nghyngor Sir Fynwy: “Mae’r cyngor yn awyddus i gefnogi ac annog twf busnes a chreu swyddi. Rydym yn falch iawn i argymell y gweithdai defnyddiol hyn i unrhyw un sy’n anelu i sefydlu eu busnes eu hunain yn y sir.”

Meddai Melanie Phipps, Cynghorydd Busnes gyda Busnes Cymru: “Ein rôl fel cynghorwyr busnes yw rhannu profiad, rhoi cyngor ymarferol, cefnogaeth a gwybodaeth i feithrin hyder ymysg pobl ar ddechrau eu taith busnes.

“Mae ein gweithdai sy’n rhad ac am ddim i’w mynychu yn fan cychwyn gwych ar gyfer pawb sy’n mynychu sydd eisiau cael dealltwriaeth o’r egwyddorion allweddol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i sefydlu a rhedeg eu busnes eu hunain, felly byddwn yn annog pawb yn Sir Fynwy sy’n ystyried bod yn hunangyflogedig i ddod draw.”

I gael mwy o wybodaeth ar leoliadau ac archebu lleoedd, ewch i
https://wales.business-events.org.uk/, e-bost southwales@businesswales.org.uk neu ffonio 01656 868500.

• Mae Busnes Cymru, a gyllidir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yn cefnogi twf cynaliadwy mentrau bach a chanolig ar draws y wlad drwy gynnig mynediad i wybodaeth, arweiniad a chymorth busnes. I ganfod sut y gall Busnes Cymru helpu i sefydlu neu ddatblygu eich busnes, ffoniwch 03000 6 03000, dilyn @_busnescymru neu @_businesswales neu ymweld â www.busnescymru.llyw.cymru/ neu www.businesswales.gov.wales/ i gael mwy o wybodaeth.

Dathlodd Trefynwy ddiwrnod pwysig ddydd Llun 11 Chwefror gyda lansio’r pwll nofio a sba iechyd yn y ganolfan hamdden leol. Roedd disgwyl eiddgar am y cyfleusterau newydd sy’n gosod safonau uchel ar gyfer darpariaeth hamdden yn y sir a thu hwnt, gan roi cyfle delfrydol i ddefnyddwyr o bob oed i ymlacio a chael hwyl yn ogystal â chyflawni eu nod ffitrwydd.

Cafodd y ganolfan hamdden – dan yr enw Cyfleuster Hamdden Premier Trefynwy – ei chau ar gyfer ei hadnewyddu ym mis Tachwedd 2017 ond ail-agorodd fis Awst ddiwethaf i gynnig campfa fawr, stiwdio troelli, ystafell gyflyru, ystafelloedd newid braf, canolfan chwarae plant, caffe cynllun agored ac ystafell amlbwrpas ar gyfer partïon a chyfarfodydd yn ogystal ag ardaloedd ymlacio, gydag offer blaenllaw diweddaraf y farchnad.

Yn y cyfamser, mae’r cyngor wedi gweithio’n ddiflino i ddadlennu ail gam y gwaith adfywio ar gost o £7.4m gyda phwll nofio pum lôn 25 metr newydd sbon ac o’r math diweddaraf, ystafelloedd triniaeth harddwch a sba iechyd.

Dim ond 20 metr o hyd oedd y pwll gwreiddiol felly bydd y cyfleuster newydd yn cynnig opsiynau gwell ar gyfer nofwyr. Y cyntaf i roi ei draed yn y dŵr oedd Jim Saunders o Coleford a wahoddwyd fel y person diwethaf i nofio yn y pwll gwreiddiol. Mae Jim yn nofiwr brwd iawn ac yn edrych ymlaen at ymweld yn rheolaidd.

Mae’r sba iechyd yn cynnwys jacuzzi, sauna ac ystafell stêm ac mae’r ystafelloedd triniaeth yn cynnwys triniaethau wyneb, dwylo, traed a thylino o’r safon uchaf gan dîm o dri dan arweiniad y therapi harddwch Vicki Goodway.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hamdden: “Mae’n bleser ac yn fraint fawr i ddathlu prosiect llwyddiannus a fu ar y gweill am dair blynedd. Ar adeg pan mae cynghorau eraill yn cau canolfannau hamdden, fe wnaethom ymrwymo i’r cyfleuster modern newydd hwn ac rydym yn awr yn gweld ein haddewid i bobl sir Fynwy a’r ardaloedd cyfagos yn cael ei gyflawni. Mae aelodau staff y ganolfan hamdden wedi dangos ffydd ar adeg o ansicrwydd ond gallant yn awr edrych ymlaen at ddyfodol disglair. Hoffwn hefyd gydnabod cyfraniad yr arbenigwr datblygu Alliance Leisure a gefnogodd y cyngor ar hyd y prosiect a chwmni gwasanaethau adeiladu ISG am eu gwaith gwych yma yn Nhrefynwy.”

Addawodd y Cynghorydd Greenland y caiff y ganolfan hamdden ei lansio wedi ei hadnewyddu yn yr haf ar ôl cwblhau gwaith yn yr ysgol gyfun gyfagos.

Ychwanegodd Nick Butler, rheolwr Cyfleuster Hamdden Premier Trefynwy: “Rydym wrth ein bodd gyda nifer y bobl a ymwelodd heddiw, ac mae’n wych clywed sylwadau mor gadarnhaol.”

Mae mwy o wybodaeth ar Gyfleuster Hamdden Premier Trefynwy ar gael yn: www.monmouthshire.gov.uk/things-to-do/monleisure/monmouth-leisure-centre

Mae Hyb Cymunedol Cil-y-coed yn croesawu preswylwyr i ymuno â sesiwn rhannu darllen newydd ‘Cwtsh Llyfr’ bob dydd Gwener am 2.30pm.

Mae Bwrdd Cwtsh yn sesiwn rhannu darllen sy’n galluogi pobl i wrando ar straeon a cherddi yn cael eu darllen yn uchel.

Gall rhannu darllen iechyd a lles meddwl. Mae’r sesiynau yn gyfle i bobl wneud ffrindiau newydd a gwrando ar straeon a cherddi yn cael eu darllen yn uchel gan arweinydd y grŵp. Gall y straeon a’r cerddi danio dychymyg a rhoi lle i fyfyrio.

Dywedodd y Cyng Paul Jordan, Aelod Cabinet Hybiau Cymunedol: ‘Mae ein hybiau’n cynnig llawer o bethau a gallant roi cyfle i breswylwyr roi cynnig ar rywbeth newydd. Rwy’n annog pawb i ymweld â’u hyb lleol, mynd draw i sesiwn rhannu darllen neu ddim ond galw heibio a gweld beth sy’n digwydd. Harddwch ein hybiau yw eu bod yng nghanol y gymuned ac yno i helpu pawb.’

Os oes gennych ddiddordeb mewn canfod mwy cysylltwch â Hyb Cymunedol Cil-y-coed ar 01291 426425 neu e-bost CaldicotCommunityHub@monmouthshire.gov.uk

Dewch draw i ddiwrnod Amser i Siarad yn Hyb Brynbuga ddydd Iau 7 Chwefror 9.00am – 12.00pm am ddishgled o de a sgwrs. Mae Diwrnod Amser i Siarad yn gynllun cenedlaethol sy’n anelu annog pobl o bob oed i roi amser i aros a siarad gyda rhywun i gynnal iechyd meddwl cadarnhaol.

Bydd Justine Jamieson a Lynn Green o Dîm Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn yr Hyb i gynnig help a chyngor. Gall y tîm helpu pobl i gael mynediad i wasanaethau i helpu trin ac ymdopi â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i ganolradd, megis pryder, iselder, straen a phroblemau iechyd meddwl arall.

Ffocws yr ymgyrch eleni yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd eistedd lawr gyda dishgled o de a chael sgwrs. Mae croeso i breswylwyr alw heibio’r hyb a chael gwybodaeth am yr ystod lawn o wasanaethau cefnogaeth sydd ar gael yn Sir Fynwy i helpu cadw iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol.

Mae cyswllt gyda phobl yn neilltuol o bwysig wrth oresgyn materion megis ynysigrwydd cymdeithasol. Mae hyb Brynbuga yn hafan ar gyfer preswylwyr sydd angen sgwrs a gwên gan wyneb cyfeillgar.

Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: ‘Rwy’n annog preswylwyr i roi amser ac ymweld â’r Tîm Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol yn Hyb Brynbuga. Mae mor bwysig neilltuo amser yn y diwrnod i aros a sgwrsio a chael help a chyngor yr un pryd.’

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Hyb Brynbuga e-bost  uskhub@monmouthshire.gov.uk ffôn 01291 426888.

Mae Hyb Cymunedol Brynbuga yn seiliedig yn 36 Stryd Maryport, NP15 1AE ac mae dau faes parcio am ddim gerllaw.

Mae mwy o wybodaeth am Amser i Siarad ar gael yn: https://www.time-to-change.org.uk/get-involved

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig newidiadau i’w drefniadau derbyn i ysgolion ac mae wedi lansio rhaglen ymgynghori â’r cyhoedd gyda dyddiad cau ar gyfer ymatebion o ddydd Gwener 1 Mawrth. Bydd adborth o’r ymgynghoriad yn helpu i benderfynu ar y meini prawf ar gyfer dyfarnu lleoedd i ymgeiswyr i’w dewis ysgol pan fo mwy o alw nag o leoedd ar gael.

Os cytunir arnynt, bydd y cynigion yn effeithio ar holl ysgolion y sir a bydd unrhyw newidiadau yn dod i rym o ddechrau blwyddyn academaidd 2020/21.

Gall unrhyw un sy’n dymuno ymateb i gynigion y cyngor lenwi holiadur ymgynghori’r cyngor, sydd ar gael ar ei wefan – https://www.monmouthshire.gov.uk/admissionconsultation – neu fynychu un o’r cyfarfodydd ymgynghori a drefnodd y cyngor ym mis Chwefror.

Clwstwr Cil-y-coed

Dydd Llun 7 Chwefror 6pm – Ysgol Gynradd Durand

Clwstwr Cas-gwent

Dydd Llun 14 Chwefror 6pm – Ysgol Cas-gwent

Clwstwr y Fenni

Dydd Gwener 11 Chwefror am 6pm – Ysgol Gynradd Cantref

Clwstwr Trefynwy

Dydd Llun 21 Chwefror am 6pm – Ysgol Gynradd Overmonnow

Sesiynau galw heibio yn ystod y dydd ar gyfer pob ardal

Dydd Mercher, 6 Chwefror o 9.30am i 11.30am – Tŷ Arloesedd, Magwyr

Dydd Mawrth, 22 Chwefror o 9.30am i 11.30am – Neuadd y Sir, Brynbuga

Yn unol â Chod Derbyn Ysgolion Cymru (Gorffennaf 2013), mae’n rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori’n flynyddol ar drefniadau derbyn i’r ysgolion hynny y mae’n awdurdod derbyn iddynt. Lle cynigir newidiadau i’r trefniadau presennol, mae’n rhaid cynnal ymgynghoriad gyda’r rhai y mae’r cynigion yn debygol o effeithio arnynt.

Cyhoeddir adroddiad yr ymgynghoriad erbyn dydd Mercher 27 Mawrth a bydd cabinet Sir Fynwy yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad a chytuno sut i symud ymlaen yn ei gyfarfod ddydd Mercher 3 Ebrill.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet Sir Fynwy dros Blant a Phobl Ifanc: “Mae nifer o ysgolion yn Sir Fynwy sy’n aml yn derbyn mwy o geisiadau nag sydd o leoedd ar gael ac mae angen gosod lleoedd yn nhrefn blaenoriaeth. Drwy’r ymgynghoriad hwn, dymunwn glywed gan breswylwyr am beth ddylai’r drefn flaenoriaeth honno fod a faint o bwysau a roddir i siblingiaid, ceisiadau o’r tu allan i’r dalgylch a’r pellter rhwng y cartref a’r ysgol. Mae angen i ni gadw meintiau dosbarth o fewn terfynau llym ac mae hynny’n golygu na all ysgolion bob amser dderbyn dewisiadau cyntaf rhieni. Byddwn yn annog cynifer o bobl ag sydd modd i ddweud wrthym beth yw eu barn am sut y dylem flaenoriaethu dyrannu lleoedd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.”

Dylai preswylwyr sydd â chwestiynau anfon e-bost at Uned Derbyn y cyngor – accesstolearning@monmouthshire.gov.uk – neu ffonio 01633 644508.

Cynhelir digwyddiad Cwrdd â’r Awdur yn Hyb Cymunedol Brynbuga ddydd Iau 7 Chwefror.

Bydd yr awdur lleol Cath Barton yn darllen o’i llyfr “The Plankton Collector” am 10.30am. Cyhoeddwyd y llyfr yn ddiweddar, a bydd yn esbonio sut y daeth i’w ysgrifennu ac ateb cwestiynau. Bydd te a choffi ar gael yn ogystal â sesiwn llofnodi llyfrau.

Disgrifiwyd The Plankton Collector fel “hiraethus a llawn awyrgylch”, ac mae’n dweud hanes teulu a gafodd ei chwalu gan alar. Mae casglwr plancton dirgel yn ymweld â nhw yn eu tro, gan ymddangos mewn llawer o wahanol weddau – i un mae’n arddwr, i un arall mae’n hen gyfaill. Mae hon yn stori am golled, cof ac, yn y diwedd, obaith.

Mae Cath Barton wedi byw yn y Fenni ers 2005 ac mae’n awr yn gorffen casgliad o straeon byr a ysbrydolwyd gan yr artist Hieronymous Bosch o’r Iseldiroedd yn ogystal â gweithio ar nofel a osodwyd yn Kathmandu yn dilyn daeargryn mawr.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol: “Rydym yn croesawu pawb i sgwrs Cath Barton ac mae’n argoeli bod yn achlysur diddorol tu hwnt. Mae ein hybiau cymunedol yn cynnig digwyddiadau tebyg drwy’r flwyddyn ac maent i gyd yn werth eu mynychu”.

I gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at uskhub@monmouthshire.gov.uk – neu ffonio 01291 426888. Mae Hyb Cymunedol Brynbuga yn seiliedig yn 35 Stryd Maryport, NP15 1AE ac mae dau faes parcio rhad ac am ddim gerllaw.

 

Croesawodd Cyngor Sir Fynwy breswylwyr i ‘Caru Digidol’ ddydd Gwener 25 Ionawr – Dydd Santes Dwynwen – gyda lansiad Monty, sgyrsfot newydd sbon Sir Fynwy sydd ar gael 24/7 ar wefan Sir Fynwy – monmouthshire.gov.uk – a drwy ei wasanaeth Facebook Messenger – @MonmouthshireCC. Monty yw’r sgyrsfot cyntaf i’w lansio gan awdurdod lleol yng Nghymru a bydd yn hybu profiad digidol Cyngor Sir Fynwy.

Mae’r bot, a enwyd yn Monty gan bobl leol yn dilyn cystadleuaeth yn Sioe Brynbuga a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol – a wnaeth diolch byth osgoi’r bondigrybwyll Botty McBotface – yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac yn dysgu am y cwestiynau mae pobl yn eu gofyn amlaf i ddatblygu ymatebion cyflymach a gwell, gan ryddhau staff cyngor i gefnogi pobl fregus a rhai gydag ymholiadau mwy cymhleth.

Croesawodd hybiau cymunedol y cyngor breswylwyr i alw heibio a mwynhau te Dydd Santes Dwynwen a sgwrs am dechnoleg. Cynhaliwyd sesiynau yng Nghil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy gyda chefnogaeth ar gael i bobl sy’n dymuno mynd ar-lein am y tro cyntaf a dysgu mwy am dechnoleg ddigidol. Roedd hefyd gyfle i ddeall yr amrywiol ffyrdd y gall pobl gysylltu â’r cyngor yn cynnwys Monty, ap Fy Sir Fynwy, gwefan Sir Fynwy a hefyd sut i gael mynediad i adnoddau llyfrgell ar-lein.

Gall pobl sy’n dymuno cael gwybodaeth am gefn gwlad hardd ac atyniadau Sir Fynwy edrych ar www.visitmonmouthshire.com lle rhoddir sylw i wahanol ddigwyddiadau ar draws y sir. Hefyd, gall deiliaid bathodyn glas ganfod mwy am y system ar-lein newydd a gyflwynwyd i ostwng amser gwneud cais am fathodyn glas. Mae’r gwasanaeth newydd yn golygu y gall ymgeiswyr gwblhau’r holl broses ar-lein – mae manylion ar gael yn gov.uk/apply-blue-badge

Dywedodd Peter Fox, Arweinydd y Cyngor: “Rydym yn falch iawn i fod y cyngor sir cyntaf yng Nghymru i lansio sgyrsfot. Ar Ddydd Santes Dwynwen eleni rydym wedi helpu pobl i ddysgu mwy am dechnoleg ddigidol a chwrdd â Monty. Po fwyaf o bobl sy’n dechrau Caru Digidol, y mwy a all gael yr atebion maent eu hangen mor gyflym ac mor rhwydd ag sydd modd. A pha ddydd gwell i rannu cariad digidol na Dydd Santes Dwynwen.”

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig newidiadau i ddalgylchoedd ei ysgolion uwchradd ac mae wedi lansio rhaglen ymgynghori â’r cyhoeddus gyda dyddiad cau ymatebion o ddydd Gwener 1 Mawrth. Os cytunir arnynt, bydd y cynigion yn effeithio ar ddisgyblion ysgol gynradd yn byw mewn pedair rhan o’r sir – Goetre, Tryleg, Brynbuga a Llandogo – a daw unrhyw newidiadau i rym o ddechrau blwyddyn academaidd 2020/21.

Gall unrhyw un sy’n dymuno ymateb i gynigion y cyngor gwblhau holiadur ymgynghori’r cyngor, sydd ar gael ar ei wefan – www.monmouthshire.gov.uk/catchmentconsultation – neu fynychu un o’r cyfarfodydd ymgynghori a drefnodd y cyngor ym mis Chwefror.

Goetre a’r cylch

Dydd Mawrth, 5 Chwefror am 6pm – Ysgol Gynradd Goetre Fawr

Tryleg a’r cylch

Dydd Mawrth, 12 Chwefror am 6pm – Ysgol Gynradd Tryleg

Llandogo a’r cylch

Dydd Llun, 18 Chwefror am 6pm – Ysgol Gynradd Llandogo

Brynbuga a’r cylch

Dydd Mercher 20 Chwefror am 6pm – Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Brynbuga

Sesiwn galw pob heibio yn ystod y dydd ar gyfer pob ardal

Dydd Iau 14 Chwefror o 9.30am i 11.30am – Neuadd y Sir, Brynbuga

Yn unol â Chod Derbyn Ysgolion Cymru (Gorffennaf 2013), mae’n rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori ar drefniadau derbyn ar gyfer yr ysgolion y mae’n awdurdod derbyn iddynt. Lle cynigir newid trefniadau presennol, yn cynnwys dalgylchoedd ysgolion, mae’n rhaid cynnal ymgynghoriad gyda’r rhai y mae’r cynigion yn debyg o effeithio arnynt.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet Sir Fynwy dros Blant a Phobl Ifanc: “Mae dewis ysgol uwchradd yn benderfyniad pwysig iawn ac emosiynol ar gyfer rhieni. Ni fu fawr o newid mewn dalgylchoedd ysgolion uwchradd ers 1996 ac mae nifer o anomaleddau. Mae’r newidiadau a gynigiwn yn golygu cyn belled ag sydd modd y bydd dalgylchoedd ysgolion cynradd ac uwchradd yn alinio gan olygu y gall grwpiau cyfoedion a ffurfiwyd mewn ysgolion cynradd yn llai tebygol pan fyddant yn symud i ysgol uwchradd. Gobeithiaf y bydd cynifer o breswylwyr ag sydd modd yn cyfrannu at yr ymgynghoriad hwn drwy ysgrifennu neu anfon e-bost neu fynychu ein cyfarfodydd cyhoeddus, fel y gallwn wneud penderfyniad gwybodus fel bod dalgylchoedd yn addas ar gyfer y dyfodol.”

Cyhoeddir adroddiad yr ymgynghoriad erbyn dydd Mercher 27 Mawrth a bydd cabinet Sir Fynwy yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad ac yn cytuno sut i symud ymlaen yn ei gyfarfod ddydd Mercher 3 Ebrill.

Dylai preswylwyr gyda chwestiynau ar y cynigion anfon e-bost at Uned Derbyn y cyngor – accesstolearning@monmouthshire.gov.uk – neu ffonio 01633 644508.

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal dau gyfarfod cyhoeddus gyda’r nos i alluogi preswylwyr i ganfod mwy am gynigion y gyllideb ar gyfer 2019/20. Mae’r cyfarfodydd yn ychwanegol at bedwar cyfarfod Pwyllgorau Ardal a chyfarfod Mynediad i Bawb.

Mae croeso i breswylwyr fynychu Ysgol Brenin Harri VIII ar ddydd Mawrth 29 Ionawr 6.30pm – 7.30pm a Hyb Cas-gwent ddydd Mercher 30 Ionawr 6.30pm – 7.30pm.

Bu’r nifer a fynychodd y cyfarfodydd gyda’r nos yn isel iawn mewn blynyddoedd diweddar ac felly penderfynwyd peidio cynnal cyfarfodydd gyda’r nos. Mae’r cyngor wedi gwrando ar sylwadau preswylwyr ac wedi ychwanegu mwy o gyfarfodydd cyhoeddus.

Gobeithir y bydd y cyfarfodydd hyn yn dod â mwy o bobl i’r broses ymgysylltu a galluogi’r rhai na all ddod i gyfarfodydd y Pwyllgorau Ardal a gynhelir yn ystod y dydd i gymryd rhan a chael eu lleisiau wedi’u clywed.

Dywedodd y Cyng Phil Murphy, Aelod Cabinet dros Gyllid:

‘Gobeithiaf y bydd pobl y sir yn manteisio ar y cyfarfodydd gyda’r nos. Rwy’n croesawu adborth a gobeithio y bydd yr amserau cyfarfod nesaf yn annog mwy o bobl i gymryd rhan.’

I gael mwy o wybodaeth ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/budget-2019-2020  i gael dyddiadau’r Cyfarfodydd Pwyllgorau Ardal a chyfle i lenwi arolwg ar-lein.

 

 

Cododd tri o hybiau cymunedol Sir Fynwy arian ar gyfer achos da tra’n dod â’r gymuned ynghyd drwy gefnogi ymgyrch Dydd Llun Dishgled y Samariaid gyda digwyddiadau codi arian ar ddydd Llun 21 Ionawr.

Roedd gweithgareddau Hyb Cymunedol Brynbuga yn cynnwys siop naidlen yn cynnig te, coffi a theisen yn ogystal â pherfformiad gan Grŵp Canu Brynbuga. Yn ychwanegol, roedd Canolfan Therapi Gwent – sy’n seiliedig ym Mrynbuga – yn cynnig sesiynau tylino pen Indiaidd deg munud yn rhad ag am ddim. Roedd digwyddiadau tebyg yng Nghas-gwent a Threfynwy yn cynnwys te a theisennau, rhannu darllen, gemau bwrdd, lliwio a grŵp Gweu a Chlonc.

Cynigir Dydd Llun Dishgled yn lle ‘Dydd Llun Diflas’ – y trydydd dydd Llun ym mis Ionawr  – yr honnir ei fod yn un o ddyddiau mwyaf anodd y flwyddyn yn hemisffer y gogledd wrth i bwysau ariannol yn dilyn y Nadolig gyd-daro gyda dyddiau tywyll a digalon a lefelau cymhelliant isel. Ond mae’r Samariaid yn dweud nad yw’n rhaid iddi fod felly ac fe wnaethant wahodd cymunedau i drechu felan mis Ionawr drwy gwrdd gyda ffrindiau, perthnasau neu gydweithwyr dros ddishgled i godi arian hollbwysig.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol y cyngor: “Rydym yn falch iawn i gefnogi’r Samariaid wrth wneud gwaith mor werthfawr. Dros y 64 mlynedd ddiwethaf, mae gwirfoddolwyr yr elusen wedi helpu i arbed nifer di-rif o fywydau, ond wrth i’r galw am wasanaethau dyfu, maent fwy o angen cymorth nag erioed. Bydd yr arian a godir yn helpu i gadw llinellau ffôn y Samariaid ar agor a gwirfoddolwyr yn cefnogi pobl mewn angen.”

Ychwanegodd Richard Drinkwater, Rheolwr Hyb Cymunedol: “Dydd Llun Dishgled ac nid Dydd Llun Diflas yw hi yn Sir Fynwy. Rydym yn rhoi amser am ddishgled yn ein hybiau cymunedol i gefnogi’r Samariaid.”

Bydd digwyddiad ymgysylltu cymunedol yn Nhrefynwy ar ddiwedd y mis yn anelu i ddod â preswylwyr a grwpiau lleol ynghyd i adeiladu cysylltiadau newydd a chryfhau rhwydweithiau presennol ar fudd y dref a’r ardal leol. Wedi’i threfnu ar ran y gymuned lleol, fe’i cynhelir rhwng 4:30pm i 8pm ddydd Llun 31 Ionawr yn Ysgol Gyfun Trefynwy a bydd yn cynnwys cyrff cyllido, mudiadau gwirfoddol a thrydydd sector, cymunedau a chyrff statudol. Mae’n dilyn llwyddiant achlysur tebyg yn y Fenni y llynedd.

 Bydd y digwyddiad yn codi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth ardderchog – yn cynnwys cyngor, arweiniad, cyllid a chyfleoedd hyfforddiant – a gynigir i wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ac yn cyflwyno sefydliadau sy’n ceisio cyllid i’r rhai sy’n darparu hynny. Bydd hefyd yn gyfle i ddiolch i unigolion am weithgaredd rhagorol gwirfoddolwyr yn yr ardal.

Bydd y cyfarfod hefyd yn dynodi aelodau ar gyfer grŵp llywio creiddiol i gynhyrchu a chyflwyno cynllun Gweledigaeth ar gyfer Sir Fynwy i gefnogi cynlluniau cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet dros ddatblygu cymunedol ar Gyngor Sir Fynwy: “Rydym yn anelu am gynulliad anffurfiol ac yn croesawu cyfranogiad unrhyw un sy’n byw neu sy’n gweithio yn yr ardal ac yn awyddus i sicrhau ei budd gorau. Rydym eisiau cael cynifer ag sy’n bosibl i ddod ynghyd, gan wybod y gellir cael syniadau gwych drwy siarad gyda’n gilydd.”

Gall unrhyw un sy’n dymuno mynychu gadw lle drwy ymweld â

www.eventbrite.com/e/be-community-networking-event-monmouth-tickets-53995241220 er y bydd y trefnwyr hefyd yn croesawu’r rhai sy’n dod draw gyda’r nos.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Joe Skidmore, Swyddog Cymunedau a Datblygu Partneriaeth Cyngor Sir Fynwy – JoeSkidmore@monmouthshire.gov.uk

Bydd tri o hybiau cymunedol Sir Fynwy yn cefnogi ymgyrch Dydd Llun Dishgled y Samariaid gyda digwyddiadau codi arian ddydd Llun 21 Ionawr.

Mae gweithgareddau Hyb Cymunedol Brynbuga i godi arian yn cynnwys sioe naidlen yn cynnig te, coffi a theisen rhwng 12.30pm a 3pm yn ogystal â pherfformiad gan Grŵp Canu Brynbuga am 12.30pm. Yn ychwanegol, bydd Canolfan Therapi Gwent ym Mrynbuga yn cynnig sesiynau deg munud tylino pen Indiaidd am ddim rhwng 1pm a 3pm.

Cynhelir digwyddiadau tebyg yn Hyb Cymunedol Cas-gwent rhwng 10am a 12 canol-dydd gyda the a theisennau, rhannu darllen a gemau bwrdd. Mae Hyb Cymunedol Trefynwy yn cynnal ei ddigwyddiad rhwng 12 canol-dydd a 3pm, gyda gweithgareddau fel ffilmiau, lliwio a grŵp Gweu a Chlonc.

Cynigir Dydd Llun Dishgled i ateb ‘Dydd Llun y Felan’ – y trydydd dydd Llun ym mis Ionawr – yr honnir ei fod yn un o ddyddiau anoddaf y flwyddyn yn hemisffer y gogledd wrth i bwysau ariannol yn dilyn y Nadolig gyd-daro gyda dyddiau tywyll a diflas a lefelau cymhelliant isel. Ond mae’r Samariaid yn dweud nad yw’n rhaid i bethau fod felly ac maent yn gwahodd i gymuned i gael gwared â felan mis Ionawr drwy gynnull gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr dros ddathled i godi arian hanfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol y cyngor: “Rydym yn falch iawn i gefnogi’r Samariaid wrth wneud gwaith mor werthfawr. Mae gwirfoddolwyr yr elusen wedi helpu i arbed nifer di-rif o fywydau dros y 64 mlynedd diwethaf, ond gyda’r galw am wasanaethau yn tyfu maent angen fwy o gefnogaeth nawr nag erioed. Bydd yr arian a godir yn helpu i gadw llinellau ffôn y Samariaid ar agor a gwirfoddolwyr yn cefnogi pobl mewn angen.”

Bydd Hyb Cymunedol Cas-gwent yn nodi Diwrnod Coffa’r Holocost gyda digwyddiad am 7pm ddydd Iau 24 Ionawr i gofio’r miliynau a laddwyd dan erledigaeth y Natsiaid ac mewn hil-laddiadau dilynol yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Mae croeso i bawb fynychu.

Mae thema eleni, “Rhwygo o gartref” yn canolbwyntio ar sut mae colli man diogel i’w alw’n gartref, a hynny dan orfodaeth, yn rhan o drawma’r rhai sy’n profi erledigaeth a hil-laddiad.

Yn ystod y digwyddiad bydd goroesydd yr Holocost yn gweld cannwyll yn cael ei chynnau a bydd disgyblion Ysgol Cas-gwent yn siarad am eu hymweliad i gyn wersyll-garchar Sachsenhausen yn Berlin. Bydd hefyd ddarn o ffilm o wefan Diwrnod Coffa’r Holocost o oroesydd yn siarad am ei phrofiad o gymryd rhan yn rhaglen achub dyngarol Kinderstransport.

Bydd cyflwyniad byr gan elusen leol cefnogi ffoaduriaid iNEED yn diweddaru’r digwyddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am gydraddoldeb: “Mae Diwrnod Coffa’r Holocost ynglŷn â hyrwyddo cydraddoldeb, parch a dealltwriaeth ac mae’n amser i ni fwrw golwg yn ôl, cofio dioddefwyr erledigaeth a llofruddiaeth a dysgu o’r gorffennol ac adeiladu dyfodol gwell.”

Mae mae o wybodaeth am Ddiwrnod Coffa’r Holocost ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Coffa’r Holocost  http://www.hmd.org.uk

Mae gwasanaeth addysg gymunedol Sir Fynwy wedi trefnu nifer o weithdai priodas ar gyfer y rhai sydd ar fin priodi neu sydd â diddordeb mewn dysgu crefft newydd.

Mae’r gweithdai yn fenter newydd i’r cyngor ac fe’u cynhelir dros dri penwythnos ym mis Chwefror yn Hyb Cymunedol Brynbuga. Bydd chwe sesiwn yn cynnig y gallu i lunio tiara priodasol, creu gwahoddiadau priodas a chynllunio blodau twll botwm yn ogystal â dysgu sgiliau eraill newydd ar gyfer y diwrnod mawr.

Mae’r gweithdai fel sy’n dilyn:

Dydd Sadwrn 2 Chwefror

9.30am i 12.30pm – Dylunio a gwneud tiara priodasol: £15 a deunyddiau

1.30pm i 4.30pm – Blodau clymu â llaw ar gyfer y briodasferch a blodau twll botwm: £55 yn cynnwys deunyddiau

Dydd Sadwrn 9 Chwefror

9.30am i 12.30pm – Gwnio eich gardas priodas: £15 a deunyddiau

1.30pm i 4.30pm – Addurno teisennau bach priodas: £15 a deunyddiau

Dydd Sadwrn 16 Chwefror

9.30am i 12.30pm – Gwahoddiadau priodas/blychau ffafr: £15 a deunyddiau

1.30pm i 4.30pm – Llyfr lloffion priodas: £15 a deunyddiau

 

Mae’n hanfodol archebu; e-bost – uskhub@monmouthshire.gov.uk – neu ffonio 01291 426888.  Mae Hyb Cymunedol Brynbuga yn 35 Stryd Maryport, NP15 1AE ac mae dau faes parcio am ddim gerllaw.

Yn yr wythnosau nesaf bydd preswylwyr ar draws Sir Fynwy yn derbyn blwch ailgylchu newydd ar gyfer gwydr. Yn dilyn prawf ailgylchu gwydr llwyddiannus mewn dros 6,500 o gartrefi yn 2016, bydd aelwydydd ar draws Sir Fynwy yn derbyn blwch ailgylchu newydd ar gyfer poteli gwydr a jariau yn y dyfodol agos. Caiff y blychau ailgylchu gwydr eu casglu bob bythefnos, Ar ôl 4 Mawrth ni chaiff gwydr ei dderbyn mewn bagiau ailgylchu. Bydd gwahanu’r gwydr i flychau yn gwella ansawdd a gwerth yr holl ailgylchu yn y sir.

Ar gyfer mwyafrif y cartrefi, caiff y blychau gwydr eu casglu ar yr un adeg â gwastraff cartref. Mae hyn oherwydd cerbydau newydd gydag adran ar wahân ar gyfer gwydr. Caiff gwydr preswylwyr mewn ardaloedd gwledig ei gasglu ar gerbydau llai all deithio’n rhwydd ar ffyrdd gwledig.

Ar gyfer rhai preswylwyr sy’n byw mewn fflatiau a thai gwarchod, gellir gosod bin olwyn cymunol er cyfleuster. Gellir rhoi blychau gyda dolenni ar gyfer preswylwyr oedrannus ac anabl er mwyn hwyluso cario.

Caiff gwydr Sir Fynwy ei anfon i safle ailbrosesu yng Nghwmbrân cyn cael ei gludo i’w ailgylchu i wydr ffibr, poteli gwydr newydd a chynnyrch concrit.

Bydd ailgylchu mewn bagiau coch a phorffor yn parhau i gael eu casglu’n wythnosol yn ogystal â gwastraff bwyd. Ar gyfer y rhan fwyaf o gartrefi, caiff gwastraff bwyd ac ailgylchu eu casglu ar yr un pryd ond ar gerbydau newydd gydag adrannau ar wahân. Mae ardaloedd gwledig yn debygol o gael eu gwasanaethu gan gerbydau llai.

Bydd y cerbydau newydd gydag adrannau ar wahân ar gyfer deunyddiau yn sicrhau ailgylchu ansawdd gwell ac arbedion cyffredinol. Mae casglu deunyddiau’n wahanol yn golygu y bydd dyddiau casglu yn newid o 4 Mawrth.

Caiff y cyntaf o ddwy daflen newydd eu dosbarthu gyda’r blwch ailgylchu gwydr newydd yn yr wythnosau nesaf a bydd yn rhoi crynodeb o’r llu o ffyrdd y gall preswylwyr ailgylchu.

Bydd yr ail daflen wybodaeth yn cynnwys manylion y dyddiau casglu newydd. Caiff llythyrau eu cyfeirio’n unigol a’u hanfon i gartrefi ar draws y sir.

Dywedodd y Cyng Bryan Jones, Aelod Cabinet Gweithrediadau:

‘Bydd y blychau gwydr newydd yn golygu y gellir ailgylchu gwydr dro ar ôl tro ac arbed adnoddau prin y blaned. Mae preswylwyr bob amser wedi ymateb i’r her o gynyddu ailgylchu pan gyflwynwn wasanaethau newydd a rydym yn hyderus y byddant yn gwneud hynny eto. Rwy’n gobeithio y bydd preswylwyr yn parhau i ailgylchu ac yn croesawu’r newidiadau sydd i ddod.’

Caiff y blychau a’r taflenni eu dosbarthu drwy gydol mis Ionawr a dechrau mis Chwefror. Mae croeso i breswylwyr gysylltu â’r cyngor os na fyddant wedi derbyn blwch erbyn 15 Chwefror drwy ap Fy Sir Fynwy, ymweld â hyb cymunedol neu ffonio 01633 644644.

Bydd pwyllgorau ardal Cyngor Sir Fynwy yn cwrdd y mis hwn i ystyried ymgynghoriad ar y gyllideb a rheoli cyflymder yn ogystal ag eitemau hollbwysig eraill. Caiff aelodau’r cyhoedd eu hannog i fynychu pwyllgorau ardal a chânt gyfle i drafod materion o ddiddordeb.

Mae Pwyllgor Ardal Canol Sir Fynwy yn cynnal ei gyfarfod bythefnos ynghynt i ganiatáu trafodaeth ar y gyllideb a chaiff yn awr ei gynnal am 10am ddydd Mercher 30 Ionawr yn yr Ystafell Gynadledda yn Neuadd y Sir, Brynbuga.

Bydd Pwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy yn cwrdd am 1pm ddydd Mercher 30 Ionawr yn Neuadd y Dref, y Fenni yn hytrach na Neuadd Pentref Llan-ffwyst gan fod aelodau ychwanegol o’r cyhoedd yn debygol o fynychu ar gyfer ymgynghoriad y cyngor ar y gyllideb.

Bydd Pwyllgor Ardal Glannau Hafren yn cwrdd yn Nhŷ Arloesedd, Magwyr ym Mharc Busnes Cymru 1 ddydd Mercher 23 Ionawr. Mae hyn yn newid o’r amser a hysbysebwyd yn flaenorol.

Yn y cyfamser, bydd Pwyllgor Ardal Gwy Isaf yn cwrdd fel yr hysbysebwyd am 10am ddydd Mercher 23 Ionawr yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent.

Caiff y pedwar pwyllgor ardal eu cadeirio gan y Cynghorydd Matt Feakins (Canol Sir Fynwy), y Cynghorydd Maureen Powell (Gogledd Sir Fynwy), y Cynghorydd David Evans (Glannau Hafren) a’r Cynghorydd David Dovey (Gwy Isaf). Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y cadeiryddion: “Rydym yn estyn gwahoddiad cynnes i gymunedau’r sir i fynychu pwyllgorau ardal y cyngor a gynhelir bob tri mis a chodi ymwybyddiaeth o faterion lleol tra’n derbyn gwybodaeth bwysig yn ogystal â rhoi adborth gwerthfawr i gynghorwyr.”

Bydd yr agenda ar gyfer pob pwyllgor ar gael ar wefan Cyngor Sir Fynwy wythnos cyn y dyddiad y’u cynhelir. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: https://www.monmouthshire.gov.uk/home/democracy-councillors.

 

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i dderbyn adborth fydd yn llywio a newid y ffordd y mae’n darparu gwasanaethau i bobl sy’n byw gyda dementia.

Bwriad y digwyddiadau Dweud Eich Barn ar Ddiwrnod Dementia yw casglu gwybodaeth am brofiadau pobl gyda dementia, eu gofalwyr, cyfeillion, teuluoedd a phrofiadau pobl sy’n gweithio yn y maes. Bydd croeso i aelodau’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol fynychu a bydd pwyslais ar greu prosiectau newydd ac arloesol.

Cynhelir y digwyddiadau fel sy’n dilyn:

  • Dydd Mercher 16 Ionawr: Canolfan Gymunedol Bulwark, Casgwent – 10am i 12 canol-dydd
  • Dydd Mawrth 22 Ionawr: Swyddfeydd Tref Cil-y-coed – 2pm i 4pm
  • Dydd Mercher 23 Ionawr: Canolfan Bridges, Trefynwy – 10am i 12 canol-dydd
  • Dydd Mercher 13 Chwefror: Maryport Centre, Brynbuga – 10am i 12 canol-dydd

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros ofal cymdeithasol, diogelu ac iechyd: “Mae digwyddiadau Dweud Eich Barn ar Ddiwrnod Dementia yn anelu bod yn achlysuron hwyliog a rhyngweithiol yn galluogi ystod eang o bobl i fynegi eu sylwadau a’u barn. Edrychwn ymlaen at i bobl ein helpu i lunio dyfodol ein gwasanaethau i bobl yn byw gyda dementia.”

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Fred Weston (ardaloedd Cas-gwent a Chil-y-coed) ar 07890 559566 neu Ashley Morgan (ardaloedd Y Fenni, Brynbuga a Threfynwy) ar 07971 160455.

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal cyfarfod arbennig o Fforwm Mynediad i Bawb ar y Gyllideb ddydd Gwener 25 Ionawr rhwng 10.30am – 12.30pm yn y Neuadd Goffa, Brynbuga.

Bydd y fforwm yn canolbwyntio ar gynigion cyllideb Cyngor Sir Fynwy yn effeithio ar breswylwyr bregus. Yn y digwyddiad bydd pobl gydag anableddau, rhieni plant gydag anableddau a phobl hŷn o bob rhan o Sir Fynwy yn clywed gan swyddogion y cyngor am gynigion y gyllideb a bydd yn gyfle i ofyn cwestiynau.

Mae’r Fforwm yn llwyfan gwerthfawr i alluogi pobl i gael eu llais wedi’i glywed, cael gwybodaeth a chyfrannu a brosesau ymgynghori ac ymgysylltu.

Caiff fforwm Mynediad i Bawb ei gefnogi a’i gydlynu gan Tony Crowhurst. Mae Tony yn eiriolydd dros hawliau unigolion gydag anableddau. Bydd cyfarfodydd y dyfodol o Mynediad i Bawb yn canolbwyntio ar amrywiaeth o themâu sy’n bwysig i grwpiau bregus a difreintiedig a bydd yn cynnwys arian, tai, iechyd a phobl ifanc i’r anabl.

Mae croeso i bawb yn cynnwys unigolion a grwpiau sydd wedi mynychu Fforymau Mynediad i Bawb yn flaenorol.

Bydd y diwrnod yn cychwyn am 10.30am ac yn cynnwys lluniaeth, ac mae cludiant am ddim hefyd ar gael. Mae lleoedd parcio ar gael yn y lleoliad: Neuadd Goffa Brynbuga, Maes Parcio De, Stryd Maryport, Brynbuga NP15 1AD.

Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: ‘Bydd y digwyddiad yn gyfle i’n preswylwyr mwyaf bregus i gael eu lleisiau wedi’u clywed, rhannu syniadau ac awgrymiadau a chael gwybodaeth am bethau sy’n effeithio arnynt. Os na all preswylwyr ddod draw, mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y cyngor lle mae arolwg ar gael i roi sylwadau.’

I gael cludiant cysylltwch â Rhian Cook erbyn dydd Gwener 18 Ionawr, e-bost:

rhiancook@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01633 644364

Mae mwy o wybodaeth am gynigion y gyllideb ar gael yn www.monmouthshire.gov.uk/budget-2019-2020

Lansiodd Cyngor Sir Fynwy ei ddrafft gynigion cyllideb a phroses ymgysylltu dydd Mercher 19 Rhagfyr. Cafodd ei gynigion eu llunio mewn amgylchiadau heriol lle mae’r cyngor yn parhau i wynebu heriau ariannol sylweddol, yn nhermau gostyngiad pellach yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â phwysau sylweddol na fedrir eu hosgoi.

Nod y cynigion cyllideb hyn yw cefnogi blaenoriaethau’r cyngor. Yn benodol, maent yn anelu i gydnabod yn llawn yr holl bwysau cysylltiedig â chyflogau a phensiynau yn ei system ysgolion a’r galw cynyddol ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant. Mae cynigion y gyllideb yn gweld parhad o barodrwydd y cyngor i herio pob gwasanaeth i wella yn hytrach na gweld cau gwasanaethau sy’n bwysig i ddinasyddion. Mae cydnabyddiaeth nad yw pethau byth yn dychwelyd ar ôl eu cau a’u bod yn well cwtogi yn hytrach na dileu’n llwyr. Mewn termau cyffredinol, mae tua £5.7 miliwn o bwysau newydd na fedrir eu hosgoi oedd angen darparu amdanynt yng nghyllideb 2019/20.

Nid yw byth yn boblogaidd codi tâl am wasanaethau ond y gwirionedd yw fod angen i’r cyngor wneud hynny. Mae’n cynnig cynnydd mewn nifer o feysydd. Yn yr un modd, nid yw cynyddu treth gyngor byth yn boblogaidd ond gyda gostwng cyllid Llywodraeth Cymru, mae trethiant lleol yn ddiofyn yn gorfod ysgwyddo cyfran fwy o gyllid cyffredinol. Mae’r cynigion cyllideb hyn yn tybio cynnydd yn y dreth gyngor o 5.95% ar gyfer 2019/20 a 3.95% ar gyfer gweddill blynyddoedd y cyngor.

Bydd y cynigion yn arwain at newidiadau mewn nifer o feysydd a allai effeithio ar breswylwyr. Mae’r newidiadau arfaethedig yn cynnwys:

• Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu Cartref – bydd y cyngor yn cyflwyno defnydd trwyddedau ar gyfer preswylwyr Sir Fynwy. Ni chodir tâl am drwydded. Y nod yw gostwng defnydd gan y cyhoedd o siroedd cyfagos. Yn eu tro, bydd y trwyddedau’n gostwng yr amserau aros yn safleoedd sir Fynwy ar gyfer preswylwyr. Mae’r cyngor hefyd yn ystyried cau am ddiwrnod cyfyngedig yn ei ganolfan ailgylchu, gyda’r patrwm a gynigir yn osgoi cau ar benwythnosau.
• Bagiau ailgylchu – cynigion i gyflwyno bagiau plastig polypropylen gwydn newydd y gellir eu hailddefnyddio fydd yn golygu diwedd bagiau un-tro coch a phorffor. Bydd hyn yn gwella ansawdd y deunydd a gesglir i’w ailgylchu ymlaen yn ogystal â defnydd plastig defnydd un-tro. Bydd y bagiau yn dal mwy o ailgylchu ac yn ysgogi cynnydd mewn ailgylchu o ddrws i ddrws.
• Ailgylchu gwastraff bwyd – sy’n mynd ati i gynyddu ac annog mwy o gartrefi i ailgylchu gwastraff bwyd yn defnyddio bagiau plastig wedi’u hailgylchu.
• Newidiadau i ffioedd parcio ceir – lle mae cynigion yn cynnwys newidiadau i’r system bresennol o godi tâl a chyflwyno ffioedd yng Nghyffordd Twnnel Hafren.
Mae rhestr gynhwysfawr o’r cynigion ar gael ar y wefan: www.monmouthshire.gov.uk/budget-2019-2020

Bydd amrywiaeth o gyfleoedd ymgysylltu ar gael i roi cyfle i breswylwyr glywed am y drafft gynigion a chyd-destun ehangach y gyllideb ar gyfer y cyngor a galluogi preswylwyr i rannu eu sylwadau hefyd.

Defnyddir cyfarfodydd wyneb i wyneb gyda grwpiau yn cynnwys grwpiau anabledd, pobl hŷn a phobl ifanc, gwefan y cyngor, ei sianeli cyfryngau cymdeithasol, pwyllgorau dethol ac ymweliadau i gynghorau tref a chymuned. Mae croeso i breswylwyr fynychu’r sesiynau i sicrhau dealltwriaeth o’r gyllideb a’r effaith ar gymunedau.

Cynhelir y digwyddiadau ymgysylltu dilynol gyda mwy i ddilyn:
• Fforwm Mynediad i Bawb – Cyfarfod arbennig ar y Gyllideb, dydd Gwener 11 Ionawr, 10am i 12pm yn Neuadd y Sir, Brynbuga. Mae’r fforwm yn gyfle a llwyfan gwerthfawr i alluogi pobl gydag anableddau, rhieni plant gydag anableddau a phobl hŷn o bob rhan o Sir Fynwy i gael eu lleisiau wedi’u clywed, derbyn gwybodaeth a chyfrannu at brosesau ymgynghori ac ymgysylltu.

Mae croeso i gymunedau fynychu fforymau pwyllgor ardal i glywed gwybodaeth yn seiliedig ar eu hardal.
• Pwyllgor Ardal Gwy Isaf 23 Ionawr 10am, Canolfan Hamdden Cas-gwent
• Pwyllgor Ardal Glannau Hafren 23 Ionawr 10am, Tŷ Arloesedd, Magwyr
• Pwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy 30 Ionawr, Neuadd Pentref Llan-ffwyst 1pm
• Pwyllgor Ardal Canol Mynwy 31 Ionawr 4pm, Ysgol Gyfun Trefynwy

Dywedodd y Cyng Peter Fox OBE, Arweinydd y Cyngor:
“Rwy’n annog preswylwyr i fanteisio ar y cyfle i edrych ar ein cynigion. Cawsom ein taro gan setliad Llywodraeth Cymru ers nifer o flynyddoedd ac nid yw eleni yn ddim gwahanol. Byddwn yn parhau i wneud ein gorau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer ein cymunedau ond gyda hyn daw heriau a newidiadau. Rwy’n annog preswylwyr i ddarllen am y newidiadau a dod draw i fforwm neu gyfarfod i glywed sut ydym yn gweithio i wneud arbedion, dim colli gwasanaethau.”

Mae arolwg ar gael i rannu adborth – ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/budget-2019-2020

 

Cyngor yn edrych am rieni maeth i newid bywyd plentyn neu berson ifanc mewn modd cadarnhaol

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau galw heibio yn y Flwyddyn Newydd fel y gall pobl sydd â diddordeb mewn maethu sgwrsio am y dewisiadau sydd ar gael. Mae Ionawr yn amser ar addunedau Blwyddyn Newydd a dechrau newydd felly mae’r cyngor yn annog pobl sy’n ystyried maethu i gysylltu â nhw oherwydd fod plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy angen cartrefi heddiw.

Cynhelir y digwyddiadau yn Neuadd y Sir, Trefynwy ddydd Iau 10 Ionawr, Gwesty’r Angel yn y Fenni ddydd Iau 17 Ionawr a Gwesty St Pierre Marriott ger Cas-gwent ddydd Iau 24 Ionawr. Bydd pob digwyddiad yn rhedeg rhwng 10am a 12pm gyda sesiwn bellach rhwng 6pm a 8pm.

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ei wasanaeth maethu: “Os ydych eisoes wedi ystyried maethu, dewch i siarad gyda ni – ni fydd yn flin gennych wneud hynny. Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth ardderchog i ofalwyr maeth ac mae mor werth chweil. Gallai hon fod y flwyddyn y byddwch yn trawsnewid bywyd plentyn neu berson ifanc.”

Tecstiwch y gair “Foster” i 84222 neu edrych ar www.monmouthshire.gov.uk/fostering i gael mwy o wybodaeth.

Mae’n bleser mawr gennyf fel Cadeirydd Sir Fynwy ddymuno Blwyddyn Newydd hapus iawn i gymunedau’r sir. Gobeithiaf i chi gyd fwynhau dathliadau’r Nadolig.

Mae fy nhymor yn y swydd yn dechrau ar ei ail hanner gyda fy ngwraig Jan a finnau’n bwrw golwg yn ôl ar amser prysur iawn, diddorol a hyfryd. Rydym wedi mynychu llawer o ddigwyddiadau dros yr wyth mis diwethaf – rhai’n deimladwy a rhai’n talu teyrnged i wasanaeth ddiflino – ac mae’n anrhydedd a phleser mawr i gynrychioli’r sir yn y ffordd hon.

Wrth i ni deithio o amgylch Sir Fynwy yn siarad gydag ysgolion, busnesau a sefydliadau eraill cawsom yr argraff fod cymunedau’r sir wedi eu bendithio gyda chydnerthedd. Mae ganddynt safbwynt cadarnhaol ac yn dymuno symud ymlaen gyda’u bywydau, gan fod yn fodlon rhoi help llaw lle mae angen. Enghreifftiau o hyn yw gwaith gwych gwirfoddolwyr wrth iddynt gysylltu gyda’r cyngor er budd cymunedau’r sir a chyfranogiad gwych ein preswylwyr i sicrhau fod ein gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu ymysg y gorau yng Nghymru.

Ymysg y seremonïau y gwnaethom eu mynychu fu agoriad swyddogol yr ysgol gyfun o’r math diweddaraf un yng Nghil-y-coed, lansio gardd synhwyraidd yng Nghartref Preswyl Severn View yng Nghas-gwent a digwyddiad lle gwnaethom gydnabod cyfraniad amhrisiadwy gofalwyr maeth y sir.

Roedd yn llawenydd i ni fynychu’r seremoni yn ailenwi Ail Groesiad yr Hafren fel Pont Tywysog Cymru a chwrdd â’i Huchelderau Brenhinol, Tywysog Cymru a Duges Cernyw. Gobeithiaf y caiff diddymu tollau diweddar ar ddwy bont yr Hafren effaith gadarnhaol ar economi a diwylliant Sir Fynwy, gan dynnu pobl ynghyd o ddwy ochr yr aber.

Cafodd rôl y lluoedd arfog sylw amlwg mewn blwyddyn pan fuom yn nodi can mlynedd ers y Rhyfel Mawr. Fe wnaethom gynrychioli’r sir mewn nifer o seremonïau coffa teimladwy ym mis Tachwedd a chroesawu personél yr RAF i Neuadd y Sir ym mis Mai i ddathlu sefydlu’r gwasanaeth yn 1918. Roeddwn yn falch iawn i ymweld â HMS Monmouth ar arfordir y de bum mis yn ôl ac edrychaf ymlaen at groesawu aelodau’r criw i Neuadd y Sir yn y gwanwyn.

Yr elusen a ddewisais yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd yw Cerddoriaeth Gwent sydd wrth galon cerddoriaeth yn Ne Cymru ac yn wasanaeth cerddoriaeth blaengar yn y Deyrnas Unedig. Roeddem yn falch iawn i fynychu achlysur o fri pan berfformiodd Cerddorfa Wynt Ieuenctid Gwent yn y Royal Albert Hall ym mis Tachwedd. Yn ychwanegol, bu Cerddoriaeth Gwent yn diddanu drwy gydol y dydd ym mhafiliwn y cyngor yn Sioe Brynbuga fis Medi diwethaf. Gobeithiaf y bydd yr arian a godwyd yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd (a ddaw i ben ym mis Mai) o fudd i’r gwasanaeth, gan ei alluogi i barhau ei waith da.

Wrth i 2019 gyrraedd, gofynnwn i chi gydnabod a choleddu’r dyletswyddau amhrisiadwy a wnaed gan y rhai sy’n ein gwasanaethu, ein diogelu a gofalu dros ein preswylwyr bregus. Gobeithio y gallwn hefyd ganfod atebion i’r brwydro sy’n digwydd ar draws y byd.

Yn derfynol, gobeithiaf eich bod yn edrych ymlaen at y Flwyddyn Newydd a hoffwn estyn y dymuniadau gorau ar gyfer iechyd a da a ffyniant yn y deuddeg mis nesaf.

Bydd cymorthfeydd galw-heibio am ddim a gynhelir gan Fanc Datblygu Cymru, Busnes Cymru a Chyngor Sir Fynwy ym mis Ionawr yn anelu i helpu entrepreneuriaid a pherchnogion busnesau i ddarganfod mwy am gyllid ar gyfer twf.

Cynhelir cymorthfeydd galw-heibio Tyfu eich Busnes yng Nghil-y-coed ddydd Mawrth 22 Ionawr rhwng 9am a 5pm gyda slotiau apwyntiad 30 munud ar gael ar sail un-i-un. Bydd Tara Lee-Fox, gweithredydd buddsoddiad benthyciadau micro, yn bresennol ym Mharc Busnes Porth y Castell (NP26 5AD) y dref i drafod yr ystod cyllid sydd ar gael.

Dywedodd Ms Lee-Fox: “Rydym yn helpu busnesau i dyfu drwy ddarparu benthyciadau hyblyg sy’n gyflym a syml cael mynediad iddynt a gellir defnyddio’r cyllid hwn i gyllido prynu stoc, cyfarpar, offer neu safle. Gallai hefyd gefnogi llif arian ar gyfer prynu busnes arall.

“Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Fynwy a Busnes Cymru, medrwn ddarparu benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gyfer busnesau lleol. Mewn gwirionedd, os ydych yn fusnes sydd wedi ennill ei blwyf yn edrych am fenthyciad o hyd t £10,000, gallwn roi penderfyniad i chi mewn dim ond dau ddiwrnod gwaith.

“Rydym yn awyddus i siarad gyda chynifer o berchnogion a rheolwyr busnes lleol ag sydd modd felly byddai croeso mawr i chi yn ein cymorthfeydd galw-heibio.”

I archebu slot 30 munud dylai busnesau anfon e-bost at Tara.Lee-Fox@developmentbank.wales erbyn dydd Llun 14 Ionawr.

Ychwanegodd y Cynghorydd Bob Greenland, Aelod Cabinet Menter Cyngor Sir Fynwy: “Rydym yn awyddus i gefnogi ac annog twf busnesau a chreu swyddi. Rydym yn falch iawn i argymell y gweithdai defnyddiol hyn i unrhyw un sy’n gobeithio hybu eu busnes eu hunain.”

Mae cefnogaeth dros 18 mis gan Ganolfan Hamdden Cil-y-coed a thîm Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy wedi galluogi clwb lleol i dyfu a hyrwyddo noson ragorol o focsio. Trefnodd Clwb Bocsio Amatur Sant Joseff yng Nghil-y-coed ei sioe gyntaf erioed yn ddiweddar gyda chynulleidfa o 350 yn y ganolfan hamdden gyda 16 gornest gyda chystadleuwyr o bob oedran yn arddangos eu sgiliau a gwybodaeth. Cafodd y clwb cartref ei gynrychioli mewn wyth gornest gan wynebu gwrthwynebwyr o mor bell i ffwrdd â Birmingham.

Un o’r cystadleuwyr oedd Scott Marchant, 16 oed, oedd yn ymddangos am y tro cyntaf dros glwb Sant Joseff. Er i’r meddyg ddod â’i ornest yn erbyn Tyler Evans o Gilfach Goch i ben yn gynnar, roedd Scott wrth ei fodd gyda phob munud. Dywedodd: “Dyma’r sioe focsio orau i mi fod ynddii erioed ac mae hyd yn oed yn well fy mod yn y cylch. Rwyf wedi bod yn bocsio yng Nghil-y-coed am flwyddyn a dyma’r penderfyniad gorau i mi ei wneud. Dwi ddim yn teimlo embaras i ddweud ei bod yn debyg y byddwn mewn llawer o helynt erbyn hyn oni bai am y clwb yma. Mae’n debyg fy mod wedi diflasu a bob amser yn edrych am rywbeth i’w wneud – ac nid oedd fy holl ddewisiadau yn rhai da. Mae bocsio yn rhoi ffocws i mi ac yn codi’r awydd i mi wella fy hun. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr un nesaf – rwy’n mynd i hyfforddi’n galetach ac yn gyflymach.”

Ni fedrai Martin Lewis, sefydlydd a hyfforddydd y clwb fod yn hapusach gyda’r noswaith. Dywedodd: “Hyd yn oed er na chawsom bob penderfyniad a ddymunem, roedd llawer o’r bechgyn yn ein cynrychioli am y tro cyntaf ac rydym yn falch o berfformiad pawb a’r ffordd maent yn gweithio yn y gampfa. Mae gennym drefniant gwych ac awyrgylch cyfeillgar – mae’n lle gwych i’r bobl ifanc yma dreulio eu hamser. Roedd y sioe yn anhygoel ac yn bendant doedd ddim yn teimlo’n amatur iawn! Roedd y trefnu proffesiynol yn golygu fod yn rhaid i’r bechgyn gamu lan. Alla’i ddim aros am yr un nesaf.”

Dywedodd Nathan Thomas o dîm Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy: “Rydyn ni wedi cefnogi’r clwb ers iddo ddechrau a daeth ymhell yn y cyfnod hwnnw. Mae Martin a’i dîm wedi gwneud gwaith gwych yn cymell bobl ifanc leol i fynd ati i focsio. Roedd y sioe yn rhagorol ac yn ymdrech wych ar y cyd rhwng y clwb, ein tîm a’r ganolfan hamdden. Rydym yn edrych ymlaen at fwy o’r un peth!”

Mae cyllid o gynllun tocynnau archfarchnad leol wedi cyfrannu at gyfleuster oedd ei fawr angen yn Ysgol Tŷ Mounton ar ôl i gwsmeriaid yn stôr Tesco yng Nghas-gwent godi £4,000 at ystafell therapi a synhwyraidd newydd. Bydd y rhodd hael er budd anghenion disgyblion, yn arbennig eu llesiant.
Mae’r ysgol hefyd wedi manteisio ar brosiect rhannu bwyd Tesco yn rhoi cyfle i fudiadau dderbyn cynnyrch sy’n agosáu at ei ddyddiad gwerthu i’w ddefnyddio mewn dosbarthiadau coginio. Mae sesiynau coginio ddwywaith yr wythnos yn hyrwyddo sgiliau bywyd a bwyta’n iach yn ogystal â dod â disgyblion a staff yn nes at ei gilydd i fwynhau gwledd yn ystod amserau egwyl.
Diolchodd Beverley Randall, pennaeth yr ysgol, i Tesco am y cyllid a’r rhaglen rhannu bwyd. Dywedodd: “Rydym yn ddiolchgar iawn am y grant gwych at ein hystafell therapi a synhwyraidd a hefyd y cynhwysion ar gyfer ein sesiynau coginio. Mae snaciau iach amser egwyl wedi bod o fudd i ddisgyblion – yn arbennig y rhai na chafodd frecwast – a maent yn cael effaith gadarnhaol ar eu dysgu.”
Cyfrannodd gynrychiolwyr o stôr Tesco yng Nghas-gwent hamper Nadolig sylweddol i’r disgyblion eu rannu. Fe wnaethant hefyd yn ymweld â Tŷ Mounton i weld yr ystafell therapi newydd drostynt eu hunain yn ogystal â phrosiectau coginio gyda’r ysgol a Tesco yn awyddus i gydweithio ar gynlluniau yn y dyfodol.
Yn y cyfamser, mae rhieni, staff a disgyblion wedi casglu amrywiaeth o eitemau ar gyfer hamperi Nadolig a ddosbarthwyd gan Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghasnewydd.
Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet Sir Fynwy dros Blant a Phobl Ifanc: “Mae’n wych i Ysgol Tŷ Mounton gael cymaint o fudd o ddau gynllun gan Tesco a hoffwn ddiolch yn gynnes i’r stôr am eu cyfraniadau gwerthfawr. Rwyf hefyd yn falch y daeth cymuned yr ysgol ynghyd i ddod â hwyl yr ŵyl i rai llai ffodus.”

Bydd dros 220 o blant sy’n derbyn gofal a phlant bregus o Sir Fynwy yn derbyn anrheg Nadolig diolch i haelioni nifer o bobl dros yr ŵyl. Trefnwyd y cynllun gan dîm Gwasanaethau Plant y cyngor.

Cafodd anrhegion Nadolig creadigol a gwych eu cyfrannu gan glwb cic focsio Verve y Fenni, cwsmeriaid o Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, Curtis Legal Cyf o Drefynwy a disgyblion o Ysgol Baratoadol St John’s on the Hill, Cas-gwent mewn cysylltiad ag Eglwys Priordy Santes Fair yn ogystal â nifer o gynghorwyr Sir Fynwy. Yn ychwanegol, lluniodd gweithwyr cymdeithasol y cyngor gwilt gwych a wnaed â llaw ar gyfer raffl gyda’r elw’n mynd tuag at brynu anrhegion.

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am blant sy’n derbyn gofal: “Rwy’n ddiolchgar tu hwnt am yr holl anrhegion gwych a gafwyd diolch i gyfraniadau bendigedig gan y gymuned. Bydd yr anrhegion hyn yn dod â gwên i wynebau ein plant mwyaf bregus.

“Roeddwn hefyd yn falch iawn i weithio gyda chyd-gynghorwyr a wnaeth brynu a lapio anrhegion ar gyfer plant a phobl ifanc benodol.”

Mae maint y gefnogaeth a gafwyd wedi synnu aelodau’r tîm Gwasanaethau Plant a fu’n mwynhau dosbarthu’r anrhegion o amgylch y sir yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Cafodd rôl gwirfoddolwyr sy’n cefnogi gwasanaeth Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant a Ieuenctid Sir Fynwy ei ddathlu mewn digwyddiad yn Neuadd y Sir, Trefynwy yn ddiweddar. Mae bron 200 o bobl, yn amrywio o bobl ifanc brwdfrydig yn eu harddegau i bobl angerddol dros bedwar ugain oed, yn rhoi eu hamser, ymroddiad, sgiliau a phrofiad bywyd i gefnogi amrywiaeth eang y cyngor o atyniadau a gaiff eu rhedeg gan y gwasanaeth amgueddfeydd, y gwasanaeth ieuenctid, tîm datblygu chwaraeon, gwasanaeth cefn gwlad a chanolfan ymwelwyr Hen Orsaf y Tyndyrn.

Mynychwyd y digwyddiad gan 60 o wirfoddolwyr yn ogystal â staff ac uwch reolwyr.

Mae gwirfoddolwyr yn ased hanfodol ar gyfer Cyngor Sir Fynwy ac mae’r awdurdod yn cynnig cyfleoedd, hyfforddiant, cefnogaeth ac arweiniad i sicrhau fod gwirfoddoli yn brofiad gwerthfawr a difyr. Er bod gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i gymdeithas, gallant hwythau fanteisio yn eu tro o gymryd rhan gan ei fod yn cynyddu eu hyder a’u helpu i ddod yn fwy galluog a chynyddu eu dealltwriaeth cyfeillgarwch, yn ogystal â sicrhau gwell ymdeimlad o ddiben.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol a datblygu cymunedol Cyngor Sir Fynwy: “Rwy’n gwirioneddol werthfawrogi cefnogaeth barhaus ac egni, amser ac ymroddiad diflino gwirfoddolwyr, sy’n ein galluogi i ddarparu cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer ein cymunedau. Mae gwirfoddolwyr yn rhannu miloedd o oriau ar draws ein sir, gan wella bywydau pobl a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Mae eu hymdrechion yn gwneud Sir Fynwy yn lle gwych i fyw ynddo ac yn gyfoethocach oherwydd eu heffeithiau buddiol.”

Ychwanegodd Ian Saunders, Pennaeth Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant ac Ieuenctid: “Mae ein gwirfoddolwyr yn gweithio gyda’n gwasanaeth Cefn Gwlad i sicrhau bod ein hawliau tramwy yn hygyrch ar gyfer cerddwyr tra mae’r rhai sy’n cynorthwyo ein staff amgueddfeydd yn catalogio hanes, gan ei sicrhau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gofalu am y tiroedd hanesyddol a llywio pobl o amgylch ein casgliadau ac arddangosfeydd. Enghreifftiau nodedig eraill yw’r cynorthwywyr parod eu cymorth yn Hen Orsaf y Tyndyrn sy’n rhedeg y trên bach ac yn trosglwyddo eu gwybodaeth werthfawr o’r ardal leol yn ogystal â’r gwirfoddolwyr ifanc hynny sy’n cefnogi amrywiaeth o weithgareddau i annog eu cymheiriaid i fod yn egnïol tra’n mwynhau chwaraeon a hamdden.”

Cysylltwch â Richard Poynter – richardpoynter@monmouthshire.gov.uk – neu ffonio 07976 837613 i gael mwy o wybodaeth ar wirfoddoli gyda Chyngor Sir Fynwy.

Dechreuodd y cyfan gyda thrydariad! Gwahoddwyd disgyblion Ysgol Gynradd Gilwern i Ddepo Llan-ffwyst Cyngor Sir Fynwy ar ôl anfon neges drydar i’r cyngor yn holi am raeannu a thywydd y gaeaf.
Yn gynnar ym mis Rhagfyr cymerodd disgyblion blwyddyn pump ran mewn gwers wyddoniaeth am iâ a halen. Cododd y wers lawer o gwestiynau. Roedd y disgyblion yn awyddus i holi’r bobl fyddai’n gwybod orau felly gyda help eu hathrawes Mrs Parry anfonwyd neges drydar @MonmouthshireCC.
Roedd y parodrwydd i drydaru yn deillio o ymagwedd yr ysgol at ddysgu. Mae dysgu dan arweiniad disgyblion wedi’i sefydlu o fewn yr ysgol. Mae disgyblion yn rhan o’r broses cynllunio ac roeddent yn ystyried trydaru fel ffordd o gysylltu ar unwaith gyda’r cyngor. Mae dysgu dan arweiniad disgyblion yn golygu bod plant yn ymgolli yn beth bynnag y mae ganddynt ddiddordeb ynddo a’r hyn maent yn dysgu amdano.
Cysylltodd Tîm Cyfathrebu Cyngor Sir Fynwy yn gyflym gyda’r adran Priffyrdd a sicrhau ymweliad i depo Llan-ffwyst. Fe wnaeth yr ymweliad alluogi disgyblion i weld drostynt eu hunain pam fod graeannu mor bwysig mewn iâ. Mae’r profiad hefyd yn enghraifft o brofiad dysgu dilys y mae’r ysgol yn anelu gwneud cymaint ohono ag sydd modd gan alluogi’r plant i gael dealltwriaeth ddofn o bethau newydd.
Cafodd y disgyblion eu cyfarch gan Steve Lane, Rheolwr Priffyrdd; Andrew Welsh, Rheolwr Gweithrediadau a Mark Robinson, Dirprwy Fforman yn y depo. Gwisgodd disgyblion eu siacedi melyn a gofyn llawer o gwestiynau i’r tîm. Esboniodd Steve y broses raeannu, a rhannu gyda’r grŵp y milltiroedd lawer o briffordd y mae cerbydau graeanu yn gofalu amdanynt pan mae’r tymheredd yn gostwng.
Mae Ysgol Gynradd Gilwern yn ymfalchïo mewn creu profiad dysgu sy’n cyfoethogi. Yn yr un modd â phob ysgol ar draws Cymru, mae’r ysgol yn defnyddio cwricwlwm seiliedig ar STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) i addysgu ac ysbrydoli disgyblion yn defnyddio pedair disgyblaeth benodol.
Roedd yr ymweliad yn llwyddiant mawr gyda’r disgyblion a’r staff yn cael y profiad hefyd yn enghraifft o brofiad dysgu go iawn sy’n galluogi’r plant i gael dealltwriaeth ddofn o bethau newydd.
Dywedodd Euan ac Alice, disgyblion Blwyddyn 5:
‘Roedd yn gyffrous canfod sut mae pethau’n gweithio mewn bywyd go iawn.’
‘Fe wnes fwynhau dysgu am sut mae halen yn cadw ein ffyrdd yn ddiogel’.
Dywedodd y Cyng Richard John, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc:
‘Mae hyn yn enghraifft wych o sut mae’n hysgolion yn gweithio i sicrhau’r addysg orau ar gyfer plant a phobl ifanc yn sir Fynwy. Mae disgyblion angen dealltwriaeth o fywyd tu allan i’r ystafell ddosbarth a bydd y profiad hwn yn hybu eu gwybodaeth a helpu i gymhwyso gwyddoniaeth i fywyd go iawn sy’n ganolog at ddysgu a byw yn y dyfodol.
Hoffwn ddiolch i staff Depo Llan-ffwyst am hwyluso’r ymweliad.”

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud cynlluniau wrth gefn i sicrhau fod gwasanaethau hanfodol ar gael drwy gydol cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Yn ychwanegol, mae wedi cyhoeddi amserau agor ar gyfer ei ganolfannau hamdden, amgueddfeydd, hybiau cymunedol, llyfrgelloedd, canolfan gyswllt a chanolfannau gwastraff ac ailgylchu cartrefi.

Bydd nifer o wasanaethau’r cyngor yn rhedeg drwy gydol cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Bydd y tîm prydau cymunedol a staff gofalu yn gweithio bob dydd yn cynnwys Dydd Nadolig tra bydd nifer o weithwyr cymdeithasol ar ddyletswydd gydag eraill ar alwad ar sail 24 awr.

Bydd timau graeanu’r cyngor yn barod drwy gydol cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd i weithio pryd bynnag mae ffyrdd angen eu trin. Caiff staff priffyrdd eu cynorthwyo gan gydweithwyr o dimau tiroedd a gwastraff ac ailgylchu y cyngor os oes angen. Bydd staff cynnal a chadw yn Nepo Rhaglan y cyngor hefyd ar gael i sicrhau fod cerbydau’n gweithio’n iawn a bydd aelodau tîm y Gwasanaethau Eiddo ar alwad i ddiogelu adeiladu a seilwaith.

Gwnaed trefniadau ar gyfer casglu gwastraff ac ailgylchu dros y gwyliau a chyhoeddir hyn ar wefan y cyngor – gweler www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste am fanylion. Ni fydd unrhyw gasgliadau ar Ddydd Nadolig neu Gŵyl San Steffan felly caiff gwastraff ac ailgylchu oedd i fod i gael eu codi ddydd Mawrth 25 Rhagfyr i ddydd Gwener 28 Rhagfyr ddeuddydd yn ddiweddarach nag arfer. Nid oes unrhyw gasgliad wedi ei drefnu ar gyfer Dydd Calan chwaith, felly caiff gwastraff ac ailgylchu oedd i’w godi rhwng 1 Ionawr a 4 Ionawr un diwrnod yn ddiweddarach.

Bydd canolfannau gwastraff ac ailgylchu cartrefi yn Llan-ffwyst, Five Lanes ger Caerwent, Llanfihangel Troddi a Brynbuga ar gau ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan. Byddant ar agor rhwng 8am a 4pm ar 24 Rhagfyr ac o ddydd Iau 27 Rhagfyr i ddydd Llun 31 Rhagfyr.

Bydd canolfannau hamdden y cyngor ar agor rhwng 6.30am a 3pm ar Noswyl Nadolig ond ar gau Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a dydd Iau 27 Rhagfyr. Byddant ar agor fel arfer ar 28, 29 a 30 Rhagfyr gydag oriau cyfyngedig – 6.30am i 3.00pm – ar Nos Calan. Bodd pob canolfan ar gau ar Ddydd Calan ond yn agor fel arfer ddydd Mercher 2 Ionawr heblaw am Ganolfan Hamdden Cil-y-coed. Bydd hyn ar gau i’r cyhoedd ddydd Mercher 2 Ionawr a dydd Iau 3 Ionawr am waith cynnal a chadw hanfodol gan gau’r pwll ddydd Gwener 4 Ionawr. Yn y cyfamser, bydd Canolfan Hamdden Cas-gwent yn cau ar gyfer gwaith cynnal a chadw ddydd Gwener 4 Ionawr a dydd Sadwrn 5 Ionawr.

Cynhelir dosbarthiadau ffitrwydd yng Nghanolfannau Hamdden y Fenni, Cil-y-coed a Cas-gwent tan ddydd Sul 23 Rhagfyr cyn ail-ddechrau ddydd Mercher 2 Ionawr yn y Fenni, dydd Llun 7 Ionawr yng Nghil-y-coed a dydd Iau 8 Ionawr yng Nghas-gwent. Bydd Canolfan Hamdden Trefynwy yn parhau ei ddosbarthiadau Ffitrwydd Rhithwir Les Mills drwy gydol cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd tra bydd y ganolfan ar agor. Mae manylion pellach ar gael yn www.monmouthshire.gov.uk/things-to-do/monleisure

Bydd amgueddfeydd y sir yn y Fenni, Cas-gwent a Trefynwy ar gau ar Noswyl Nadolig nes bydd ei ail-agor ddydd Gwener 28 Rhagfyr, gyda chau pellach ar Ddydd Calan.

Bydd y cyngor yn cau Tŷ Arloesedd Magwyr, un o’i brif adeiladau swyddfa, yn y cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Bydd hyn yn dilyn ymgynghoriad gyda’r staff, yn arbed arian i’r cyngor ac mae ei bolisi gweithio ystwyth yn golygu y gall staff sy’n bresennol ddydd Gwener 28 Rhagfyr a dydd Llun 31 Rhagfyr weithredu’n arferol o un o hybiau cymunedol y sir, Canolfan Hamdden Cil-y-coed, Llyfrgell y Fenni neu Neuadd y Sir. Gallant hefyd weithio o’u cartrefi os dymunant. Bydd y Swyddfa Gofrestru ger Neuadd y Sir ar agor fel arfer ar y ddau ddiwrnod.

Dylai preswylwyr sy’n dymuno ymweld ag unrhyw un o hybiau cymunedol a llyfrgelloedd y cyngor nodi y byddant ar agor yn ystod eu horiau arferol heblaw am gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, dydd Iau 27 Rhagfyr a Dydd Calan. Yn ychwanegol, bydd pob hyb cymunedol a llyfrgell yn cau am 3pm ar Noswyl Nadolig. I gael manylion ewch i: http://www.monmouthshire.gov.uk/community-hubs-libraries

Bydd canolfan gyswllt y cyngor yn cau am 3pm ar Noswyl Nadolig nes y bydd yn ail-agor fel arfer ddydd Gwener 28 Rhagfyr, gyda chau pellach ar Ddydd Calan.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Bydd y rhan fwyaf ohonom yn mwynhau seibiant haeddiannol dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ond ni ddylem anghofio am y gweithwyr hollbwysig hynny sy’n parhau i wasanaethu’r gymuned p’un ai yw hynny’n sicrhau diogelwch y ffordd, gofalu am y bregus yn ein cymdeithas neu gydlynu mewn argyfwng gyda gwasanaethau argyfwng.”

Mae mwy o fanylion ar gael ar www.monmouthshire.gov.uk – dylai preswylwyr sy’n wynebu argyfwng dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd y byddai’r cyngor fel arfer yn ymdrin ag ef gysylltu â 0300 123 1055.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cynnal nifer o grefftbrynhawniau drwy gydol mis Rhagfyr – prynhawniau wedi’u neilltuo i bleserau gwneud crefftau – gan godi dros £300 ar gyfer elusen iechyd meddwl Mind. Ymunodd staff gyda llawer o grwpiau ar draws y Deyrnas Unedig i wneud amrywiaeth o addurniadau Nadolig gan godi arian hollbwysig i sicrhau nad oes neb yn profi problem iechyd meddwl ar eu pen eu hunain.

Cynhaliwyd crefftbrynhawniau mewn nifer o leoliadau ar draws y sir ar gyfer staff a phreswylwyr. Bu timau yn y gwasanaeth dysgu cymunedol yn annog dysgwyr i gymryd rhan mewn sesiynau plygu llyfrau wrth i unigolion ddysgu sut i wneud coed Nadolig allan o hen lyfrau. Cynhaliodd Hwb Trefynwy brynhawn argraffu leino Nadolig a chreu mosaig cymunedol i godi arian ar gyfer Mind, achos sy’n agos at galon llawer o bobl.

Adeilad hanesyddol Neuadd y Farchnad, y Fenni oedd y lleoliad ar gyfer crefftbrynhawn yn creu pwdinau Nadolig hyfryd ac adar robin goch o pom poms.

Cafodd staff yn Neuadd y Sir, Brynbuga eu cefnogi gan grŵp menywod Menywod Crefftus y Fenni a wnaeth addurniadau Nadolig o dopiau poteli plastig a deunydd wedi’i ailgylchu a bu Côr Cymunedol Sir Fynwy yn perfformio i ysgogi hwyl yr ŵyl.

Bu staff o Ddepo Rhaglan yn cynnwys gweithwyr o’r tîm gwastraff ac ailgylchu a neilltuodd tîm priffyrdd y sir amser i gymryd rhan mewn gweithgareddau crefftbrynhawn yn cynnwys gwneud torchau ac addurniadau o bapur wedi’i ailgylchu – dewis poblogaidd i’r holl staff. Roedd danteithion Nadoligaidd a siocled twym ar gael.

Cynhaliodd staff cyflogres a chefnogaeth Adnoddau Dynol y cyngor yn Nhŷ Arloesedd Magwyr hefyd brynhawn crefftau gyda staff yn creu addurniadau papur hardd. Cyfrannwyd llwyth o ddanteithion Nadoligaidd cyn y digwyddiad a chafodd rhai ohonynt eu cynnwys mewn hamper a gafodd ei rafflo.

Dywedodd Penny Jones, Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol ac Iechyd:

“Mae hwn yn gyfle gwych. Mae neilltuo amser i eistedd lawr a gwneud crefftau yn beth mor gadarnhaol i gynorthwyo iechyd a meddwl llesiant. Mae Mind yn elusen mor bwysig a bu’r gefnogaeth gan staff yn ein llu o swyddfeydd yn wych. Fe wnaethant wirioneddol ddangos eu hochr greadigol ac ymuno yn hwyl yr ŵyl hefyd.”

Mae gan Mind Sir Fynwy gyfoeth o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sy’n byw gyda phroblem iechyd meddwl. Cyfeiriad Mind Sir Fynwy yw 28 Stryd Mynach, y Fenni, NP7 5NP.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: www.mindmonmouthshire.org.uk

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cynnal nifer o grefftbrynhawniau drwy gydol mis Rhagfyr – prynhawniau wedi’u neilltuo i bleserau gwneud crefftau – gan godi dros £300 ar gyfer elusen iechyd meddwl Mind. Ymunodd staff gyda llawer o grwpiau ar draws y Deyrnas Unedig i wneud amrywiaeth o addurniadau Nadolig gan godi arian hollbwysig i sicrhau nad oes neb yn profi problem iechyd meddwl ar eu pen eu hunain.

Cynhaliwyd crefftbrynhawniau mewn nifer o leoliadau ar draws y sir ar gyfer staff a phreswylwyr. Bu timau yn y gwasanaeth dysgu cymunedol yn annog dysgwyr i gymryd rhan mewn sesiynau plygu llyfrau wrth i unigolion ddysgu sut i wneud coed Nadolig allan o hen lyfrau. Cynhaliodd Hwb Trefynwy brynhawn argraffu leino Nadolig a chreu mosaig cymunedol i godi arian ar gyfer Mind, achos sy’n agos at galon llawer o bobl.

Adeilad hanesyddol Neuadd y Farchnad, y Fenni oedd y lleoliad ar gyfer crefftbrynhawn yn creu pwdinau Nadolig hyfryd ac adar robin goch o pom poms.

Cafodd staff yn Neuadd y Sir, Brynbuga eu cefnogi gan grŵp menywod Menywod Crefftus y Fenni a wnaeth addurniadau Nadolig o dopiau poteli plastig a deunydd wedi’i ailgylchu a bu Côr Cymunedol Sir Fynwy yn perfformio i ysgogi hwyl yr ŵyl.

Bu staff o Ddepo Rhaglan yn cynnwys gweithwyr o’r tîm gwastraff ac ailgylchu a neilltuodd tîm priffyrdd y sir amser i gymryd rhan mewn gweithgareddau crefftbrynhawn yn cynnwys gwneud torchau ac addurniadau o bapur wedi’i ailgylchu – dewis poblogaidd i’r holl staff. Roedd danteithion Nadoligaidd a siocled twym ar gael.

Cynhaliodd staff cyflogres a chefnogaeth Adnoddau Dynol y cyngor yn Nhŷ Arloesedd Magwyr hefyd brynhawn crefftau gyda staff yn creu addurniadau papur hardd. Cyfrannwyd llwyth o ddanteithion Nadoligaidd cyn y digwyddiad a chafodd rhai ohonynt eu cynnwys mewn hamper a gafodd ei rafflo.

Dywedodd Penny Jones, Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol ac Iechyd:

“Mae hwn yn gyfle gwych. Mae neilltuo amser i eistedd lawr a gwneud crefftau yn beth mor gadarnhaol i gynorthwyo iechyd a meddwl llesiant. Mae Mind yn elusen mor bwysig a bu’r gefnogaeth gan staff yn ein llu o swyddfeydd yn wych. Fe wnaethant wirioneddol ddangos eu hochr greadigol ac ymuno yn hwyl yr ŵyl hefyd.”

Mae gan Mind Sir Fynwy gyfoeth o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sy’n byw gyda phroblem iechyd meddwl. Cyfeiriad Mind Sir Fynwy yw 28 Stryd Mynach, y Fenni, NP7 5NP.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: www.mindmonmouthshire.org.uk

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gofyn am farn preswylwyr ac eraill i helpu llywio eu Strategaeth Toiledau Lleol. Mae angen i’r cyngor gyhoeddi’r adroddiad erbyn 31 Mai 2019 yn sgil Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017.

Nod y Ddeddf yw trafod nifer o bryderon iechyd cyhoeddus penodol a chreu amodau cymdeithasol sy’n hybu iechyd da ac yn cynnwys darpariaeth toiledau ar gyfer defnydd y cyhoedd. Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol ar gyfer ei ardal.

Mae’n rhaid i’r strategaeth gynnwys asesiad o ddarpariaeth a hygyrchedd toiledau ar draws y sir, yn cynnwys cyfleusterau newid ar gyfer  babanod a chyfleusterau lleoedd newid ar gyfer pobl anabl. Mae barn preswylwyr ac eraill sydd â diddordeb yn hanfodol ac yn helpu i ganfod lefel y ddarpariaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd a helpu i lywio cynllun y cyngor ar gyfer y dyfodol.

 

Nid yw’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu neu gynnal toiledau cyhoeddus. Yn Sir Fynwy caiff cyfran fawr o doiledau cyhoeddus eu darparu gan Gynghorau Tref a Chymuned.

Yn ogystal â blociau toiled cyhoeddus traddodiadol, gall y cyhoedd ddefnyddio cyfleusterau eraill y Cyngor yn cynnwys canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, ynghyd â thoiledau preifat sydd ar gael mewn bwytai, archfarchnadoedd a thafarndai.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Sara Jones, aelod Cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am Ddiogelu’r Cyhoedd:

‘Rwy’n annog preswylwyr, busnesau lleol ac ymwelwyr i lenwi’r arolwg. Mae mor bwysig gwrando ar ein cymunedau, i ganfod pa ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd a ble mae angen mwy o doiledau a chyfleusterau newid.

‘Bydd canlyniadau’r arolwg yn helpu i lywio cynllunio’r dyfodol gyda’n partneriaid, yn cynnwys Cynghorau Tref a Chymuned. Rydym yn falch iddynt ddod yn gyfrifol am lawer o doiledau cyhoeddus a’u rhedeg ers 2010. Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw a darparwyr eraill i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion ein cymunedau yn y dyfodol.

‘Mae’n anffodus nad oes cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i wella’r cyfleusterau presennol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda darparwyr ie drych am ddatrysiadau creadigol i wella hygyrchedd yn Sir Fynwy’.

Cynhelir yr arolwg rhwng 19 Rhagfyr a 11 Ionawr 2019.

Arolwg Toiledau Sir Fynwy