Mae Cyngor Sir Fynwy wedi croesawu ymgyrch genedlaethol i annog pobl i lanhau ar ôl eu cŵn. Cyfarfu staff y Cyngor gyda Tom Ward-Jackson, Swyddog Prosiect Cadw Cymru’n Daclus ym Mharc Bailey, Y Fenni yn gynnar yn y bore ddydd Mercher 10 Hydref i ddosbarthu bagiau baw cŵn i berchnogion cŵn a’u hannog i’w defnyddio bob amser. Mae baw cŵn yn broblem neilltuol ar gaeau chwaraeon lle mae’n achosi risg iechyd difrifol i ddefnyddwyr.

Mae’r digwyddiad yn cyd-daro gyda Diwrnod Gweithredu Cenedlaethol Gorfodaeth sy’n anelu i amlygu’r gwaith da a wnaed i fynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol lleol a chodi ymwybyddiaeth ei bod yn drosedd taflu sbwriel a pheidio codi baw eu cŵn.

Dywedodd Tom Ward-Jackson: “Roedd yn wych cwrdd â llawer o berchnogion ci ar y dydd pan oeddent yn gefnogol iawn i’r neges nad yw’n dderbyniol caniatáu i’ch ci faeddu mewn man cyhoeddus. Rydym angen y cynlluniau hyn i ledaenu’r gair i’r ychydig sydd yn peryglu difetha ein gofodau gwyrdd ar gyfer gweddill y gymuned.”

Mae camau gweithredu’r cyngor yn adeiladu ar gynllun Rhoi’r Cerdyn Coch i Faw Cŵn – partneriaeth rhwng timau iechyd yr amgylchedd, gwastraff a glanhau stryd y cyngor sir yn ogystal â nifer o gynghorau tref a chymuned a’r heddlu. Mae’r ymgyrch yn cynnal digwyddiadau yn y sir i annog pob perchennog ci i lanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, un o’r materion a gaiff ei godi amlaf gan breswylwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy yn gyfrifol am ddiogelu’r cyhoedd: “Rwy’n falch ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cadw Cymru’n Daclus heddiw. Mae ein neges yn glir iawn – peidiwch â chaniatáu i’ch ci faeddu ar gaeau chwaraeon, neu fan arall. Mae’n deall yn broblem iawn.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste/dogfouling

Mae Clwb Eco Ysgol Gynradd Thornwell yng Nghas-gwent wedi croesawu ymgyrch genedlaethol i helpu cael gwared â sbwriel o’u hardal. Gan gwrdd gyda staff Cyngor Sir Fynwy ddydd Mercher 10 Hydref ger Lôn Summerhouse, bu aelodau’r Clwb Eco yn casglu sbwriel i atgoffa’r gymuned pa mor bwysig yw hi i ofalu am yr amgylchedd. Rhannodd y plant straeon pa mor beryglus y gall sbwriel fod i fywyd gwyllt.

Roedd y digwyddiad yn cyd-daro gyda Diwrnod Gweithredu Gorfodaeth Cenedlaethol Cadw Cymru’n Daclus sy’n anelu i roi sylw i’r gwaith da a wnaed i fynd i’r afael â materion amgylcheddol lleol a chodi ymwybyddiaeth bod taflu sbwriel yn drosedd.

Dywedodd Susie King, Cydlynydd Clwb Eco Ysgol Gynradd Thornwell: “Mae plant mor ymwybodol o’r difrod y mae pobl yn ei wneud i’r amgylchedd. Mae ganddynt ymdeimlad go iawn o gyfrifoldeb am gymryd materion i’w dwylo eu hunain i geisio gwneud yr amgylchedd yn addas i’r bawb. Mae’n hyfryd eu gweld yn addysgu eraill, gallwn ddysgu cymaint ganddynt! Mae sbwriel yn broblem sy’n effeithio arnom i gyd, a’r anifeiliaid sy’n byw o’n cwmpas, a dylem gydweithio i atal hynny.”

Ychwanegodd y Cyng Bryan Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros weithrediadau sirol: “Mae’n galonogol gweld pobl ifanc yn gweithio fel llysgenhadon dros amgylchedd di-sbwriel a phwysleisio y dylid rhoi sbwriel mewn bin neu fynd ag ef adref yn hytrach na’i daflu yn y stryd.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar: https://www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste/dogfouling

Bydd partneriaeth rhwng Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Tref Trefynwy, y Lleng Brydeinig Frenhinol, Peirianwyr Brenhinol Sir Fynwy, Rotari Trefynwy a mudiadau lleol eraill yn coffau ac yn anrhydeddu’r rhai a gyfrannodd at waith y rhyfel yn Nhrefynwy ganrif yn ôl. Mae cyngor y dref wedi sicrhau cyllid gan Ymddiriedolaeth Cyfamod Lluoedd Arfog i gefnogi rhaglen lawn o ddigwyddiadau. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar aelodau lluoedd arfog o Drefynwy yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn ogystal â’u teuluoedd ac yn ychwanegol at gyngherddau ac arddangosfeydd, gall pobl ymuno mewn teithiau cerdded hanesyddol, trin gwrthrychau’r cyfnod, barddoniaeth a drama.

Cafodd y rhaglen ei chynllunio gan gynrychiolwyr o fudiadau cymunedol yn cynnwys arbenigwyr teithiau tywys Croeso i Gerddwyr. Cynhelir digwyddiadau yn theatrau’r Savoy a Blake, Amgueddfa a Neuadd y Sir Trefynwy, gyda’i arddangosiad deimladwy o babi a wnaed â llaw,  a bydd eglwysi Trefynwy yn rhoi cyfleoedd ar gyfer coffa ac ysgolion cynradd lleol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a dysgu’n gysylltiedig â’r Rhyfel Mawr.

Ymysg yr uchafbwyntiau mae arddangosfa tân gwyllt yn noswaith flynyddol tân gwyllt y Rotari ddydd Llun 5 Tachwedd, perfformiad gan Gôr Meibion Trefynwy gyda Band Tref Trefynwy yn Theatr Blake ddydd Gwener 2 Tachwedd, arddangosfa o danciau model yn Neuadd y Sir a addurnwyd gan ddisgyblion o ysgolion cynradd Kymin View, Osbaston ac Overmonnow a chyfres o ddarlithoedd a dangos ffilmiau tawel cyfoes yng Nghanolfan Bridges. Daw digwyddiadau’r wythnos i ben yn yr Orymdaith Cofio flynyddol ddydd Sul 11 Tachwedd ac ail-greu cyhoeddiad y Cadoediad a roddwyd gan Faer Trefynwy, William Sambrook, ym mis Tachwedd 2018.

Yn y cyfamser, mae Amgueddfa Trefynwy yn apelio am wybodaeth ar aelodau teuluoedd a fu’n gwasanaethu neu a gyfrannodd at waith y rhyfel fel y gellir eu cynnwys ar gofrestr anrhydedd y dref. Gofynnir i breswylwyr a pherthnasau i gysylltu â’r amgueddfa gydag unrhyw ffotograffau a dogfennau perthnasol.

Dywedodd y Cynghorydd Laura Jones, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Sir Fynwy: “Bu cysylltiad ers amser maith rhwng Trefynwy a’r lluoedd arfog ac mae’n lleoliad addas i ni gofio am aberth a’r hyn a gyflawnodd y rhai a wasanaethodd ganrif yn ôl. Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i’r holl sefydliadau hynny a ddaeth ynghyd i drefnu gweithgareddau’r wythnos a chynnig gwerthfawrogiad diolchgar i Ymddiriedolaeth Cyfamod Lluoedd Arfog am ei chefnogaeth.”

Mae mwy o wybodaeth a newyddion ar ddigwyddiadau coffa cymunedol y Rhyfel Byd Cyntaf yn Nhrefynwy a sut i gymryd rhan ar gael ar Twitter @Monmouth_1 neu dudalen Facebook MonmouthPoppies2018.

Enwebwyd person ifanc o Sir Fynwy i seiclo yn Her Rickshaw eleni i gynorthwyo BBC Plant mewn Angen. Mae Kieran yn un o chwech o bobl ifanc ysbrydoledig a ddewiswyd i seiclo mwy na 400 milltir i godi arian ar gyfer BBC Plant mewn Angen a newid bywydau plant a phobl ifanc ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Yn yr her sy’n dechrau ddydd Gwener 9 Tachwedd bydd Kieran a’r tîm yn seiclo o Calais drwy Dwnnel y Sianel i Folkestone ac yn teithio drwy Loegr a Chymru i gyrraedd Salford cyn Sioe Apêl fyw BBC Plant mewn Angen ddydd Gwener 16 Tachwedd. Ers 2011, mae’r Her Rickshaw wedi codi dros £21 miliwn i BBC Plant mewn Angen ac aiff pob ceiniog a gyfrannir i helpu plant a phobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig. I gael mwy o wybodaeth am y llwybr a sut y gallwch gyfrannu: www.bbc.co.uk/pudsey.

Pan oedd Kieran yn ifanc roedd yn gofalu am ei fam a’i siblingiaid iau ac yn y diwedd roedd yn methu ymdopi. Roedd yn ei chael yn anodd rheoli ei deimladau ac yn camymddwyn yr ysgol. Erbyn iddo fod yn 13 oed roedd pethau wedi dod mor anodd fel y cafodd Kieran ei roi mewn gofal maeth a dechreuodd newid ei fywyd yn raddol. Am lawer o flynyddoedd cafodd Kieran ei fagu gan rieni maeth caredig a chariadus ac mae’n ysbrydoliaeth i bobl ifanc ledled Cymru. Mae Tîm Gwasanaeth Plant Cyngor Sir Fynwy wedi rhoi cefnogaeth ddiamod i’w helpu i ddatblygu i fod y person ifanc y mae heddiw ac i gyrraedd ei botensial llawn. Heddiw mae Kieran yn hyfforddi i ddod yn drydanwr ac mae’n agos unwaith eto at ei fam a’i siblingiaid.

Cafodd Kieran ei enwebu gan The Hwb, Torfaen – prosiect a gyllidir gan BBC Plant mewn Angen – ac mae ganddo 1000 o oriau gwirfoddol gyda’r sefydliad. Bu Kieran yn aelod gweithgar o’i gymuned ac yn hyrwyddwr pobl ifanc dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae The Hwb wedi rhoi rhwydwaith cefnogaeth gyson i Kieran yn rhoi cyfleoedd, cefnogaeth emosiynol a nifer fawr o gymwysterau ac achrediadau.

Yn 2017 derbyniodd Kieran wobr bwysig “Diana” am ei ymrwymiad i wirfoddoli, a hyd yn oed daeth o hyd i ddigon o amser i hyfforddi a rhedeg Hanner Marathon Caerdydd 2017 gyda “Alfie’s Army” ynghyd ag arwr rygbi Cymru, Gareth “Alfie” Thomas.

Mae’n parhau i helpu a chefnogi plant a phobl ifanc fel gweithiwr chwarae gwirfoddol fel rhan o’r cynlluniau chwarae haf llwyddiannus iawn a gynhaliwyd yn Nhorfaen a Sir Fynwy.

Dywedodd y Cyng Penny Jones, Aelod Cabinet Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Am gamp wych. Hoffwn ddymuno pob lwc i Kieran wrth wynebu’r her a gobeithiaf y bydd yn codi llawer o arian ar gyfer BBC Plant mewn Angen. Rwyf mor falch fod Kieran, fel cynifer o blant a phobl ifanc eraill, wedi cael cymaint o gefnogaeth gan dîm Gofal Maeth Sir Fynwy. Mae wirioneddol yn dangos sut y gall bod yn ofalwr maeth newid bywydau cynifer o bobl ifanc mewn cynifer o wahanol ffyrdd. Rwy’n annog pobl i ystyried dod yn ofalwyr maeth i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i fwy o blant a phobl ifanc.”

I gael mwy o wybodaeth am Faethu anfonwch neges destun FOSTER at 83222, ffonio 01873 735950 neu fynd i http://www.monmouthshire.gov.uk/fostering

Mae’r prosiect yn ffurfio rhan o ddrafft gynllun adfywio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gymeradwyodd y Cyngor ar gyfer ei gyflwyno i raglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu Llywodraeth Cymru ym mis Medi. Gellid adeiladu cyfadeilad fflatiau, canolfan siopa brysur, gwella hygyrchedd a seilwaith ffordd newydd dros y tair blynedd nesaf. 

Gyda gwelliannau i seilwaith gwyrdd y dref sydd i ddigwydd yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd, y prosiect nesaf i’w gyflwyno fydd ail-ddatblygu ardal y Groes yng nghanol y dref gyda’r nod o wella hygyrchedd, cysylltiadau cryfach gyda’r castell a’r parc gwledig a gosodiad gwell ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau. 

Gofynnir i chi ddarllen yr wybodaeth yn y dogfennau PDF yn ofalus yma cyn rhoi eich sylwadau drwy’r arolwg ar-lein yma:

Mae pob ffordd ar agor ac eithrio:

  • Llangwilym Lane (ger Llansantffraed)
  • Y Straight Mile rhwng Llantrissent a Newbridge on Usk

Mae A4042 rhwng cylchfan Hardwick a Felinfach ar agor: http://www.traffic-wales.com/Home.aspx?lang=en-GB

 

Road closures on the Welsh Government’s trunk routes and motorways (A4042, A40, A465, A449, M4, M48, A466 near Chepstow) can be accessed by logging onto: www.traffic-wales.com/

Gofynnir i breswylwyr gymryd gofal ychwanegol ar y ffyrdd heddiw oherywdd y tywydd garw. Gofynnir i chi arafu, cadw eich pellter a chymryd sylw o rybuddion ar radio lleol.

Mae gwefannau Cyfoeth Naturiol Cymru a Swyddfa’r Met a’u cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ffynonellau da o wybodaeth hefyd:

 

I gael arweiniad cyffredinol ar lifogydd, cliciwch ar y ddolen yma i gael cyngor gan ein tîm Cynllunio Argyfwng.

www.monmouthshire.gov.uk/services/planning-for-emergencies/flooding

Bydd tudalennau Facebook a Twitter yn rhoi’r diweddaraf ar amodau ffyrdd a gyrru dros wythnos.

  • Diolch yn fawr iawn i’n timau priffyrdd a thiroedd a staff eraill fydd yn rhoi gofal 24/7 dros y penwythnos i sicrhau fod ein preswylwyr yn ddiogel ac y gellir teithio ar ffyrdd.

 

Gofynnir i breswylwyr gymryd gofal ychwanegol ar y ffyrdd heddiw ac yfory oherywdd y tywydd garw. Gofynnir i chi arafu, cadw eich pellter a chymryd sylw o rybuddion ar radio lleol.

Mae gwefannau Cyfoeth Naturiol Cymru a Swyddfa’r Met a’u cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ffynonellau da o wybodaeth hefyd:

 

 

I gael arweiniad cyffredinol ar lifogydd, cliciwch ar y ddolen yma i gael cyngor gan ein tîm Cynllunio Argyfwng.

www.monmouthshire.gov.uk/services/planning-for-emergencies/flooding

 

Bydd tudalennau Facebook a Twitter yn rhoi’r diweddaraf ar amodau ffyrdd a gyrru dros wythnos.

 

  • Diolch yn fawr iawn i’n timau priffyrdd a thiroedd a staff eraill fydd yn rhoi gofal 24/7 dros y penwythnos i sicrhau fod ein preswylwyr yn ddiogel ac y gellir teithio ar ffyrdd.

Daeth pobl ifanc o bob oed sy’n uniaethu’n drawsryweddol ynghyd am Ddiwrnod Llesiant ddydd Sadwrn 29 Medi 2018 ym Mharc Hilston, Trefynwy. Daeth nifer o bobl ifanc o Sir Fynwy ac ar draws De Ddwyrain Cymru ynghyd am ddiwrnod o wybodaeth, cyngor a mwynhau.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i bobl ifanc wneud ffrindiau newydd, gofyn am gyngor a chefnogaeth mewn gofod diogel. Cydlynwyd y digwyddiad gan bobl ifanc a gafodd gefnogaeth gan grŵp LGBT Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy. Cynhaliwyd sesiynau gwybodaeth gan bartneriaid megis Heddlu Gwent, sefydliad camddefnyddio sylweddau N-Gage a Hamdden Sir Fynwy.

Mae teimlo’n dda ar y tu mewn a’r tu allan yn bwysig i bobl ifanc ac yn arbennig ar gyfer pobl ifanc trawsrywiol a all deimlo’n fregus. Roedd y rhai a fynychodd yn croesawu’r diwrnod fel cyfle i fod yn hwy eu hunain a chlywed gan ystod eang o sefydliadau a allodd hyrwyddo gweithgareddau i gefnogi iechyd meddwl a hefyd iechyd corfforol.

Cyflwynodd Gwasanaeth Hamdden Sir Fynwy sesiynau un i un ar fwyta’n iach a llesiant corfforol. Cafodd pawb a fynychodd gyfle i ymlacio mewn sesiynau Tai Chi. Roedd Parc Hilston yn safle perffaith a thlws ar gyfer y diwrnod. Roedd cwnsela Face 2 Face yn cynnig cefnogaeth mewn ardal dawel gan siarad gyda phobl ifanc am sut i gael mynediad i gefnogaeth llesiant emosiynol gan y gwasanaeth.

Trafodwyd materion a ddynodwyd yn bwysig gan bobl ifanc. Cafwyd cyngor a chefnogaeth ar gamddefnyddio sylweddau gan N-Gage, sefydliad sy’n helpu pobl ifanc o bob rhan o Went. Gallodd pobl ifanc siarad yn onest ac yn agored am droseddau casineb a gofyn am gyngor gan Heddlu Gwent mewn amgylchedd diogel.

Roedd sesiynau maldod a choluro yn boblogaidd dan arweiniad steilwyr gwallt lleol a thriniaethau harddwch yn rhoi cyngor ar ofal croen a defnyddio colur. Roedd siop naidlen ‘Hilston Park Boutique’ yn cynnig amrywiaeth o ddillad i bobl ifanc eu gwisgo ac arbrofi gyda gwahanol arddulliau.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Sara Jones, Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chymuned:

‘Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a ddaeth draw i’r diwrnod. Mae mor bwysig gwrando ar a gweithredu ar yr hyn mae pobl ifanc ei angen. Rwyf mor falch fod llawer o’n partneriaid wedi mynychu i roi cyngor a chefnogaeth gwerthfawr i’r bobl ifanc. Diolch i bawb a gyfrannodd ddillad i’r boutique neidlen – roedd yn gaffaeliad mawr i’r dydd ac roedd y bobl ifanc wrth ei bodd gyda hi. Hoffwn ddiolch i dîm Starbucks ar wasanaethau de Mynwy am eu cyfraniadau caredig at y lluniaeth a’r holl sefydliadau eraill a gymerodd ran a chynnig eu cymorth a gwasanaethau ar y dydd gan wneud y diwrnod yn llwyddiant mawr.’

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Kelly Christopher: KellyChristopher2@monmouthshire.gov.uk

Disgwylir llanw uchel. Byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa ac, os oes angen, byddwn yn trefnu cau’r A466 drwy Dyndyrn am gyfnodau byr ar y dyddiadau ac amserau dilynol:

Dydd Gwener 12 Hydref        Rhwng 08.40 – 10.00 (yn fras)

Dydd Gwener 12 Hydref        Rhwng 20.55 – 22.15 (yn fras)

Bydd y pwyntiau cau fel sy’n dilyn:

Cau Pen Gogleddol: Cyffordd Heol Tryleg

Cau Pen Deheuol: Cyffordd Royal George

Amcangyfrif yw amserau cau’r ffordd yn seiliedig ar yr amserau llanw a ragwelir. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro’r sefyllfa ac yn cyhoeddi Rhybuddion Llifogydd fel sydd angen. Dim ond dros dro y caiff ffyrdd eu cau a dim ond pan fo’r dŵr llanw yn llifo ar y briffordd. Bydd y ffordd yn ailagor cyn gynted ag mae’r dŵr wedi cilio o’r briffordd.

Bydd Hyb Cymunedol Brynbuga yn cynnal lansiad casgliad o lyfrau yn cynnig gwybodaeth ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia. Caiff casgliad llyfrau Darllen yn Well ar gyfer Dementia ei ddadlennu rhwng 10am a 12pm ddydd Mercher 17 Hydref ac mae’n cynnwys te hufen gyda te neu goffi a sgon am ddim ond £1. Mae croeso i bawb.

Mae’r gyfres Darllen yn Well, a gynhyrchir gan The Reading Agency, yn darparu darllen gydag achrediad a defnyddiol i gefnogi iechyd a llesiant. Caiff ei gymeradwyo gan bartneriaid iechyd blaenllaw a’i gyflwyno mewn llyfrgelloedd cyhoeddus. Cyflwynir y cynllun ar draws Cymru dros y ddwy flynedd nesaf gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru, gan ddechrau gyda Darllen yn Well ar gyfer Dementia yn 2018 a ddilynir gan Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl y flwyddyn nesaf.

Mae’r rhestr lyfrau greiddiol o 24 teitl yn rhoi gwybodaeth a chyngor am dementia, cefnogaeth yn dilyn diagnosis, cyngor ymarferol ar gyfer gofalwyr, hanesion personol ac awgrymiadau ar gyfer rhannu gweithgareddau.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol: “Bydd lansio casgliad llyfrau Darllen yn Well ar gyfer Dementia o fudd i bobl sy’n byw gyda dementia a hefyd ofalwyr, perthnasau ac eraill. Mae hyn yn enghraifft wych o sut mae hybiau cymunedol yn rhoi help y mae ei fawr angen ar sail leol a hygyrch.”

Mae mwy o wybodaeth ar gyfres Darllen yn Well ar gael ar  https://reading-well.org.uk/.

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal dwy sesiwn ymgysylltu yn hyb cymunedol Cil-y-coed i hysbysu’r cyhoedd am ei gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer adfywio canol y dref a gofyn am sylwadau ar gynigion ar gyfer ardal y Groes gerllaw.

Mae’r prosiect yn rhan o ddrafft gynllun adfywio ehangach Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gymeradwyodd y cyngor i’w gyflwyno i raglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu Llywodraeth Cymru ym mis Medi. Gellid adeiladu cyfadeilad fflatiau, canolfan siopa egnïol, gwella hygyrchedd a seilwaith ffordd newydd dros y tair blynedd nesaf.

Gyda disgwyl gwaith i wella seilwaith gwyrdd y dref yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd, y prosiect nesaf i gael ei gyflawni fydd ailddatblygu ardal y Groes yng nghanol y dref gyda’r nod o wella hygyrchedd, cysylltiadau cryfach gyda’r castell a’r parc gwledig a rhoi gwell gosodiad ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau. Rhoddir sylw i’r cynigion ar hyn a chanol y dref yn Hyb Cymunedol Cil-y-coed rhwng 10am a 5pm ddydd Llun 15 Hydref a rhwng 10am a 7pm ddydd Mawrth 16 Hydref. Caiff aelodau’r cyhoedd gyfle i ddysgu mwy am y cynigion a rhoi adborth gwerthfawr wrth lunio’r cynllun.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ymgysylltu â’r gymuned: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Cil-y-coed wrth i ni fynd ati i wella’r cysylltiad rhwng canol y dref a’r castell. Mae hyn yn cynnwys gwneud yr ardal o amgylch Croes Cil-y-coed yn fwy croesawgar i gerddwyr a seiclwyr.”

Bydd Sir Fynwy yn dathlu’r Wythnos Llyfrgelloedd gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau sioeau teithio ar draws y sir yn ogystal â gweithgareddau amrywiol yn hybiau cymunedol a llyfrgelloedd y cyngor.

Cynhelir yr Wythnos Llyfrgelloedd rhwng 8 a 13 Hydref ac eleni, gyda ffocws ar lesiant, bydd llyfrgelloedd ar draws y sir yn dangos sut maent yn dod â chymunedau ynghyd, atal unigrwydd, rhoi gofod ar gyfer darllen a chreadigrwydd a chefnogi pobl gyda’u hiechyd meddwl. Nid dim ond llyfrgelloedd cyhoeddus mae’r wythnos yn eu dathlu – ond llyfrgelloedd o bob math mewn ysgolion, gweithleoedd a phrifysgolion sydd â gwasanaethau gwych sy’n gwella ein llesiant.

Bydd hybiau cymunedol a llyfrgelloedd y cyngor yn cynnwys amser rhigymau, grwpiau gweu a chlonc, gwahanol grwpiau rhannu darllen a gweithgareddau eraill yn ystod yr wythnos. Yn ychwanegol, bydd y sioe deithio yn galw yn y lleoliadau dilynol:

  • Dydd Llun 8 Hydref: 10am i 12pm – Neuadd y Sir, Trefynwy
  • Dydd Llun 8 Hydref: 2pm i 4pm – maes parcio Rhaglan
  • Dydd Mawrth 9 Hydref: 11am i 2pm – Neuadd Bedyddwyr Magwyr
  • Dydd Iau 11 Hydref: 10am i 12pm – marchnad wledig Brynbuga
  • Dydd Iau 11 Hydref: 2pm i 4pm -0 tu allan i Hyb Cymunedol Cas-gwent
  • Dydd Gwener 12 Hydref: 10am i 12pm – Neuadd y Farchnad, y Fenni

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol a llyfrgelloedd: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ddathlu’r Wythnos Llyfrgelloedd yn Sir Fynwy a rydym yn eich croesawu i’n llyfrgelloedd, hybiau cymunedol a digwyddiadau sioeau teithio. Dewch draw i sgwrsio am yr hyn sydd gennym ar gael, ymuno â’r llyfrgell a rhoi adborth i ni ar ein gwasanaeth. Anelwn gynnig gofod lle gall bobl ddod ynghyd i fod yn rhan o’u cymuned, ymchwilio eu creadigrwydd a chael cefnogaeth pan fo angen.”

I gael mwy o wybodaeth ar #WythnosLlyfrgelloedd mewngofnodwch ar www.librariesweek.org.uk

Mae Cyngor Sir Fynwy yn hysbysu rhieni a gwarcheidwaid plant sydd i ddechrau ysgol uwchradd fis Medi nesaf fod y dyddiad cau i wneud cais am leoedd ysgol yn agosáu.

Bydd plant sy’n mynychu Blwyddyn 6  mewn ysgol gynradd yn trosglwyddo i ysgol uwchradd ym mis Medi 2019 a chaiff rhieni eu hannog i gwblhau eu ceisiadau cyn y dyddiad cau o 30 Tachwedd. Hyn fydd yn rhoi’r cyfle gorau iddynt o sicrhau fod eu plentyn yn mynychu yr ysgol o’u dewis. Mae’n rhaid i rieni sy’n byw yn Sir Fynwy wneud cais i’r cyngor hyd yn oed os yw’r ysgol o’u dewis y tu allan i ffiniau’r sir (ac eithrio ysgolion yng Nghasnewydd lle dylid gwneud ceisiadau’n uniongyrchol i gyngor y ddinas).

Gall rhieni wneud cais yn defnyddio system gais ar-lein y cyngor. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: www.monmouthshire.gov.uk

Yn lle hynny, gall rhieni wneud cais am becyn cais drwy ffonio tîm derbyn y cyngor ar 01633 644508 neu anfon e-bost at: accesstolearning@monmouthshire.gov.uk

Mae cwblhau ffurflen gais yn mynegi deis ysgrifenedig am ysgol yn ofyniad cyfreithiol yng Nghod Ymarfer Derbyn Ysgolion i. Yn ychwanegol, er bod pob ysgol yn y sir yn gwasanaethu dalgylch penodol, ni all rhieni neu warcheidwaid dybio y bydd eu plentyn yn cael eu derbyn yn awtomatig. Caiff rhieni sy’n cyflwyno ffurflenni cais erbyn y dyddiad cau o 30 Tachwedd 2018 eu hysbysu erbyn 1 Mawrth 2019 fan bellaf pa ysgol y bydd eu plentyn yn ei mynychu.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ysgolion a dysgu: “Mae’n hanfodol fod rhieni’n gwneud cais am leoedd ysgol ar amser. Caiff ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd erbyn y dyddiad cau eu hystyried ar ôl y ddaw a dderbynnir mewn pryd, gan olygu bod rhieni sy’n gwneud cais hwyr yn llai tebygol o sicrhau lle yn eu dewis ysgol – hyd yn oed os oes ganddynt blant eraill yn yr ysgol yn barod. Byddwn yn annog rhieni i wneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl.”

Cysylltwch â’r Uned Ysgolion a Derbyn Myfyrwyr ar 01633 644508 neu e-bost accesstolearning@monmouthshire.gov.uk i gael mwy o wybodaeth

Mae Cyngor Sir Fynwy yn adolygu ei gynllun gwella ar gyfer mynediad cefn gwlad, yn cynnwys cerdded, seiclo a marchogaeth. Mae’n galw ar y cyhoedd, rheolwyr tir a sefydliadau gyda rhan mewn mynediad cefn gwlad i gwblhau un o’i dri holiadur, neu ysgrifennu at y cyngor gyda’u sylwadau.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am fynediad cefn gwlad: “Mae cefn gwlad yn wynebu heriau na welwyd eu tebyg. Gallai newidiadau gwleidyddol ac yn yr hinsawdd newid wyneb ein tirlun ac i lawer ohonynt mae datgysylltiad gyda natur. Mae’n rhaid i reoli mynediad cefn gwlad addasu i’r heriau hyn a hefyd weithio mewn partneriaeth i roi llu o fanteision yn ei gysylltu gydag iechyd a llesiant a theithio llesol. Hoffem glywed gan reolwyr tir, y cyhoedd a sefydliadau â diddordeb i sicrhau fod ein polisïau a’n cynllun busnes newydd yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae cefnogaeth gan y cyhoedd a mewnbwn yn hanfodol fel y gallwn ddefnyddio’r dystiolaeth o fewn y cynllun newydd i ddenu cyllid a phartneriaethau i sicrhau rhaglenni gwella.”

Mae’r holiaduron ar gael drwy ymweld â:

I gael copïau papur neu pdf e-bost: countryside @monmouthshire.gov.uk – y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd holiaduron neu gyflwyno sylwadau yw dydd Llun 22 Hydref. Gellir anfon sylwadau at: countryside @monmouthshire.gov.uk erbyn 22 Hydref.

 

 

 

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch i gyhoeddi ei fod wedi prynu Parc Busnes Castlegate yng Nghil-y-coed gan Robert Hutchings Cyf. Mae’r parc busnes ar safle o tua 17 erw gyda 252,000 troedfedd sgwâr o safleoedd gyda gwasanaeth. Mae’n gartref i rai o fusnesau pwysicaf y sir yn cynnwys Mitel Networks a Microsemi ynghyd â llu o gwmnïau bach a chanolig. Y pryniant hwn yw’r symudiad diweddar yn y portffolio masnachol ystyriol y mae’r Cyngor yn ei adeiladu. Mae’n atodi mentrau diweddar megis sefydlu marchnad da byw ger Rhaglan, fferm solar yn Crug a darparu swyddfeydd Gradd A i’w gosod yn fasnachol ar Barc Busnes Cymru 1 ym Magwyr. Bydd Castlegate yn rhoi adenilliad ar fuddsoddiad sy’n gydnaws â disgwyliad y Cyngor. Mae’n cyfuno safle strategol allweddol ger y porth i dde ddwyrain Cymru ac yn dangos ymrwymiad i adfywiad parhaus Cil-y-coed.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Aelod Cabinet dros Fenter: “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi medru gorffen y ddêl yma. Mae’r pryniant yn ein helpu i symud ymlaen gyda nifer o’n nodau strategol ac mae’n arddangosiad clir i fuddsoddwyr yn genedlaethol a rhyngwladol fod Sir Fynwy yn lle gwych i wneud busnes. Mae medru rhannu’r newyddion yma mor fuan ar ôl i Sir Fynwy gael ei chydnabod fel bod â’r economi mwyaf llewyrchus yng Nghymru yn gyfle gwych i ddangos na fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau. Nid yw Cyngor Sir Fynwy erioed wedi ofni gweithredu mewn ffordd fasnachol, i arloesi a bod yn greadigol lle mae’n ein helpu i hyrwyddo egni ein sir ac mae hwn yn llwybr y byddwn yn parhau i’w ddilyn.”

Ychwanegodd Simon Tothill, Cyfarwyddwr Eiddo a Datblygu Robert Hitchins Cyf: “Ar ôl gweithredu strategaeth rheoli asedau lwyddiannus dros nifer o flynyddoedd, mae Parc Busnes Castlegate yn agos at fod yn llawn ac mae ganddo rôl bwysig yn yr economi lleol. Roedd y gwerthiant i Gyngor Sir Fynwy yn gwneud synnwyr ac mae’r cyngor mewn sefyllfa dda i fanteisio o ffrwd rhentu deniadol tra’n buddsoddi yn ei ranbarth ei hun. Mae’r gwerthiant yn cyd-fynd gyda strategaeth fuddsoddi gyfredol Robert Hutchings a bydd yr arian a geir o’r gwerthiant yn ein galluogi i ailfuddsoddi mewn asedau presennol a datblygiadau newydd ym mhob rhan o Dde Cymru.”

Cynrychiolwyd Cyngor Sir Fynwy gan Alder King LLP gyda JLL yn cynrychioli Robert Hitchins Cyf.

 

Mae Busnes Cymru, gwasanaeth cymorth busnes Llywodraeth Cymru, yn cynnal gweithdai rhad ac am ddim i helpu a chefnogi pobl o ardaloedd Trefynwy a’r Fenni sy’n ystyried cychwyn neu redeg eu busnes eu hunain.

Bydd y gweithdai cychwyn busnes yn rhoi sylw i amrywiaeth o bynciau yn cynnwys datblygu syniad busnes, dod o hyd i gyllid, cynllunio busnes, prisio a marchnata, ac fe’u cynhelir rhwng 9.15am a 4.00pm ddydd Mercher 31 Hydref yng Nghanolfan Ieuenctid y Fenni (Hen Heol Henffordd) a Chanolfan Bridges, Trefynwy ddydd Mawrth 13 Tachwedd.

Nod y cyrsiau yw helpu darpar entrepreneuriaid i fynd â’r maen i’r wal a throi eu syniad busnes yn realaeth. Caiff yr holl weithdai ei cynllunio a’u cyflwyno gan gynghorwyr profiadol Busnes Cymru a byddant yn rhoi gwybodaeth, ffeithiau defnyddiol a chyngor ymarferol i bobl sydd eisiau datblygu eu sgiliau busnes a pharatoi am hunangyflogaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Aelod Cabinet Menter Cyngor Sir Fynwy: “Un o’r blaenoriaethau i Gyngor Sir Fynwy yw cefnogi ac annog twf busnesau a chreu swyddi. Rydym yn falch iawn i argymell y gweithdai defnyddiol hyn i unrhyw un sy’n anelu cychwyn eu busnes eu hunain yn y sir.”

Dywedodd Melanie Phipps, Cynghorydd Busnes gyda Busnes Cymru: “Ein rôl fel cynghorwyr busnes yw rhannu profiad a gwybodaeth a meithrin hyder ymysg pobl ar ddechrau eu taith fusnes.

“Mae ein gweithdai rhad ac am ddim yn fan cychwyn gwych i bawb sy’n mynychu sydd eisiau cael dealltwriaeth o’r egwyddorion allweddol a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gychwyn a rhedeg eu busnes eu hunain, felly byddwn yn annog pawb yn Sir Fynwy sydd eisiau cael mwy o wybodaeth i ddod draw.”.

Mae mwy o wybodaeth ar leoliadau a sut i archebu lleoedd ar gael yn

https://wales.business-events.org.uk/, e-bost southwales@businesswales.org.uk neu drwy ffonio 01656 868500.

Caiff Busnes Cymru ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n cefnogi twf cynaliadwy busnesau bach a chanolig ledled y wlad drwy gynnig mynediad i wybodaeth, arweiniad a chymorth busnes.

I ganfod sut y gall Busnes Cymru eich helpu i gychwyn neu ddatblygu busnes, ffoniwch 03000 6 03000, dilyn @_busnescymru neu @_businesswales neu edrych ar www.busnescymru.llyw.cymru/ neu www.businesswales.gov.wales/ i gael mwy o wybodaeth.

Dengys ymchwil mai Sir Fynwy sydd â’r economi fwyaf llewyrchus o blith unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru – gan ddod ar y brig o blith y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Dangosir y canfyddiadau hyn ym ‘Mynegai Economi Llewyrchus’ Grant Thornton sy’n graddio’r economi drwy roi ystyriaeth i dwf ariannol ac adenilliad economaidd o fewn ardal a hefyd set ehangach o nodweddion. Mae’r mynegai’n mesur y sefyllfa bresennol ym mhob un o 22 ardal awdurdod lleol Cymru mewn chwe maes o ddangosyddion economaidd-gymdeithasol, i roi arwydd o lewyrch ardal.

Mae’r chwe mesur yn cynnwys y nodweddion dilynol:

 

  • Ffyniant – economi sy’n cynhyrchu cyfoeth a chreu swyddi
  • Dynamiaeth a chyfle – economi sy’n entrepreneuraidd ac yn arloesol, gyda phoblogaeth sydd â setiau sgiliau a all hybu twf pellach.
  • Cynhwysiant a chydraddoldeb – mae pawb yn manteisio o dwf economaidd. Mae’r bwlch rhwng y cyfoethocaf a’r tlotaf yn culhau, mae gwahaniaethau rhanbarthol yn gostwng ac mae cyfle cyfartal i bawb.
  • Iechyd, llesiant a hapusrwydd – pobl hapus ac egnïol, yn arwain bywydau sy’n bodloni ac yn rhoi cyfleoedd unigol
  • Cydnerthedd a chynaliadwyedd – economi yn cael effaith niwtral ar yr amgylchedd naturiol a’n hamgylcheddau adeiledig yn lleoedd cydnerth rydym eisiau byw ynddynt
  • Cymuned, ymddiriedaeth a pherthyn – mae gan gymunedau egnïol fywyd diwylliannol bywiog a chreadigol a hunaniaeth glir mae ei holl bobl yn falch ohono. Mae pobl yn teimlo’n ddiogel, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol ac yn ymddiried yn integriti busnesau a sefydliadau.

 

Cafodd Sir Fynwy raddiad uchel ym mhob maes yn cynnwys Cynhwysiant a Chydraddoldeb, Dynamiaeth a Chyfle, Cydnerthedd a Chynaliadwyedd a Chymuned, Ymddiriedaeth a Pherthyn.

Dywedodd Alistair Wardell, arweinydd practis swyddfa Caerdydd Grant Thornton:

“Mae perfformiad Sir Fynwy drwyddi draw yn y fynegai yn dangos mai hi sydd â’r economi leol fwyaf llewyrchus yng Nghymru. Mae’n data yn dangos ei bod yn gyson yn y dau awdurdod uchaf yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf ac ar hyn o bryd mai yn y 20% uchaf yn genedlaethol ar gyfer pedwar o’r basgedi mynegai, gan fod yn gyntaf am gynhwysiant a chydraddoldeb.

“Mae’r canlyniad rhagorol yma’n dangos, wrth edrych tu hwnt i ddim ond ffyniant economaidd a chanolbwyntio ar fesur llesiant cymdeithas yn ei gyfanrwydd, gall sicrhau newid gwirioneddol a dechrau effeithio mewn modd cadarnhaol ar bobl leol. Gobeithiwn y bydd ein Mynegai yn gweithredu fel dull gwella allweddol ym mhob rhan o Gymru a helpu busnesau, arweinwyr sector cyhoeddus, y trydydd sector a chymunedau i ddynodi ffyrdd y gallant gydweithio i greu economi gwirioneddol egnïol sy’n gweithio i bawb.”

Dywedodd y Cyng Peter Fox, Arweinydd: “Mae’n wych gweld y canlyniadau hyn sy’n ystyried set ehangach o elfennau a ffyniant economaidd sy’n bwysig i fywydau pobl. Mae Sir Fynwy yn wir yn lle arbennig ac mae’n wych clywed canfyddiadau’r astudiaeth annibynnol yma. Mae ein cymunedau gwych yn gofalu am ei gilydd, yn arloesi ac yn dangos y fantais entrepreneuraidd a chreadigol i wneud y gwahaniaeth i bawb.”

Gall Sir Fynwy weiddi ‘Rydyn ni’n Llwyddo’ yn uchel ac yn falch ein bod yn ailgylchu! Yn yr Wythnos Ailgylchu fwyaf a gorau erioed, mae Ailgylchu dros Gymru yn dathlu bod y drydedd genedl orau am ailgylchu yn y byd. Mae cyfradd ailgylchu Sir Fynwy yn aros yn gyson yn 68%.

Am y 15fed Wythnos Ailgylchu flynyddol (24-30 Medi), mae Ailgylchu dros Gymru yn dathlu pa mor bell y daethom wrth gynyddu ein cyfraddau ailgylchu a’n lle ymysg y tair cenedl sy’n ailgylchu mwyaf yn y byd. Gyda chyfradd ailgylchu o 64%, ein targed nesaf yw cyrraedd 70% cyn gynted ag sydd modd a gallwn gyflawni hyn drwy annog preswylwyr i wneud yn siŵr eu bod yn ailgylchu popeth a fedrant o bob rhan o’r cartref.

Pam? Oherwydd MAE Sir Fynwy yn ailgylchu. Oherwydd ei fod yn cyfri.

Cael ailgylchu yn iawn

Fel cenedl rydym yn ailgylchu mwy nag erioed, ond mae’n bwysig ein bod yn ei gael yn iawn. Mae bron hanner (49%) yn rhoi o leiaf un eitem y gellid ei ailgylchu yn y bin sbwriel cyffredinol

Yn ystod yr Wythnos Ailgylchu yma rydym yn annog pawb i wneud ychydig bach mwy i helpu Cymru i ddod y brif genedl ailgylchu yng Nghymru.

Dyma rai awgrymiadau da ar gyfer ailgylchu yn Sir Fynwy:

  • Ailgylchu batris, yn hytrach na’u taflu gyda sbwriel cartref. Mae blychau casglu ar gyfer batris ym mhob Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, mewn hybiau cymunedol Cyngor Sir Fynwy, mewn ysgolion ac mewn siopau trydanol. Os caiff batris eu rhoi gyda gwastraff cartref, cânt eu llosgi a gall y broses hon achosi ffrwydradau a difrod costus i’r cyfleuster ynni o wastraff.
  • Ailgylchu paent emwlsiwn a glos. Gellir ailgylchu paent cartrefi ym mhob un o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Sir Fynwy.
  • Ailgylchu eitemau trydanol bach fel peiriannau tostio, ffonau, unedau sain bach a sychwyr gwallt. Ewch â nhw i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi agosaf.
  • Caiff gwastraff bwyd ei gasglu bob wythnos yn Sir Fynwy a’i ailgylchu. O fis Rhagfyr bydd y broses ailgylchu bwyd yn cynhyrchu trydan yn ein cyfarpar biodreulydd newydd. Rydym angen mwy o bobl leol i ymuno â’r chwyldro ailgylchu bwyd gan ei fod yn gostwng arogl bin y cartref yn ogystal â bod yn fwy gwyrdd.
  • Ailgylchu papur a cherdyn i fagiau coch a deunyddiau plastig, caniau a gwydr i fagiau porffor.

 

Mae rhai pobl yn holi pam y caiff yr holl fagiau wedyn eu llwytho i gefn yr un lori a’u cywasgu gyda’i gilydd. Mae papur a cherdyn yn fwy o werth pan gaiff ei gadw ar wahân oddi wrth ddeunyddiau eraill. Mae pryderon weithiau fod y bagiau’n rhwygo pan gânt eu cywasgu yng nghefn y lori. Gwneir y cywasgu yn ofalus i wneud yn siŵr fod digon o le ar y lori i gasglu sbwriel ailgylchu pawb ac nid yw’r driniaeth yma’n achosi difrod i’r deunyddiau.

 

Bydd lorïau newydd ar gael yn ystod y gwanwyn nesaf a chedwir deunyddiau ar wahân. Gobeithir y bydd hyn yn annog hyd yn oed fwy o bobl i ailgylchu a chael mwy o hyder yn y broses ailgylchu.

 

Ansicr sut i ailgylchu eitem penodol? Gall Lleoliad Ailgylchu a baratowyd gan Ailgylchu dros Gymru ddangos yn union beth ddylai fynd i’r bin ailgylchu lle’r ydych chi’n byw.

 

Ailgylchwch. Mae Sir Fynwy yn gwneud. Oherwydd ei fod yn cyfri.

 

Mae beth a sut yr ydym yn ailgylchu yn cyfri. Mae ailgylchu eitem yn hytrach na’i thaflu gyda’r sbwriel cyffredinol yn golygu y caiff ei thrin yn y ffordd fwyaf cyfeillgar i’r amgylchedd, gadw deunyddiau mewn defnydd ac allan o’r amgylchedd.

 

Dywedodd Catrin Palfrey, rheolwr ymgyrch Ailgylchu dros Gymru: “Mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn ailgylchu popeth a fedrant o bob rhan o’r cartref ac mae ein safle yn y byd yn adlewyrchu hyn. Mae’r un fath yn Sir Fynwy – mae mwy a mwy ohonom yn ailgylchu, felly diolch i chi am wneud popeth a fedrwch i barhau â’r gwaith da! Gyda’n gilydd gallwn helpu Cymru i gyrraedd y brig.”

 

Dywedodd Bryan Jones, Aelod Cabinet dros Ailgylchu a Gwastraff “Mae pobl Sir Fynwy yn wych am ailgylchu ac mae ein cyfraddau ailgylchu yn gyson yn y 3 sir uchaf yng Nghymru. Mae bob amser fwy o ddeunyddiau y gallem ailgylchu mwy arnynt – yn arbennig bwyd. Mae rhai newidiadau mawr ar y ffordd ar gyfer ein gwasanaeth ailgylchu. Bydd ein loriau ailgylchu newydd ar y ffordd yn y gwanwyn, gan gadw’r deunyddiau y mae pobl leol yn eu didoli’n ofalus yn fwy ar wahân, gan gynyddu eu gwerth a’r gallu i’w hailgylchu.”

 

I gael mwy o wybodaeth am yr Wythnos Ailgylchu ac i ddefnyddio’r Lleoliad Ailgylchu i ganfod beth i’w ailgylchu lle’r ydych chi’n byw, ewch i www.ailgylchudrosgymru.org.uk.

 

Ddydd Iau 20 Medi gwahoddodd Sgowtiaid Sir Fynwy staff ac aelodau etholedig o Gyngor Sir Fynwy i helpu gwneud dros 100 pabi ceramig fel rhan o brosiect celf goffa Sir Fynwy yn Cofio. Daeth arweinwyr y sgowtiaid draw i Neuadd y Sir ym Mrynbuga ynghyd â rhai o aelodau ieuengaf y Gymdeithas Sgowtiaid, i gyd yn ddisgyblion Ysgol y Fenni, ac ar gael i helpu staff i greu’r pabi unigryw.

Hyd yma, cafodd 2,000 pabi eu cynhyrchu gan grwpiau Sgowtiaid, Explorers, Cubs, Beavers ac Arweinwyr. Mae’r pabi a gafodd eu creu yn Neuadd y Sir yn ychwanegiad gwerthfawr, gyda Sgowtiaid Sir Fynwy yn anelu i greu 2,500 ohonynt erbyn 30 Medi.

Bydd prosiect Sir Fynwy yn Cofio yn coffau’r milwyr o Sir Fynwy a fu farw yn y 100 mlynedd diwethaf. Ddydd Sul 18 Tachwedd gosodir 2,500 pabi ceramig yng Nghastell Rhaglan ar gyfer Seremoni Coffau Sgowtiaid Sir Fynwy. Mae trefnwyr y digwyddiad wedi casglu enwau aelodau lluoedd arfog a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro dros y 100 mlynedd ddiwethaf. Hwn fydd y tro cyntaf erioed i’r enwau hyn gael ei dangos gyda’i gilydd.

Dywedodd Ceri Carlyon, Arweinydd Sgowtiaid Sir Fynwy: ‘Rydym mor falch i fod yn rhan o ddigwyddiad coffa mor fawr. Rydym mor ddiolchgar am y gefnogaeth y mae’r awdurdod lleol, grwpiau cymunedol ac ysgolion eisoes wedi ei ddangos i’n helpu i gyflawni ein nod. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y gosodwaith terfynol yng Nghastell Rhaglan, bydd yn olygfa wirioneddol wych. Bydd hefyd yn deimladwy iawn i gweld enwau’r holl filwyr yn cael eu harddangos a chyfleu gwir arwyr ein hoes.’

Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet Cyfiawnder Cymdeithasol a Datblygu Economaidd: “Roedd yn wych croesawu Sgowtiaid Ardal Sir Fynwy a dysgu mwy am brosiect Sir Fynwy yn Cofio. Rwy’n canmol y gwaith i goffau ein milwyr ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld y pabi yn cael eu dangos yn y digwyddiad ym mis Tachwedd.’

Mae Sgowtiaid Sir Fynwy yn croesawu gwybodaeth gan deuluoedd milwyr a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro. Defnyddir yr wybodaeth i goffau arwyr rhyfel lleol y 100 mlynedd ddiweddaf. Cyswllt: Ceri Carlyon C.Carlyon@monscouts.org.uk

I gael mwy o wybodaeth ar grwpiau Beavers, Cubs, Sgowtiaid ac Explorers ewch i: http://www.scoutscymru.org.uk/

Cafodd disgyblion a staff o Ysgol Gynradd Llan-ffwyst Fawr gyfle unwaith mewn oes yr wythnos hon pan fuont yn bresennol yn nigwyddiad graddio cyntaf Gwobr y Tywysog William, ynghyd â disgyblion o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, ynghyd â EUB Dug Caergrawnt.

Arweinydd y digwyddiad a gynhaliwyd i ddathlu llwyddo gwobr addysg cymeriad yn enw’r Tywysog William, oedd David Walliams OBE a neilltuodd amser i siarad gyda’r plant a hyd yn oed dynnu ychydig o hunluniau.

Cafodd plant a staff Llan-ffwyst eu synnu pan gyhoeddodd David Walliams enillwyr y Cyfraniad Eithriadol ar gyfer Gwobr y Tywysog William: “Rhoddir hyn i bennaeth yr ysgol a’r ysgol sydd yn wirioneddol wedi coleddu’r cynllun. Mae eu hyrwyddiad o addysg cymeriad wedi bod yn ysbrydoliaeth. Aiff y wobr i Jon Murphy ac Ysgol Gynradd Llan-ffwyst Fawr.”

Cyflwynwyd y wobr i Mr Murphy, oedd ar y llwyfan gyda disgyblion yn cynrychioli’r ysgol ac athrawes Blwyddyn 2 Mrs Cheryl Evans, gan y Tywysog William a Mr Ben Slade, Prif Weithredwr Skillforce.

Dywedodd Mr Murphy: “Roedd hon yn wobr hollol annisgwyl i’r ysgol ac roedd yn anrhydedd gwirioneddol cael y Cyfraniad Eithriadol at Wobr y Tywysog William gan Ddug Caeredin. Mae hyn bod yn uchafbwynt gyrfa i mi.”

Caiff Gwobr y Tywysog William ei chyflwyno gan elusen SkillForce o Nottingham gyda’r nod o helpu plant a phobl ifanc 6-14 oed i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol yn cynnwys hyder, gwytnwch a hunan-gred.

Gorffennodd Blwyddyn 2 a Blwyddyn 5 Ysgol Gynradd Llan-ffwyst Fawr y rhaglen 36 wythnos, a gaiff ei haddysgu’n bennaf gan gyn aelodau o’r lluoedd arfog, drwy amrywiaeth o weithgareddau ymarferol a seiliedig mewn dosbarth ac mae’n cynnwys adfyfyrio’n rheolaidd ar yr hyn mae disgyblion yn ei ddysgu a sut mae eu cymeriad yn datblygu. Hyd yma graddiodd 90 o ddisgyblion yn llwyddiannus i ennill y wobr ac mae 60 arall yn dilyn y cwrs ar hyn o bryd.

Mynychodd mwy na 150 o blant y digwyddiad a bu Dug Caeredin yn siarad gyda llawer o ddisgyblion ac  ysgolion.

Lansiwyd Gwobr y Tywysog William yn 2017 a chaiff eisoes ei chynnal mewn dros 200 o ysgolion ar draws y Deyrnas Unedig a chafodd ei chyflwyno i 7,500 o ddisgyblion.

Mae SkillForce yn bennaf yn defnyddio cyn aelodau o’r lluoedd arfog fel hyfforddwyr a gallant ysbrydoli ac addysgu disgyblion drwy ddefnyddio eu profiad bywyd a gyrfa, dewrder a gwybodaeth eu hunain ac mae’r elusen yn cynnig sesiynau blasu i ysgolion sy’n ystyried cofrestru.

Mewn araith yn y digwyddiad, dywedodd Ben Slade, Prif Swyddog Gweithredol SkillForce :

“Rydym wedi cyflawni llawer iawn eleni. Fodd bynnag dim ond dechrau pethau yw hyn. Rwy’n credu fod yn rhaid i ni roi llawer mwy o bwyslais ar roi’r amser a’r lle i blant i ymchwilio agweddau sylfaenol cymeriad da a datblygu’r sgiliau i ymdopi gyda heriau a chyfleoedd bywyd.”

Rhoddodd David Walliams elfen o gomedi, i’r seremoni gan jocan:

“Ar gyfer y rhai ohonoch nad ydych yn fy adnabod – mewn ffordd fi yw ateb Prydain i Angelina Jolie: actor uchel iawn ei barch sy’n adnabyddus am ei waith dyngarol, a hefyd yn ddeniadol iawn i’r llygad.”

Mae My Mates, prosiect cyfeillgarwch gan Gyngor Sir Fynwy ar gyfer pobl gydag anableddau, wedi ennill Gwobr Gofal Cymdeithasol Cymru am Ddatrysiadau Arloesol a Chreadigol.

Dyfernir Gwobrau Gofal Cymdeithasol i sefydliadau a thimau o bob rhan o Gymru i gydnabod, dathlu a rhannu arfer ardderchog mewn gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Cyflwynir y gwobrau i brosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd y bobl y maent yn eu cefnogi.

Teithiodd aelodau’r prosiect ynghyd â thîm My Mates: Sarah Seabourne, rheolwr y prosiect; Kemmine Parrish, cydlynydd y prosiect a Janet Cox, hwylusydd y prosiect, i Neuadd y Ddinas Caerdydd ddydd Iau 13 Medi ac roeddent wrth eu bodd i ennill y wobr bwysig. Hefyd yn cadw cwmni i’r tîm roedd Shelley Welton, Comisiynydd Arweiniol Cyngor Sir Fynwy sy’n eiriolydd ac yn gefnogwr cadarn i’r prosiect arloesol.

Dechreuodd My Mates yn 2016, a chaiff y prosiect unigryw a thrawsnewidiol ei arwain gan aelodau sy’n gweithio i sicrhau annibyniaeth a chydraddoldeb.

Mae’r prosiect yn helpu pobl gydag anableddau i ffurfio cyfeillgarwch hyderus a byw “gydag angerdd a diben”. Mae’n galluogi aelodau i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol. Cafodd cyfeillgarwch cadarn ei ffurfio ac, mewn rhai achosion, berthnasoedd personol agos. Caiff aelodau gyngor a gwybodaeth gan gydlynwyr My Mates mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae’r tîm yn cynnig cyngor ac arweiniad proffesiynol ac mae ganddynt Gerdyn C wedi cofrestru gyda GIG Cymru.

Mae’r prosiect wedi gweld cyfeillgarwch yn ffynnu a chariad gwirioneddol yn blodeuo. Mae rhai aelodau wedi magu hyder i drafod a mynegi eu rhywioldeb, rhywbeth nad oedd llawer wedi ei drafod gyda neb o’r blaen. Mae tîm My Mates yn gweithio’n agos gydag aelodau’r gymuned LGBT+ ac yn cael mynediad i gefnogaeth ac arweiniad.

Oherwydd ei lwyddiant mae’r prosiect wedi ehangu i gynnwys pobl o bob rhan o’r Gwent, ac mae ganddo 115 aelod erbyn hyn.

Dywedodd Penny Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Rwyf ar ben fy nigon. Mae’r prosiect wedi llwyddo oherwydd agwedd arloesol swyddogion y cyngor a brwdfrydedd ac ymroddiad aelodau My Mates. Mae cyfeillgarwch yn hanfodol i gael golwg iach ar fywyd. Mae My Mates yn helpu cynifer o bobl i fynd i leoedd newydd, dod i adnabod pobl newydd a chael hwyl!

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â My Mates ar 01873 735414.

 

 

Cafodd disgyblion yn Nhrefynwy eu croesawu i’w hysgol 21ain Ganrif newydd ddydd Llun 17 Medi. Dechreuodd myfyrwyr a staff y flwyddyn academaidd yn yr ysgol newydd o’r math diweddaraf. Mae Cyngor Sir Fynwy mewn cysylltiad gyda phartneriaid yn Interserve, grŵp gwasanaethau cefnogaeth ac adeiladu rhyngwladol, a Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno amgylchedd dysgu newydd gwych ar gyfer disgyblion a staff. Bydd gofodau braf yn ysbrydoli ac yn hybu profiadau dysgu.

Mae’r amgylchedd dysgu £40m yn cynnwys cyfuniad o ardaloedd arddull theatr, neuadd fawr a gofodau stiwdio i astudio’n anffurfiol, ynghyd ag ystafelloedd dosbarth gyda golau naturiol ac amrywiaeth o ofodau i bobl ifanc eu mwynhau. Mae’r gwaith adeiladu’n cynnwys technoleg ddigidol 21ain ganrif ym mhob rhan o’r adeilad sy’n cynnwys taflunwyr ansawdd sinema a’r offer addysgu rhyngweithiol diweddaraf ar gyfer athrawon a myfyrwyr.

Mae’r gofod effeithiol o ran ynni yn cynnwys technoleg hunan-oeri mewn tywydd twym gyda rhyddhau gwres i ostwng yr angen am wresogi traddodiadol. Gwneir y defnydd mwyaf posibl o olau naturiol ym mhob rhan o’r adeilad gyda goleuadau awtomatig i arbed trydan.

Adeiladwyd yr ysgol gan bobl leol – gyda 70% o’r adeiladwyr, trydanwyr, plymwyr a pheirianwyr ar y safle yn byw yn yr ardal, yn cynnwys rhai cyn-ddisgyblion. Mae llawer o brentisiaid lleol wedi dysgu sgiliau ar y safle ac mae myfyrwyr profiad gwaith wedi cyfrannu at y prosiect i roi cyfleoedd swyddi iddynt yn y dyfodol. Mae Interserve gan gydweithio gyda’r cyngor sir a chynllun rhannu prentisiaeth Y Prentis yn Ne Ddwyrain Cymru wedi rhagori ar darged buddion cymunedol y prosiect.

Bydd grwpiau cymunedol hefyd yn manteisio o’r cyfleusterau. Gellir defnyddio’r stiwdio ddawns a’r neuadd ar gyfer cyfarfodydd cymunedol, grwpiau a dosbarthiadau ffitrwydd ac mae ardal y llwyfan yn rhoi gofod perfformiad perffaith ar gyfer corau lleol a grwpiau drama amatur.

Mae’r ysgol yn agos at ac yn ategu’r ganolfan hamdden sydd newydd ei hagor, y ddwy yn asedau gwerthfawr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet Sir Fynwy dros Blant a Phobl Ifanc: “Ar ôl ymweld â’r safle nifer fawr o weithiau dros y 12 mis diwethaf, mae’n fy ysbrydoli i weld myfyrwyr a staff yn symud i gartref newydd Ysgol Gyfun Trefynwy.

“Mae’r cyngor, ynghyd â’n contractwyr, Llywodraeth Cymru a chyfraniad llawn gan y myfyrwyr ac athrawon wedi darparu amgylchedd dysgu o’r math diweddaraf un i bobl ifanc yn Nhrefynwy am genedlaethau i ddod.

“Rwy’n edrych ymlaen at glywed ymateb y staff a myfyrwyr wrth i’r tymor newydd ddechrau ac edrychaf ymlaen at gwblhau’r gwaith allanol yn cynnwys dymchwel yr hen adeiladau. Ynghyd ag ailddatblygu’r ganolfan hamdden, hwn yw’r buddsoddiad sengl mwyaf yn Nhrefnwyr am genedlaethau a gobeithiaf y bydd o fantais mawr i’r bobl leol.”

Mae Vaughn Davies, Pennaeth yr ysgol, ar ben ei ddigon gyda chanlyniad y buddsoddiad yng nghymuned Trefynwy: “Rwyf mor falch i groesawu disgyblion a chydweithwyr i’n hysgol 21ain ganrif. Hoffwn ddiolch i staff, disgyblion, rhieni , llywodraethwyr a’n holl bartneriaid am eu cyfraniad sylweddol i’r dyluniad, i wneud hwn yn amgylchedd dysgu cynhwysol iawn i bawb. Rydym wedi casglu popeth sy’n llwyddiannus iawn am ein hysgol ac yn seiliedig ar ein gwerthoedd, wedi cyfoethogi hynny. Gellir yn awr ddefnyddio’r gofodau newydd hyn yn y ffordd orau bosibl i bob disgybl fwynhau eu dysgu a symud ymlaen i fywyd fel oedolion gyda’r sgiliau a’r wybodaeth i’w paratoi ar gyfer cyflogaeth a dysgu gydol oes.”

Dywedodd Tim Humphries, pensaer prosiect gyda BDP:

“Bu’n fraint fawr gweithio gydag ysgol ac awdurdod lleol mor oleuedig sydd wedi croesawu’r posibiliadau y gall dylunio eu cynnig.

“Bu’r ffordd y buont yn cydweithio a gyrru’r prosiect yn sylfaenol i’r canlyniad – cyfleuster pwrpasol, hyblyg sy’n gwirioneddol weithio i’r ysgol wrth ei galluogi i gyflawni deilliannau addysgol, tra’n manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a gynigir gan Raglen Ysgolion 21ain Ganrif Cyngor Sir Fynwy”.

 

 

Gall rhieni a gofalwyr Sir Fynwy gael mynediad i’r Cynnig Gofal Plant newydd o fis Ionawr 2019. Mae ‘r cynllun a gyllidir gan Lywodraeth Cymru yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg a gofal plant rhad ac am ddim ar gyfer rhieni cymwys sydd mewn gwaith ac â phlant 3 a 4 oed, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn.

Gall plant gael mynediad i’r cynnig o’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed tan y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed.

I gael mynediad i elfen gofal plant y cynnig, mae’n rhaid i rieni a gwarcheidwaid:

  • Fod yn gyflogedig neu hunangyflogedig ac yn byw’n barhaol yn Sir Fynwy
  • Rhaid i’r ddau riant fod yn gweithio mewn teulu dau riant, neu’r rhiant unigol mewn teulu un rhiant
  • Bod yn ennill isafswm wythnosol o 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol, ond llai na £100k y flwyddyn

Gall darparwyr gofal plant sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (neu Estyn os yw’r darparydd yn Lloegr) ddarparu’r cynnig ond mae’n rhaid i 10 awr o addysg feithrin Cyfnod Sylfaen gael eu cymryd mewn meithrinfa awdurdod lleol neu ddarparydd cymeradwy nas cynhelir.

Dywedodd y Cyng Richard John, Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc: ‘Rwyf mor falch y gall teuluoedd Sir Fynwy gael mynediad i’r Cynnig Gofal Plant. Hyd yma cynhaliwyd cynllun peilot mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Cymru felly mae’n dda medru darparu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i deuluoedd ffynnu.’

Bydd manylion cynhwysfawr ar gael yn y misoedd nesaf. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.monfis.org.uk neu www.facebook.com/moncfis.

 

 

Mae hybiau cymunedol a llyfrgelloedd Sir Fynwy yn annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i gynllunio dau gerdyn aelodaeth llyfrgell newydd. Gwahoddir plant pedair i saith oed i gynllunio cerdyn ar gyfer rhai 0-7 oed a gofynnir i bobl ifanc rhwng 8 a 15 oed greu cerdyn ar gyfer rhai yn eu harddegau.

Mae’n rhad ac am ddim i ymuno â’r llyfrgell ac mae’n agor byd o ddychymyg drwy lyfrau stori gwych. Gall plant ddysgu am y byd rydym yn byw ynddo o’n casgliadau o lyfrau ffeithiol a drwy’r mynediad am ddim i’r rhyngrwyd sydd ar gael ym mhob un o hybiau Sir Fynwy. Medrir lawrlwytho eLyfrau a llyfrau sain am ddim hefyd ac mae Comics Plus yn rhoi mynediad heb derfyn i filoedd o nofelau a chomics graffig digidol. Mae llyfrgelloedd yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau am ddim drwy gydol y flwyddyn.

Caiff tri chynnig o bob categori eu rhoi ar restr fer gan banel o feirniaid yn cynnwys yr awdur a darlunydd Shoo Rayner. Caiff cynigion eu barnu ar ddychymyg, creadigrwydd a pha mor dda mae’r cynllun yn hyrwyddo llyfrgelloedd a darllen. Caiff enillwyr eu dewis drwy bleidlais gyhoeddus ar-lein.

Agorodd y gystadleuaeth ddydd Llun 3 Medi a’r dyddiad cau ar gyfer cynigion yw dydd Llun 1 Hydref. Bydd pleidleisio ar-lein rhwng dydd Llun 8 Hydref a dydd Iau 22 Hydref. Cyhoeddir enwau dau enillydd ar 29 Hydref.

Mae mwy o wybodaeth a thelerau ac amodau’r gystadleuaeth ar gael ar ffurflen gais o’ch hyb cymunedol neu llyfrgell. Gellir gael mwy o wybodaeth am hybiau cymunedol Sir Fynwy drwy’r wefan:

http://www.monmouthshire.gov.uk/community-hubs-libraries

 

Gwahoddir preswylwyr i fynychu digwyddiad band eang i ofyn cwestiynau a chanfod mwy am ymestyn band eang cyflym iawn. Cynhelir y digwyddiad yn neuadd pentref Llanddewi Rhydderch ar 20 Medi, 4.30-6.00pm, gyda Julie James AM, Gweinidog Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am seilwaith band eang yn bresennol.

Mae Cyflymu Cymru wedi darparu mynediad i fand eang ffibr cyflym i bron 733,000 o safleoedd ledled Cymru ond mae ardaloedd o Gymru yn dal i fod heb fynediad i’r gwasanaeth yma.

Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol:

“Rwy’n credu’n gryf y dylai ein holl gymunedau gael mynediad i Fand Eang Cyflym Iawn. Bydd y drafodaeth hon yn werthfawr iawn gan y bydd y Gweinidog yn bresennol. Bydd yn gyfle i gyfleu teimladau preswylwyr ac ateb cwestiynau. Bydd Cyngor Sir Fynwy yn parhau i weithio gyda’n cymunedau nad oes ganddynt fynediad i fand eang cyflym iawn i ddynodi datrysiadau a allai gyflawni eu hanghenion. Mae allgau digidol yn broblem go iawn yn ein cymunedau ac rwy’n benderfynol i weithio gyda phartneriaid i sicrhau y caiff ei ddatrys’.

 

Fe wnaeth Cyngor Sir Fynwy greu gofod egnïol, hwyliog a diddorol yn Sioe Brynbuga i ddathlu popeth sydd gan y sir i’w cynnig. Thema’r diwrnod oedd ‘Cadw eich Cefn Gwlad yn Iach’ felly daeth llawer o fudiadau lleol ac adrannau’r cyngor ynghyd – o ofalu am gefn gwlad drwy ostwng y defnydd o blastig un-defnydd i wirfoddolwyr yn helpu gyda datrysiadau trafnidiaeth wledig, i ddod â phobl ynghyd i ddysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau.

Rhannwyd naws yr ŵyl gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru, mudiad sy’n cefnogi gofalwyr ifanc yn Sir Fynwy. Roedd y gofalwyr yn bresennol i greu profiad unigryw gyda pheintio wyneb gyda gliter ac amrywiaeth o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth o’u gwaith.

Bu adloniant ar lwyfan Cerddoriaeth Gwent drwy gydol y dydd gyda pherfformiadau gan ensemble sacsoffon De Mynwy, Côr Cymunedol Sir Fynwy, Ysgol Gyfun Trefynwy, Côr Ysgol Gynradd Cross Ash, Sŵn Celtaidd, Buskuleles Brynbuga a Chôr Allegra.

Bu timau gwastraff ac ailgylchu Sir Fynwy yn rhannu awgrymiadau, cyngor da ac ymrwymiadau ar fod yn ddi-blastig ac ymunodd Trefynwy Di-blastig a Chas-gwent Di-blastig gyda nhw. Rhoddwyd poteli yfed y gellid ei hail-lenwi i’r holl wirfoddolwyr i ostwng y defnydd o blastig un-defnydd yn y digwyddiad. Cafodd ymwelwyr hefyd eu hannog i feddwl am effaith sbwriel ar gefn gwlad hardd Sir Fynwy.

Cyflwynwyd gweithdai crefft gan dîm Dysgu Cymunedol Sir Fynwy fu’n dysgu ymwelwyr o bob oed sut i wneud anifeiliaid o lyfrau wedi eu hailgylchu. Roedd y tîm yn awyddus i annog pawb i ddysgu rhywbeth newydd a hyrwyddo’r amrywiaeth eang o gyrsiau a gynigir gan Dysgu Cymunedol Sir Fynwy. Ymunodd grŵp Menywod Crefftus y Fenni yn yr hwyl, gan helpu preswylwyr i wneud pabi cadoediad o boteli plastig wedi’u hailgylchu.

Cynhaliodd tîm Cefn Gwlad y cyngor gêm yn rhoi sylw i lwybrau cerdded, atyniadau a phethau i’w gwneud yn yr awyr agored. Y tu allan yn y Parth Rhoi Cynnig Arni, roedd tîm hamdden Sir Fynwy yn boblogaidd gyda golff gwirion a bu llawer o bobl yn cymryd rhan yn y gêm ‘Serfio Sydyn’ ar gwrt tennis gwynt gyda chefnogaeth gan hyfforddwyr tennis lleol. Roedd gwybodaeth ar gael gan dîm Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy ar yr ystod eang o ddewisiadau iechyd, ffitrwydd a gweithgareddau awyr agored sydd ar gael ar draws Sir Fynwy.

Roedd hen gar clasurol yn destun trafod gwych i Gynllun Car Cymunedol Bridges sy’n edrych am wirfoddolwyr i helpu cludo pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell. Roedd gan Dewis Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gyngor gwych ar gyfer cadw pobl yn iach.

Bu’r tîm Maethu yn codi ymwybyddiaeth o’r angen am fwy o ofalwyr maeth yn Sir Fynwy. I gael mwy o wybodaeth a chanfod pa mor werth chweil y gall maethu fod, ewch draw i westy’r Three Salmons, Brynbuga am 10.00am – 12.00pm neu 6.30pm – 8.30pm ddydd Iau 13 Medi 2018.

Roedd anrhegion gyda thema Sir Fynwy ar werth yn Ymweld â Sir Fynwy a chynnyrch Masnach Deg gan grŵp Masnach Deg Sir Fynwy.

Bu’r Cyngor yn arddangos ei ap Fy Sir Fynwy a phrofiad rhyngweithiol ‘Chat Bot’ newydd i alluogi preswylwyr i dderbyn gwybodaeth yn gyflym ac yn rhwydd. Rhoddodd ymwelwyr i’r babell adborth onest ac agored am y Cyngor. Caiff yr adborth ei ddefnyddio er mwyn parhau i wella.

Dywedodd Peter Fox, Arweinydd y Cyngor: “Diolch i bawb a ymunodd â ni yn Sioe Brynbuga ddydd Sadwrn. Fel ffermwr lleol, mae cadw cymunedau gwledig yn iach ac yn ffynnu yn wirioneddol bwysig i fi. Roedd yn wych clywed preswylwyr yn siarad am y pethau sy’n bwysig iddynt a rhannu eu syniadau am sut y gallwn ddod hyd yn oed yn well. Roedd yn hyfryd gweld pawb yn mwynhau diwrnod hwyliog mas gyda’u cymuned.”

Mae Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn gwahodd busnesau bach a chanolig yn cyflogi hyd at 250 o bobl i gymryd rhan mewn arolwg ar eu defnydd o dechnoleg ddigidol.

Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o genhedloedd eraill, mae Cymru yn mynd drwy gyfnod o drawsnewid digidol cyflym gyda thechnolegau a alluogir gan fand eang megis cyfrifiadureg cwmwl, cynadleddau fideo a chyfryngau cymdeithasol â rôl ganolog mewn busnes a chymdeithas. Dengys tystiolaeth o arolygon Aeddfedrwydd Digidol blaenorol (2016 a 2017) fod busnesau wedi sicrhau manteision sylweddol o fabwysiadu technolegau o’r fath, gyda 50% o fusnesau bach a chanolig Cymru yn dweud fod eu helw wedi cynyddu oherwydd defnydd band eang cyflym iawn.

Bydd yr Uned Ymchwil ar Economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn lansio arolwg diweddaraf Aeddfedrwydd Digidol ar 10 Medi mewn cysylltiad gyda Llywodraeth Cymru. Yr arolwg yw’r brif ffynhonnell o ddata ar fusnesau Cymru a’u Haeddfedrwydd Digidol – yn adlewyrchu eu sgiliau TG a defnydd technolegau digidol.

Bydd pob busnes sy’n cymryd rhan yn yr arolwg yn 2018 yn gymwys i dderbyn copi o’u sgôr Aeddfedrwydd Digidol yn rhad ac am ddim (anfonir hyn yn gynnar yn 2019 i bawb sy’n cymryd rhan) gan ddangos sut maent yn cymharu gydag eraill yng Nghymru. Drwy gymryd rhan, gall busnesau gefnogi’r ymchwil bwysig yma, hysbysu gwaith Llywodraeth Cymru yng nghyswllt band eang cyflym iawn a chyfrannu at ddatblygiad Cymru fel cenedl ddigidol.

Medrir cael mynediad i’r arolwg yn: https://bit.ly/2w2koYe

  • Mae mwy o help ar gael gan Cyflymu Cymru i Fusnesau – gwasanaeth cymorth busnes sy’n helpu busnesau cymwys bach a chanolig yng Nghymru i fanteisio i’r eithaf ar dechnoleg ar-lein. Yn cynnig dosbarthiadau meistr yn rhad ac am ddim, cefnogaeth un-i-un ac adolygiad gwefan, gallai cefnogaeth helpu busnesau i arbed arian, hybu gwerthiant ac elw a gwella cynhyrchiant. https://busnescymru.llyw.cymru/cyflymucymruifusnesau/

Disgwylir llanw uchel. Byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa ac, os oes angen, byddwn yn trefnu cau’r A466 drwy Dyndyrn am gyfnodau byr ar y dyddiadau ac amserau dilynol:

Dydd Sul 9 Medi Rhwng 20:25 – 20.55 (tua)

Dydd Llun 10 Medi Rhwng 08:50 – 09.20 (tua)

Dydd Llun 10 Medi Rhwng 21.10 – 21.40 (tua)

Dydd Mawrth 11 Medi Rhwng 09:35 – 10.05 (tua)

Dydd Mawrth 11 Medi Rhwng 21:55 – 22.25 (tua)

Dydd Mercher 12 Medi Rhwng 10:20 – 20.50 (tua)

Dydd Mercher 12 Medi Rhwng 22:35 – 23.05 (tua)

Bydd y pwyntiau cau fel sy’n dilyn:

Cau Pen Gogleddol: Cyffordd Heol Tryleg

Cau Pen Deheuol: Cyffordd Royal George

Amcangyfrifir yr amserau cau yn seiliedig ar ragolygon amser llanw. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw colwg ar y sefyllfa ac yn cyhoeddi Rhybuddion Llifogydd fel sydd angen. Dim ond dros dro y bydd angen cau ffyrdd a dim ond pan os yw dŵr llanw yn llifo ar y briffordd. Bydd y ffordd yn ailagor cyn gynted ag mae’r dŵr wedi cilio o’r briffordd.

Bydd cynnydd i wneud Sir Fynwy yn sir ddi-blastig yn cymryd cam mawr ymlaen yn nhymor yr hydref gyda dychwelyd i laeth ysgol mewn poteli gwydr. Yn dilyn gwerthusiad trwyadl o gyflenwyr, mae’r cyngor yn ddiweddar wedi dyfarnu ei gontract i Raglan Dairy a chaiff llaeth ar gyfer pob disgybl ysgol Cyfnod Allweddol Un ei ddosbarthu mewn poteli gwydr fydd wedyn yn cael eu casglu a’u sterileiddio a’u hailddefnyddio. Fel budd ychwanegol, mae’r llaethdy yn cael ei holl laeth o fewn cylch 30 milltir o’i safle yn Rhaglan.

Cafodd llaeth ysgol ei ddosbarthu mewn poteli plastig traean o beint am nifer o flynyddoedd ac yn Sir Fynwy mae hyn yn gyfanswm o 11,500 potel yr wythnos neu’r nifer enfawr o 437,000 bob blwyddyn! Er y caiff rhai ohonynt eu hailgylchu, mae’r cyngor yn cydnabod y difrod y gall plastig un-defnydd ei achosi i’r amgylchedd a’r moroedd. Fel canlyniad, mae wedi gwneud ymrwymiad i ddod yn ddi-blastig drwy ostwng pob defnydd diangen ar blastig.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc: “Mae’r cyngor wedi gwneud ymrwymiad i weithio tuag at ddod yn sir ddi-blastig ac mae hynny’n golygu cael ein tŷ ein hunain mewn trefn drwy ostwng plastig un-defnydd diangen. Bydd symud i boteli gwydr ar gyfer llaeth ysgol yn atal llawer iawn o wastraff bob blwyddyn.”

Ychwanegodd James Durose o Raglan Dairy: “Rydym yn falch iawn i fod wedi sicrhau’r contract i gyflenwi llaeth ysgol i ysgolion Sir Fynwy, ac yn falch i fedru cyfrannu at ostwng gwastraff plastig.”

Gall ymwelwyr i Sioe Brynbuga ddydd Sadwrn 8 Medi edrych ymlaen at gael eu diddanu a’u hysbysu pan fyddant yn camu i bafiliwn Cyngor Sir Fynwy. Mae’r cyngor yn dychwelyd am ail flwyddyn yn dilyn llwyddiant Pabell Sir Fynwy yn 2017.

I gefnogi’r ymgyrch ryngwladol i ddiogelu ein byd naturiol, thema eleni yw Cadw ein Cefn Gwlad yn Iach. Bydd ardal Sir Fynwy yn rhoi cyfle i ddangos gwaith amgylcheddol gwych y tîm Gwastraff ac Ailgylchu. Bydd y tîm yn gweithio gyda grwpiau Di-blastig o bob rhan o’r sir, Tîm Cefn Gwlad y cyngor a Chadw Cymru’n Daclus i ymgysylltu, addysgu a hysbysu ymwelwyr am y llu o ffyrdd y gallant newid eu harferion i helpu diogelu’r amgylchedd.

Mae’r cyngor yn falch i arddangos profiad rhyngweithiol newydd ‘Chat Bot’ i alluogi preswylwyr i dderbyn gwybodaeth yn gyflym ac yn rhwydd. Mae croeso i ymwelwyr i’r babell roi adborth onest ac agored am sut mae’r cyngor yn cysylltu gyda phreswylwyr ar hyn o bryd. Bydd gêm hwyliog a diddorol o ‘Sgorau ar y Drysau’ yn rhoi cyfle i breswylwyr roi sgôr i’w profiad presennol. Defnyddir yr adborth i ddatblygu dyfodol gwasanaeth cwsmeriaid yng Nghyngor Sir Fynwy.

Bydd y llwyfan bysgio poblogaidd yn dychwelyd gyda chorau lleol, cerddorion ifanc o Gerddoriaeth Gwent ynghyd â pherfformwyr gwych ar y Bandstand yn cynnwys Buskuleles Brynbuga a Thriawd Matahari, grŵp drymio Affricanaidd.

  • 10.00am     Ensemble sacsoffon Cerddoriaeth Gwent De Mynwy
  • 10.45am     Côr Cymunedol Sir Fynwy
  • 11.30am      Ysgol Gyfun Trefynwy
  • 12.15pm      Côr Ysgol Gynradd Cross Ash
  • 1.00pm       Sŵn Celtaidd
  • 1.45pm       Buskuleles Brynbuga
  • 2.30pm      Penny Walker
  • 3.15pm       Côr Allegra
  • 4.00pm      Triawd Matahari – Drymio Affricanaidd

 

Bydd amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael. Bydd Menywod Crefftus y Fenni yn gwneud pabi allan o blastig ailgylchu mewn ymgais i osod pabi mewn ardaloedd lleol i nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc a chodi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth wych sydd ar gael i ofalwyr ifanc yn Sir Fynwy.

Bydd tîm Gofal Maeth Sir Fynwy yn bresennol i sgwrsio am y dewis eang o gyfleoedd a allai wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd person ifanc.

Bydd ardal ‘Cwrdd â’r Cyngor’ yn rhoi cyfle i ymwelwyr gwrdd â gwneuthurwyr penderfyniadau mawr y sir a thrafod pethau sy’n bwysig mewn amgylchedd anffurfiol.

Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet Datblygu Cymunedol:

“Mae’n wych gweld y cyngor yn ôl yn Sioe Brynbuga. Mae’n gyfle perffaith i wrando ar breswylwyr a dangos ehangder a dyfnder y cyngor. Mae’n dangos y bartneriaeth unigryw sydd gennym gydag ystod eang o grwpiau a mudiadau gwirfoddol.’

I gael mwy o wybodaeth anfonwch e-bost at

communications@monmouthshire.gov.uk neu fewngofnodi ar Facebook @MonmouthshireCC neu Twitter @MonmouthshireCC

Ddydd Iau 13 Medi bydd tîm Gofal Maeth Cyngor Sir Fynwy yng Ngwesty’r Three Salmons, Brynbuga rhwng 10.00am – 12.00pm a 6.30pm – 8.30pm i gwrdd a chyfarch preswylwyr Sir Fynwy sydd â diddordeb mewn dod yn Ofalwyr Maeth.

Mae gan blant yn Sir Fynwy angen brys am deuluoedd yn Sir Fynwy. Mae angen dybryd am ofalwyr maeth i ofalu am fabanod, plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau ar sail tymor byr neu hirdymor. Mae angen gofalwyr i roi gwyliau byr i blant gydag anableddau, yn yr un modd mae angen gofalwyr ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau sy’n symud i fod yn annibynnol ar sail llety â chymorth.

Mae angen enfawr am fwy o ofalwyr maeth ac mae’r tîm yn gobeithio y bydd y sesiynau cwrdd a chyfarch yn annog mwy a mwy o bobl i ystyried gwneud penderfyniad mor bwysig ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy.

Mae croeso i unigolion na all fynychu’r sesiynau i edrych ar wefan www.monmouthshire.gov.uk/fostering i gael gwybodaeth ac arweiniad.

Yn dilyn llwyddiant pabell Cyngor Sir Fynwy yn Sioe Brynbuga yn 2017, bydd y tîm Gofal Maeth ynghyd ag amrywiaeth o adrannau’r cyngor yn Sioe Brynbuga ddydd Sadwrn 8 Medi. Mae’r digwyddiad yn gyfle perffaith i breswylwyr gwrdd â’r tîm a mwynhau’r llu o weithgareddau sydd ar gael.

Bydd y tîm Gofal Maeth hefyd yn arddangosiad Tân Gwyllt Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed ddydd Sul 4 Tachwedd, yn dilyn llwyddiant eu presenoldeb yn 2017. Gall ymwelwyr glywed am y llu o opsiynau sydd ar gael i helpu a chefnogi babanod, plant a phobl ifanc fwyaf bregus y sir. Neu ymweld â: https://www.visitmonmouthshire.com/caldicot-castle/

Dywedodd Penny Jones, Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd:

‘Rwy’n credu’n gryf fod gan ein babanod, plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy bob hawl i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Gall teuluoedd Sir Fynwy helpu i wneud y gwahaniaeth hwn i’n plant. Mae’r tîm Gofal Maeth yn gwneud gwaith gwych yn cysylltu â phreswylwyr ac mae llawer o ffyrdd i gefnogi ein plant. Rwy’n annog y rhai sy’n ystyried dod yn Ofalwr Maeth i ddod draw, ymweld â’r wefan neu ffonio neu anfon neges testun at y tîm.’

I wneud gwahaniaeth anfonwch neges destun FOSTER gyda’ch enw i 83222, ffonio 01873 735950 neu ymweld â www.monmouthshire.gov.uk/cy/maethu  

Bu mwy na 280 o weithwyr chwarae a gwirfoddolwyr yn dathlu diwedd yr haf prysuraf erioed o gynlluniau chwarae ar draws Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy mewn seremoni wobrwyo yng Nghwmbrân yn ddiweddar. Cynhaliodd gweithwyr chwarae 48 o gynlluniau chwarae ar draws y tair sir yn ystod gwyliau’r haf gyda 4,000 o blant yn eu mwynhau.

Mae’r cynlluniau’n rhoi llwyfan i blant 5 i 11 oed i gymdeithasu a gwneud ffrindiau, dysgu sgiliau newydd yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau newydd a chyffrous.

Mynychodd y Cynghorydd Sheila Woodhouse, Is-gadeirydd Sir Fynwy, y seremoni a dywedodd: “Mae staff a gwirfoddolwyr yn y tair sir yn gwneud gwaith gwych yn sicrhau fod gan blant fynediad i gyfleoedd diogel a chynhwysol ar gyfer chwarae. Aiff cymaint o waith caled i sicrhau llwyddiant y cynlluniau hyn a hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bob aelod o staff a phob gwirfoddolwr a gymerodd ran yn ystod yr haf. Nid yw’n ormodiaith dweud fod gennym y gwasanaeth chwarae gorau yng Nghymru ac mae pawb sy’n cymryd rhan ym mhluen yn het eu cymuned leol.”

Caiff cynlluniau chwarae Sir Fynwy eu rhedeg mewn cysylltiad gyda Gwasanaeth Chwarae Torfaen a buont yn gweithredu mewn naw safle gwahanol yn ystod yr haf rhwng 30 Gorffennaf a 23 Awst.

Mae mwy o wybodaeth ar gynlluniau chwarae Sir Fynwy ar gael drwy gysylltu ag Andrea Sysum ar 01495 742951 neu andrea.sysum@torfaen.gov.uk

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynllunio gwella ei wasanaeth casglu ailgylchu ac wedi creu holiadur i gael sylwadau gan breswylwyr am yr hyn yr hoffent ei weld gan y gwasanaeth. Ymysg y materion i gael eu hystyried mae bagiau ailgylchu y gellir eu hailddefnyddio, gostwng costau canolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi y sir a phla sbwriel.

Cytunodd y cyngor yn ddiweddar i ostwng ei ddefnydd diangen o blastig un-defnydd ac fel rhan o’i ymgyrch mae’n ystyried opsiwn bagiau y medrir eu hailddefnyddio ar gyfer ailgylchu. Gellir eu storio y tu allan, bydd y tîm ailgylchu yn dychwelyd i bob cartref ar ôl casglu ac ni fydd rhaid i breswylwyr fynd i gasglu bagiau plastig un-defnydd o hybiau cymunedol.

Mae canolfannau ailgylchu gwastraff cartref Sir Fynwy ymysg y mwyaf hygyrch yn y rhanbarth ond byddai cadw’r lefel yma o wasanaeth yn golygu cynnydd sylweddol mewn costau rhedeg. Mae hyn ar adeg pan fo’r cyngor yn wynebu pwysau cynyddol ar ei gyllidebau. Mae’r cyngor wedi cynnig amrywiaeth o opsiynau i ostwng costau.

Mae sbwriel yn bla ar ffyrdd ac ymylon ffyrdd Sir Fynwy a, dros gyfnod, gall fynd i mewn i lwybrau dŵr a’r môr. Mae’r cyngor yn mynd i’r afael â’r broblem hon gyda help gwirfoddolwyr yn y gymuned ac yn gofyn am farn preswylwyr ar yr hyn sydd bwysicaf iddynt yn yr ymgyrch i ostwng sbwriel.

Mae’r holiadur ar gael drwy fewngofnodi ar https://bit.ly/2OT8ZB1 neu alw yn un o hybiau cymunedol lleol y cyngor. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 9am ddydd Iau 30 Awst.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am wastraff ac ailgylchu: “Rwy’n annog preswylwyr i roi eu sylwadau i’n helpu i wella ein gwasanaeth ailgylchu.”

Yn y cyfamser, cytunodd y cyngor y bydd pob cartref yn derbyn blwch ailgylchu newydd ar gyfer gwydr ac mae wedi prynu cerbydau newydd gyda thair adran ar wahân ar gyfer bagiau coch a phorffor yn ogystal â gwastraff bwyd. Ar gyfer y rhan fwyaf o gartrefi, bydd hyn yn golygu casglu ailgylchu a gwastraff bwyd ar yr un diwrnod.

Yn anffodus gwelwyd nifer o ddigwyddiadau sylweddol yn y Deyrnas Unedig yn y 12 mis diwethaf. Mae’r canlyniadau hyn wedi arwain at sefydlu ac agor ‘Canolfannau Derbynfa Goroeswyr’ lle cafodd y rhai a fu’n ddigon anffodus i gael eu dal mewn digwyddiadau o’r fath ofal nes iddynt gael eu cofrestru gan yr Heddlu a chael caniatâd i ddychwelyd adref.

Bydd staff o Gyngor Sir Fynwy ynghyd â Heddlu Gwent ac asiantaethau partner eraill yn cynnal ymarferiad i brofi ein trefniadau ‘Canolfan Derbynfa Goroeswyr’ yn:

Canolfan Hamdden Cas-gwent

ar

Dydd Iau 1 Tachwedd 2018

Rhwng 11am – 1.00pm

AC RYDYM ANGEN EICH HELP

Rydym ANGEN GWIRFODDOLWYR i chwarae rhan “goroeswyr “.

Bydd chwarae rôl yn rhan o’r ymarferiad a rhoddir rhan benodol i bob gwirfoddolwr ei ‘hacio’. Peidiwch poeni os na theimlwch y byddech yn cael eich enwi am Oscar – mae gennym hefyd rolau ‘dim actio’ a byddem yn croesawu unrhyw un a allai roi ychydig oriau o’u hamser! Gwahoddir plant i gymryd rhan hefyd ond mae’n rhaid i unrhyw un dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Rydym hefyd angen anifeiliaid i’n staff ofalu amdanynt felly byddai croeso cynnes iawn i ‘Dino’ eich felociraptor anwes neu eich cath (gyda dannedd cleddyf).

Fel cymhelliant ychwanegol bydd LLUNIAETH A CHINIO AM DDIM ar gael i’r rhai sy’n cymryd rhan yn yr Ymarferiad.

Os hoffech gymryd rhan drwy roi ychydig o’ch amser rhwng 11.00am a 1.00pm ar 1 Tachwedd (hanner tymor) anfonwch e-bost at1 emergencyplanning@monmouthshire.gov.uk neu ffonio’r tîm Cynllunio Argyfwng ar 01633 644091/2 i gael ffurflen gais neu lawrlwytho’r ffurflen gais o yma.

Byddwn yn hyrwyddo a marchnata ein hymgyrch ‘recriwtio gwirfoddolwyr’ dros yr ychydig fisoedd nesaf yn defnyddio ein ‘Tyrone-osaurus Rex’ (fel y’i gelwir) ein hunain – fydd yn ymddangos o amgylch adeiladau Cyngor Sir Fynwy – felly tynnwch ‘hunlun’ gyda Tyrone os gwelwch ef o gwmpas a thrydaru drwy #ExerciseJurrassicspark .

Diolch i chi am eich cefnogaeth.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn llongyfarch ei holl ddysgwyr ar eu llwyddiant yn arholiadau TGAU eleni.

Dengys canlyniadau pob un o bedair ysgol uwchradd y sir – Ysgol Cil-y-coed, Ysgol Cas-gwent, Ysgol Harri’r VIII ac Ysgol Gyfun Trefynwy – fod pobl ifanc yn parhau i weithio’n galed a sicrhau deilliannau rhagorol.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Richard John, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am addysg: “Yn bennaf oll rwyf eisiau llongyfarch ein holl ddysgwyr ar draws Sir Fynwy heddiw. Nid yw arholiadau byth yn rhwydd ond mae eu sefyll yn ystod cyfnod o newid yn her ychwanegol. Mae canlyniadau heddiw yn dyst i waith caled ein myfyrwyr, athrawon a staff cymorth. Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl rieni a gofalwyr ar draws Sir Fynwy sydd wedi cefnogi ein dysgwyr.”

Ychwanegodd Will McLean, Prif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc: “Gwelsom ganlyniadau gwych ar draws ein hysgolion eleni. Dymunaf longyfarch ein holl ddysgwyr sydd wedi gweithio mor galed ar eu cyrsiau TGAU. Rwyf hefyd eisiau diolch i’r athrawon a staff cymorth a weithiodd mor agos gyda’n myfyrwyr.”

 

Ymwelodd cefnogwyr dau gynllun chwarae haf Trefynwy ag Ysgol Gynradd Overmonnow ddydd Llun 15 Awst i weld y prosiect ar waith. Ymysg y rhai a fynychodd oedd aelodau Cyngor Tref Trefynwy a Rotary Trefynwy sy’n helpu I gyllido’r cynllun ynghyd â Chynghorau Cymuned Llanfihangel Troddi a Tryleg Unedig, grŵp amgylcheddol Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru a grŵp amgylcheddol Trosiant Trefynwy. Mae rhaglen Overmonnow yn gweithredu bob bore o ddydd Llun I ddydd Gwener tra bod cynllun chwarae arall yn Nhrefynwy yn gweithredu yn Ysgol Gymradd Kymin View yn Wyesham yn y prynhawniau yn ystod yr wythos.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau lleol a’r sector gwirfoddol i ddarparu cyfleoedd chwarae am ddim y mae angen mawr amdanynt dros gyfnod gwyliau haf ysgolion. Caiff ei gynlluniau chwarae eu rhedeg mewn cysylltiad â Gwasanaeth Chwarae Torfaen a’r haf yma maent yn gweithredu mewn naw lleoliad gwahanol rhwng 30 Gorffennaf a 23 Awst, gan roi cyfleoedd i blant 5 i 11 oed i gymdeithasu a mwynhau eu hunain gyda gwahanol weithgareddau.

Yn ogystal â gweithgareddau hwyliog, mae plant yng nghynllun Overmonnow yn manteisio o becyn cinio iach a maethlon am ddim a baratowyd gan Ganolfan Gymunedol Tŷ Price, Synnwyr Bwyd Trosiant Trefynwy, canghennau lleol o Sefydliad y Merched ac Eglwys Fethodistaidd Trefynwy. Ceir y bwyd yn lleol cyn belled ag sy’n bosibl a chaiff ei ddarparu mewn pecynnau di-blastig. Wedi’i ariannu gan gyfraniadau hael gan gymdeithas rhieni ac athrawon yr ysgol, busnesau lleol, unigolion a grwpiau a Chymdeithas Tai Sir Fynwy, mae’r cynllun yn ymateb i dlodi bwyd a brofwyd dros gyfnod gwyliau’r haf.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros gyfiawnder cymdeithasol a datblygu cymunedol: “Mae chwarae yn rhan hanfodol o fywyd pob plentyn – mae’n fwy na hwyl yn unig, dyma hefyd y ffordd orau i blant ifanc ddysgu. Yr haf hwn rydym yn gweithio gyda’n cymunedau I ddarparu cyfleoedd chwarae ar gyfer plant Sir Fynwy ar draws safleodd ym mhob rhan o’r sir. Rydym eisiau rhoi cyfle i blant gymryd rhan yn y cynlluniau sydd ar gael a hoffem ddiolch I’n partneriaid am ein cefnogi ar yr agenda pwysig yma.”

Ychwanegodd Paul Sherrington o Rotary Trefynwy: “Rydym yn falch iawn i gefnogi prosiect a wnaiff gymaint I ddarparu amgylchedd hapus, diogel a hwyliog ar gyfer plant lleol yn ystod gwyliau’r haf.”

I gael mwy o wybodaeth am gynlluniau chwarae Sir Fynwy cysylltwch ag Andrea Sysum ar  01495 742951 neu andrea.sysum@torfaen.gov.uk

Mae aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am dwristiaeth a hamdden wedi dweud ei fod wrth ei fodd y bydd Geraint Thomas, pencampwr Tour de France a Chris Froome, enillydd Giro d’Italia yn seiclo drwy’r sir ddydd Sul 2 Medi wrth i’r ddau gystadlu yn Nhaith Prydain OVO Energy.

 Hwn fydd y tro cyntaf i Thomas a Froome gyd-seiclo yn y ras ers 2009. Bydd Taith Prydain OVO Energy 2018 yn cychwyn ym Mhenbre ger Llanelli ar 2 Medi ac yn dod i ben wythnos yn ddiweddarach yn Llundain.

Bydd y llwybr yn dod i mewn i Sir Fynwy ger Gilwern am tua 2pm a bydd yn cynnwys cymunedau Gofilon, Llan-ffwyst, Llanelen, Llanofer, Pont Gadwyn a Llancaio gan fynd drwy Frynbuga tua 35 munud wedyn. Bydd cystadleuwyr yn dal ati i ddiwedd cam cyntaf y daith yng Nghasnewydd drwy Lanbadog a Llangybi.

 Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland: “Mae’n newyddion gwych y bydd Cyngor Sir Fynwy yn croesawu dau o athletwyr seiclo gorau Prydain yn ogystal â chynifer o seiclwyr eraill gorau’r byd fydd yn pasio drwy’r sir. Mae eu hymddangosiad yn sicr o ddenu torfeydd mawr gan roi cefnogaeth wych. Mae cynnal digwyddiadau fel Taith Prydain OVO Energy yn helpu i gynyddu enw da haeddiannol Sir Fynwy fel canolbwynt seiclo Cymru.

Mae Thomas wedi ymddangos yn gyson yn Nhaith Prydain OVO Energy ar ôl ei seiclo wyth gwaith ers ei ymddangosiad cyntaf gyda thîm rasio Prydain Fawr yn 2005. Roedd yn y chweched lle drwyddi draw 2009 a gwisgodd grys Pencampwr Rasio Ffordd Prydain yn ystod y ras yn 2010, gan orffen yn y seithfed lle yn ras 2017 a hefyd ennill coron Seiclwyr Prydeinig Gorau Adnams.

Daeth dau gyfranogiad Froome hyd yma yn 2007 a 2009. Roedd yn y 31ain lle yn gyffredinol yn 2007, ac yn 50fed ddwy flynedd wedyn (lle roedd ef a Thomas yn rhan o dîm Barloworld-Bianchi team).  Ers hynny mae wedi sefydlu ei hun fel seiclwr Grand Tour blaenllaw ei genhedlaeth, wedi ennill pedair Tour de France, Vuelta 2017 a Espania a Giro d’Italia 2018.

Dywedodd Mick Bennett, Cyfarwyddwr y Ras: “Mae’n anrhydedd i ni ac rydym yn hynod falch y bydd Geraint Thomas a Chris Froome yn arwain Team Sky yn Taith Prydain OVO Energy eleni.

“Mae cael dau o seiclwyr gorau erioed Prydain – neb llai na phencampwyr presennol y Tour de France a Giro d’Italia – yn cystadlu yn y ras yn newyddion gwych i’n dilynwyr, fydd yn llenwi’r strydoedd i gael cip ar eu harwyr.

“Gwelsom yr ymateb rhyfeddol a gafodd Geraint yn ystod ei ddathliadau dod adre yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf – mae’r ffaith y cynhelir y Cam Cyntaf ar ddydd Sul 2 Medi yn llwyr o fewn Cymru yn golygu y gall yr hoff wlad ddathlu ei lwyddiant anhygoel yn Ffrainc o’r haf.

“Ers y tro diwethaf iddo seiclo yn y ras, daeth Chris – yn ddi-os – yn seiclwr Grand Tour blaenllaw ei genhedlaeth. Rydym wrth ein bodd i’w groesawu’n ôl i Daith Prydain OVO Energy ar ôl ei lwyddiannau yn  y Tour, Giro a Vuelta yn y flwyddyn ddiwethaf.”

 Am yr ail flwyddyn yn olynol, caiff pob cam o’r ras eu dangos yn fyw ac yn llawn ar ITV. Yn ymuno â’r cyflwynydd Matt Barbet fydd y cyn seiclwr proffesiynol Yanto Barker a Rebecca Charlton, gyda Marty MacDonald a Rob Hayles yn rhoi’r sylwebaeth. Bydd Eurosport yn darlledu’n fyw bob dydd.

  • Taith Prydain OVO Energy yw prif ddigwyddiad seiclo ffordd Seiclo Prydain, gan roi cyfle i ddilynwyr seiclo i weld timau a seiclwyr gorau’r byd yn cystadlu ar garreg eu drws, ac fe’i cynhelir rhwng dydd Sul 2 a dydd Sul 9 Medi.

Heddiw mae dros bedwar cant o fyfyrwyr yn Sir Fynwy yn dathlu set ragorol o ganlyniadau arholiadau fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i’r camau nesaf mewn prifysgolion, colegau a mannau gwaith ym mhob rhan o Brydain.

Cafodd myfyrwyr ym mhob un o’r pedair ysgol uwchradd ganlyniadau ardderchog gyda chyfradd pas y sir o 98%. Yn holl ysgolion uwchradd Sir Fynwy mae staff yn hyderus y caiff myfyrwyr eu derbyn ar eu dewis o gyrsiau addysg uwch.

Mae canlyniadau ar draws y pedair ysgol yn dangos fod nifer cynyddol o fyfyrwyr yn dewis astudio eu cymwysterau ôl-16 yn un o bedair ysgol uwchradd y sir: Ysgol Cil-y-coed, Ysgol Cas-gwent, Ysgol Brenin Harri VIII ac Ysgol Gyfun Trefynwy.

Ar draws y sir roedd y canran o fyfyrwyr a enillodd y graddau uchaf oll yn debyg i ganlyniadau’r llynedd gyda 29% o bapurau wedi cael gradd A* neu A. Mae hyn yn cymharu’n gadarnhaol gyda’r perfformiad cenedlaethol o 26.3%.

Bu cynnydd pellach ar draws Sir Fynwy yn nifer y myfyrwyr a gyflawnodd drothwy Lefel 3 (dwy lefel A graddau A-E) i 98.3%, cynnydd o 1% ers y llynedd.

  • Cadwodd Ysgol Cil-y-coed ei pherfformiad ar gyfer y trothwy Lefel 3 ar 100% am y bedwaredd blwyddyn o’r bron.
  • Enillodd 30% o ddisgyblion Ysgol Cas-gwent A*/A a chynnydd yn y canran o ddisgyblion a gyflawnodd y trothwy lefel 3 o 2.3 pwynt canran gan fynd â’r ysgol i 97.1%.
  • Gwelodd Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII y Fenni berfformiad gwell ar y lefelau uchaf gyda 15% o fyfyrwyr yn cael tair gradd A*/A a chynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr yn cael tair gradd A*-C i bron 60%.
  • Cafodd myfyrwyr Ysgol Gyfun Trefynwy y canlyniadau gorau erioed gyda 25% o’r myfyrwyr yn ennill tair gradd A*/A a 34% yn cael graddau A*/A.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Richard John, aelod cabinet y cyngor gyda chyfrifoldeb am addysg: “Mae diwrnod canlyniadau lefel A mor bwysig i’n myfyrwyr a phobl ifanc. Heddiw rwyf wrth fy modd gweld pa mor dda y gwnaeth myfyrwyr ar draws ein holl ysgolion – mae’r canlyniadau hyn yn ddangosydd go iawn o ba mor galed y gweithiodd y myfyrwyr ac athrawon dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ar hyn o bryd fy ffocws yw bod y bobl ifanc yn cael y cymwysterau maent eu hangen i symud ymlaen i gam nesaf eu bywydau fel oedolion, lle bynnag y mae hynny.

“Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn cydnabod y gefnogaeth a gaiff ein myfyrwyr gan eu rhieni a gofalwyr. Dylent edrych ymlaen yn hyderus iawn wrth iddynt gychwyn ar gamau nesaf eu bywydau, bydded hynny mewn addysg neu waith.”

Ychwanegodd Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc: “Mewn cyfnod o newid a diwygio yn yr ysgol a hefyd sefydliadau addysg uwch, rwy’n falch iawn gyda’r hyn a gyflawnodd ein hysgolion. Gall ein pobl ifanc, eu teuluoedd a staff ysgol sydd wedi eu cefnogi a’u hannog am y ddwy flynedd ddiwethaf fod yn falch o’r hyn maent wedi’i gyflawni. Mae canlyniadau Sir Fynwy yn cymharu’n ffafriol gyda chanlyniadau cenedlaethol a gwn y bydd ein hysgolion yn falch iawn o hyn. Cafodd ein holl fyfyrwyr sylfaen wych ar gyfer eu dyfodol yn hyderus yn yr hyn a wyddant ac yn hyderus yn eu galluoedd.”

Caiff myfyrwyr sy’n edrych am gyngor, beth bynnag eu canlyniadau, eu hannog i ymweld â gwefan Gyrfa Cymru ar: www.gyrfacymru.com.

Lansiodd Cyngor Sir Fynwy ei wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol newydd ar gyfer ardal Brynbuga a Rhaglan gyda digwyddiad dathlu ddydd Iau 9 Awst.

Bydd y cyfleuster newydd yng nghyn Ysgol Ramadeg Roger Edwards ar Stryd Maryport, Brynbuga, yn cyflwyno gwasanaethau a ddarperir gan dîm gofal cymdeithasol y cyngor sir a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Ymysg y rhai fydd yn gweithredu o’r ganolfan mae gweithwyr cymdeithasol, nyrsys cymunedol, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion a swyddogion llesiant cymunedol.

Daw’r ganolfan – sy’n rhan o Monnow Vale, prif safle iechyd a gofal cymdeithasol Trefynwy – â gwasanaethau’n nes at gymunedau yn ardal Brynbuga a Rhaglan. Roedd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros ofal cymdeithasol, diogelu a iechyd, yn bresennol yn y digwyddiad. Dywedodd: “Mae galw sylweddol am ofal cymdeithasol ac iechyd yng nghanol y sir a bydd ein safle newydd ym Mrynbuga yn gwneud gwasanaethau’n fwy effeithiol ac effeithlon yn ogystal â bod yn fwy cyfleus i’r gymuned.”

Yn ymuno â’r Cynghorydd Jones a staff oedd y Cynghorydd Alec Leathwood, Maer Brynbuga, a nifer o gynrychiolwyr o fudiadau sy’n gweithio gyda’r awdurdod lleol i gefnogi’r gymuned yn cynnwys Age Cymru, Volunteering for Wellbeing, Parkinson’s UK, Cymdeithas Tai Sir Fynwy, y Care Co-operative a’r Gwasanaeth Carchardai. Gyda’i gilydd fe wnaethant dorri teisen arbennig ac wedyn fwynhau adloniant gan fand ukulele y dref yn Hyb Cymunedol Brynbuga gerllaw. Cynigiwyd llwnc-destun i ddyfodol y gwasanaeth gyda moctels ffrwyth di-alcohol.

Mae cynlluniau ar gyfer datblygu mwy ar y cyfleuster ac mae rheolwyr yn gobeithio meithrin partneriaethau gwaith da gyda’r sector gwirfoddol, cymdeithasau tai, asiantaethau gofal a meddygfeydd teulu lleol.

Bydd y ganolfan yn gweithredu am saith diwrnod yr wythnos ond bydd ar agor i’r cyhoedd rhwng 9am a 5pm o ddyddiau Llun i ddyddiau Gwener. I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 01633 644302.

Caiff canolfan hamdden Trefynwy ei hailagor ddydd Mercher 15 Awst i gynnig dewis gwych o gyfleusterau fydd yn ymestyn allan i’r gymuned gyfan.

Mae’r prosiect £7.4m yn cynnwys canolfan chwarae I blant, caffe cynllun agored, ystafell aml-bwrpas ar gyfer partiion a chyfarfodydd, ystafelloedd iechyd yn cynnwys jacuzzi, ystafell stêm, ardal ymlacio, ystafell driniaeth a sauna, stiwdio sbin, ystafelloedd tonio, ystafelloedd newid braf a champfa fawr gydag offer o’r math diweddaraf. Mae’r gwaith o adeiladu pwll nofio pum lôn y ganolfan a sba yn mynd rhagddo i’r amserlen a bydd y ddau yn agor ym mis Rhagfyr.

Cafodd y ganolfan ei chau ar gyfer ei hadnewyddu ym mis Tachwedd 2017 ac yn y cyfamser mae’r staff wedi ymdrechu i ddarparu gwasanaethau gydag ystafell chwaraeon dros dro gyfagos a champfa yn agos at amgueddfa’r dref. Cafodd y ganolfan newydd ei hadeiladu gan gwmni gwasanaethau adeiladu bydeang ISG ac mae’n cynnwys rhan o’r safle gwreiddiol er fod y tu mewn wedi newid yn sylweddol i gynnwys mynedfa a derbynfa newydd a llawer o welliannau eraill. Bydd hyn yn cynyddu dewis, rhoi amgylchedd diogel a hygyrch cyfeillgar i gwsmeriaid ac yn defnyddio technoleg i gynnig gwasanaeth estynedig. Er enghraifft, mae nifer o nodweddion yn sicrhau y gall gwsmeriaid gydag anableddau gael mynediad llawn i gyfleusterau’r ganolfan. Yn ychwanegol, bydd ciosg hunan-wasanaeth yn galluogi cwsmeriaid i osgoi gorfod aros mewn rhes yn y dderbynfa a manteisio ar y cyfle i roi adborth.

Bydd yr ardal chwarae dan do ar gyfer babanod a phlant hyd at 11 oed ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 10am a 6pm. Mae’r gosodiad lliwgar ar dair lefel yn creu ardal gyffrous a llawn hwyl. Ychydig o ddarpariaeth o’r math hwn sydd o fewn taith 20 munud o Drefynwy felly mae rheolwyr y ganolfan yn edrych ymlaen at ddenu rhieni a phlant I’r dref o ardal eang.

Bydd y gampfa yn cynnwys offer cyffrous, deinamig ac arloesol yn golygu y bydd cwsmeriaid newydd a phresennol angen rhaglen gynefino cyn ei defnyddio. Bydd yr ystafell tonio gyfagos yn apelio at amrywiaeth o bobl sy’n well ganddynt ymarfer ysgafnach.

Gall y ddwy stiwdio sy’n cynnig dosbarthiadau sbin a dawns ddefnyddio cyfarwyddyd byw neu rithiol drwy daflunydd fel y gellir cynnal gweithgareddau ar unrhyw adeg. Bydd dau gwrt sboncen ar y llawr daear yn agos at y dderbynfa a bydd ganddynt oleuadau LED.

Bydd y ganolfan ar agor rhwng 6.15am a 10pm ar ddyddiau Llun I dyddiau Gwener a 8.15am I 6pm ar ddyddiau Sadwrn a Sul.

Bydd gwahanol fathau o aelodaeth ar gael ar gyfer gwahanol gyfleusterau a swyddogaethau. Gall cwsmeriaid holi am y rhain neu unrhyw faterion arall yn nesg y nerbynfa, drwy anfon e-bost at monmouthleisurecentre@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01600 775135.

Gall y parcio fod yn gyfyngedig tra bod gwaith yn parhau i gwblhau’r pwll nofio a’r ysgol gyfagos. Cynghorir cwsmeriaid i ddefnyddio meysydd parcio bwrdeisiol y dref os nad oes gofod ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Bob Greenland, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am hamdden: “Fe wnaethom addo gwell canolfan hamdden i Drefynwy ac rwyf wrth fy modd I ddweud y gallwn yn awr gyflwyno hynny. Gobeithiwn ddenu llawer mwy o gwsmeriaid newydd o’r dref ac ymhellach i ffwrdd I fwynhau’r amrywiaeth o nodweddion gwych fydd yn helpu i gynnal iechyd pobl a hyrwyddo mwynhad I bawb.”

 

Mae cynllun chwaraeon gan y cyngor a gyflwynwyd ddwy flynedd yn ôl yn mynd o nerth i nerth ac mae Gemau Sir Fynwy wedi hen ennill ei le fel uchafbwynt y gwyliau ar gyfer pobl ifanc y sir. Yn ogystal ag ymarfer corfforol, ymysg y buddion a gynigir mae gwerthfawrogiad o waith tîm, bwyta’n iach ac effaith modelau rôl.

Cynhelir Gemau Sir Fynwy ym mhob un o bedair canolfan hamdden y sir yn ystod gwyliau ysgol ar gyfer plant 5 i 12 oed ac mae’r gweithgareddau’n canolbwyntio ar ddysgu sgiliau newydd, datblygu hyder, cwrdd â ffrindiau newydd ac yn bwysicaf oll, gael hwyl tra’n cymryd rhan. Ymysg y 40 math o chwaraeon a gynigir mae nofio, pêl-droed, pêl-rwyd, pêl-fasged, criced, hoci, rygbi, golff, rownderi a thenis. Yn ychwanegol, mae’r holl blant yn cymryd rhan yn y Filltir Ddyddiol sy’n golygu rhedeg neu loncian am 15 munud bob dydd. Mae staff gyda hyfforddiant llawn yn goruchwylio’r gweithgareddau gyda chymorth gwirfoddolwyr – yn aml fyfyrwyr addysg gorfforol sy’n dymuno cael profiad.

Er y bu gwaith adnewyddu mawr yn mynd rhagddo yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy ers mis Tachwedd diwethaf, cynhaliwyd y rhaglen gemau llawn mewn neuadd chwaraeon dros dro gyfagos.

Mae dros 100 o bobl ifanc yn cymryd rhan bob dydd yn safleoedd canolfannau hamdden y sir ar gost o £16.50 y dydd (9am i 3pm) neu £19.50 (8am i 5pm). Mae gostyngiadau ar gael ar gyfer brodyr a chwiorydd, plant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a rhieni sy’n archebu ddeg diwrnod ymlaen llaw. Mae’r rhaglen wedi denu 11,000 presenoldeb ers ei lansio yn haf 2018.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hamdden: “Mae’r gwasanaeth a gynigir gan bob un o’r pedair canolfan hamdden wedi cael argraff fawr arnaf a hoffwn ddiolch o galon i’r staff yn ogystal â’r gwirfoddolwyr. Mae Gemau Sir Fynwy yn rhaglen bwysig iawn i’r sir gan ei bod yn darparu gweithgareddau ar gyfer plant a hefyd yn helpu wrth ddatblygu addysg a sgiliau bywyd.”

Derbyniodd Gemau Sir Fynwy gyllid gan gynghorau tref y Fenni a Chas-gwent i alluogi hyd yn oed fwy o blant i fynychu ac mae tîm hamdden y cyngor yn ddiolchgar tu hwnt am y gefnogaeth. Bydd y sesiynau cyfredol yn rhedeg hyd ddydd Gwener 31 Awst ond mae gemau pellach ar y gweill ar gyfer gwyliau hanner tymor mis Hydref a gwyliau’r Nadolig.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn: http://www.monmouthshire.gov.uk/monmouthshire-games

Mae Cyngor Sir Fynwy yn edrych am reolwr llawn-amser i ddod yn gyfrifol am redeg Theatr Borough y Fenni. Byddai’r ymgeisydd llwyddiannus yn hyrwyddwr i’r theatr, gan roi rheolaeth strategol a gweledigaeth creadigol a dylanwad o fewn y gymuned celfyddydau perfformio yn lleol ac yn ehangach yn ogystal â rheoli blaengynllunio, strategaeth, rhaglenni a busnes dydd-i-ddydd.

Dychwelodd Theatr Borough i berchnogaeth a rheolaeth Cyngor Sir Fynwy yn ddiweddar. Mae’n lleoliad bywiog 300 sedd yng nghanol tref hanesyddol y Fenni, gan gyflwyno rhaglen amrywiol o gynyrchiadau proffesiynol a chymunedol drwy’r flwyddyn. Mae’r theatr yn rhan o adeilad 150 mlwydd oed neuadd y dref.

Bydd y rheolwr yn gyfrifol am ddatblygu a goruchwylio cyflwyno rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a darparu rheolaeth strategol ar gyfer swyddogaethau gweinyddol, marchnata, cynhyrchu ac ariannol y theatr yn cynnwys goruchwylio a rheoli’r swyddfa docynnau a staff blaen tŷ a gwirfoddolwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am wasanaethau diwylliannol: “Rydym yn edrych am unigolyn egnïol, entrepreneuraidd, profiadol a brwdfrydig i fynd â’r theatr ymlaen fel lleoliad amlwg ac amrywiol ar gyfer y celfyddydau perfformio, gan baratoi’r theatr ar gyfer dyfodol o dwf a datblygu.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 7 Medi a chynhelir cyfweliadau yn Theatr Borough ddydd Gwener 14 Medi.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â: Cath Fallon, Pennaeth Menter a Datblygu Cymunedol – cathfallon@monmouthshire.gov.uk – neu ffonio 07557 190969.

Mae’r ffurflen gais a’r disgrifiad swydd ar gael drwy fewngofnodi ar: www.monmouthshire.gov.uk/jobs-and-employment

Bydd amserau agor Llyfrgell Gilwern yn newid o ddydd Iau 4 Medi mewn symudiad a gynlluniwyd i wella ei wasanaeth i’r cyhoedd. Ni fydd cyfanswm yr amser y bydd y llyfrgell ar agor i’r cyhoedd – 18 awr yr wythnos – yn newid ond bydd y llyfrgell yn awr ar agor ar ddyddiau Mercher yn hytrach nag ar ddyddiau Sadwrn. Bydd yn parhau i agor ar ddyddiau Mawrth a dyddiau Gwener ond gydag amserau agor ychydig yn wahanol.

Cyflwynir yr oriau newydd ddydd Mawrth 4 Medi fel sy’n dilyn:

  • Dyddiau Mawrth 9am i 1pm a 1.30pm i 6pm
  • Dyddiau Mercher 1.30pm i 4.30pm
  • Dyddiau Gwener 10am i 1pm a 1.30pm i 5pm

Mae’r penderfyniad i newid oriau agor y llyfrgell yn dilyn data ar ymweliadau yn dangos y byddai’r newid yn debygol o ddenu mwy o gwsmeriaid ac y byddai’r oriau newydd yn fwy cyfleus. Yn ychwanegol, bydd Cyngor Cymuned Llanelli yn treialu darparu caffe cymunedol yn y safle ar foreau Mawrth felly bydd agor yn gynharach yn gyfleus i hynny.

Dywedodd Cheryl Haskell, Rheolwr Arweiniol Strategol Gogledd Sir Fynwy: “Gobeithiwn y bydd newid yr oriau agor a gweithredu ar ddyddiau Mercher yn hytrach na dyddiau Sadwrn yn annog mwy o bobl i ddefnyddio Llyfrgell Gilwern, gwasanaeth poblogaidd iawn yn y pentref.”

Disgwylir llanw uchel. Byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa ac, os oes angen, byddwn yn trefnu I gau’r A466 drwy Dyndyrn am gyfnodau byr ar y dyddiadsu ac amserau dilynol:-

  • Dydd Llun 12 Awst Rhwng 21:20 – 22:00 (tua)
  • Dydd Llun 13 Awst Rhwng 22:10 – 22:50 (tua)

Y mannau cau fydd:

  • Cau Pen Gogleddol: Cyffordd Heol Tryleg
  • Cau Pen Deheuol: Cyffordd Royal George.

Amcangyfrif yw’r amserau cau yn seiliedig ar yr amserau llanw a ragwelir. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro’r sefyllfa ac yn cyhoeddi rhybuddion llifogydd fel sydd angen. Dim ond dros dro y caiff y ffordd ei chau a dim ond pan fydd dŵr llanw yn llifo ar y briffordd. Bydd y ffordd yn ailagor cyn gynted ag mae’r dŵr wedi cilio o’r briffordd.

Bu dros 750 o bobl yn bresennol yn nigwyddiad Pride cyntaf erioed Sir Fynwy ar gyfer cymuned LGBT (lesbian, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol) y sir yng Nghastell Cil-y-coed ddydd Gwener 3 Awst. Pride Ifanc Sir Fynwy oedd y digwyddiad cyntaf o’i fath i’w noddi gan awdurdod lleol yng Ngwent, a dywedodd trefnwyr iddo fod yn llwyddiant enfawr wrth i berfformwyr a siaradwyr ddiddanu tyrfa werthfawrogol ar ddiwrnod braf. Ymysg y rhai’n bresennol oedd Peter Fox, arweinydd Cyngor Sir Fynwy a’r Aelod Seneddol lleol Jessica Morden.

Syniad grŵp o bobl ifanc o Gil-y-coed oedd yr achlysur, yn cynnwys Charley a Tegan sy’n mynychu grŵp cydraddoldeb a gaiff ei redeg gan Wasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy yn The Zone, canolfan ieuenctid y dref. Roedd nifer o aelodau LGBT y grŵp wedi gofyn am ddigwyddiad Pride i ddathlu eu cymuned ac fe wnaethant sicrhau cyllid gyda chymorth gan swyddogion y cyngor.

Dywedodd Charley (15): “Mae digwyddiad heddiw yn ffordd braf i ddod â’r gymuned LGBT ynghyd i hyrwyddo unigrywedd ac amrywiaeth a helpu pobl i ddysgu pethau newydd. Mae’n gyfle gwych i rwydweithio a dod i adnabod pobl o’r un anian.”

Cytunodd Tegan, sydd hefyd yn 15, ei bod yn dda cysylltu’r gymuned, gan ychwanegu: “Mae Pride Ifanc Sir Fynwy yn ffynhonnell wych o wybodaeth ac mae digwyddiadau fel hyn yn werthfawr gan eu bod yn addysgu ffrindiau a theuluoedd i dderbyn y rhai sy’n dewis dod mas. Rydym wedi dod ymhell mewn blynyddoedd diweddar ond mae ffordd bell i fynd o hyd.”

Roedd gan Wasanaeth Ieuenctid a thîm digwyddiadau’r cyngor ran bwysig yn llwyddiant Pride Ifanc Sir Fynwy gyda llawer o help gan Pride Cymru a gwirfoddolwyr. Roedd lleoliad y castell yn fan delfrydol gyda phrif lwyfan, stondinau, safleoedd bwyd ac amgylchedd hardd.

Yr arweinwyr ar y prif lwyfan oedd yr ymgyrchydd traws Alex Jones a chyn Mr Gay Cymru, Paul Davies. Roedd y diddanwyr yn cynnwys Gymnasteg Gwy, Galaxy Cheerleading, Cymdeithas Gerddorol Cil-y-coed a’r cantorion Dylan Hannan, Nicole Bowles a Selena in the Chapel o Gasnewydd. Dywedodd Selena: “Mae’n bleser pur i berfformio heddiw ar gyfer y dyrfa LGBT yma. Mae’n wych fod digwyddiad fel hwn yn cael ei gynnal ac rwy’n edrych ymlaen at lawer mwy.”

Darparodd Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy weithgareddau yn cynnwys peintio wynebau a sgiliau syrcas gyda nifer o sefydliadau yn cynnig help a gwybodaeth. Roedd y rhain yn cynnwys Gwent N-Gage sy’n rhoi cyngor ar gyffuriau ac alcohol i bobl ifanc ar draws Gwent, Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, Senedd Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ymbarél Cymru a Rainbow Casnewydd, sefydliad gwirfoddol sy’n cefnogi’r gymuned LGBT.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am gydraddoldeb: “Yn gynharach eleni cytunodd y Cyngor ar strategaeth i sefydlu cyfiawnder cymdeithasol yng nghalon ein polisïau a’n gweithgareddau, gan drin anghydraddoldeb a gwella deilliannau i bobl y sir, yn cynnwys y gymuned LGBT. Yn unol â’r cynllun hwn mae’r cyngor wedi rhoi cefnogaeth lawn i Pride ifanc Sir Fynwy ac rwy’n falch i’r digwyddiad gael derbyniad mor dda. Gobeithiaf y gallwn hyrwyddo un tebyg y flwyddyn nesaf.

“Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth y diwrnod yn un mor llwyddiannus ac rwyf hefyd yn cydnabod gweledigaeth ac egni yr unigolion y cafodd eu syniadau am ddigwyddiad o’r fath eu gwireddu heddiw.”

Mae mwy o wybodaeth ar bolisïau cydraddoldeb Sir Fynwy ar gael yn:

www.monmouthshire.gov.uk/equality-and-diversity

Mae MonLife – prif ddarparydd twristiaeth, hamdden, diwylliant a gwasanaethau ieuenctid Sir Fynwy – yn cynnig cyfle cyffrous i unigolion sy’n byw yn y sir neu’n agos ati i gymryd swydd fel ymddiriedolaeth y sefydliad.

Sefydlwyd MonLife fel cwmni newydd i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Cyngor Sir Fynwy. Dan arweiniad tîm arweinyddiaeth deinamig ac ymroddedig gyda staff yn ymroi’n llawn i ddatblygu’r model newydd yma, bydd MonLife yn cyflwyno mwy o wasanaethau a gwasanaethau gwell ar gost is i’r cyngor, gan gyfrannu i wneud Sir Fynwy yn lle mwy egnïol a iach i fyw a gweithio ynddo.

Mae bwrdd MonLife yn cynnwys naw o ymddiriedolwyr – saith yn byw o fewn neu’n agos at Sir Fynwy a dau aelod etholedig o’r cyngor. Cânt eu recriwtio o amrywiaeth eang o gefndiroedd, yn ddelfrydol gyda chroestoriad eang o sgiliau a phrofiad perthnasol i anghenion busnes. Yn wreiddiol, bydd y tymor yn rhedeg am flwyddyn er y gellir ei ymestyn ymhellach.

Dywedodd Peter Fox, Arweinydd y Cyngor: “Rydym yn edrych am ymddiriedolwyr sy’n credu mewn anhunanoldeb, integriti, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, onestrwydd ac arweinyddiaeth. Dymunwn recriwtio arweinwyr busnes deinamig gyda gweledigaeth sydd ag angerdd i hybu ein gwasanaethau twristiaeth, hamdden, diwylliant a ieuenctid a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddyfodol Sir Fynwy.”

Bydd y bwrdd yn cwrdd bedair i bum gwaith y flwyddyn fel grŵp cyflawn yn goruchwylio tîm prosiect ymroddedig. Yn ychwanegol, bydd nifer o is-bwyllgorau yn rhoi cymorth ychwanegol i’r busnes.

Sefydlir MonLife yn ffurfiol fel ymddiriedolydd ym mis Rhagfyr 2018 yn dilyn cynllunio trwyadl ac ystyrlon. Bydd ganddo drosiant blynyddol o £10m, yn cyflogi 136 o staff (cyfwerth ag amser llawn) gyda thua 340 o wirfoddolwyr ac yn gweithio mewn cysylltiad â nifer fawr o sefydliadau gyda 350 o glybiau a chymdeithasau lleol. Mae ei gylch gorchwyl presennol yn cynnwys darparu gwasanaethau hamdden o bedwar safle yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy yn ogystal â gweithgareddau awyr agored mewn dwy ganolfan. Mae gwasanaeth ieuenctid y sir yn gweithredu o safleoedd lle’n briodol ar gyfer pobl ifanc ac mae saith safle – rhai yn adeiladau rhestredig – yn cynnwys atyniadau ac amgueddfeydd a hefyd yn hyrwyddo gwybodaeth i dwristiaid. Mae gwasanaeth cefn gwlad Sir Fynwy yn goruchwylio rhwydwaith mynediad mawr ac mae ei safleoedd yn cynnig profiadau awyr agored ar gyfer cymunedau lleol ac ymwelwyr.

Mae’r ystod eang o weithgareddau y bydd MonLife yn eu cynnig yn cynnwys nofio, campfeydd o’r math diweddaraf, lleiniau 3G a chynllun Gwobr Dug Caeredin, partïon plant, gweithgareddau a chynlluniau chwarae, teithiau gwledig gyda thywysydd, arddangosfeydd celf gyda thema a neilltuol, gwyliau a digwyddiadau bwyd a gweithgareddau awyr agored preswyl.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am swydd fel ymddiriedolydd neu sydd angen manylion pellach gysylltu ag Ian Saunders (Arweinydd Strategol dros Dro) am sgwrs ffurfiol ar 07876 545793 neu anfon e-bost at Mrs Tracey Thomas (Arweinydd Dros Dro Llywodraethiant ac Ymgysylltu) –  traceythomas@monmouthshire.gov.uk – neu ysgrifennu at Mrs Thomas yn MonLife, Neuadd y Sir, Sgwâr Agincourt, Trefynwy, NP25 3DY.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi y gall rhieni a gofalwyr yn awr wneud ceisiadau ar-lein ar gyfer cludiant ysgol rhatach ac ôl-16. Mae manylion sut i gyflwyno ceisiadau ar gael yn www.monmouthshire.gov.uk/school-transport-2018.

Mae’r cyngor yn gwarantu cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol yn unig i ddisgyblion hyd at 16 oed sy’n byw yn Sir Fynwy sy’n mynychu eu hysgol dalgylch neu ysgol addas agosaf ac sy’n byw 1.5 milltir neu fwy ar oedran cynradd a dwy filltir neu fwy ar lefel uwchradd. Gall rhieni a gofalwyr plant sy’n cychwyn ysgol gynradd neu ysgol uwchradd wneud cais am gludiant i ddechrau ond nid oes angen ail-ymgeisio nes bydd plant yn newid yr ysgol neu’n cyrraedd 16 oed. Fodd bynnag, mae’n rhaid i rieni neu ofalwyr hysbysu’r cyngor os ydynt yn newid cyfeiriad gan y bydd angen ailasesu cymhwyster eu plant ar gyfer cludiant.

Gall myfyrwyr dros 16 a dan 19 oed ar ddechrau’r flwyddyn academaidd sy’n byw yn Sir Fynwy ac sy’n byw fwy na dwy filltir o ac yn mynychu’r ysgol addas agosaf fanteisio o gludiant rhatach ôl 16. Codir ffi o £440 y flwyddyn am y cludiant hwn ond ni chaiff ei warantu gan mai dim ond oes digon o le ar fws ysgol y caiff ei ddyrannu.

Mae dyddiad cau o ddydd Gwener 24 Awst ar gyfer ceisiadau ôl-16 ar gyfer cludiant. Mae hyn yn galluogi’r cyngor i ddyrannu seddi i deithwyr cludiant ysgol rhatach ar ôl y dyddiad hwn.

Dim ond os oes sedd ar gael yn unol â pholisi gwasanaeth cludiant rhatach y dyrennir seddi i ddisgyblion nad oes ganddynt hawl i gludiant am ddim rhwng y cartref â’r ysgol neu ôl-16. Mae hyn oherwydd y rhoddir blaenoriaeth i ddyrannu teithwyr statudol a theithwyr rhatach ôl 16.

Yn ychwanegol, dim ond os oes nad oes unrhyw oblygiad ariannol i’r cyngor, dim newid neu ymyrryd ar y llwybr cludiant ac yr eir â’r plentyn i’r pwynt codi agosaf ar y llwybr y dyrennir sedd i ddisgyblion o’r fath. Bydd y cyngor yn codi £440 y flwyddyn a bydd yn ymdrechu i ddyfarnu seddi rhatach o fewn cyfnod o bedair i chwech wythnos ar ôl dechrau’r flwyddyn academaidd. Mae rhieni’n gyfrifol am drefnu cludiant arall nes y dyrennir sedd.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn

www.monmouthshire.gov.uk/school-transport-2018

Bu Sir Fynwy yn dathlu’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol (dydd Mercher 1 Awst) gydag ymweliad gan y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet dros gyfiawnder cymdeithasol a datblygu cymunedol i un o gynlluniau chwarae’r cyngor yn y Fenni. Hefyd yn bresennol oedd yr Aelod Cynulliad lleol Nick Ramsay a Tony Konieczny, dirprwy faer y Fenni.

Mae cynllun chwarae Canolfan Gymunedol y Fenni yn gweithredu’n ddyddiol rhwng 1pm a 3pm a chaiff ei gyllido gan grantiau o Gyngor Tref y Fenni a rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru. Yn ychwanegol, diolch i bartneriaeth rhwng y ganolfan cymunedol a’r gangen leol o archfarchnad Morrison’s, mae pryd twym am ddim ar gael bob dydd Mercher i’r holl blant sy’n mynychu.

Dywedodd y Cynghorydd Jones: “Mae chwarae yn rhan hanfodol o fywyd pob plentyn – mae’n fwy na dim ond hwyl, dyma hefyd y ffordd orau i blant ifanc ddysgu. Yr haf hwn rydym yn gweithio gyda’n cymunedau i ddarparu cyfleoedd chwarae ar gyfer plant Sir Fynwy mewn safleoedd ym mhob rhan o’r sir. Rydym eisiau rhoi cyfle i bob plentyn gymryd rhan yn y cynlluniau sydd ar gael a hoffem ddiolch i’n partneriaid am ein cefnogi ar yr agenda pwysig yma.”

Y Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol am chwarae yn y Deyrnas Unedig, a gynhelir fel arfer ar ddydd Mercher cyntaf mis Awst, pan mae miloedd o blant a’u teuluoedd yn dathlu mewn cannoedd o ddigwyddiadau cymunedol. Yn ogystal â dathlu hawl plant i chwarae, mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae ym mywydau plant.

Caiff cynlluniau chwarae Sir Fynwy eu rhedeg mewn cysylltiad gyda gwasanaeth Chwarae Torfaen ac eleni maent yn gweithredu mewn naw safle gwahanol rhwng 30 Gorffennaf a 23 Awst gan roi cyfleoedd i blant 5 i 11 oed gymdeithasu a mwynhau eu hunain gyda gwahanol weithgareddau.

I gael mwy o wybodaeth ar gynlluniau chwarae Sir Fynwy cysylltwch ag Andrea Sysum ar 01495 742951 neu andrea.sysum@torfaen.gov.uk

  • Dylai preswylwyr sy’n dymuno cymryd rhan yn yr ystod eang o weithgareddau a gynhelir yng Nghanolfan Gymunedol y Fenni neu gymryd rhan fel gwirfoddolwr gysylltu â’r ganolfan ar 07751 666481 neu aber.hub@gmail.com

 

Cynhaliodd Hyb Cymunedol Cil-y-coed ddigwyddiad coffa yn ddiweddar (dydd Mawrth 10 Gorffennaf) i nodi llwyddiant prosiect hanes lleol i gofnodi profiadau pobl o fyw yn y dref o’r amser pan oedd yn bentref. Cynhaliwyd y prosiect hanes llafar blwyddyn o hyd gan Gyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed gyda chefnogaeth gan staff yr hyb. Roedd y digwyddiad dathlu yn dilyn cyfres o gyflwyniadau i Gymdeithas Hanes Cil-y-coed, adran hanes U3A y dref, a disgyblion Clwb Hanes Ysgol Cil-y-coed.

Gofynnodd trefnwyr y prosiect i 40 o breswylwyr a gafodd eu geni yng Nghil-y-coed i fwrw i gof eu plentyndod a’u hatgofion o dyfu lan a gofynnwyd i rai a gafodd eu geni mewn mannau eraill pam y daethant i’r ardal a’u profiad o fyw yn y dref. Roedd eu hoedran yn amrywio rhwng 11 a 94 oed, gan wneud y prosiect yn wirioneddol yn hanes teulu pontio’r cenedlaethau.

Roedd y rhai a gyfwelwyd ar gyfer y prosiect yn cynnwys Peter Bartlett, a fagwyd ar dyddyn bychan i’r gogledd o Gil-y-coed. Roedd yn cofio am garcharorion rhyfel a merched tir yn gweithio ar dir ei dad yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ymysg y dogfennau a gasglwyd oedd atgofion y diweddar Ernie Jones oedd yn ffermio Fferm Court House – bellach stad tai Castle Lea – gyda’i wraig Winnie. Roedd Winnie yn cofio’r adegau cyn iddynt briodi pan oedd gwartheg yn cael eu gyrru drwy ganol y pentref i gyrraedd caeau ar y rhosydd gerllaw.

Yn syth ar ôl yr Ail Ryfel Byd roedd chwe theulu yn byw mewn fflatiau yng Nghastell Cil-y-coed ac roedd Wilf Wilshire yn byw yn y gorthwr uwchben dwnsiwn. Roedd Wilf yn cofio dal ystlum a hedfanodd i’w ystafell wely.

Cafodd y cofnodion a’r recordiadau eu lanlwytho ar wefan Casgliad y Werin Cymru, a guradir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Maent yn ffurfio cofnod barhaol a thystiolaeth fyw i Gil-y-coed ers y 1940au pan ehangodd o fod yn bentref bach i fod yn dref sylweddol. Cyllidwyd y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a dalodd am ddarparu offer recordio a hyfforddiant proffesiynol gan Dr Beth Thomas o’r Gymdeithas Hanes Llafar.

Dywedodd Bernard John o Gyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed a arweiniodd y prosiect: “Dymunwn ddiolch i bobl Cil-y-coed am groesawu’r prosiect a’u parodrwydd i siarad am eu bywydau. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i staff a rheolwyr Hyb Cil-y-coed a’r llyfrgell am eu cefnogaeth drwy gydol y prosiect.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol: “Rwy’n hynod falch fod Hyb Cymunedol Cil-y-coed a’i staff wedi bod yn ganolog wrth helpu i gynhyrchu hanes llafar mor ddiddorol o’r dref. Mae ein hybiau cymunedol yn cefnogi gweithgaredd cymunedol lleol o’r math hwn sy’n cyfrannu at lesiant pobl ac yn eu helpu i uniaethu gyda’u bro. Diolch yn fawr i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am eu cyfraniad i wneud y prosiect hwn yn bosibl.”

Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: “Mae cymaint o’n hanes lleol wedi ei blethu i atgofion a phrofiadau pobl. Roedd prosiect hanes llafar pontio’r cenedlaethau Cil-y-coed yn crynhoi’r elfennau hyn o’r hanes a rannwn sydd mewn perygl o ddiflannu wrth iddo lithro allan o gof pobl. Diolch i’r rhai sy’n chwarae yn y Loteri Genedlaethol, gall Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru gefnogi prosiectau o’r fath sy’n sicrhau rhoi cyfraniad pobl i’w treftadaeth ar gof a chadw.”

Plediodd perchennog bwyty yng Nghas-gwent yn euog i ddwy drosedd hylendid bwyd yn dilyn gweithredu gan swyddogion iechyd yr amgylchedd Cyngor Sir Fynwy.

Gorchmynnwyd i Dionysios Mastrogiannopoulos, perchennog Bar Mythos yn Stryd Gymreig, i dalu dros £3,000 mewn dirwyon a chostau yn Llys Ynadon Cwmbrân ar 23 Gorffennaf ar ôl methu cymryd mesurau digonol i reoli pla a chadw’r busnes bwyd mewn cyflwr gwael. Roedd swyddogion iechyd yr amgylchedd wedi cau’r safle’n flaenorol rhwng 12 Chwefror a 8 Mawrth eleni pan wnaethpwyd gwaith adfer. Cafodd y busnes ei agor yn llawn erbyn hyn a’i ailasesu gyda graddiad hylendid bwyd 4 (Da) yn dilyn gwaith trwsio sylweddol a chydweithio agos gyda’r cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ddiogelu’r cyhoedd: “Bydd tîm Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor bob amser yn gweithio gyda busnesau bwyd i gynnal safonau a diogelu iechyd y cyhoedd. Fodd bynnag, ni fyddwn yn oedi rhag defnyddio ein pwerau statudol os canfyddir bod amodau’n wael ac nad yw busnesau wedi ymateb i’n cyngor Ein nod yw i bob safle bwyd yn Sir Fynwy gyrraedd safon derbyniol o hylendid ac anelu am ragoriaeth.”

Dylai busnesau bwyd sydd angen help neu gyngor gysylltu â thîm iechyd yr amgylchedd Sir Fynwy ar 01873 735420.

Bydd Hyb Cymunedol Brynbuga yn coffau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf gydag arddangosfa o ddau gwilt trawiadol a lliwgar a gynlluniwyd gan 130 o blant Sir Fynwy yn cynnwys rhai o ysgol gynradd y dref. Gwnaed y cwiltiau dair blynedd yn ôl a chawsant eu dadlennu’n wreiddiol yn hyb cymunedol y Fenni. Maent yn nodi cyfraniad sylweddol 3ydd Catrawd Sir Fynwy i’r Rhyfel a’r colledion trwm yn Ypres.

Comisiynwyd y cwiltiau gan Gymdeithas Celfyddydau Sir Fynwy. Dywedodd Karen Couchman, ei swyddog celfyddydau ieuenctid: “Bu saith o artistiaid yn gweithio’n agos gyda’r plant ysgol i gynhyrchu’r cwiltiau, ac mae’r themâu yn cynnwys anifeiliaid a’u swyddogaeth yn y rhyfel, bywyd yn y ffosydd, nyrsio, pabi, beirdd y Rhyfel Byd Cyntaf a mynd dros y top. Cafodd y cwiltiau eu harddangos yn ddiweddar ym mhencadlys y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd.

Cafodd y cwiltiau eu cynnwys yn ddiweddar yng nghystadleuaeth ryngwladol Erioed y Fath Ddiniweidrwydd 2017/18 a derbyn gwobr cydnabyddiaeth arbennig yn ogystal â chofnod yn y llawlyfr enillwyr yn dilyn dros 7,000 o gynigion o 43 o wledydd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Laura Jones, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Sir Fynwy: “Mae’r cwiltiau yn deyrnged wych i’r rhai a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn arbennig wrth i ni agosáu at ganmlwyddiant llofnodi’r Cadoediad. Rwy’n siŵr y bydd cymuned Brynbuga yn croesawu’r cwiltiau pan gânt eu harddangos yn hyb y dref ac rwy’n edrych ymlaen at fynd â fy mab ifanc i’w gweld.”

Bydd arddangosfa o ffotograffau, celf a chrochenwaith gan fyfyrwyr lleol yn ymddangos gyda’r cwiltiau tan 20 Awst.

  • Mae Hyb Cymunedol Brynbuga yn 36 Stryd Maryport, NP15 1AE. Ei oriau agor yw:

Dyddiau Llun: 9am i 5pm
Dyddiau Mercher: 9am to 5pm
Dyddiau Iau: 9am i 7pm
Dyddiau Sadwrn: 9am i 12:45pm

Ysgol Brenin Harri VIII yn y Fenni yw’r ysgol uwchradd gyntaf yn Sir Fynwy i ennill Gwobr Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru am gyflawni ‘Sylfeini’ Rhaglen Gofalwyr Ifanc yn yr Ysgol. Caiff yr ysgol ei chydnabod am ei darpariaeth ragorol, sy’n helpu i gefnogi gofalwyr ifanc i ffynnu.

Mae Sir Fynwy yn un o 15 ysgolion ar draws Gwent Fwyaf, Caerdydd a Bro Morgannwg i gyflawni ‘Y Sylfeini’, y cyntaf o’r rhaglen tri cham. Y camau pellach yw ‘Tu Hwnt i’r Sylfeini’ ac ‘Arfer Gorau’ a gyfunir gyda phum safon pwysig i alluogi gofalwyr ifanc i ffynnu a blodeuo ‘Deall, Hysbysu’, Dynodi, Cefnogi a Gwrando’.

Mae’r rhaglen yn sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael sylw yn yr ysgol ac yn derbyn yr help a’r gefnogaeth maent eu hangen i ddysgu. Mae holl ysgolion uwchradd y sir yn gweithio’n uniongyrchol gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru i roi cefnogaeth sylfaenol i ddisgyblion drwy Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru. Mae dwy ysgol gyfun yn Sir Fynwy yn cymryd rhan yn y rhaglen Gofalwyr Ifanc yn yr Ysgol ar hyn o bryd.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru yn gweithio wrth ochr datblygu cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus, gan sicrhau fod rhaglen Gofalwyr Ifanc yn yr Ysgol yn rhoi dull cyfannol i gefnogi dysgwyr bregus. Mae’r rhaglen yn darparu cyfleoedd partneriaeth hollbwysig gyda byrddau iechyd, awdurdodau lleol a gwasanaethau gofalwyr ifanc i roi’r gefnogaeth orau i ofalwyr ifanc a’u teuluoedd.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru yn rhoi cefnogaeth tu allan i’r ysgol i blant a phobl ifanc yn cynnwys hyfforddiant, gweithgareddau a thripiau sy’n rhoi cyfleoedd i ofalwyr ifanc drafod gyda’i gilydd a chael cefnogaeth cyfoedion mewn sefyllfaoedd tebyg. Bydd Ymddiriedolwyr Gofalwyr De Ddwyrain Cymru yn mynychu Sioe Brynbuga ar 8 Medi mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Fynwy i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith gwych ac i godi arian i barhau â gwaith ardderchog y sefydliad.

Dywedodd y Cyng Penny Jones, Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

‘Rwy’n llongyfarch Ysgol Brenin Harri VIII am ennill y dyfarniad yma. Mae cydnabod ac ymateb i anghenion ein gofalwyr ifanc yn sylfaenol wrth alluogi plant a phobl ifanc i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae tyfu lan yn anodd a hyd yn oed yn anos os ydych yn gorfod tyfu lan yn gynt na’ch cyfoedion. Mae’n wych gweld yr ymrwymiad a’r gefnogaeth yn ein hysgolion i roi cyfle cyfartal i bob plentyn i ffynnu a dysgu.’

I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 01495 769996 info@ctsew.org.uk

 

Bydd Castell y Fenni yn lleoliad digwyddiad min nos gyda’r gwahaniaeth ddydd Mercher 1 Awst – disco tawel awyr agored yn seiliedig ar Owain Glyndŵr.

Yn ystod y noswaith, bydd trac sain dros glustffonau diwifr yn arwain y sawl sy’n cymryd rhan drwy hanes Owain Glyndŵr a’i wrthryfel rhwng 1399 a 1419. Caiff y stori ei gosod i DJ yn cymysgu clasuron clwb a phync gyda thraciau gan gerddorion a bandiau cyfoes Cymreig.

Cafodd y noswaith egnïol a diddorol i deuluoedd, pobl ifanc a rebeliaid o bob oed ei chreu i ysbrydoli a hysbysu gan Light Ladd & Emberton, casgliad o bedwar o brif ddawnswyr creadigol Cymru – Deborah Light, Eddie Ladd a Gwyn Emberton gyda Laura Drane.

Dywedodd Eddie Ladd, un o berfformwyr byw a theledu mwyaf adnabyddus Cymru: “Cawsom ein hysbrydoli yn haf y llynedd i greu’r digwyddiad hwn mewn lleoliadau yn gysylltiedig ag Owain Glyndŵr, fel rhan o Flwyddyn Chwedlau Croeso Cymru a phrofodd i fod yn noson mas hwyliog i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at i fwy o bobl ddawnsio’r gwrthryfel eto eleni.”

Ychwanegodd Laura Drane, cynhyrchydd Light Ladd & Emberton: “Mae’r sioe yn defnyddio perfformwyr proffesiynol wrth ochr ein cynulleidfa, mewn cyfres o olygfeydd, symudiadau a thasgau. Bydd y trac sain a’r traethu, drwy’r clustffonau diwifr, yn rhoi’r alawon a chyfeirio’r gweithredu yn Gymraeg a Saesneg. Dewch i ddarganfod stori Glyndŵr.”

Bydd dwy sioe 45 munud yn cychwyn am 6.30pm a 8pm. Mae’r perfformiad yn addas ar gyfer pob oedran gyda thocynnau’n costio £5 y person. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly argymhellir prynu tocynnau ymlaen llaw a chyrraedd 15 munud cyn cychwyn y perfformiad. I gael manylion a thocynnau ffoniwch 01873 854282 neu alw heibio Castell ac Amgueddfa’r Fenni.

Mae’r haf yma ac mae profiadau gwych ar gael yn Sir Fynwy fendigedig ar gyfer plant a phobl ifanc. Dechreuodd yr hwyl y penwythnos hwn pan ymunodd Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy â Gŵyl Gymunedol Brynbuga ddydd Sul ar gyfer peintio wynebau a gemau.

Dyddiau Mas

Cefn gwlad hudolus, bryniau, lleoliadau ar lan y dŵr a choedwigoedd – mae’r rhestr yn faith. Sir Fynwy yw’r lle ar gyfer anturiaethau awyr agored. Gyda mwy o gestyll fesul milltir sgwâr nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig, Sir Fynwy yw’r lle perffaith i’w ymchwilio. Cynhelir gweithgareddau crefft wythnosol drwy’r haf yn amgueddfeydd ac atyniadau Sir Fynwy (gwahanol thema bob wythnos).

Ymgollwch yn hanes Cymru gyda gwahaniaeth ar 1 Awst am 6.30 a 8pm pan fydd Castell ac Amgueddfa y Fenni yn cynnal disgo tawel i’r teulu yn dathlu Owain Glyndŵr yn cynnwys DJ yn cymysgu clasuron clwb a chaneuon gwreiddiol. Ffoniwch yr amgueddfa ar 01873 854282 am docynnau (gofynnir i chi brynu tocynnau ymlaen llaw gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig).

Rhowch gynnig ar saethyddiaeth yng Nghastell Cil-y-coed ddydd Sadwrn 4 Awst pan fydd hyfforddwyr cymwys yng ngerddi’r castell drwy’r dydd.

Bydd arddangosiadau Punch a Judy yng nghanolfan ymwelwyr Hen Orsaf Tyndyrn drwy’r dydd ddydd Sul 5 a dydd Iau 9 Awst. Ewch draw i fwynhau’r sioe.

Am 4pm ddydd Gwener 17 Awst cynhelir addasiad theatr awyr agored y Midnight Gang o lyfr poblogaidd iawn David Walliams yn Amgueddfa a Chastell y Fenni. Mae tocynnau ar gael o Amgueddfa’r Fenni.

Gwneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd

Bydd pobl ifanc yn mwynhau sesiynau galw heibio a digwyddiadau Skate Jam drwy gydol yr haf. Cynhelir Digwyddiad PRIDE pobl ifanc ar 3 Awst yng Nghastell Cil-y-coed, rhwng 1-8pm, gyda chymysgedd o weithgareddau ar gael – perfformiadau byw, cerddoriaeth, stondinau, gorymdaith a gweithgareddau eraill i bobl ifanc gymryd rhan ynddynt. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad am ddim yma ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/monmouthshire-youth-pride-tickets-48203103781

Bydd plant 5 i 12 oed wrth eu bodd yn treulio’r diwrnod yn ‘Gemau Sir Fynwy’ – 27 diwrnod llawn hwyl ym mhedair canolfan hamdden Sir Fynwy. Mae llwythi o wahanol chwaraeon i roi cynnig arnynt fel pêl-droed, pêl-rwyd, tenis, milltir dyddiol, dodgeball a llawer mwy – ffordd wych i blant ddysgu sgiliau newydd, cynyddu hyder a gwneud ffrindiau newydd. I holi am Gemau Sir Fynwy ewch i  www.monmouthshire.gov.uk/monmouthshire-games  neu gysylltu â’ch canolfan hamdden lleol.

Mae gwersylloedd i ferched bob dydd Gwener drwy gydol gwyliau’r Haf yng Nghanolfan Hamdden y Fenni. Cyfle gwych i ferched (5-12 oed) ddod ynghyd â chael hwyl drwy chwaraeon. Cysylltwch â Chanolfan Hamdden y Fenni i archebu neu wneud ymholiadau drwy sport@monmouthshire.gov.uk

Mae Gwersylloedd Pêl-droed Chwaraeon Mynwy (5-12 oed) yn cynnig wyth diwrnod o hwyl a phêl-droed gyda hyfforddwyr gyda chymwysterau Cymdeithas Bêl-droed Cymru drwy gydol gwyliau’r haf. Cysylltwch â Chanolfan Hamdden y Fenni neu Gil-y-coed i archebu neu gwnewch ymholiadau drwy  sport@monmouthshire.gov.uk

Dywedodd y Cyng Bob Greenland, Aelod Cabinet dros Arloesedd, Menter a Hamdden: “Rwy’n gobeithio y caiff bawb haf llawn hwyl – mae digwyddiadau gwych ar draws y sir ar gyfer plant a phobl ifanc o bob oed.”

  

I gael syniadau am hwyl haf anfonwch neges destun ‘summer’ at 61211 neu edrych ar www.visitmonmouthshire.com/summer  

 Mae mwy o ysbrydoliaeth ar gael ar y pytiau hyn ar gyfer hwyl haf:

https://www.facebook.com/MonmouthshireCC/videos/1985849174782844/

https://www.facebook.com/MonmouthshireCC/videos/1996719463695815/

Daeth dros 150 o breswylwyr, teuluoedd a ffrindiau ynghyd yn haul y prynhawn ddydd Sadwrn 21 Gorffennaf i ddathlu agor gardd mewn cartref ar gyfer pobl hŷn. Cafodd yr ardd yng Nghartref Preswyl Severn View Cyngor Sir Fynwy yng Nghas-Gwent ei chreu i raddau helaeth diolch i waith caled gwirfoddolwyr a chyfraniadau hael gan gefnogwyr. Hefyd cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol i godi arian, a chasglodd saith aelod o staff arian nawdd ar ôl cwblhau Her Tri Chopa Prydain yn haf 2016.

Mae Severn View yn gartref ar gyfer pobl hŷn ac mae llawer ohonynt yn byw gyda dementia. Bydd yr ardd yn galluogi gweithgareddau yn cynnwys garddio, mwynhau bywyd gwyllt, mynd am dro ar y llwybrau a gynlluniwyd yn arbennig neu gael te gyda ffrindiau a pherthnasau. Ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, mae gardd yn eu helpu i ailgysylltu gyda’r byd o amgylch ac mae staff y ganolfan yn sylweddoli fod bod yn yr awyr agored yn ganolog i lesiant. Yn ogystal â gwella iechyd corfforol, mae’n gostwng straen, gwella cwsg ac yn rhoi ymdeimlad o’r hunan a lle i bobl.

Cafodd yr ardd ei hagor yn swyddogol gan Julie Boothroyd, sydd newydd ei phenodi yn Brif Swyddog Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd. Diolchodd i’r llu o sefydliadau a gyfrannodd at greu’r ardd, gan sôn yn arbennig am Rachel Davies a roddodd ei sgiliau garddio, y gwirfoddolwyr Anne Masters ac Andy Herbert, Anne Ali am ddarparu basgedi crog, Rob Campbell a weithredodd fel arweinydd yr achlysur a’r ddiflino Maureen Jenkins, a fu’n sbardun ar gyfer yr ardd gan ddefnyddio ei chysylltiadau a sicrhau cymorth fel oedd angen. Dywedodd Julie: “Gobeithiwn fod pawb a fynychodd heddiw wedi mwynhau lansiad yr ardd fendigedig yma. Byddem wrth ein bodd pe bai’r gymuned yn cymryd rhan felly os hoffai unrhyw un ymuno â’n preswylwyr am sgwrs neu ychydig o arddio, ffoniwch 01291 638921 os gwelwch yn dda neu alw heibio Severn View i drafod sut y gallant helpu.”

Hefyd yn bresennol yn yr agoriad oedd y Cynghorydd Peter Clarke, Cadeirydd Sir Fynwy a’r Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ofal cymdeithasol. Cydnabu’r Cynghorydd Clarke “ymdrech gymunedol wych” a dywedodd y Cynghorydd Jones: “Fe hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i greu gofod gwych yn yr ardd fendigedig hon i bobl eistedd ynddi a mwynhau.”

Ychwanegodd diodydd Pimms at yr amgylchedd gŵyl a chafodd adloniant cerddorol gan Pashy Pops, deuawd o Gwmbrân yn cynnig adloniant cerddorol gyda chaneuon o’r 1940au gan yr Andrews Sisters, Gracie Fields, Doris Day a Vera Lynn yn ogystal â ffefrynnau eraill o’r cyfnod. Yn ddiweddarach, rhoddodd Band Twnnel yr Hafren a Chôr Meibion Cil-y-coed berfformiadau gan ddod â’r digwyddiad i glo.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn croesawu tri swyddog newydd i’w uwch dîm arweinyddiaeth. Mae penodi Prif Swyddog Menter a Phrif Swyddog Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd, yn ogystal a Phennaeth y Gyfraith a Swyddog Monitro yn golygu fod tîm arweinyddiaeth y cyngor yn awr ar nerth llawn. Bydd gan y prif swyddogion newydd y gallu a’r potensial i sicrhau cynnydd a chynnig gwahaniaeth sylweddol I gymunedau Sir Fynwy.

Daw Frances Williams yn Brif Swyddog Menter, gan olynu Kellie Beirne fydd yn gadael y cyngor yn y dyfodol agos i ddod yn Gyfarwyddwr Rhaglen Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae Frances wedi arwain adran adfywio Blaenau Gwent a bu’n Bennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol am y ddwy flynedd ddiwethaf, gan arwain swyddogaethau gwasanaethau cymunedol a hefyd adfywio oedd yn cynnwys ystod eang o wasanaethau rheng-flaen. Yn ychwanegol, mae wedi arwain gwahanol raglenni ar gyfer nifer o awdurdodau lleol yn Ne Ddwyrain Cymru. Yn hanu o Bort Talbot, astudiodd am radd mewn daearyddiaeth ac wedyn radd Meistr Ymchwil mewn Technoleg Ailgylchu ym Mhrifysgol Abertawe. Dechreuodd Frances ei gyrfa broffesiynol mewn rheolaeth gwastraff ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful cyn symud i Flaenau Gwent.

Mae Frances yn byw yng Nghasnewydd ac mae’n gyd-riant i fab pedair a hanner oed, Zachary – dywed fod yr hanner blwyddyn yn hollbwysig I’w mab! Mae’n mwynhau darllen a mynd i’r gampfa, ond hefyd wrth ei bodd gyda bwyd gwych a choginio.

Dywedodd Frances: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i weithio gyda’r tîm yng Nghyngor Sir Fynwy a helpu i gyflawni ei nodau. Rwy’n angerddol am wneud gwahaniaeth, gwella gwasanaethau cyhoeddus ac yn methu aros i gychwyn arni yng Nghyngor Sir Fynwy.”

Mae Julie Boothroyd, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, Diogelu a Iechyd newydd Sir Fynwy wedi gweithio fel Pennaeth Gwasanaethau Oedolion y cyngor am yr wyth mlynedd ddiwethaf. Bydd yn olynu Claire Marchant sydd wedi ymuno â Chyngor Dinas Caerdydd fel Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dechreuodd Julie ei gyrfa gofal cymdeithasol yn 19 oed yn cynorthwyo’r henoed ac ers hynny bu ganddi amrywiaeth o swyddi uwch ym Mryste, Gwent a Sir Fynwy. Mae’n ymfalchïo mewn adeiladu perthynas gref gyda’r gweithlu a phobl sydd angen cymorth gofal cymdeithasol. Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd ac yn falch i ddod yn Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd. Rwy’n gweithio bob dydd gyda staff rhagorol sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl. Rwyf eisiau arwain y gwasanaeth gydag angerdd, optimistiaeth ac uchelgais. Yn bennaf oll, rwyf eisiau sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar bobl a pherthnasoedd; y rhai y gweithiaf gyda nhw a’r rhai a gefnogwn i sicrhau ein bod yno bob amser i bobl yn ôl yr hyn sy’n bwysig iddynt.”

Mae Julie yn hanu o orllewin Swydd Efrog, ond mae wedi mabwysiadu Cymru fel ei chartref ac wedi byw yn Sir Fynwy am yr 20 mlynedd ddiwethaf gyda’i gŵr Colin a’i thri o blant sydd bellach yn oedolion, Chris, Dan a Scarlet. Mae’n hoff iawn o’r awyr agored ac yn mwynhau treulio amser gyda’i dau geffyl a dau gi, ac mae hefyd wrth ei bodd gyda beiciau modur a cheir cyflym.

Penodwyd Matt Phillips yn Bennaeth y Gyfraith a Swyddog Monitro, yn olynu Robert Tranter a fu’n gweithio i Gyngor Sir Fynwy am gyfnod maith ac sy’n gadael i fynd i swydd newydd gyda Bwrdeistref Sirol Caerffili, Magwyd Matt yng Nghas-gwent ac aeth i Ysgol Gynradd Pembroke ac Ysgol Cas-gwent cyn astudio gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl graddio, ymunodd â’r Llynges Frenhinol fel arbenigedd logisteg, gan hyfforddi fel swyddog comisiwn yng Ngholeg Llynges Frenhinol Brittania yn Dartmouth cyn mynd ymlaen i arbenigo fel llongwr tanfor a gwasanaethu fel pennaeth adran ar HMS Tireless, llong danfor heliwr-lladdwr a gaiff ei phweru gan ynnni niwclear.

Detholwyd Matt gan y Llynges Frenhinol i hyfforddi fel bargyfreithiwr a bu’n astudio yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd cyn cael ei alw i’r Bar yn Neuadd Brawdlys y Deml Ganol. Treuliodd flwyddyn yn gweithio fel bargyfreithiwr troseddol yn Llundain cyn dychwelyd at y Llygres Frenhinol a dod yn gynghorydd cyfreithiol y Deyrnas Unedig i Lu Morol yr Undeb Ewropeaidd, yn canolbwyntio ar weithgareddau gwrth-ladrad ar y môr yn Horn Affrica. Parhaodd Matt i arbenigo mewn Cyfraith Ryngwladol a Gweithredol, gan ddod yn gynghorydd cyfreithiol i 3ydd Brigâd Comando y Llengfilwyr Brydeinig a gweithio fel strategydd yn Cyd-gomand y Lluoedd.

Mae Matt yn byw yn y Fenni gyda’i wraig Ruth a’i ferched Alice a Charlotte. Mae’n manteisio I’r eithaf ar fywyd yn y Fenni a Sir Fynwy, o fynd a’r ci am dro ym Mannau Brycheiniog i redeg, nofio dŵr agored neu seiclo ym mhob rhan o’r sir a thu hwnt.

Dywedodd Matt: “Rwyf wrth fy modd i fod yn ymuno â Chyngor Sir Fynwy. Tyfais lan yng Nghas-gwent ac rwyf wedi byw yn y Fenni ers blynyddoedd felly mae’n wych dychwelyd o yrfa yn y lluoedd arfog a aeth a fi i bob rhan o’r byd i roi rhywbeth yn ôl I’r sir a chymryd rhan yng ngwaith rhagorol Cyngor Sir Fynwy.

Meddai Peter Fox, Arweinydd y Cyngor: “Rwy’n falch iawn i ni wneud y penodiadau yma sy’n dilyn ymgyrch gynhwysfawr i sicrhau recriwtio’r bobl orau. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld yr effaith a gaiff Frances, Julie a Matt ar Sir Fynwy wrth iddynt gynnig eu profiad, syniadau ac ymagwedd newydd.

“Fy nymuniadau gorau a diolch i Kellie, Claire a Rob wrth iddynt ein gadael a dymunwn yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol.”

I gael mwy o wybodaeth ar gyfleoedd gyda Chyngor Sir Fynwy mewngofnodwch ar:

www.monmouthshire.gov.uk/jobs-and-employment

Cafodd Ysgol Cil-y-coed, Ysgol 21ain Ganrif gyntaf Cyngor Sir Fynwy, ei hagor yn swyddogol gan y Brigadydd Robert Aitken CBE, Arglwydd Raglaw Gwent ddydd Gwener 20 Gorffennaf. Daeth y seremoni flwyddyn i’r diwrnod ar ôl cau’r hen adeilad.

Mae’r ysgol uwchradd £40 miliwn newydd yn darparu ar gyfer 1500 o ddisgyblion a chafodd ei chyd-gyllido gan Gyngor Sir Fynwy a Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif ac Addysg Llywodraeth Cymru. Y rhaglen yw’r buddsoddiad seilwaith mwyaf mewn ysgolion a cholegau ers y 1960au a chaiff ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu, disgyblion a staff.

Bu llu o bobl amlwg, yn cynnwys Jessica Morden AS, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy y Cyng Peter Clarke ac Arweinydd y Cyngor y Cyng Peter Fox yn bresennol yn y seremoni. Diolchodd y Pennaeth Gweithredol Mr Simon Rees a Chadeirydd y Llywodraethwyr Peter Nurcombe i bawb a gymerodd ran wrth adeiladu’r ysgol.

Bu’r adeilad a’i ethos yn ganolog i’r gymuned ers agor yr ysgol wreiddiol yn 1958. Mae’r ysgol newydd wedi ennill gwobrau am ei dyluniad a’i phensaernïaeth a bydd yn parhau i groesawu disgyblion, staff, rhieni a’r gymuned ehangach drwy ei drysau. Mae’r dyluniad arloesol a thechnoleg rhyngweithiol o fewn yr ysgol yn darparu profiad dysgu o’r math diweddaraf un heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac yn galluogi disgyblion Cil-y-coed i ateb heriau’r cwricwlwm newydd.

Dywedodd y Cyng Richard John, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc:

“Mae’n fraint nodi agoriad swyddogol addysg 21ain Ganrif ar gyfer disgyblion Cil-y-coed. Yr ysgol yw buddsoddiad mwyaf y cyngor hyd yma, a chaiff ei gyflwyno ar y cyd gydag Interserve, Llywodraeth Cymru, disgyblion a staff. Mae’r ysgol newydd yn braf, yn gyfeillgar i’r amgylchedd, yn effeithiol o ran ynni ac yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf oll i alluogi staff i ddefnyddio’r dulliau addysgu mwyaf modern.

“Roedd 70% o’r gweithwyr adeiladu o’r ardal leol ac fe wnaeth llawer o brentisiaid ennill sgiliau gwerthfawr yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd yr ysgol o fudd i bobl ifanc a’r gymuned ehangach yng Nghil-y-coed am genedlaethau. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i adnewyddu ein hadeiladau ysgol ar draws y sir fel y gall pob person ifanc yn Sir Fynwy fanteisio o amgylchedd dysgu modern.”

Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg: “Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau, cau’r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sy’n ffynhonnell balchder a hyder cenedlaethol. Mae gan ein Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif ac Addysg ran allweddol yn hyn a dyma’r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a cholegau ers y 1960au.

“Rwyf yn falch iawn fod buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y prosiect £40m yma’n cael effaith gadarnhaol ar addysg a dysgu yn Sir Fynwy. Bydd yr ysgol newydd yn adnodd hollbwysig i’r holl gymuned.”

 

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf ddydd Llun 30 Gorffennaf yn siambr y cyngor yn Neuadd y Sir i drafod polisi arfaethedig yr awdurdod ar fyrddau hysbysebu a chelfi stryd.

Mae’r Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf wedi cydnabod y diddordeb sylweddol a fynegwyd gan fusnesau lleol, masnachwr, grwpiau anabledd a phreswylwyr mewn blynyddoedd diweddar ac mae’n croesawu pawb sydd â diddordeb i fynychu’r cyfarfod. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r cyhoedd i gynnig eu safbwyntiau ac i aelodau drafod y mater llawn, cyn i’r Pwyllgor Dethol wneud argymhellion ar yr opsiynau polisi.

Bydd y cyfarfod yn cynnwys cyflwyniad gan Roger Hoggins, Pennaeth Gweithrediadau Sir Fynwy a ddilynir gan fforwm agored 30 munud i alluogi’r cyhoedd, busnesau a grwpiau i gyflwyno eu sylwadau. I osgoi ail-adrodd, mae’r cyngor yn argymell bod grwpiau’n enwebu llefarydd i siarad ar eu rhan.

http://www.monmouthshire.gov.uk/home/democracy-councillors – caiff y cyfarfod ei ffrydio’n fyw ar gyfer rhai sy’n dymuno ei weld o bell. Gofynnir i unrhyw un sy’n dymuno dosbarthu dogfennau neu ddeunydd ysgrifenedig i’r pwyllgor eu hanfon at dîm gwasanaethau democrataidd Sir Fynwy erbyn 6pm ddydd Llun 23 Gorffennaf e-bost:

registertospeak@monmouthshire.gov.uk

Galwyd am y cyfarfod gan y Cynghorydd Jane Pratt, Cadeirydd Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf, a ddywedodd: “Gwyddom am bwysigrwydd y mater hwn a’r angen i drafod hyn mor llawn ag sydd modd. Fel canlyniad, mae’r Pwyllgor Dethol yn rhoi blaenoriaeth ar hyn drwy alw cyfarfod arbennig i alluogi’r pwyllgor i ddeall yn llawn beth fydd goblygiadau’r polisi ar fusnesau a phreswylwyr yn gwneud ei argymhelliad”.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet dros Weithrediadau Sir Fynwy: “Mae ein trefi yn lleoedd hardd a bywiog, yn deniadol llawer o ymwelwyr o bob rhan o’r byd. Rwyf wrth fy modd gyda’r diwylliant ‘caffe’ a welaf yn ein trefi a dim eisiau rhwystro hyn. Rwy’n annog pobl i ddod draw neu edrych ar y cyfarfod i gael wybodaeth ar sut y gallwn helpu busnesau barhau i ffynnu”.

Yn ychwanegol, cynhaliwyd dau gyfarfod cyhoeddus ddydd Gwener 13 Gorffennaf yn Neuadd y Sir, Trefynwy a dydd Llun 16 Gorffennaf yn Neuadd y Dref, y Fenni i alluogi busnesau a phreswylwyr i rannu eu sylwadau.

 

 

 

 

 

 

Cafodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, ei chroesawu i Ysgol Gynradd Tryleg ddydd Gwener 13 Gorffennaf. Cyfarfu’r Ysgrifennydd Cabinet gyda Phenaethiaid Ysgolion a Rheolwyr Busnes Clwstwr sydd newydd eu penodi gan Gyngor Sir Fynwy i drafod llwyddiant prosiect peilot tair blynedd i roi cefnogaeth neilltuol ar gyfer arweinwyr ac athrawon.

Cafodd y prosiect peilot ei gyllido ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol i ddarparu rheoli busnes a chefnogaeth ar gyfer yr holl ysgolion cynradd yn y sir. Mae Sir Fynwy yn un o 11 ardal a fu’n llwyddiannus yn sicrhau grant o £65,000 gan Lywodraeth Cymru ac arian cyfatebol gan y cyngor.

Mae’r Rheolwyr Busnes yn helpu penaethiaid ysgol i ganolbwyntio mwy ar gymuned yr ysgol, gan wneud eu rôl yn yr ysgol yn un fwy ymarferol gyda ffocws ar y disgyblion.

Dywedodd Richard John, Aelod Cabinet Sir Fynwy dros Blant a Phobl Ifanc ‘Bu’r prosiect yn rhedeg yn ein holl ysgolion cynradd ers nifer o fisoedd ac mae penaethiaid ein ysgolion eisoes yn dechrau gweld y manteision. Bu rheolwyr busnes yn gweithio’n agos gydag ysgolion i edrych am arbedion cyllideb a gostwng y baich gweinyddol ar benaethiaid. Rwy’n croesawu’r cyllid hwn gan ei fod mor bwysig i gefnogi arweinwyr ysgol, gan alluogi mwy o amser ac adnoddau ar gyfer addysgu fel bod pobl ifanc Sir Fynwy yn cael y cyfle gorau i gyflawni eu potensial.’

Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg: “Mae angen i athrawon a phenaethiaid ysgolion fedru canolbwyntio ar y swyddi mai nhw sydd yn y lle gorau i’w cyflawni, swyddi y gwnaethant hyfforddi ar eu cyfer, swyddi a wnaeth iddynt bod eisiau dod yn athrawon yn y lle cyntaf.

“Mae llawer o bethau a all rwystro hyn ac mae athrawon yn aml yn sôn wrthyf am y pwysau sy’n eu hwynebu oherwydd llwyth gwaith.

“Rydym wedi gwrando a dyna pam, y llynedd, y cyhoeddais gyllid o £642,000 ar gyfer prosiect Rheolwyr Busnes Ysgolion. Ynghyd ag arian cyfatebol gan Awdurdodau Lleol mae hyn yn golygu fod dros £1.2 miliwn ar gael ar gyfer cynlluniau peilot mewn un ar ddeg o ardaloedd.

“Rwy’n falch iawn clywed fod y cyllid hwn eisoes yn gwneud gwahaniaeth i benaethiaid ysgol yn Sir Fynwy ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am sut mae’r prosiect yn codi safonau a gwella ysgolion.”

Mae Cyngor Sir Fynwy yn dathlu’r newyddion fod tri o’i ofodau agored wedi cadw dyfarniad pwysig Baner Werdd a enillwyd y llynedd gan elusen amgylcheddol Cadw Cymru’n Daclus. Caiff Hen Orsaf Tyndyrn, Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed a Dolydd y Castell yn y Fenni eu cydnabod fel bod ymhlith y parciau a’r gofodau gwyrdd gorau yn y wlad a’u bod yn cynnal safonau uchel drwy gydol y flwyddyn. Mae’r gwobrau’n cydnabod yr ymdrechion sylweddol a wneir gan wirfoddolwyr a rheolwyr parciau i gyrraedd y safonau hyn.

Mae parciau Sir Fynwy yn boblogaidd iawn gyda phreswylwyr ac ymwelwyr ac wedi ennill nifer o ddyfarniadau mewn blynyddoedd diwethaf. Mae Hen Orsaf Tyndyrn wedi datblygu enw ardderchog fel un o brif ganolfannau ymwelwyr yr ardal a chafodd ei ddewis yn hoff barc y Deyrnas Unedig ym mhôl cyhoeddus Baner Werdd Dewis y Bobl yn 2011. Mae mewn ardal goediog hyfryd ger yr Afon Gwy ac mae darpariaeth ei ystafell tê yn nodedig.

Mae castell canoloesol gwych Cil-y-coed wedi’i osod mewn 55 erw o barc gwledig hardd yn cynnig gosodiad delfrydol ar gyfer picnics a llwybrau cerdded gyda muriau’r castell yn gefndir, gyda byrddau picnic a barbeciws. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau yn y castell drwy gydol y flwyddyn, gan ddenu pobl o bell ac agos yn cynnwys cyngherddau gan y grwpiau pop Status Quo a Little Mix.

Mae Dolydd y Castell y Fenni ar lannau’r Afon Wysg. Mae’r gosodiad heddychlon yn agos at ganol y dref a dyma leoliad Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cylch 2016, a fu’n llwyddiannus iawn.

Yn ogystal â’r safleoedd hynny a enillodd ddyfarniad Baner Werdd, mae saith lleoliad yn Sir Fynwy wedi ennill Dyfarniad Cymunedol y Faner Werdd – mae hyn yn cydnabod gofodau gwyrdd ansawdd uchel a gaiff eu rheoli gan grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Ymysg y grwpiau mae Cyfeillion Parc Bailey sy’n cwrdd yn rheolaidd i chwynu a chynnal gardd synhwyraidd. Y lleoliadau eraill yn y sir a gafodd Ddyfarniad Cymunedol Baner Werdd yw Coedwig Crug, Dol Crug, Rhandiroedd Crucornau, Gardd Gymunedol Goetre, Cae Grawn Porthysgewin a Pherllan Gymunedol Laurie Jones, Y Fenni.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Bob Greenland, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am Dwristiaeth a Hamdden: “Mae’n newyddion gwych y cafodd tri o barciau’r cyngor eu cydnabod fel bod yn haeddu dyfarniad Baner Werdd, gan roi cyfleusterau mor rhagorol i’n cymunedau. Mae Sir Fynwy yn sir hardd ac mae’r Hen Orsaf, Castell Cil-y-coed gyda’i Barc Gwledig a Dolydd y Castell yn y Fenni ymhlith y safleoedd y mae pobl yn heidio i ymweld â nhw. Llongyfarchiadau hefyd i’r saith safle a enillodd Ddyfarniad Cymunedol Baner Werdd. Rwy’n neilltuol o falch fod y ddau ddyfarniad yn cydnabod ymdrech a gwaith gwirfoddolwyr ym mhob safle.”

Mae’r nifer uchaf erioed o 201 o barciau a gofodau gwyrdd, yn cynnwys prifysgolion, mynwentydd, coetiroedd a rhandiroedd ledled Cymru wedi cyflawni’r safonau uchel sydd eu hangen i dderbyn Dyfarniad Baner Werdd a Dyfarniad Cymunedol Baner Werdd. Caiff rhaglen Dyfarniad Baner Werdd ei beirniadu gan arbenigwyr gofod gwyrdd, sy’n gwirfoddoli eu hamser i ymweld â safleoedd ymgeiswyr ac yn eu hasesu ar wyth maen prawf yn cynnwys safonau garddwriaethol, glanweithdra, rheoli’r amgylchedd ac ymgyfraniad y gymuned.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd Cadw Cymru’n Daclus: “Rydym yn falch iawn i fod yn dathlu blwyddyn ragorol arall i Ddyfarniadau Baner Werdd yng Nghymru. Mae’r 201 baner sy’n cyhwfan yn dyst i ymroddiad a brwdfrydedd staff a gwirfoddolwyr ar draws y wlad sy’n gweithio’n ddiflino i gynnal safonau Dyfarniad Baner Werdd.

“Byddwn yn annog pawb i fynd allan yr haf hwn a mwynhau’r parciau a’r gofodau gwyrdd anhygoel sydd gennym ar garreg ein drws.”

Mae rhestr lawn o enillwyr gwobrau ar gael ar wefan Cadw Cymru’n Daclus: www.keepwalestidy.cymru/greenflag

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal archwiliad o gerrig beddau ym Mynwent Llan-ffwyst yr hydref hwn. Mae’n ofynnol i’r cyngor sicrhau diogelwch pobl sy’n ymweld neu’n gweithio yn ei fynwentydd, ac mae gwirio diogelwch cerrig beddau yn rhan bwysig o’r cyfrifoldeb hwnnw. Caiff y profion eu cynnal gan weithwyr wedi eu hyfforddi a bernir bod cerrig beddau yn ddiogel os ydynt yn parhau’n sefydlog i lefel a benderfynir ymlaen llaw.

Caiff cerrig beddau sy’n methu eu cefnogi gan bolyn a band fel mesur tymor byr a bydd staff mynwentydd yn gosod rhybuddion yn hysbysu aelodau teulu fod yn rhaid iddynt gael gwasanaeth saer maen wedi’i gofrestru os dymunant ail-godi’r garreg. Os oes manylion cyswllt ar gael, bydd y cyngor hefyd yn ysgrifennu at deuluoedd am y camau a gymerwyd a’r hyn y dylent ei wneud. Caiff cerrig beddau na chafodd eu hailgodi o fewn chwe mis o fethu prawf eu suddo i draean eu dyfnder wrth ben y bedd.

Mae’r cyngor yn sylweddoli y gall aelodau teulu bryderu pan glywant fod carreg fedd yn anniogel ond mae’n gobeithio y bydd y rhai yr effeithir arnynt yn deall mai’r peth pwysicaf oll yw sicrhau diogelwch pobl sy’n ymweld â’r fynwent. Dylai unrhyw un sy’n bryderus os yw carreg bedd yn ddiogel neu sydd angen mwy o wybodaeth anfon e-bost at y Swyddog Mynwentydd – rhianjackson@monmouthshire.go.uk – neu ffonio 01873 735852.

Dywedodd aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am fynwentydd, y Cynghorydd Phil Murphy: “Y gwaith yn Llan-ffwyst yw cam nesaf ein rhaglen dreigl i sicrhau diogelwch cerrig beddau ym mynwentydd y sir. Dylai unrhyw un gyda phryderon gysylltu â ni a byddwn yn hapus eu trin. Mae’r gwaith yn debyg o ddechrau ym mis Hydref a chael ei orffen erbyn diwedd y mis.”

Mae Cyngor Sir Fynwy yn croesawu busnesau technoleg i lansiad lleol Her Gov Tech Sir Fynwy. Mae’r digwyddiad yng Nghastell Cil-y-coed ddydd Llun 16 Gorffennaf 10.00 – 1.45pm yn gyfle i gael mwy o wybodaeth a rhannu syniadau.

Defnyddir y £1.25 miliwn o gyllid i ddatblygu datrysiadau arloesol sy’n anelu i helpu lleihau effaith unigryw a her prinder cludiant gwledig sy’n wynebu llawer o bobl yn Sir Fynwy. Bydd hyd at £50K ar gael yn y cam cyntaf i bum cwmni technoleg i gynnal cam ymchwil a datblygu gyda hyd at £500k arall yr un i ddau gwmni gynnal datblygiad peilot.

Daw’r cyllid o gronfa newydd £20 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i annog busnesau technoleg i ddarparu datrysiadau i broblemau cymhleth yn y sector cyhoeddus. Mae GovTech yn annog busnesau technoleg i lunio datrysiadau arloesol i wasanaethau cyhoeddus a all, unwaith y’u profwyd, gael eu cyflwyno mewn meysydd eraill gan helpu i dyfu busnesau’r Deyrnas Unedig a sicrhau buddion i gymdeithas gyfan.

Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol:

‘Gobeithiaf y bydd y digwyddiad yma’n creu llwybrau i fusnesau ddod draw a chael mwy o wybodaeth. Rydych yn edrych am gwmnïau gydag ysbrydoliaeth i gynnig datrysiadau blaengar i liniaru rhai o’r pwysau sy’n effeithio ar ein cymunedau mwyaf bregus.’

Caiff busnesau o bob maint eu hannog i fynychu’r digwyddiad sy’n cynnwys cinio rhwydweithio. Mae dulliau fel cynadleddau fideo ar gael i siarad gyda swyddogion os na all busnesau fynychu’r digwyddiad.

I gofrestru diddordeb yn y diwydiant ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/monmouthshire-govtech-challenge-tickets-47583594813

I gael mwy o wybodaeth a chyfle i weld ffilm fer yn esbonio’r cefndir a’r brîff ar gyfer yr her ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/govtech_challenge

 

 

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn dathlu gwaith y rhai sy’n annog ac yn hyrwyddo peillwyr mewn digwyddiad rhwydweithio rhwng 1pm a 5pm ddydd Mawrth 17 Gorffennaf yng ngardd Bwyd Bendigedig Brynbuga ger Neuadd y Sir.

Daw’r achlysur ynghyd â gwenynwyr sy’n cymryd rhan ym mhrosiect BEES Datblygu Gwledig Dyffryn Wysg a mudiadau fel elusen Gwenyn dros Ddatblygu o Drefynwy a Cyfeillgar i Wenyn Sir Fynwy. Mae prosiect BEES yn codi ymwybyddiaeth o gadw gwenyn a’i bwysigrwydd i systemau ac amrywiaeth biolegol gyda sefydliadau, ysgolion a’r cyhoedd, gan gydweitho i rannu sgiliau, syniadau ac arfer gorau. Mesur o lwyddiant y prosiect yw y cafodd ei ethos ei fabwysiadu a’i addasu mewn mannau eraill, yn arbennig felly yn Sweden.

Caiff gardd Bwyd Bendigedig Brynuga ei rhedeg ar egwyddorion y mudiad Bwyd Bendigedig ac mae’n galluogi gwirfoddolwyr i dyfu llysiau neu ffrwythau yn ogystal â phlanhigion erail sy’n denu peillwyr fel gwenyn.

Ei nod yw dangos pa mor syml yw hi i greu amgylchedd sy’n denu pob rhywogaeth o beillwyr, gan ddapraru cynefinoedd, cysgod a bwyd. Mae’r ardd hefyd yn cynnwys 12 cwch gwenyn dan oruchwyliaeth elusen Gwenynwyr Gwent.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys taith o amgylch yr ardd a’r wenynfa.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: “Mae peillwyr yn hanfodol i’n goroesiad felly mae’n rhaid i ni weithredu i sicrhau eu bod yn ffynnu. Daw’r digwyddiad hwn ynghyd â’r bobl a’r mudiadau hynny y mae eu rôl yn hanfodol i’w fodolaeth parhaus. Rydym hefyd yn dathlu gwaith y prosiectau sy’n hyrwyddo gwenyn a pheillwyr eraill.”

Mae mwy o wybodaeth am waith y cyngor i annog peillwyr yn ei ardd Bwyd Bendigedig ym Mrynbuga yn:www.monmouthshire.gov.uk/incredible-edible-usk

Mae hybiau cymunedol a llyfrgelloedd Sir Fynwy yn galw ar blant y sir i gofrestru ar gyfer Darllen Mawr Drygionus – Her Darllen yr Haf 2018.

 Mae’r Her yn gofyn i blant 4 i 11 oed fenthyca a darllen unrhyw chwech llyfr llyfrgell a chafodd ei thema Darllen Mawr Drygionus ei ysbrydoli gan y comic plant poblogaidd iawn The Beano sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed.

I gymryd rhan yn y Darllen Mawr Drygionus, y cyfan sydd angen i blant ei wneud yw cofrestru yn eu llyfrgell neu hyb cymunedol agosaf lle byddant yn derbyn map casglwr lliwgar o Beanotown i gadw cofnod o’u taith Her Darllen yr Haf. Bydd ymchwilio’r map yn datgelu cist drysor gudd. Wrth i blant ddewis llyfr ar gyfer Her Darllen yr Haf, byddant yn casglu sticeri arbennig i ychwanegu at eu map, gan helpu Dennis, Gnasher a ffrindiau i ddatrys cliwiau a darganfod y trysor, gan gael llawer o hwyl ac anturiaethau ar hyd y ffordd.

Mae rhaglen brysur o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer teuluoedd i ddathlu Her Darllen yr Haf, yn cynnwys dweud straeon gan Louby Lou. Dylai preswylwyr gysylltu â’u llyfrgell neu hyb cymunedol lleol neu fynd i monmouthshire.gov.uk i ganfod sut i gymryd rhan.

Dywedodd Sue Wilkinson, Prif Swyddog Gweithredol The Reading Agency sy’n llunio Her Darllen yr Haf: “Rydym yn credu fod popeth yn newid pan ddarllenwn a gwyddom o’n hymchwil faint o hwyl a gaiff teuluoedd a plant pan fyddant yn cymryd rhan yn yr Her. Mae’r Darllen Mawr Direidus  yn apelio ar draws cenedlaethau a gobeithiwn y bydd y thema hygyrch  a chyfeillgar i deuluoedd yn ysbrydoli mwy o blant nag erioed i ddarllen dros y gwyliau a defnyddio eu llyfrgell leol drwy gydol yr haf a thu hwnt.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Sir Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol: “Gall darllen gael ei roi o’r neilltu yn ystod gwyliau hir yr haf os nad oes gan blant fynediad rheolaidd i lyfrau ac anogaeth i ddarllen er pleser. Gall hyn achosi problemau i ysgolion yn y tymor newydd ond mae Her Darllen yr Haf flynyddol yn uchafbwynt o’r gwyliau i lawer o blant ac ni all ond bod yn fanteisiol os yw’n eu hysbrydoli i ymgolli mewn llyfr da.”

Dywedodd Fiona Ashley, Llyfrgellydd Sir Fynwy: “Wrth i mi ymweld ag ysgolion ar draws y sir i ddweud wrth blant am Her Darllen yr Haf, rwy’n sylwi mor frwdfrydig ydynt. Dechreuodd 915 o blant ar Her Darllen yr Haf y llynedd a rydym yn hyderus y bydd hyd yn oed fwy o blant yn cofrestru’r tro hwn.”

Caiff Darllen Mawr Direidus ei lansio mewn hybiau cymunedol a llyfrgelloedd ar draws Sir Fynwy ddydd Sadwrn 14 Gorffennaf.

Daeth dros 250 o bobl i ddigwyddiad dathlu a rhwydweithio yn Neuadd y Farchnad, y Fenni nos Iau ddiwethaf (5 Gorffennaf) i gydnabod cyfraniad yr unigolion a’r grwpiau sy’n gwirfoddoli i gynnal a chefnogi cymunedau’r sir. Ymysg y rhai’n bresennol oedd Uchel Siryf Gwent, Sharon Linnard, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert a maer y Fenni, y Cynghorydd Teslin Davies.

Gydag adeilad hanesyddol Neuadd y Farchnad yn lleoliad perffaith, bu 45 o grwpiau’n rhannu eu hangerdd dros helpu eu cymunedau gyda mudiadau’n dangos ffyrdd y gallant helpu gwirfoddolwyr, yn cynnwys cyfleoedd cyllid.

Noddwyd y digwyddiad gan y rhaglen Arweinyddiaeth Gymunedol sy’n cynnig cyfuniad o gyfleoedd dysgu, hyfforddiant a datblygu personol am ddim i wirfoddolwyr yn Sir Fynwy a rhannau gwledig o Gasnewydd. Caiff y rhaglen ei hariannu gan Raglen Datblygu Gwledig Dyffryn Wysg.

Dywedodd Owen Wilce, Swyddog Arweiniol Datblygu Cymunedol a Phartneriaethau Sir Fynwy: “Cafodd y digwyddiad ei greu i gysylltu pobl, dechrau sgyrsiau a gwerthfawrogi gwirfoddoli. Cawsom ein bendithio gyda’r holl weithgaredd cymunedol sy’n mynd rhagddo yn yr ardal ac roeddem eisiau dod â sefydliadau ynghyd sy’n cynnig cefnogaeth i wirfoddolwyr sy’n gwneud pethau gwych yn ein cymunedau. Ein nod oedd creu cyffro.”

Roedd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol yn bresennol yn y digwyddiad. Ychwanegodd: “Rwyf mor falch fod y noswaith mor llwyddiannus. Mae ein dyled yn fawr i wirfoddolwyr Sir Fynwy ac maent yn haeddu’r holl help a’r gefnogaeth sydd ar gael i sicrhau eu bod yn parhau i wneud ein cymunedau yn lle gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Hoffwn ddiolch i’r rhai sy’n mynd yr ail filltir i ymroi eu hamser i’w cariad o’u cymuned.”

Mae’r cyngor yn gobeithio cynnal digwyddiadau tebyg mewn trefi eraill ar draws Sir Fynwy. I gael mwy o wybodaeth ar y digwyddiad neu’r rhaglen Arweinyddiaeth Gymunedol cysylltwch ag Owen Wilce ar 01633 644420 neu owenwilce@monmouthshire.gov.uk

Mae Cyngor Sir Fynwy yn croesawu busnesau technoleg i lansiad lleol Her Gov Tech Sir Fynwy. Mae’r digwyddiad yng Nghastell Cil-y-coed ddydd Llun 16 Gorffennaf 10.00 – 1.45pm yn gyfle i gael mwy o wybodaeth a rhannu syniadau.

Defnyddir y £1.25 miliwn o gyllid i ddatblygu datrysiadau arloesol sy’n anelu i helpu lleihau effaith unigryw a her prinder cludiant gwledig sy’n wynebu llawer o bobl yn Sir Fynwy. Bydd hyd at £50K ar gael yn y cam cyntaf i bum cwmni technoleg i gynnal cam ymchwil a datblygu gyda hyd at £500k arall yr un i ddau gwmni gynnal datblygiad peilot.

Daw’r cyllid o gronfa newydd £20 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i annog busnesau technoleg i ddarparu datrysiadau i broblemau cymhleth yn y sector cyhoeddus. Mae GovTech yn annog busnesau technoleg i lunio datrysiadau arloesol i wasanaethau cyhoeddus a all, unwaith y’u profwyd, gael eu cyflwyno mewn meysydd eraill gan helpu i dyfu busnesau’r Deyrnas Unedig a sicrhau buddion i gymdeithas gyfan.

Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol:

‘Gobeithiaf y bydd y digwyddiad yma’n creu llwybrau i fusnesau ddod draw a chael mwy o wybodaeth. Rydych yn edrych am gwmnïau gydag ysbrydoliaeth i gynnig datrysiadau blaengar i liniaru rhai o’r pwysau sy’n effeithio ar ein cymunedau mwyaf bregus.’

Caiff busnesau o bob maint eu hannog i fynychu’r digwyddiad sy’n cynnwys cinio rhwydweithio. Mae dulliau fel cynadleddau fideo ar gael i siarad gyda swyddogion os na all busnesau fynychu’r digwyddiad.

I gofrestru diddordeb yn y diwydiant ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/monmouthshire-govtech-challenge-tickets-47583594813

I gael mwy o wybodaeth a chyfle i weld ffilm fer yn esbonio’r cefndir a’r brîff ar gyfer yr her ewch i: http://www.monmouthshire.gov.uk/cy/her-govtech-catalyst

 

 

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi rhoi gwerth £150,000 o gymorth ariannol i 500 o fusnesau’r stryd fawr. Derbyniwyd yr arian gan Lywodraeth Cymru dan ei Gynllun Rhyddhad Ardrethi Stryd Fawr (HSRRS) 2018/19 a chytunodd y cyngor i dderbyn y cyllid a’i amodau mewn cyfarfod diweddar o’r cabinet.

Mae’r cyngor wedi dynodi safleoedd busnes stryd fawr cymwys o’i gofnodion ac wedi dyfarnu’r rhyddhad yn awtomatig. Os yw’r cyngor yn ansicr os yw safle busnes yn cydymffurfio gyda’r meini prawf gofynnol, caiff y cwmni cais ffurfiol fel y gellir gwneud penderfyniad.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, Aelod Cabinet Adnoddau Sir Fynwy: “Mae hwn yn gyfnod anodd i’n stryd fawr a gallai’r cynlluniau rhyddhad ardrethi hyn fynd beth o’r ffordd i roi fwy o sicrwydd i fusnesau a’u gwneud yn fwy hyfyw.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Arloesedd, Menter a Hamdden: “Rwy’n ymwybodol iawn o’r pwysau a roddodd ailbrisiad ardrethi diweddaraf Llywodraeth Cymru ar lawer o’n busnesau manwerthu. Fe wnaethom lobio’n galed i gael cymorth i’r rhai sy’n wynebu’r anawsterau mwyaf ac rwy’n falch yr aiff yr arian hwn beth o’r ffordd i gyflawni’r nod honno.”

Mae gwybodaeth lawn am y cynllun a’r canllawiau ar gyfer busnesau cymwys ar gael ar: www.monmouthshire.gov.uk/business-rates

Achubodd gweithredu cyflym gan staff canolfan hamdden fywyd dyn ar ôl iddo lewygu yn dilyn ataliad y galon tra’n chwarae pêl droed pump-bob-ochr. Defnyddiodd Duncan Thompson, swyddog ar ddyletswydd Canolfan Hamdden Cas-gwent, ddiffribiliwr y safle a gyda help gan gydweithwyr bu’n dadebru’r cwsmer Paul Kelly yn ogystal â chynorthwyo staff ambiwlans ar ôl iddynt gyrraedd. Cafodd Mr Kelly lawdriniaeth yn Ysbyty Brenhinol Bryste lle gwnaeth adferiad llawn.

Roedd Mr Kelly yn ddiolchgar iawn am weithredu prydlon staff a’u sgiliau cymorth cyntaf a gallai’r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn hebddynt. Yn dilyn ei lawdriniaeth ymwelodd â’r ganolfan hamdden i gyfleu ei ddiolch.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hamdden: “Mae staff ein canolfannau hamdden yn broffesiynol iawn bob amser ac mae’r digwyddiad hwn yn dangos y safonau rhagorol y maent yn anelu atynt. Rwyf wrth fy modd gyda’r gweithredu prydlon ac effeithlon a wnaed ac yn falch iawn fod Mr Kelly wedi gwneud adferiad mor dda. Edrychwn ymlaen at ei groesawu’n ôl i’r ganolfan hamdden yn fuan.”

Dywedodd Ian Saunders, Pennaeth Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant ac Ieuenctid Sir Fynwy: “Rydym yn falch iawn o’r cymorth a roddodd Duncan Thompson a’i gydweithwyr i achub bywyd yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent. Mae staff yn derbyn hyfforddiant misol yn cynnwys sgiliau cymorth cyntaf, CPR, defnyddio diffribiliwr a gwarchod bywyd. Mae Duncan a dau aelod arall o staff hefyd yn hyfforddwyr/aseswyr ar gyfer yr NPLQ (Cymhwystser Cenedlaethol Gwarchodwyr Bywyd Pwll) sy’n gweithredu mewn cysylltiad gyda Chymdeithas Frenhinol Achub Bywydau.”

Mae mwy o wybodaeth ar Ganolfan Hamdden Cas-gwent ar gael yn: www.monmouthshire.gov.uk/things-to-do/monleisure/chepstow-leisure-centre-2 neu drwy ymweld â thudalennau Facebook a Twitter y ganolfan.

Cynhaliodd tîm rhianta corfforaethol Cyngor Sir Fynwy ddigwyddiad Diolch yng Nghastell Cil-y-coed ddydd Iau 28 Mehefin i ddathlu ymroddiad rhagorol gofalwyr maeth yn Sir Fynwy.

 

Gwahoddwyd gofalwyr maeth i’r Castell am de prynhawn a chawsant flodau hardd, tystysgrif a geiriau o gydnabyddiaeth am eu hymroddiad a’u gofal parhaus i fabanod, plant a phobl ifanc sydd angen help llaw gan deuluoedd cariadus a chefnogol.

 

Yn bresennol roedd gofalwyr a fu’n maethu am gyfnodau amrywiol. Roedd y tîm yn falch i ddathlu pob gofalwr ac yn neilltuol o falch i fedru diolch i ofalwyr maeth lleol a fu gyda’r Cyngor am dros 25 mlynedd.

 

‘Y peth gorau am fod yn ofalwr maeth yw medru rhoi cyfle i blant. Rwy’n croesawu plant i fy nghartref ac yn rhoi’r bywyd gorau a allaf iddynt’ – Gofalwr Maeth o Sir Fynwy

 

Dywedodd y Cyng Penny Jones, Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, cadeirydd y Panel Rhianta Corfforaethol: “Rwy’n falch iawn gweld cynifer o’n gofalwyr yn y digwyddiad. Mae mor bwysig cydnabod a dathlu ein gofalwyr maeth. Mae ganddynt ran mor bwysig ym mywydau rhai o’n plant a phobl ifanc fwyaf bregus. I’r rhai na allodd fod yn bresennol, rwy’n diolch i chi ac yn gobeithio eich gweld mewn digwyddiadau yn y dyfodol. Mae Tîm Maethu Sir Fynwy yn rhoi cefnogaeth a chyngor ardderchog ac rwy’n annog unrhyw un sy’n ystyried dod yn ofalwr i ddod i  gysylltiad’.

 

Mae maethu yn rôl ryfeddol, werth chweil a all barhau am unrhyw beth o 5 mis i 25 mlynedd. Mae’r tîm bob amser yn edrych am fwy o bobl a all helpu babanod, plant a phobl ifanc. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â 01873 735950 neu anfon neges destun FOSTER gydag enw i 83222 neu ymweld â http://www.monmouthshire.gov.uk/fostering

 

Mae Paul Matthews, Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy, yn falch iawn i gyhoeddi bod hyd at £1.25 miliwn o gyllid GovTech Catalyst ar gael i ddatblygu datrysiadau sy’n anelu i helpu torri cylch unigrwydd a her diffyg trafnidiaeth wledig sy’n wynebu llawer o bobl yn Sir Fynwy.

Caiff yr her ei lansio’n ffurfiol yn y Tram Shed, Caerdydd ddydd Mawrth 3 Gorffennaf a bydd y gystadleuaeth yn agor ddydd Llun 16 Gorffennaf.

Daw’r cyllid o gronfa newydd £20 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i annog busnesau technoleg i ddarparu datrysiadau ar gyfer problemau cymhleth yn y sector cyhoeddus. Mae GovTech yn annog busnesau technoleg i ddod â datblygiadau arloesol i wasanaethau cyhoeddus y gellir eu cyflwyno, unwaith y’u profwyd, mewn meysydd eraill gan helpu i dyfu busnesau yn y Deyrnas Unedig a bod o fudd i gymdeithas yn gyffredinol.

Dywedodd y Cyng Sara Jones, Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol:

‘Yma yn Sir Fynwy cawsom ein bendithio gydag amgylchedd amrywiol a hardd, trefi llewyrchus a llawer iawn o gyfalaf cymdeithasol. Eto mae gan amrywiaeth ein tirluniau heriau. Mae unigrwydd yn cael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant pobl. Mae perthynas uniongyrchol rhwng unigrwydd, ein poblogaeth gynyddol heneiddiol a llai o ymdeimlad o gymuned.

Mae gostwng cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn golygu fod llai o arian ar gael fel cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth traddodiadol. Mae hyn yn broblem fawr mewn ardaloedd gwledig lle gall gymryd mwy na dwy awr i deithio i wasanaethau lleol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Fel canlyniad mae preswylwyr yn ddibynnol iawn ar geir preifat sy’n gostus yn ariannol ac yn amgylcheddol. Gall yr heriau hyn arwain at gynyddu unigrwydd a’i gwneud yn anos i bobl ifanc gael mynediad i hyfforddiant a chyflogaeth. Mae angen i ni ganfod datrysiadau i gyfoethogi bywydau pobl o bob oed yn y dyfodol.

Rwy’n annog busnesau o bob maint i gysylltu a rhannu syniadau i’n helpu lliniaru rhai o’r pwysau sy’n effeithio ar ein cymunedau mwyaf bregus.’

Mae’r gystadleuaeth yn agor ar 16 Gorffennaf ac yn cau ar 5 Medi 2018. Bydd cyfle i fusnesau glywed mwy am yr her a sut y gallant wneud cais yn y sesiwn wybodaeth a gynhelir yn yr wythnosau nesaf. I gael mwy o wybodaeth ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/govtech_challenge

Ymunodd SARA (Gwasanaeth Achub Ardal Hafren) gyda staff Cyngor Sir Fynwy i ddringo Pen-y-fàl ar 21 Mehefin i ddathlu heuldro’r haf a chodi arian i SARA. Mae SARA yn sefydliad cychod bywyd a chwilio ac achub ar y tir sy’n gweithredu yn Swydd Caerloyw, Swydd Henffordd, Swydd Caerwrangon a Gwent. Mae digwyddiad dechrau haf ‘swyddogol’ yn argoeli haf gwych yn Sir Fynwy.

Mae cynifer o weithgareddau’n digwydd ar draws Sir Fynwy eleni i roi’r haf mae plant a phobl ifanc ei eisiau.

Dyddiau mas

Cefn gwlad hudolus, bryniau, llecynnau ger y dŵr a choedwigoedd – mae’r rhestr yn faith. Sir Fynwy yw’r lle ar gyfer anturiaethau awyr agored.

Gyda mwy o gestyll i bob milltir sgwâr nag unrhyw ardal arall yn y Deyrnas Unedig – Sir Fynwy yw’r lle perffaith i’w ymchwilio. Cynhelir gweithgareddau crefft bob wythnos drwy’r haf yn amgueddfeydd ac atyniadau Sir Fynwy.

Chwaraeon campus

Mae llwythi ar gael yng nghanolfannau hamdden y Fenni, Cil-y-coed a Chas-gwent. A gyda phrif gyfleuster hamdden Trefynwy yn ail-agor ddiwedd Gorffennaf, mae llawer o atyniadau ar gyfer plant yn cynnwys ein canolfan chwarae dan do tri-llawr newydd sbon gyda system amseru trechu’r cloc gyffrous.

Gwneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd

 Bydd plant 5 i 12 oed wrth eu bodd yn treulio diwrnod yn ‘Gemau Sir Fynwy’ – 27 diwrnod yn llawn hwyl ym mhedair canolfan hamdden Sir Fynwy. Mae llawer o wahanol gampau i roi cynnig arnynt fel pêl-droed, pêl-rwyd, tenis, milltir bob dydd, dodgeball a llawer mwy – ffordd wych i blant ddysgu sgiliau newydd, cynyddu hyder a gwneud ffrindiau newydd.

Dywedodd Richard Newhouse, Swyddog Codi Arian SARA “Rydym yn ddiolchgar iawn i dîm Cyngor Sir Fynwy am gefnogi ein gwaith achub.”

Ychwanegodd y Cyng Bob Greenland, Aelod Cabinet dros Fenter “Bydd plant a phobl ifanc wrth eu bodd gyda’r haf hwn yn Sir Fynwy – mae cynifer o weithgareddau hwyl iddynt ddewis o’u plith. Pa ffordd well i ddechrau’r haf na thaith gerdded codi arian ar gyfer SARA yng nghefn gwlad bendigedig Sir Fynwy”.

Ar gyfer gweithgareddau haf mae plant yn wir eu dymuno tecstiwch ‘summer’ at 61211 neu edrych ar visitmonmouthshire.com/summer

I gyfrannu at SARA, ewch i Sara-rescue.org.uk/donate os gwelwch yn dda.

 

 

Gwahoddir unigolion a grwpiau sy’n helpu i gynnal a chefnogi cymunedau yn y Fenni a’r cylch i fynychu digwyddiad dathlu a rhwydweithio a noddir gan Gyngor Sir Fynwy yn Neuadd y Farchnad yn y dref.

Bydd y digwyddiad ddydd Iau 5 Gorffennaf rhwng 6.30pm a 8.30 pm yn rhoi cyfle i roi sylw ac arddangos y llu o grwpiau ac unigolion sy’n hymroi eu hamser i wneud i bethau gwych ddigwydd. Mae adeilad hanesyddol Neuadd y Farchnad yn ofod perffaith i gynnal nifer fawr o grwpiau, unigolion, ymarferwyr a sefydliadau.

 

Caiff y digwyddiad ei arwain gan Owen Wilce, Swyddog Arweiniol Datblygu Cymunedol a Phartneriaethau Sir Fynwy. Mae Owen yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ac unigolion yn ogystal â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) i gynyddu a chefnogi’r ysbryd cymunedol gwych sy’n bodoli yn y Fenni. Bydd y digwyddiad yn gyfle i ddiolch i bobl a chydnabod eu cyfraniad a’u hymrwymiad.

Bydd hefyd yn gyfle unigryw i wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i ymgysylltu, datblygu rhwydweithiau a meithrin perthynas i gryfhau gweithgaredd lleol. Bydd ystod eang o weithwyr proffesiynol a sefydliadau yn bresennol i gynnig cyngor ar gyllid, cefnogaeth i wirfoddolwyr a chyfleoedd hyfforddiant.

Bu achlysur tebyg yng Nghas-gwent yn llwyddiannus iawn ac mae’r cyngor yn gobeithio cynnal digwyddiadau cysylltiedig ym mhob tref ar draws sir Fynwy.

Dywedodd y Cyng Bob Greenland, Aelod Cabinet Arloesedd, Menter a Hamdden: “Rwy’n falch iawn i weld digwyddiad o’r fath hwn yn cael ei gynnal. Mae gennym gymaint o ddyled i wirfoddolwyr ar draws Sir Fynwy ac maent yn haeddu’r holl help a chefnogaeth sydd ar gael i sicrhau eu bod yn parhau i wneud ein cymunedau yn lle gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Hoffwn ddiolch i’r rhai sy’n mynd yr ail filltir i roi eu hamser er budd eu cymuned.’

Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiad; i archebu lle ewch i

https://www.eventbrite.com/e/be-community-networking-event-abergavenny-tickets-46928441231

I gael manylion pellach, cysylltwch ag Owen: 01633 644420.

Bydd rhai newidiadau sylweddol i weinyddiaeth budd-daliadau yn Sir Fynwy ar gyfer pobl oedran gwaith o 27 Mehefin wrth i wasanaeth llawn Credyd Cynhwysol gael ei ymestyn yma. Mae hyn yn golygu y daw’r rhan fwyaf o hawliadau newydd ar gyfer chwe budd-dal gwaddol (Budd-dal Tai, Credyd Treth Plant, Credyd Treth Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceiswyr Gwaith seiliedig ar incwm a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cysylltiedig ag incwm) yn rhan o’r Credyd Cynhwysol o’r dyddiad hwn a chaiff ei weinyddu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mewn achosion o’r fath ni fydd y Cyngor bellach yn gweinyddu Budd-dal Tai.

Manylion llawn ar gael yma

http://www.torfaen.gov.uk/en/CouncilTaxAndBenefits/Benefits/HousingBenefitandCouncilTaxReduction/Housingbenefit-generalinformation/Housing-Benefit-And-Council-Tax-Benefit.aspx

Mae prosiect peilot a weinyddir gan Raglen Datblygu Gwledig Dyffryn Wysg – partneriaeth rhwng cynghorau Sir Fynwy a Chasnewydd i hyrwyddo cymunedau a busnesau gwledig a chynyddu ffyniant – yn anelu i godi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu ar bwysigrwydd pob rhywogaeth o beillwyr. Maent yn cynnwys gwyfynod, pili palas, chwilod, pryfed hofran a gwenyn.

Bydd prosiect Natur Wyllt yn canolbwyntio ar un ardal drefol yn Sir Fynwy, ac mae Rhaglen Datblygu Gwledig Dyffryn Wysg yn gwahodd y cynghorau lleol yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Trefynwy a Brynbuga i gyflwyno ceisiadau i fod y dref gyntaf lle mae peillwyr ar ganol y llwyfan.

Mae’r Cynllun Datblygu Rhanbarthol yn bwriadu i’r cynllun gael cyrraedd eang a rhoi gwybodaeth ar gynefinoedd, bwyd a gwarchod peillwyr. Bydd yn cynnig hyfforddiant i bobl sy’n torri lleiniau wrth ymyl y ffordd a gofodau agored yn ogystal ag adolygu polisi peillwyr presennol Sir Fynwy. Ymysg y gweithgareddau sydd ar y gweill mae teithiau gwenyn, sgyrsiau, ymweliadau i wenynfeydd a digwyddiadau i alluogi pobl i ddeall rôl angenrheidiol peillwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros fioamrywiaeth: “Mae peillwyr yn hanfodol i’n goroesiad felly mae’n rhaid i ni weithredu i sicrhau eu bod yn ffynnu. Mae prosiect Natur Wyllt y Cynllun Datblygu Rhanbarthol yn gam yn y cyfeiriad cywir at addysgu’r cyhoedd am bwysigrwydd y rhywogaethau yma.”

I gael mwy o wybodaeth ar brosiect Natur Wyllt cysylltwch ag Alison Howard, Cydlynydd Cynllun Peillwyr Sir Fynwy: alisonhoward@monmouthshire.gov.uk

Bydd Mon Lettings (MLS), gwasanaeth gosod Cyngor Sir Fynwy, yn mynd â’u gwybodaeth ac arweiniad unigryw i nifer o drefi yn Sir Fynwy yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2018. Mae’r tîm yn ymfalchïo mewn darparu profiad gosod ‘dim ffi dim trafferth ac yn gobeithio annog mwy o landlordiaid i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth.

Mae MLS yn asiantaeth gosod gyda gwahaniaeth lle caiff y landlord a’r tenant eu clywed a’u gwerthfawrogi yn yr un modd. Mae gan y tîm brofiad eang ac maent yn awyddus i gynnig cefnogaeth i helpu landlordiaid gyda’r broses ddyrys o osod cartref.

Gall y tîm cyfeillgar helpu landlordiaid i gael y tenantiaid gorau ar gyfer eu cartrefi. Mae MLS yn cynnig archwiliadau eiddo am ddim bob chwarter, gwasanaeth trwsio heb fod yn argyfwng, gwasanaeth galw argyfwng allan o oriau a thaliadau rhent wedi eu gwarantu.

Mae taliad o hyd at £1500 ar gael i landlordiaid sy’n fodlon cynnig cyfnodau hirach o sicrwydd llety. Mae’r tîm yn gobeithio y bydd hyn yn cynyddu’r nifer o gartrefi sydd ar gael i aelwydydd sy’n ei chael yn canfod llety yn eu bröydd eu hunain.

Bydd y tîm ar gael i siarad gyda landlordiaid yn y lleoliadau dilynol:

• Dydd Mawrth 19 Mehefin 9.30am – 2.00pm Marchnad y Fenni
• Dydd Gwener 22 Mehefin 9.30am – 2.00pm Marchnad Trefynwy
• Dydd Mawrth 26 Mehefin 9.30am – 2.00pm Marchnad Cil-y-coed
• Dydd Iau 28 Mehefin 10.30am – 2.00pm Casgwent, Sgwâr Beaufort

• Dydd Mawrth 3 Gorffennaf 9.30am – 2.00pm Marchnad y Fenni
• Dydd Gwener 6 Gorffennaf 9.30am – 2.00pm Marchnad Trefynwy
• Dydd Mawrth 10 Gorffennaf 9.30am – 2.00pm Marchnad Cil-y-coed
• Dydd Iau 12 Gorffennaf 10.30am – 2.00pm Marchnad Cas-gwent
• Dydd Mawrth 17 Gorffennaf 9.30am – 2.00pm Marchnad y Fenni
• Dydd Gwener 20 Gorffennaf 9.30am – 2.00pm Marchnad Trefynwy
• Dydd Mawrth 24 Gorffennaf 10.30am – 2.00pm Marchnad Cil-y-coed
• Dydd Iau 26 Gorffennaf 10.30am – 2.00pm Cas-gwent, Sgwâr Beaufort

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am dai: “Dylai landlordiaid gydag eiddo yn Sir Fynwy sy’n edrych am brofiad gosodiad dim ffi, dim trafferth fynd draw a siarad gyda’r tîm yn MLS. Rwy’n annog landlordiaid i geisio cyngor a chofrestru ar gyfer Gwasanaeth Mon Lettings. Rydym angen i bobl o bob oed aros o fewn y sir ac mae hwn yn gyfle gwych i landlordiaid helpu cymunedau i aros gyda’i gilydd.”

I gael mwy o fanylion ar ein gwasanaeth a’r hyn a gynigiwn, cysylltwch â Lindsay Stewart ar 01291 635713 / E-bost: mls@monmouthshire.gov.uk.

Mae ysgol gynradd yng Nghil-y-coed wedi cymryd rhan mewn prosiect i annog teuluoedd i helpu eu plant fod yn bwysau iach drwy fwyta’n iach a gweithgaredd corfforol. Nod y prosiect, a drefnwyd gan bartneriaid o gynllun ysgolion iach, tîm datblygu chwaraeon a gwasanaeth nyrsio iechyd ysgolion Sir Fynwy yw hyrwyddo dechrau hapus a iach mewn bywyd i blant.

Mae’r holl blant yn Ysgol Gynradd Dewstow wedi cymryd rhan mewn sesiynau coginio dan oruchwyliaeth yr athro technoleg bwyd profiadol Richard Shaw o Cooking Together, sefydliad sy’n gweithio gyda phob grŵp oedran. Mae’n dangos sut y gall bwyta’n iach fod yn rhesymol o ran pris, diddorol a hwyl. Yn ogystal, rhoddir pwyslais ar ddiogelwch, glanweithdra a llesiant. Roedd y bwyd a baratowyd yn Dewstow yn amrywio o salad couscous yr enfys, salad pasta heulwen a myffinau ffrwythau i fflapjacs crymbl ffrwyth, colslo crynsiog, pizzas blwch cinio a rapiau iach.

Dywedodd Gill Bray, pennaeth yr ysgol: “Rydym yn annog ein holl blant i fwyta’n iach, cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol ac i chwarae. Mae gweithio gyda’n teuluoedd yn bwysig i ni a phan mae ein plant yn hapus, rydym yn gwybod eu bod yn medru chwarae a dysgu’n well gyda’i gilydd.”

Cynhaliwyd y sesiynau coginio iach dros bedwar diwrnod yn ystod tymor yr haf yn cynnwys sesiynau coginio i rieni. Roedd y ddau weithdy i rieni ar ddydd Mercher 6 Mehefin yn canolbwyntio ar flychau cinio iach i blant a phrydau “fy maint i” – cyfeiriad at ddognau addas ar gyfer unigolion.

Rhoddwyd ffocws hefyd ar ymarfer yn Dewstow gyda thîm datblygu chwaraeon Sir Fynwy yn hyfforddi’r holl ddisgyblion Blwyddyn 2 i ddod yn Gyfeillion Sylfaen, rhaglen newydd y bwriedir ei sefydlu’n fwy eang yn Sir Fynwy. Mae’r disgyblion hyn yn cynnig cefnogaeth i’w cyfoedion i chwarae gemau a bod yn gorfforol egnïol yn ogystal â bod yn fodel rôl cadarnhaol ar gyfer disgyblion iau yn yr ysgol. Mae Ysgol Gynradd Dewstow hefyd wedi cyflwyno rhaglen Gwneuthurwyr Chwarae Blwyddyn 5 ac mae ganddi ddau Lysgennad Ifanc ym Mlwyddyn 6 i sicrhau y sefydlir llesiant drwy’r ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet Sir Fynwy dros blant a phobl ifanc: “Nid dim ond ar iechyd corfforol y mae diet gytbwys ac ymarfer yn dylanwadu – maent yn cael effaith uniongyrchol ar allu person ifanc i ddysgu. Mae gan ddisgyblion sy’n bwyta’n iach ac sy’n fwy egnïol fwy o ffocws ac yn fwy tebygol o gyflawni yn yr ysgol.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn:

 

 

 

Bydd partneriaeth rhwng Cyngor Sir Fynwy, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO), gofalwyr, cyrff trydydd sector a’r bwrdd iechyd yn dathlu cyfraniad hanfodol gofalwyr y sir. Bydd Prosiect Gofalwyr Sir Fynwy yn nodi’r Wythnos Gofalwyr (11-17 Mehefin) gyda chyfres o ddigwyddiadau yn cynnwys stondinau gwybodaeth a sesiynau galw heibio mewn meddygfeydd, bore coffi a theisen, sesiynau sba, tro casglu porthiant perthi a chyngerdd gyda’r digrifwr Owen Money.

Mae’r Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth am ofalu, gan roi sylw i’r heriau sy’n wynebu gofalwyr ac yn cydnabod eu cyfraniad i deuluoedd a chymunedau ledled y Deyrnas Unedig. Mae gofalwyr yn darparu oriau lawer o ofal di-dâl fel y gall perthnasau, ffrindiau neu gymdogion fyw adre cyhyd ag sydd modd. Mae llawer wedi rhoi’r gorau i gyflogaeth ar dâl i roi cefnogaeth, gyda rhai ar alwad yn barhaus. Maent yn gofalu am bobl gydag amrywiaeth eang o afiechydon ac anableddau yn cynnwys anableddau dysgu, problemau iechyd corfforol, dementia, salwch meddwl ac awtistiaeth yn ogystal â bod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol. Mae gofalwyr yn cronni gwybodaeth werthfawr am y rhai y gofalant amdanynt fel y gall swyddogion meddygol a gweithwyr proffesiynol eraill ei ddefnyddio i fod yn sail i asesiadau.

Mae Prosiect Gofalwyr Sir Fynwy wedi trefnu’r digwyddiadau dilynol yn ystod yr Wythnos Gofalwyr:

 Dydd Llun 11 Mehefin

  • Meddygfa Vauxhall, Cas-gwent (10am i 12 canol-dydd) – cymhorthfa galw heibio i ofalwyr
  • Gwesty St Pierre, Cas-gwent – sesiynau maldod i ofalwyr

Dydd Mawrth 12 Mehefin

  • Meddygfa Grayhill, Cil-y-coed (10am i 12 canol-dydd) a Meddygfa Tryleg (2pm i 4pm) – cymorthfeydd galw heibio gofalwyr
  • Gwesty Cwrt Bleddyn, Llangybi; sesiynau maldod i ofalwyr

Dydd Mercher 13 Mehefin

  • Gwesty Plas Derwen, Y Fenni – bore coffi i ofalwyr

Dydd Iau 14 Mehefin

  • Forest Coal Pit, Y Fenni – tro porthiant o’r perthi

Dydd Gwener 15 Mehefin

  • Trefynwy – “Owen Money and the Wrinklies”

Ar ran yr Wythnos Gofalwyr, dywedodd Heléna Herklots CBE: “Mae’n wych gweld cynifer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar draws y wlad i gefnogi gofalwyr lleol. Mae’r Wythnos Gofalwyr yn gyfle i fudiadau ymuno â’n galwadau i gadw gofalwyr yn iach ac wedi cysylltu. Gwyddom fod gofalwyr yn aml yn rhoi eu hanghenion eu hunain ‘yng nghefn y gwt’, yn aml yn gohirio apwyntiadau meddyg neu seibiant o ofalu a allai eu helpu i gadw’n iach. Felly, p’un ai drwy waith, y gymuned, ysgol neu brifysgol, adre neu ymysg ffrindiau, mae gennym i gyd rôl i’w chwarae wrth helpu gofalwyr i gael mynediad i’r gefnogaeth maent ei angen i ofalu am eu hiechyd corfforol a meddwl eu hunain yn ystod yr Wythnos Gofalwyr.”

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cefnogi rolau ac anghenion gofalwyr mewn nifer o ffyrdd drwy ei dîm gofalwyr yn cynnwys pedwar o staff a chydlynydd. Enghraifft ddiweddar yw pan ddywedodd llawer o ofalwyr eu bod yn ei chael yn anodd darparu gofal ymatalrwydd felly trefnodd y cyngor ddigwyddiad hyfforddiant hanner diwrnod a gafodd ei fynychu’n dda, gan ddenu llawer o adborth cadarnhaol.

Yn y cyfamser, mae Prosiect Gofalwyr Sir Fynwy wedi creu dwy strategaeth – ar gyfer oedolion ac ar gyfer gofalwyr ifanc – gyda gofalwyr lleol mewn digwyddiadau a drefnwyd yn arbennig wedi dylanwadu a hysbysu’r ddwy. Mae’r prosiect yn annog gofalwyr i gadw mewn cysylltiad drwy gofrestru am gylchlythyr ddwywaith y flwyddyn yn rhestru digwyddiadau, hyfforddiant a newyddion ar ddeddfwriaeth, mynediad ar ddisgownt i hamdden, a llawer mwy.

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: “Rydym yn falch i gymryd rhan yn nathliadau Wythnos Gofalwyr eleni ac yn cydnabod rôl hanfodol gofalwyr. Byddwn yn parhau i weithio’n agos i gynnig ein cefnogaeth lawn i’r rhai sy’n gofalu’n ddiflino am bobl eraill.”

I gael mwy o wybodaeth am strategaeth gofalwyr Sir Fynwy cysylltwch â Kim Sparrey  (07971 603110). I gael mwy o wybodaeth ar ddigwyddiadau lleol yn yr Wythnos Gofalwyr, cysylltwch â: Tracey Davies, GAVO, 01633 241553.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cymryd camau i ostwng defnydd diangen ar blastig. Cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Dethol Cymunedau Cryf y cyngor yn ddiweddar a chlywodd gan swyddogion a grwpiau cymuned di-blastig yn y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy am y difrod y mae plastig defnydd untro yn ei achosi i’r amgylchedd, yn ogystal â hagru cymunedau gyda sbwriel.

Argymhellodd y pwyllgor y dylai’r cyngor gytuno  i weithio tuag at achrediad fel un o’r siroedd di-blastig cyntaf, a gymeradwywyd gan elusen amgylcheddol Surfers against Sewage. Cynhelir cyfarfod nesaf y cyngor sir ddydd Iau 21 Mehefin.

Mae’r pwyllgor wedi cynnig y bydd Cyngor Sir Fynwy yn:

  • Gwneud ymrwymiad i weithio at statws di-blastig
  • Adolygu ei ddefnydd ei hun o blastigau defnydd  untro a chymryd camau i ddynodi a gostwng defnydd diangen o blastig
  • Cefnogi gweithredu gwirfoddol a chymunedol i ostwng defnydd plastig a chynnal digwyddiadau fel ymgyrchoedd codi sbwriel
  • Gweithio gydag ysgolion, busnesau a phartneriaid eraill i ostwng defnydd plastig
  • Gweithio gyda threfnwyr digwyddiadau ar eiddo’r cyngor i ostwng plastig defnydd untro i isafswm (a sicrhau fod ailgylchu effeithlon ar gael ar gyfer plastig angenrheidiol)
  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd i gefnogi a chydlynu gweithgareddau di-blastig ar draws y sir.

Taniwyd cynnydd enfawr mewn diddordeb yn ddiweddar mewn gostwng y defnydd o blastig defnydd untro, yn cynnwys yn dilyn y golygfeydd brawychus o lygredd morol yng nghyfres Blue Planet y BBC. Mae plastigau defnydd untro yn defnyddio tanwyddau ffosil gwerthfawr, yn cymryd cannoedd o flynyddoedd i bydru, anafu bywyd gwyllt ar y tir ac ar y môr, hagru’r tirlun, blocio draeniau ac yn ddrud i’w brynu, cliro a’i waredu.

Yn ogystal â gweithio ar lefel llywodraeth leol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, ac mewn archfarchnadoedd a’r diwydiant deunydd pecynnu, mae llawer yn digwydd yn lleol. Sefydlwyd grwpiau cymunedol di-blastig ledled Sir Fynwy eleni ac maent i gyd yn adrodd lefelau rhagorol o gefnogaeth gan y cyhoedd. Mae’r gwirfoddolwyr brwdfrydig hyn yn gweithio gyda busnesau lleol, cynghorau tref, ysgolion ac eraill i ostwng y defnydd o blastig yn eu cymunedau.

Mae’r cyngor sir wedi dechrau trafodaethau ar bryniadau gan gyflenwyr arlwyo a sut y gall ostwng y defnydd o eitemau plastig tafladwy. Mae hefyd wedi cysylltu â phartneriaid erail. Er enghraifft mae Coleg Gwent, sy’n rhannu’r safle gyda’r cyngor ym Mrynbuga, wedi ymrwymo i ostwng y defnydd o blastig yn ei ffreuturau.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, Cadeirydd Pwyllgor Dethol Cymunedau Cyrf: “Mae’n wych clywed am angerdd a gwaith caled ein trefi i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn. Mae’n hanfodol fod y cyngor a grwpiau cymunedol yn cydweithio’n agos mewn partneriaeth i gynyddu eu hymdrechion i ostwng y defnydd o blastig yn y sir.”

Mae tîm gwasanaeth ieuenctid Sir Fynwy yn trefnu gwersyll haf ddechrau Gorffennaf ar gyfer disgyblion Blwyddyn 9 yn Ysgolion Cas-gwent a Chil-y-coed. Bydd diwrnod llawn ar safle ar ymyl y Mynydd Du yn cyflwyno pobl ifanc i wersylla, cerdded a gweithgareddau fel saethyddiaeth a sgiliau coedwig. Ar ôl swper, bydd y plant yn mwynhau cyfleoedd i ymlacio, yn cynnwys sinema awyr agored, cyn gwersylla dros nos. Byddant yn gadael y bore nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod dros ieuenctid ar gabinet Sir Fynwy: “Bydd y gwersyll yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu eu hannibyniaeth a’u gallu gwaith tîm, tra’n mwynhau sesiynau heriol a hwyliog. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i ddisgyblion brofi rhai o’r gweithgareddau tebygol os ydynt yn cofrestru ar gyfer Gwobr Dug Caeredin.”

Treulir mwyafrif y gwersyll ar y safle ond bydd y plant yn cymryd rhan wrth gerdded yr ardal wledig o gwmpas.

I gael mwy o wybodaeth ar Wasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy, mewngofnodwch ar:

www.monmouthshire.gov.uk/education-services/youth-service

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff cyhoeddus eraill i gynnal diwrnod ymwybyddiaeth baw cŵn yn ddiweddar. Mae timau iechyd yr amgylchedd a chlirio gwastraff & strydoedd y cyngor, yn ogystal â chynghorau tref a chymuned a’r heddlu’n parhau i godi ymwybyddiaeth o natur wrthgymdeithasol baw cŵn drwy gynllun Rhoi’r Cerdyn Coch i Faw Cŵn.

Mae’r diwrnod ymwybyddiaeth diweddaraf yn canolbwyntio ar dde’r sir ac yn arbennig Cil-y-coed, Porthysgewin, Magwyr a Rogiet, gyda swyddogion y cyngor a’r heddlu, cynghorwyr lleol a phreswylwyr yn trafod y mater gyda pherchnogion cŵn, yn dosbarthu bagiau baw cŵn am ddim ac yn codi arwyddion.

Cynhaliwyd digwyddiadau ymwybyddiaeth tebyg mewn blynyddoedd diweddar ac ymddengys fod ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi, o farnu o adborth perchnogion cŵn. Serch hynny mae baw cŵn yn parhau i fod yn un o’r problemau amgylcheddol mwyaf cynhennus a adroddir amlaf ac er fod yr ardaloedd yr ymwelwyd â nhw yn gyffredinol lân, mae mannau gwael yn dal i aros.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am iechyd yr amgylchedd: “Rydym yn gwerthfawrogi’r gwelliannau amlwg mewn llawer o rannau o’r sir mewn blynyddoedd diweddar gyda mwy a mwy o berchnogion cŵn yn codi baw eu hanifeiliaid. Mae angen i ni barhau i ganolbwyntio ar y mater serch hynny gan fod adroddiadau am ddigwyddiadau yn parhau, yn arbennig mewn meysydd chwarae plant a’n hardaloedd chwaraeon a hamdden. Mae’r rhain yn achosi consyrn neilltuol. Mae gan ein dyddiau ymwybyddiaeth wrth atgoffa pawb am bwysigrwydd y neges syml – bagiwch a biniwch.”

 Mae gan awdurdodau lleol a Heddlu Gwent y grym i roi hysbysiadau cosb sefydlog a gall perchnogion sy’n methu codi baw eu cŵn wynebu dirwy £75 yn y fan a’r lle. Os yw person yn gwrthod talu a’r achos yn mynd i’r llys gall y troseddwr gael dirwy o hyd at £1,000. Mae’n rhwydd hysbysu’r cyngor am berchnogion cŵn sy’n methu codi baw eu hanifeiliaid drwy: http://www.monmouthshire.gov.uk/home/streets-parking-and-transport/recycling-and-waste/dogfouling/

Bydd Castell y Fenni yn edrych yn ôl dros 700 mlynedd ddydd Sadwrn 9 Mehefin pan gynhelir ail-gread o’r cyfnod o hanes canol oesoedd yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd yno. Bydd y digwyddiad yn rhedeg rhwng 11am a 4pm.

Yn ôl drwy alw poblogaidd, bydd cymdeithas ail-greu The Freeman of Gwent yn gwersylla yn y tiroedd ac yn cynnig arddangosiadau ymarferol yn ystod y dydd yn dangos pam fod gymaint o ofn y bwa hir, cyfle i sgwrs gyda chogyddion canoloesol ac edrych yn agos ar ardaloedd byw marchogion a milwyr yn ogystal â’r hyn a wisgent a sut yr oeddent yn dioddef amodau flynyddoedd mawr yn ôl.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am wasanaethau diwylliannol: “Mae’r achlysur yn argoeli bod yn hwyliog a diddorol i bob oed wrth iddo ddod â hanes y canol oesoedd yn fyw mewn castell hynafol yn y Gororau.”

Bydd tocynnau ar gael wrth y glwyd – oedolion (£5), plant (£3) a theulu (£15).

I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01873 854282, mewngofnodi ar www.abergavennymuseum.co.uk neu ymweld â thudalennau Facebook a Twitter yr amgueddfeydd.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau gwych ar gyfer plant dros ŵyl banc diwedd y Gwanwyn!

Bydd Hybiau Cymunedol Trefynwy a Chil-y-coed yn dathlu Diwrnod Elmer ddydd Sadwrn 26 Mai gyda digwyddiadau ar gyfer plant 4 i 8 oed – bydd y digwyddiad yn Nhrefynwy yn cychwyn am 11am ac yng Nghil-y-coed am 10.30am. Gofynnir i blant wisgo dillad lliwgar i ddathlu eu hoff eliffant clytwaith.

Mae Hyb Cymunedol Chil-y-coed hefyd wedi trefnu gweithdy Lego ar gyfer plant rhwng pump ac wyth oed rhwng 10am a 11am ddydd Mercher 30 Mai. Yn ogystal, cynhelir yr Amser Rhigwm i Fabanod rheolaidd ddydd Mawrth 29 Mai am 2pm a’r Amser Stori Plant dan Bump fel arfer ddydd Iau 31 Mai am 2pm.

Mae Hyb Cymunedol y Fenni yn trefnu sesiwn straeon a gweithgaredd crefft yn cynnwys y cyfle i wneud mobeil tedi bêr rhwng 10.30am a 11.30am ddydd Mercher 30 Mai. Mae’r digwyddiad yn addas ar gyfer plant wyth oed ac iau.

Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn ar gyfer y digwyddiadau hyn yn hybiau cymunedol y cyngor.

Am 7.30pm ddydd Gwener 1 Mehefin bydd Theatr Borough y Fenni yn cyflwyno Cinderella, cynhyrchiad hyfryd gan Ballet Cymru yn seiliedig ar y stori hoff. Mae Ballet Cymru yn ymfalchïo mewn bod yn wahanol ac ni fydd Cinderlla yn eithriad, gyda sgôr cerddoriaeth newydd sbon ac elfennau syrcas ynghyd â dawns glasurol o’r math gorau. Mae’r tocynnau yn £14 (consesiynau £12, plant £7.50) ar gael o

www.boroughtheatreabergavenny.co.uk neu’r swyddfa docynnau ar 01873 850805.

Bydd Ballet Cymru yn cynnal y gweithdai hanner tymor poblogaidd yn Theatr y Borough rhwng dydd Mawrth 29 Mai a dydd Gwener 1 Mehefin. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.welshballet.co neu drwy ffonio 01633 892927.

Unwaith eto, mae Hamdden Mynwy yn cyflwyno Gemau Sir Fynwy sy’n seiliedig ar ddysgu sgiliau newydd, datblygu hyder, cwrdd â phobl newydd ac, yn bwysicaf oll, gael hwyl drwy chwaraeon. Cynhelir y rhain ym mhedair canolfan y cyngor yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy rhwng dydd Mawrth 29 Mai a dydd Gwener  1 Mehefin gan roi cyfle i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 12 oed gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon. Y gost fesul diwrnod yw £16.50 (9am i 3pm) a £19.50 (8am i 5pm) – mae prisiau rhatach ar gael ar gyfer siblingiaid a deiliaid cerdyn Cynllun Pasport i Hamdden. I archebu lle ewch i  MonLeisure.co.uk neu ffonio:

  • Y Fenni: 01873 735360
  • Cil-y-coed: 01291 426850
  • Cas-gwent: 01291 635745
  • Trefynwy: 01600 775135 – oherwydd gwaith adeiladu ni fydd unrhyw chwaraeon dŵr yn Nhrefynwy.

Mae digwyddiadau hanner tymor pellach yn y sir ar gael ar wefan Ymweld â Sir Fynwy: www.visitmonmouthshire.com/half-term – mae llawer ohonynt yn addas ar gyfer plant a theuluoedd.

Mae Uned Cludiant Teithwyr Sir Fynwy yn gwahodd preswylwyr i helpu llunio dyfodol gwasanaethau bws lleol o amgylch tref Cas-gwent. Bydd y tîm yn cynnig sesiynau galw heibio yng Nghanolfan Gymunedol Bulwark ddydd Llun 4 Mehefin rhwng 10am a 2pm a 4pm i 6pm.

Mae’r gwasanaethau bws, a elwir gyda’i gilydd yn Wasanaeth C, yn cynnig darpariaeth hanfodol ar gyfer preswylwyr o bob oed, a hoffai’r tîm glywed gan gynifer o bobl ag sydd modd mewn ymgais i’w gwella. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys C1 (Thornwell/Cas-gwent/Tesco), C2 (Cas-gwent/Bulwark) a C4 (Cas-gwent/The Danes).

Bydd y sesiynau galw heibio hefyd yn gyfle i rannu sylwadau a syniadau gyda’r tîm am ba ardaloedd y gallai’r gwasanaeth eu cyrraedd.

Mae arolwg ar-lein byr hefyd ar gael i breswylwyr na all fynychu’r sesiynau galw heibio: mewngofnodwch ar  www.monmouthshire.gov.uk/bus-timetables

Dywedodd y Cynghorydd Sir Bryan Jones, Aelod Cabinet Trafnidiaeth a Gweithrediadau’r Sir: “Rwy’n annog preswylwyr i ddod draw a dweud eu barn. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn rhaff bywyd i lawer o bobl a hoffem ganfod sut maent yn teimlo ar hyn o bryd a’r hyn yr hoffent ei weld yn y dyfodol.”

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Christian Schmidt, Cynllunydd Trafnidiaeth Sir Fynwy – ChristianSchmidt@monmouthshire.gov.uk – neu 07471 479238.

 

 

 

Bydd tîm gofal maeth Sir Fynwy yng Nghanolfan Gymunedol The Bridges yn Nhrefynwy ddydd Llun 30 Mai rhwng 10am a 12pm a 7pm i 9pm i gwrdd a chyfarch preswylwyr sydd â diddordeb mewn dod yn ofalwyr maeth.

 

Mae angen dybryd am ofalwyr maeth i ofalu am fabanod, plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau ar sail tymor byr neu hirdymor. Mae eu hangen i ddarparu seibiant byr ar gyfer plant gydag anableddau. Mae hefyd angen gofalwyr ar gyfer pobl ifanc sy’n symud ymlaen i annibyniaeth ar sail llety â chymorth.

 

Mae angen enfawr am fwy o ofalwyr maeth ac mae’r tîm yn gobeithio y bydd y sesiynau cwrdd a chyfarch yn annog mwy o bobl i ystyried gwneud penderfyniad mor bwysig ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy.

 

Gall unrhyw un sy’n methu mynychu’r sesiynau gael gwybodaeth ac arweiniad ar wefan Gwasanaeth Maeth y Cyngor: www.monmouthshire.gov.uk/fostering

 

Sefydlwyd gwasanaeth testun newydd i’w gwneud yn gyflym ac yn rhwydd i gysylltu â’r tîm. Gofynnir i breswylwyr anfon neges testun FOSTER ac enw i 83 2222. Bydd aelod o’r tîm yn ateb i helpu dechrau ar y daith maethu ar gyfer pobl yn Sir Fynwy.

 

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: “Rwy’n credu’n gryf fod gan ein babanod, plant a phobl ifanc bob hawl i’r dechrau gorau posibl mewn bywyd a gall teuluoedd Sir Fynwy helpu i wneud y gwahaniaeth yma. Mae’r tîm maethu yn gwneud gwaith gwych yn cysylltu gyda chymunedau i gefnogi ein plant. Rwy’n annog y rhai sy’n ystyried dod yn ofalwyr maeth i ddod draw i Ganolfan Gymunedol The Bridges, ymweld â’r wefan, ffonio’r tîm neu anfon neges destun atynt.”

 

I wneud gwahaniaeth ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/fostering neu ffonio 01873 735950.

Sefydlwyd prosiect digidol a gefnogir gan dîm rhaglenni gwledig Sir Fynwy i ddod â band eang cyflym iawn i gymunedau yng ngogledd y sir. Bydd y prosiect – a sefydlwyd gan Gyngor Cymuned Llanofer – yn dod â band eang cyflym iawn i neuaddau pentref yn Y Bryn, Llanddewi Rhydderch a Llanofer i greu hybiau dysgu ansawdd uchel a chysylltiadau da ac i wella cyfleusterau lleol. Mae croeso i gymuned Sir Fynwy ddod i Neuadd Pentref Llanofer o 5pm ddydd Mercher 23 Mai i rannu eu syniadau am sut y gall y prosiect esblygu.

Daeth cyllid ar gyfer y prosiect o raglenni LEADER Dyffryn Wysg a’r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig. Os yw’n llwyddiannus, gall y cynllun peilot weithredu fel model ar gyfer cynlluniau cymunedol tebyg.

Mae pwyllgorau neuaddau pentref yn gobeithio y bydd gwella cysylltiadau digidol yn galluogi pobl i gael mynediad i wasanaethau fel undebau credyd, cyngor ar bopeth a gwasanaethau ariannol ar-lein yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwell i ddatblygu sgiliau ar gyfer hamdden a chwilio am swyddi.

Bydd y prosiect hefyd yn helpu i ddod â chymunedau Llanofer yn nes at ei gilydd ac atal unigrwydd gwledig sy’n gydnaws ac amcan y cyngor sir o ddarparu sir ffyniannus a chysylltiedig.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ymgysylltu â’r gymuned: “Byddwn yn annog pobl i ddod draw i’n cyfarfod ar 23 Mai i rannu eu syniadau am ba mor gyffrous y gall y gofodau cymunedol hyn ddod, i gysylltu pobl a helpu i atal unigrwydd gwledig.”

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â: Mike Powell, Rheolwr Rhaglenni Gwledig Sir Fynwy: – MichaelPowell@monmouthshire.gov.uk

  • Derbyniodd y prosiect gyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a gaiff ei chyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop dros Ddatblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae aelodau cabinet Cyngor Sir Fynwy wedi ymweld ag ardal chwarae plant Chippenham Mead yn Sir Fynwy i edrych ar y safle fydd yn manteisio ar fuddsoddiad yn dilyn datblygiadau tai diweddar. Caiff y cynigion gwreiddiol i adnewyddu’r ardal chwarae bresennol eu gwrthwynebu gan rai sydd eisiau symud yr ardal chwarae i ran mwy addas o ran yr amgylchedd yn Chippenham Mead. Mae preswylwyr eraill yn gwrthwynebu’r symud er mwyn diogelu’r ardal fel gofod agored. Mae gan Chippenham Mead statws cyfreithiol fel grîn pentref.

“Roedd aelodau’r Cabinet o’r farn fod gan y safle presennol ddiffygion oherwydd ei fod yn agos at sŵn ac allyriadau posibl gan gerbydau o’r briffordd brysur gerllaw”, meddai’r Cynghorydd Bob Greenland, dirprwy arweinydd y cyngor. “Roeddem hefyd yn teimlo ei fod yn cael ei llesteirio gan waliau cefn uchel yr ysgol gyfagos, yr A40 a’r byndiau pridd o amgylch y safle. Ar ôl edrych ar yr holl safle, rydym wedi gofyn i swyddogion ymchwilio ymarferoldeb safleoedd eraill yn Chippenham Mead fel y gallwn ddynodi opsiwn a ffafrir.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Greenland: “Mae gennym ddyletswydd tuag at ein plant a chaiff hynny ei goleddu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym hefyd yn parchu delfrydau deddfwriaeth a gynlluniwyd i ddiogelu Chippenham Mead rhag datblygiad. Mae deddfwriaeth yn ein tynnu mewn cyfeiriadau croes. Bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniad, gan gydbwyso llesiant plant gyda diogelu’r gofod agored gwerthfawr yma.”

Caiff aelodau o’r cyhoedd ac eraill â diddordeb gyfle i roi sylwadau cyn i’r Cabinet ystyried yr opsiwn a ffafrir.

Os yw’r Cabinet yn cynnig safle arall, bydd angen cymeradwyaeth cynllunio a chydsyniad Llywodraeth Cymru dan Gynllun Rheoleiddio Griniau Pentrefi. Bydd y broses hefyd yn cynnwys cyfle ar gyfer sylwadau.

Bu Sir Fynwy yn dathlu degfed pen-blwydd cael ei henwi’n Brif Gyrchfan Bwyd Cymru* gyda digwyddiad Blasau Sir Fynwy yng Nghanolfan Croeso Cas-gwent ddydd Llun 14 Mai. Roedd yr achlysur yn hyrwyddo bwydydd a diodydd lleol i fusnesau lletygarwch yr ardal ar ddechrau Wythnos Twristiaeth Cymru.

Mae twristiaeth bwyd yn neilltuol o bwysig i’r sir ac amcangyfrifir bod gwariant ar fwyd a diod gan ymwelwyr yn werth £37.5m o’r cyfanswm refeniw o £190m a gynhyrchwyd gan dwristiaeth yn Sir Fynwy (yn ôl STEAM**).

Mae bwyd yn rhan hanfodol o’r cynnig twristiaeth, a gellid dadlau bod hynny oherwydd mai dyma’r pwynt cyswllt mwyaf cyffredin gydag ymwelwyr. Mae cynnyrch lleol ac amrywiaeth o leoedd ansawdd uchel i fwyta ac yfed ynddynt hefyd yn sbardunau allweddol i ymwelwyr wrth ddewis lle i ymweld ag ef.

Mae tueddiadau ymwelwyr yn dangos fod diddordeb mewn bwyd yn parhau i gynyddu’n gyflym ac yn awr yn cyrraedd tu hwnt i’r elite, yn ddwfn i’r boblogaeth gyffredinol. Yn ogystal â bod yn elfen bwysig o brofiad ymwelwyr o gyrchfan, mae twristiaeth bwyd hefyd yn sbardun allweddol mewn twf twristiaeth cynaliadwy.

Parhaodd hunaniaeth bwyd Sir Fynwy i dyfu dros y deng mlynedd diwethaf. Mae Gŵyl Fwyd y Fenni yn fyd-enwog a bellach yn ei hugeinfed flwyddyn ac aeth o nerth i nerth, gydag enw rhagorol fel cyfle i chefs, busnesau bwyd, newyddiadurwyr, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd i ddod ynghyd mewn gofod cynhwysol, a chyflwyno cyfle gwerthfawr i bobl o bob cefndir i ymchwilio a dysgu am fwyd.

Nid yw’n syndod fod gan y sir fwy na’i chyfran deg o arwyr bwyd lleol. O gynhyrchwyr angerddol gydag ymroddiad i greu cynnyrch bwyd a diod arbenigol a bob dydd (yn defnyddio cyfuniad o ddulliau traddodiadol ac arloesedd 21ain ganrif) i chefs blaenllaw a bwytai yn cyflwyno a hyrwyddo cynhwysion a chynnyrch lleol ansawdd uchel i gwsmeriaid.

Mae pedair gwinllan y sir, tri micro-fragdy, dau gynhyrchydd seidr, tair ysgol goginio, dau fwyty gyda seren Michelin (un yn cynnig teithiau chwilota lleol), dwy ŵyl fwyd, gŵyl seidr a nifer gynyddol o safleoedd yn gwerthu bwydydd a diodydd lleol (yn cynnwys delis a siopau bara lleol, a marchnadoedd ffarm rheolaidd yn y Fenni a Brynbuga) yn golygu nad oes unrhyw brinder o brofiadau ansawdd uchel yn gysylltiedig â bwyd a diod i ddenu grwpiau a theithwyr annibynnol i’r sir.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am dwristiaeth: “Hoffem ddweud diolch yn fawr ac i godi gwydraid o win, seidr neu gwrw lleol neu ddewis o’ch dewis i bawb sy’n ymwneud â chynhyrchu, gweini a hyrwyddo bwydydd a diodydd lleol i ymwelwyr a phreswylwyr. Bu’n ymdrech gydlynus dros gyfnod estynedig ac mae angen i ni wneud llawer mwy i sicrhau fod Sir Fynwy’n parhau’n flaenllaw ym meddyliau pobl pan maent yn dewis cyrchfan eu gwyliau tymor byr nesaf. Yn bwysicaf oll mae angen i ni barhau i ddatblygu ein diwylliant bwyd lleol neilltuol drwy sicrhau fod ymwelwyr yn cael mynediad i gynhwysion lleol yn ein siopau a gwyliau ac ar ein bwydlenni, a’n bod yn adeiladu ar ein llwyddiannau i sicrhau bwyd a diod cyson ansawdd uchel ar draws pob pwynt pris.”

Mae mwy o wybodaeth ar gynnig bwyd a diod lleol Sir Fynwy ar gael yn: www.visitmonmouthshire.com/foodanddrink

Roedd cynhyrchwyr Sir Fynwy yn bresennol yn nigwyddiad blasu lletygarwch Sir Fynwy yng nghanolfan Croeso Cas-gwent yn cynnwys:

Green & Jenks Gelato

Teisennau a Nwyddau Pob Di-glwten Lou

Sorai

Y Gymdeithas Cadwraeth

Seidr Apple County

Gwinllan Parva Farm

Gwinllan White Castle

Bragdy Baa

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dewis Cadeirydd newydd i wasanaethu am y deuddeg mis nesaf. Etholwyd y Cynghorydd Peter Clarke yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y cyngor ar 8 Mai yn dilyn ei enwebu gan Peter Fox, Arweinydd y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Fox: “Rwy’n hollol hyderus y bydd Peter yn gwneud Cadeirydd rhagorol unwaith eto.” Hwn fydd ail gyfnod y Cynghorydd Clarke fel Cadeirydd yn dilyn ei gyfnod yn y swydd yn arwain lan at fis Mai 2011.

Ganwyd Peter Clarke yn Royal Leamington Spa yn 1943 gyda’i fam yn efaciwi o Coventry gerllaw. Cafodd ei addysg yn ysgol Caludon Castle y ddinas, un o ysgolion cyfun cyntaf y wlad, ac wedyn daeth yn brentis maint fesurydd. Ymysg y prosiectau y bu’n gweithio arnynt oedd y ffordd i wella lon ddeuol A40 Ross-on-Wye i Drefynwy ar ddechrau’r 1960au pan gyfarfu ei wraig Jan, ei wraig o 46 mlynedd. Bydd Jan yn gweithredu fel cymar Peter yn ystod ei flwyddyn fel Cadeirydd.

Mae gan y Cynghorydd Clarke brofiad gwleidyddol helaeth ar ôl bod yn aelod o Gyngor Sir Gwent am wyth mlynedd cyn cael ei ethol i Gyngor Sir Fynwy oedd newydd ei ffurfio yn 1996. Mae’n cynrychioli ward Llangybi Fawr ac mae’n llywodraethwyr ar fwrdd Ysgol Eglwys yng Nghymru Brynbuga a hefyd fwrdd Ysgol Gyfun Caerllion.

Mae’r Cynghorydd Clarke yn hoff iawn o ddarllen a nofio ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn gwleidyddiaeth. Yr elusen a ddewisodd ar gyfer y flwyddyn yw Cerdd Gwent – gwasanaeth cerdd Cyngor Sir Fynwy ar y cyd â chynghorau Blaenau Gwent, Casnewydd a Thorfaen.

Talodd arweinwyr grwpiau gwleidyddol y cyngor deyrnged i waith y Cynghorydd Maureen Powell, ar ei blwyddyn yn y swydd. Dywedodd y Cynghorydd Fox: “Fel Arweinydd Cyngor Sir Fynwy rwy’n diolch o galon i chi am fod yn Gadeirydd o’r radd flaenaf dros y deuddeg mis diwethaf.”

Etholwyd y Cynghorydd Sheila Woodhouse sy’n cynrychioli ward Grofield yn y Fenni yn Is-Gadeirydd y Cyngor.

Mae rhaglen gan Gyngor Sir Fynwy sy’n anelu i helpu pobl ifanc 16 i 24 oed i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn gofyn am help busnesau a chyflogwyr lleol.

Mae Ysbrydoli i Weithio – a gyllidir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop – yn gweithredu gyda llawer o sefydliadau partner ac yn gwasanaethu pobl ifanc ar draws yr holl sir. Mae ei dîm yn galw ar gyflogwyr Sir Fynwy i gynnig lleoliadau gwaith neu sesiynau blasu gwerthfawr, darparu prentisiaethau a mynychu digwyddiadau ymgysylltu Ysbrydoli i Weithio i roi cyngor a chyfeiriad. Yn ychwanegol, gofynnir i gyflogwyr weithredu fel mentoriaid i bobl ifanc a chysylltu â’r tîm am swyddi gwag fel y gellir hysbysu darpar ymgeiswyr.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, aelod cabinet Sir Fynwy yn gyfrifol am fenter ieuenctid: “Nid oes gan lawer o bobl ifanc 16 i 24 oed unrhyw brofiad gwaith, neu ddim o gwbl, yn ogystal ag efallai gymwysterau cyfyngedig iawn ac mae’r ffactorau hyn yn ei gwneud yn anodd iawn iddynt gael eu traed ar ysgol cyflogaeth. Drwy weithredu nifer o fesurau syml ond effeithlon, gall busnesau a mudiadau lleol helpu roi pobl ifanc i gyflogaeth gynaliadwy a’u trawsnewid yn aelodau gwerthfawr o weithlu’r sir.”

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm Menter Ieuenctid Sir Fynwy:

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn dathlu canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol (RAF) gyda seremoni yn Neuadd y Sir ddydd Llun 14 Mai am 9.30am. Caiff baner yr RAF ei chodi a chaiff ei harddangos drwy’r dydd. Yn bresennol fydd y Comodor Awyr Williams, uwch gynrychiolydd yr RAF, yr Arglwydd Raglaw Robert Aitkin, yr Uwch Siryf Sharon Linnard, y Prif Gwnstabl Julian Williams, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy Peter Fox, Aelodau Cynulliad lleol a Meiri’r Fenni, Cil-y-coed a Threfynwy yn ogystal â chynrychiolwyr o gymuned y lluoedd arfog ac elusennau cysylltiedig. Hefyd yn bresennol fydd nifer o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Brynbuga fydd yn adrodd cerddi yn ymwneud â’r digwyddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Laura Jones, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Sir Fynwy: “Mae’r RAF yn dathlu ei record falch o wasanaethu’r ganrif am ganrif ac mae’r cyngor yn falch i ddangos ein gwerthfawrogiad am gyfraniad ymroddedig aelodau’r Awyrlu. Talwn deyrnged i’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, y rhai sydd eisoes wedi gwasanaethu a’r rhai a aberthodd eu bywydau yn amddiffyn eu gwlad.”

Mae Cyngor Sir Fynwy, gyda chefnogaeth yr Awyrlu Brenhinol, wedi trefnu cystadleuaeth ar gyfer ysgolion i gyfrannu at waddol RAF100 a chafwyd ymateb da iawn. Y brif wobr yw ymweliad i Arddangosiad Awyrennau Sefydlog RAF100 a Pharth STEM yng Nghaerdydd ac ymweliad i’r ysgol fuddugol gan Dîm Ymgysylltu’r RAF. Bydd y cynigion buddugol ac enillwyr agos hefyd yn derbyn nwyddau RAF100!

Mae mwy o wybodaeth am Gyfamod Lluoedd Arfog Cyngor Sir Fynwy ar gael yn:

www.monmouthshire.gov.uk/armedforces

Bydd cyfraniad hael cwmni o Abertawe o fudd i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd sy’n mynychu canolfan gyswllt gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Fynwy yn y Fenni. Mae Facility Services Group Cyfyngedig (FSG) wedi cyfrannu teledu sgrîn wastad, Playstation 4 a nifer o gemau i alluogi rhieni a phlant i ryngweithio a threulio amser gwerthfawr gyda’i gilydd yn y safle.

Yn ogystal â rhoi’r offer, fe wnaeth staff FSG ei osod gan sicrhau fod popeth yn gweithio’n iawn.

Wrth gyflwyno’r offer ar ran FSG yn y ganolfan gyswllt ddydd Gwener 11 Mai oedd Luke Davies, Pennaeth FM Services a’r Peiriannydd Ffabrig Peter Gowing. Pan ofynnwyd iddo am y cyfraniad hael dywedodd Mr Geraint Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr FSG: “Fel busnes rydym bob amser wedi bod ag ymroddiad i roi’n ôl i’r gymuned a chefnogi elusennau lleol. Mae gwaith y ganolfan gyda phlant ac oedolion ifanc yn wirioneddol anhygoel ac rwy’n falch i fedru cyfrannu at achos mor wych.”

Yn derbyn yr offer gan Luke a Peter oedd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros ofal cymdeithasol, diogelu ac iechyd.

Dywedodd y Cynghorydd Jones: “Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyfraniad caredig gan FSG a werthfawrogir yn fawr iawn gan blant a theuluoedd lleol. Bydd yr eitemau hyn yn hybu’r gwasanaeth a gynigir gan y ganolfan cyswllt a helpu i greu amgylchedd croesawgar.”

Roedd staff yn y ganolfan cyswllt ac aelodau o dîm Gwasanaethau Plant y cyngor a gydlynodd y cyfraniad hefyd wrth eu bodd gyda’r rhoddion.

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cysylltu gyda phreswylwyr am sut i wneud y ffyrdd yn arwain at ganol tref Cil-y-coed yn fwy gwyrdd drwy gynnal dwy sesiwn galw heibio.

Cynhelir y rhain ar ddydd Mawrth 15 Mai yn Hyb Cymunedol Cil-y-coed ar Heol Woodstock rhwng 10am a 4.30pm ac yn ddiweddarach yn swyddfeydd y cyngor tref yn Sandy Way rhwng 5pm a 7pm.

Nod y prosiect, a gefnogir gan Gyngor Sir Fynwy a Llywodraeth Cymru, yw rhoi mynedfa groesawgar i’r dref drwy gynllun newydd o blannu a chreu amodau i annog bioamrywiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am fio-amrywiaeth: “Rydym yn awyddus fod cymunedau Cil-y-coed yn mynychu’r sesiynau galw heibio i gynnig eu barn ar y cynllun hwn fydd yn cynnwys ffyrdd mwy deniadol yn arwain at ganol y dref a galluogi natur i ffynnu.”

As part of the National Autism Strategy, we are a team that is jointly hosted by Aneurin Bevan Health Board and Monmouthshire Council.

What does the service provide?

The service will provide diagnostic assessment for adults who are seeking a diagnosis of Autistic Spectrum Disorder, support and advice for children, adults and those who support them.

I am a parent of an autistic child – what will this mean for me?

The integrated autism service will support parents and carers by providing advice and support, signposting to other services and delivering groups to support parents / carers to support their child / young person. This will include support and advice to help manage difficulties such as:

  • Sleep problems
  • Issues with eating
  • Behaviours that Challenge
  • Anxiety
  • Developing social skills

Where needed, the service may also work with other professionals involved with your child eg.Health Visitors to make sure you and your child are given consistent support and advice.  Parents and carers will be able to self–refer to the service (we heard that needing professionals to refer you for support is not working for you).

I am an autistic adult – what will this mean for me?

You will be able to get support from the service without needing to be referred by someone else. Staff in the service will be able to provide you with support and advice in relation to:

  • Anxiety
  • Social skills
  • Accessing leisure and recreational activities
  • Developing your daily living skills (such as paying bills, shopping and cooking)
  • Accessing other services such as healthcare or employment support
  • Or other difficulties which you may be experiencing
  • Post-diagnostic Group
  • Sign-posting to other services and supporting the delivery of groups to support parents/carers

I am a parent of an autistic adult – what will this mean for me?

  • Post-Diagnostic Course
  • Managing Carer Stress
  • Sign-posting
  • Other information and advice as appropriate

If you are an adult and think you have autism but do not have a diagnosis, the service will be able to offer you an assessment should you want it.

Will the service provide everything for us?

  • No, the service will NOT provide:
  • Emergency / crisis intervention
  • Respite care
  • Rapid response
  • Long-term Support

For those with more complex needs (where other services such as mental health support is needed), staff from the Integrated Autism Service will    work with other professionals to ensure they are able to provide ‘autism-friendly’ support.

You are all welcome to access our Drop-in sessions that run throughout Gwent.  See our Facebook Page for details.

Service Manager: Ms Sian Delyth Lewis,  Office Telephone (01633) 644143, Email: asdservice.abb@wales.nhs.uk

Facebook: Integrated Autism Service – Gwent

Bydd Tîm Maethu Cyngor Sir Fynwy yn teithio ar draws Sir Fynwy mewn ymgais i ddenu mwy o ofalwyr ar gyfer plant Sir Fynwy. Cynhelir y sioe deithio yn ystod y Bythefnos Maethu a gynhelir rhwng dydd Llun 14 Mai – dydd Gwener 27 Mai.

Croesewir preswylwyr i ddod draw a chael sgwrs gyda’r tîm fydd yng ngherbyd arddangos y Cyngor mewn meysydd parcio a chanol trefi ar draws y sir.

Mae’r Bythefnos Maethu yn ymgyrch genedlaethol sy’n anelu i annog mwy o bobl i feddwl am y gwahaniaeth y gallent ei wneud drwy faethu.

Mae nifer gynyddol o blant yn derbyn gofal ledled Cymru ac o fewn Sir Fynwy. Fel sir, mae Sir Fynwy angen brys am fwy o bobl i roi cartrefi cynnes, cariadus a chefnogol i blant sy’n fregus ac sydd angen gofal.

Mae gofal maeth yn cynnig llawer o gyfleoedd, o ofal tymor byr, hirdymor neu seibiant. Mae’r tîm yn hapus i roi gwybodaeth ar yr holl opsiynau mewn ymgais i annog mwy o bobl i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc sydd angen gofal a chymorth ychwanegol.

Bydd y tîm a’r cerbyd ar gael yn y mannau dilynol:

 

  • Dydd Mawrth 15 Mai          11 am i 1 pm  Cil-y-coed, y Farchnad
  • Dydd Gwener 18 Mai         11 am i 1 pm  Trefynwy, tu allan i Neuadd y Sir
  • Dydd Mawrth 22 Mai          11 am i 1 pm  Y Fenni, Maes Parcio Fairfield
  • Dydd Iau 24 Mai                11am i 1pm  Brynbuga, Maes Parcio Stryd Maryport (Gog)
  • Dydd Gwener 25 Mai         11 am i 1 pm Cas-gwent, Maes Parcio Stryd Gymreig

 

Cynhelir sesiwn cwrdd a chyfarch ddydd Mercher 30 Mai yng Nghanolfan Gymunedol Bridges, Trefynwy 10.00am-12.00pm a 7.00pm-9.00pm ar gyfer pobl a hoffai gael mwy o wybodaeth neu gychwyn ar eu taith i drawsnewid bywydau babanod, plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy. Bu’r sesiynau cwrdd a chyfarch yn boblogaidd iawn wrth ddenu darpar ofalwyr.

Caiff hysbysebion yn hyrwyddo tîm Gofal Maeth Sir Fynwy hefyd eu darlledu ar Sunshine Radio yn ystod y Bythefnos Maethu gyda’r nod o gyrraedd cynifer o breswylwyr ag sydd modd.

I ddathlu Pythefnos Maethu, mae’r tîm yn cynnal cystadleuaeth ‘Ble mae’r Bws?’ drwy gydol mis Mai, rhwng dydd Llun 7 Mai – dydd Iau 30 Mai a chaiff preswylwyr eu hannog i gadw llygad am un o’r bysus ysgol melyn mawr gyda lluniau Maethu arno.

Os gwelwch fws, tynnwch lun ohono a’i anfon gyda hashnod #MonFoster, cysylltu gyda’r tîm drwy Facebook – Monmouthshire, Twitter – @MonmouthshireCC neu anfon e-bost at family.placement@monmouthshire.gov.uk  Bydd y cais llwyddiannus yn ennill taleb ar gyfer Te Prynhawn i ddau.

Dywedodd y Cyng Penny Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd ‘Mae’r Bythefnos Maethu yn ymgyrch wych sy’n werthfawr iawn i godi ymwybyddiaeth am ein harwyr tawel. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried dod yn ofalwr i fynd draw a siarad gyda’r tîm. Gallai un sgwrs ddechrau taith fydd yn trawsnewid bywydau babanod, plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy.

I gael mwy o wybodaeth am Faethu anfonwch neges testun FOSTER at

83222, ffonio 01873 735950 neu ymweld â http://www.monmouthshire.gov.uk/fostering

 

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cytuno ar gynllun i ymwreiddio ei uchelgais ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol wrth galon ei bolisïau a gweithgareddau.

Mae’r Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol, a gytunwyd gan gabinet y Cyngor ddydd Mercher 2 Mai, yn dangos ymrwymiad y cyngor i fynd i’r afael â diffyg cydraddoldeb a gwella canlyniadau ar gyfer pobl a chymunedau y sir. Mae’n sefydlu diben, bwriadau a gweithgareddau’r cyngor am y pedair blynedd nesaf ac yn gosod targedau i roi le blaenllaw i gyfiawnder cymdeithasol yn ei weithrediadau.

Cafodd Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol Sir Fynwy ei gyrru gan ddymuniad y cyngor i fynd i’r afael â’r diffyg cydraddoldeb a amlygir yn yr asesiadau anghenion llesiant a phoblogaeth a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd ar ôl pasio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ymysg y camau a gymerwyd ar unwaith gan y cyngor newydd yn dilyn ei ethol ym mis Mai 2017 oedd cyflwyno swydd cyfiawnder cymdeithasol a datblygu cymunedol ar y cabinet.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros gyfiawnder cymdeithasol a datblygu cymunedol: “Mae penderfyniad heddiw yn dangos ymrwymiad y cyngor i alinio polisi seiliedig ar dystiolaeth, camau gweithredu a adnoddau gyda’r nod o ganolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol. Er bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol, rwy’n pwysleisio nad yw hyn ond cam cyntaf dogfen sy’n datblygu yw hyn ac rwy’n awyddus i glywed gan unrhyw un sy’n dymuno gwneud cyfraniad. Cysylltwch â fi drwy e-bost os gwelwch yn dda  SaraJones2@monmouthshire.gov.uk.”

Mae Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol Sir Fynwy ar gael drwy fewngofnodi i: https://democracy.monmouthshire.gov.uk/documents/s13975/180418%20Draft%20Social%20Justice%20Strategy%20V5%20Appendix%20A%20180502.pdf

Mae plant ysgol a grwpiau cymunedol yn Sir Fynwy ac ardaloedd gwledig o Gasnewydd yn cael cymorth gan arbenigwyr ar gadw gwenyn mewn ymgais i hybu’r boblogaeth wenyn leol. Cânt eu cefnogi gan brosiect adfywio gwledig – cynllun BEES (‘Breeding, Education, Environment & Skills’) – a sefydlwyd gyda chymorth Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mae gwenyn mêl – gwyllt a domestig – yn gyfrifol am tua 80% o’r holl beillio ym mhob rhan o’r byd a gall un cytref beillio 300 miliwn o flodau bob dydd. Caiff saith deg o 100 uchaf cnydau bwyd y byd, sy’n cyflenwi tua 90% o faeth y byd, eu peillio gan wenyn. Fodd bynnag, mae gwenyn mêl mewn argyfwng ar draws y byd. Mae gwyddonwyr yn cydnabod fod niferoedd gwenyn yn gostwng oherwydd amrywiaeth o ffactorau yn cynnwys plaladdwyr, sychder, dinistrio cynefinoedd, diffyg maeth, llygredd aer a newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am fioamrywiaeth: “Y nod yw gwella’r gwytnwch ecolegol mewn poblogaethau gwenyn a chynyddu’r ddealltwriaeth o bwysigrwydd gwenyn mewn ecoleg ac ecosystemau ehangach.

“Gwneir hyn drwy roi hyfforddiant i ysgolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am wenyn. Bydd y rhaglen hefyd yn ymchwilio cyfleoedd i reoli’r boblogaeth wenyn leol mewn modd cynaliadwy drwy gydweithio agosach rhwng gwenynwyr yr ardal.

“Er enghraifft, pe byddai gan ysgol neu grŵp rhandir ddiddordeb mewn datblygu cwch gwenyn o fewn rhandir, bydd y prosiect yn rhoi mynediad i rwydwaith o wenynwyr gwybodus fydd yn rhannu eu harbenigedd a rhoi’r gefnogaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gynnal cwch gwenyn, felly cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb yn y syniad o gadw gwenyn ac yr hoffech wybod mwy.”

Wedi’i gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, mae BEES yn brosiect peilot a gaiff ei arwain ar y cyd gan dri grŵp gweithredu lleol. Y tri yw Grŵp Gweithredu Lleol Dyffryn Wysg (Sir Fynwy ac ardaloedd gwledig o Gasnewydd), Grŵp Gweithredu Lleol Cwm a Mynydd (Caerffili a Blaenau Gwent) a Gweithredu Lleol Cwm Taf (Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf).

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â: info@monmouthshire.biz (01633 644844), ruralaction@merthyr.gov.uk (01685 727089 neu 725467), rdp@caerphilly.gov.uk (01443 838632).

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda chwmni We Build Bots i ddatblygu chatbot a fydd ar gael ar wefan y Cyngor a gwasanaeth negeseuon Facebook y Cyngor. Croesawyd y ffynhonnell ychwanegol hon o wybodaeth a’i gallu i gynnig atebion am ddarpariaeth y Cyngor fel rhywbeth sy’n gwella profiad cwsmeriaid.

Mae We Build Bots yn seiliedig yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd. Cafodd lawer o sylw’n ddiweddar pan ddenodd fuddsoddiad £500,000 cyflym ar gyfer cyfran o 20% yn y busnes. Mae wedi datblygu chatbots ar gyfer ystod amrywiol o sefydliadau yn cynnwys Ysgol Yrru yr AA, er mai ei fenter gyda Sir Fynwy fydd y tro cyntaf I’r cwmni weithio gyda chyngor lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am dechnoleg gwybodaeth: “Wrth i fwy o sefydliadau ddefnyddio chatbots i wella profiad cwsmeriaid, rydym eisiau rhoi dewis i’n cymunedau i gysylltu gyda ni yn y ffordd yma. Rydym eisoes wedi lansio ein ap Fy Sir Fynwy llwyddiannus a bydd y chatbot yn  ychwanegol at ein canolfan gyswllt, hybiau cymunedol, sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan fel ffordd arall I bobl gysylltu gyda’u Cyngor lleol.”

Maer Cyngor yn disgwyl lansio ei wasanaeth Chatbot yn ddiweddarach yn yr haf eleni.

Cyhoeddodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Fynwy ei gynllun llesiant sy’n nodi sut y bydd yn gwella llesiant yn y sir – yn awr a hefyd yn y dyfodol.

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys gwasanaethau sector cyhoeddus a gwirfoddol yn Sir Fynwy a bu’n cydweithio i ddatblygu’r cynllun, gan osod diben clir o adeiladau cymunedau cynaliadwy a chydnerth. Wedi’i seilio ar ddata, ymchwil a’r hyn a ddywedodd pobl Sir Fynwy sy’n bwysig iddynt, mae’r cynllun yn gosod pedwar amcan a bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cydweithio arnynt i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Y pedwar amcan yw:

  • Rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant a phobl ifanc.
  • Ymateb i’r heriau sy’n gysylltiedig gyda newid demograffig.
  • Gwarchod a chynyddu cydnerthedd ein hamgylchedd naturiol tra’n lleihau ac addasu i effaith newid yn yr hinsawdd.
  • Datblygu cyfleoedd i gymunedau a busnesau fod yn rhan o sir economaidd lewyrchus a gyda chysylltiadau da.

Dywedodd Paul Matthews, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Fynwy a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy: “Mae gan bartneriaid Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Fynwy yn awr flaenoriaethau ar gyfer gwella agweddau pwysig o lesiant yn ein sir hardd. Gobeithiaf y byddwch yn ymuno â ni wrth eu cyflawni.”

Gyda’r amcanion yn awr wedi’u cytuno, bydd partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn datblygu cynllun gweithredu yn nodi sut y bydd yn eu cyflawni.

Gellir gweld y cynllun llesiant a gwybodaeth ategol yn

www.monmouthshire.gov.uk/our-monmouthshire. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn croesawu adborth drwy’r cyfryngau cymdeithasol ar Twitter @MonmouthshireCC yn defnyddio #ourmonmouthshire.

Mae gan grwpiau cymunedol yn Sir Fynwy fis ar ôl i gynnig am grantiau i wella seilwaith band eang lleol yn ogystal â sefydlu prosiectau ynni cynaliadwy, diolch i gyllid sydd ar gael o gynllun Llywodraeth Cymru.

Mae Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru wedi dyrannu hyd at £128,000 i gyllido pob cynllun. Dyfernir cyllid ar y ddealltwriaeth fod yn rhaid i grwpiau cymunedol ddarparu 20% o’r cyfanswm.

Er y caiff y gronfa ei rheoli’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, gall Tîm Rhaglenni Gwledig Sir Fynwy wneud ceisiadau ar ran grwpiau cymunedol neu eu llywio drwy’r broses. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau 7 Mehefin.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ddatblygu cymunedol: “Caiff prosiectau fydd yn helpu i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, gostwng tlodi ac annog datblygu economaidd eu cynnwys i gyd a rydym eisiau gweld ein grwpiau cymunedol yn datblygu cynifer o gyfleoedd ag sydd modd.

I gael mwy o fanylion cysylltwch â Michael Powell, Rheolwr Rhaglenni Gwledig –

michaelpowell@monmouthshire.gov.uk ffôn 01633 644870, neu edrych ar y fideo YouTube yma: https://youtu.be/bu63eeaGfHA

  • Caiff Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru ei gweinyddu gan Raglen Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.