Skip to Main Content

Cafodd y Cofrestri Tiroedd Comin a Meysydd Trefi a Phentrefi eu sefydlu’n gyntaf dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965. Mae Deddf Tiroedd Comin 2006 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cofrestru i barhau i gynnal y gofrestr a sefydlwyd dan y Ddeddf.

Gallwch archwilio’r Cofrestri o Diroedd Comin a Meysydd Tref a Phentrefi, ac unrhyw geisiadau yng nghyswllt diwygio’r cofrestri, yn ystod oriau swyddfa arferol. Yr oriau swyddfa yw:

Dyddiau Llun i ddyddiau Gwener 9.30am – 12.00 canol-dydd a 2.00pm-4.30pm (heblaw gwyliau cyhoeddus a chyngor).

Ffoniwch 01633 644073/644075 i drefnu apwyntiad os gwelwch yn dda.

Gallwch archwilio’r Gofrestr yn:

Adran Pridiannau Tir

Cyngor Sir Fynwy

Neuadd y Sir

Y Rhadyr

Brynbuga

Sir Fynwy

NP15 1GA

Diwygio’r Gofrestr – Hawliau Tiroedd Comin

Mae Adran 13 Deddf Cofrestr Tiroedd Comin 1965 yn rhoi grym cyfyngedig i’r awdurdod cofrestru i ddiwygio’r wybodaeth a gedwir yn y gofrestr.

Adran Hawliau: lle caiff hawliau pori eu dosrannu, datgysylltu, dileu neu ryddhau, amrywio neu eu trosglwyddo.

Lle bynnag y cafodd tir gyda hawliau a atodwyd ei is-rannu a’i werthu fel lleiniau ar wahân, mae’n rhaid dyrannu rhai hawliau tir comin ar sail pro-rata yn ôl maint.

Mae Adran 9 Deddf Tiroedd Comin 2006 yn gwahardd datgysylltu hawliau tiroedd comin (gyda nifer o eithriadau) yn ôl-weithredol o 28 Mehefin 2005.

Mae’n rhaid i gais i ddiwygio’r Adran Hawliau ar y gofrestr gael ei wneud drwy Ffurflen CR 19 statudol, *Cais i ddiwygio cofrestr yng nghyswllt hawl tir comin”.

Nid oes ffi ar hyn o bryd am wneud cais Ffurflen 19 CR.

Cofrestru Maes Tref neu Bentref ‘newydd’

Daeth rheoliadau yng nghyswllt Adran 15 Deddf Tiroedd Comin 2006 i rym yng Nghymru ar 6 Medi 2007. Mae’r rheoliadau yn cyflwyno trefniadau interim a ffurflen gais statudol newydd, Ffurflen 44.

Mae’n rhaid gwneud ceisiadau i gofrestru maes tref neu bentref ‘newydd’ ar Ffurflen 44 – ‘Cais am gofrestru tir fel Maes Tref neu Bentref’ – a gefnogir gan ddatganiad statudol a thystiolaeth bellach. Mae hyn fel arfer ar ffurf datganiadau tyst.

Nid oes ffi am wneud cais ar hyn o bryd.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw sylwadau i’w gwneud am ein gwasanaeth, anfonwch e-bost at landcharges@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01633 644073/644075 os gwelwch yn dda.

Rheoliadau Meysydd Trefi a Phentrefi (Datganiadau Perchennog Tir) (Cymru) Rhif 2 2018

Deddf Tiroedd Comin 2006

Rheoliadau Meysydd Trefi a Phentrefi (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) (Rhif 2) 2018

2018 Rhif 1100 (W.230)

Ffi Cais

 


Darpariaeth y gwneir y cais oddi tano neu’r dibenion y caiff ei wneud
Diben y cais Purpose of application Ffi Cais Application Fee
Adran 15A(1) Deddf 2006 Adneuo datganiad perchennog tir sy’n dod i ben ag unrhyw gyfnod o ddefnydd hamdden “fel hawl” dros y tir.


Effaith adneuo datganiad perchennog tir yw atal defnyddwyr hamdden y tir rhag cyrraedd y 20 mlynedd o ddefnydd sydd ei angen ar gyfer y meini prawf cofrestru ar gyfer meysydd trefi a phentrefi newydd.
£238

Cywiro, Dim Cofrestru neu Gamgymeriad Cofrestru – Rheoliadau 2017 (Cymru) Deddf Tiroedd Comin 2006

NODYN – NID yw’r rheoliadau hyn yn cynnwys diweddaru cofnod yn Adran Hawliau’r Gofrestr o Diroedd Comin, er enghraifft i gofnodi perchennog/perchnogion newydd fferm a’u hawl i weithredu hawl tiroedd comin (h.y. pori). Disgwylir rheoliadau pellach gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu ar gyfer diweddaru’r gofrestr.

Gall unrhyw un wneud cais i gywiro y cofrestri o diroedd comin a meysydd trefi a phentrefi dan adrannau 19, 22 neu Atodlen 2 Deddf 2006.

Dolen i Ganllawiau a Ffurflenni Cais Llywodraeth Cymru

https://gov.wales/common-land 

Mapiau Cais

Bydd angen i ymgeiswyr gynnwys map cyfredol Arolwg Ordnans ar raddfa o 1:2,500 neu 1:10,000 gyda’u cais. Mae’n rhaid i’r map ddangos yr ardal berthnasol o dir wedi’i groeslinellu mewn lliw amlwg, yn ddelfrydol coch.

Cyngor Sir Fynwy – Ffioedd Cywiro Cais

Yn dibynnu ar y cais y maent yn ei wneud, gall fod yn ofynnol i ymgeiswyr dalu ffi cais dechreuol a rhandaliadau pellach i alluogi Cyngor Sir Fynwy i adennill cost lawn penderfynu’r cais.

Nid oes ffi cais ar gyfer ceisiadau a wnaed dan adran 19(2)(a) (cywiro camgymeriad a wnaed gan yr awdurdod cofrestru) a 19(2)(c) (dileu cofnod wedi ei dyblygu o’r gofrestr) gan y caiff y rhain eu hystyried fel camgymeriadau a wnaed yn hanesyddol gan yr Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin. Yn yr un modd, mae ceisiadau dan Atodlen 2, paragraffau 2-5 (cynhwysol) hefyd yn rhad ac am ddim gan yr ystyrir fod eu penderfyniad er y budd cyhoeddus a bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu costau a osodwyd gan yr Awdurdod Tiroedd Cofrestru.

Deddf Tiroedd Comin 2006

Rheoli (Cofrestru, Diffyg Cofrestru neu Gamgymeriad Cofrestru) (Cymru) 2017

2017 Rhif 566 (W.135)

Ffioedd Cais

Darpariaeth y gwneir y cais oddi tano neu’r dibenion y caiff ei wneud Diben y cais Purpose of application
Ffi Cais
Adran 19 Deddf 2006 Cywiriad ar gyfer dibenion adran 19(2)(a) (camgymeriad a wnaed gan yr awdurdod cofrestru Dim ffi
Adran 19 Deddf 2006 Cywiriad ar gyfer y diben a ddisgrifir yn adran 19(2)(b) (unrhyw gamgymeriad arall) £920
Adran 29 Deddf 2006 Cywiriad ar gyfer y diben a ddisgrifir yn adran 19(2)(c) (dileu cofnod a ddyblygwyd o’r gofrestr) Dim ffi
Adran 19 Deddf 2006 Cywiriad ar gyfer y diben a ddisgrifir yn adran 19(2)(d) (diweddaru manylion unrhyw enw neu gyfeiriad) £350
Adran 19 Deddf 2006 Cywiriad ar gyfer y diben a ddisgrifir yn adran 19(2)(e) (croniant neu wanediad) £1,050
Atodlen 2, paragraff 2 neu 3, Deddf 2006 Diffyg cofrestru tir comin neu faes tref neu bentref Dim ffi
Atodlen 2, paragraff 4, Deddf 2006 Tir gwastraff maenor heb gofrestru fel tir comin Dim ffi
Atodlen 2, paragraff 5,  Deddf 2006 Maes tref neu bentref a gofrestrwyd yn anghywir fel tir comin Dim ffi
Atodlen 2, paragraffau 6-9,  Deddf 2006 Dadgofrestru adeiladau neu dir arall a gofrestrwyd fel tir comin neu fel maes tref neu bentref £910

Atgyfeiriad at yr Arolygiaeth Gynllunio (PINS Cymru)

Mae’n rhaid i Gyngor Sir Fynwy, fel Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin, atgyfeirio at gais neu gynnig i’r Arolygiaeth Gynllunio (PINS Cymru) ar gyfer penderfyniad os oes unrhyw un o’r dilynol yn weithredol (rheoliad 15(2) a (3) Rheoliadau 2017).

  • mae gan yr Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin fuddiant yng nghanlyniad y cais neu gynnig ac mae’n annhebyg y byddai hyder ei fod yn ddiduedd; neu
  • mae’r Awdurdod Cofrestru Tiroedd Comin wedi derbyn gwrthwynebiadau i’r cais neu gynnig gan rai gyda buddiant cyhoeddus yn y tir;  neu
  • ac yn y naill achos neu’r llall:
  • bod y cais neu gynnig yn ceisio ychwanegu neu dynnu tir o’r gofrestr;
  • bod y cais neu gynnig yn ceisio cywiro camgymeriad yn nifer hawliau tiroedd comin yn y gofrestr; neu
  • y caiff y cais neu gynnig ei wneud dan Atodlen 2, paragraffau 2 i 9 Deddf 2006.

Mae ffioedd ychwanegol yn daladwy gan yr ymgeisydd i’r Arolygiaeth Gynllunio: http://planninginspectorate.gov.wales/contact_us/?lang=cy

Os yw Cyngor Sir Fynwy yn penderfynu ar y cais, gall fod angen cynnal ymchwiliad neu wrandawiad cyhoeddus, a bydd y cyngor yn ceisio ad-daliad gan ymgeiswyr am yr holl gostau ychwanegol.

22/02/2019