Cynhelir Wythnos Democratiaeth Leol bob blwyddyn yn ail wythnos mis Hydref.
Nod y digwyddiad yw ennyn diddordeb pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth leol a’r prosesau etholiadol sy’n hwyluso democratiaeth.
Mae’r digwyddiadau a drefnir yn Sir Fynwy yn cynnwys y gweithdai canlynol ar gyfer plant ysgol uwchradd:
- Beth mae’ch cyngor yn ei wneud?
- Pwy fyddai eich cynghorydd delfrydol?
- Cyfryngau cymdeithasol a’r cyngor.
Byddant hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn ffug-etholiad a sesiwn ‘clicio cyflym’ gyda chynghorwyr.
Beth am chwarae gemau democratiaeth ar-lein? Cewch wybod beth yw’r profiad go iawn o redeg ymgyrch, gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar yr etholwyr, a rheoli cyllideb!
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau a drefnwyd ar gyfer Wythnos Democratiaeth Leol, cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru Etholiadol, Rhadyr, Brynbuga NP15 1GA (ffôn: 01633 644212 e-bostelections@monmouthshire.gov.uk)