Skip to Main Content

Diweddariad: Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru, gofynnwyd i bob Cyngor yng Nghymru gasglu adborth gan drigolion ar y terfynau 20mya.

Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio i werthuso canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer sefydlu terfynau cyflymder o 30mya ar ffyrdd cyfyngedig, yn ogystal â ffyrdd eraill sydd â therfynau cyflymder 20mya. Cyhoeddwyd y canllaw pennu eithriadau ym mis Gorffennaf.

Cawsom 1,496 o sylwadau unigol, gyda 32% ohonynt yn gefnogol, 8% yn niwtral a 60% yn gwrthwynebu. Roedd yr ymatebion hyn yn ymwneud â 143 o ffyrdd unigol a reolir gan Gyngor Sir Fynwy ledled y Sir.

Roedd Cyngor Sir Fynwy yn rhan o brosiectau peilot cychwynnol Llywodraeth Cymru gyda’r Fenni ac ardal Glannau Hafren wedi’u cynnwys fel un o’r wyth prosiect cenedlaethol. O’r herwydd, dysgwyd cryn dipyn cyn cyflwyno’r newidiadau yma ar lefel genedlaethol, a gwnaed diwygiadau cyn yr adolygiad diweddaraf hwn.

Mae’n bwysig nodi nad dyma ddiwedd y broses a bod nifer o gamau i’w dilyn dros y misoedd nesaf. Bydd cyfleoedd pellach i chi gael dweud eich dweud, a byddwn yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r rhain.

Mae’n bwysig nodi hefyd na allwn weithredu ar unrhyw sylwadau a gawsom sy’n ymwneud â’r polisi yn gyffredinol (boed yn cefnogi neu’n gwrthwynebu), gan mai materion i Lywodraeth Cymru yw’r rhain. Yn ogystal, ni ystyriwyd unrhyw ymatebion yn ymwneud â Chefnffyrdd, gan nad yw’r rhain yn gyfrifoldeb Cyngor Sir Fynwy.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ba ffyrdd yw Cefnffyrdd yma.

Mae tudalen diwygiedig Cwestiynau Cyffredin Cyfyngiadau Cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru ar gael yma.

Camau nesaf

O’r ymatebion a ddaeth i law, rydym wedi nodi sawl llwybr sydd â rhesymau dilys dros newid y terfyn cyflymder i 30mya. Bydd y llwybrau hyn yn cael eu hail-werthuso yn seiliedig ar y canllawiau eithrio 30mya a ddiweddarwyd yn ddiweddar. Yn ystod yr ailasesiad, mae’n rhaid i’r awdurdod sicrhau na fydd unrhyw gynnydd yn y terfyn cyflymder arfaethedig yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch y ffyrdd.

Unwaith y byddwn wedi cwblhau ein hadolygiad, byddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau ar ein gwefan. Sylwch na allwn roi adborth unigol ar bob un sylw a gawsom.

Os yw’r canllawiau diwygiedig yn awgrymu bod stryd/ffordd a nodwyd drwy’r adborth yn addas ar gyfer terfyn cyflymder o 30mya, byddwn yn esbonio hyn pan fyddwn yn cyhoeddi canlyniadau’r adolygiad.

Bydd strydoedd/ffyrdd lle na fyddai 30mya yn addas o dan y canllawiau diwygiedig yn aros ar y terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya.

Ar gyfer unrhyw stryd/ffordd lle mae’r canllawiau diwygiedig yn awgrymu y gallai terfyn cyflymder o 30mya fod yn addas, byddwn yn creu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT), sy’n broses gyfreithiol y mae’n rhaid i ni ei dilyn os ydym am newid y terfyn cyflymder.

Bydd pob GRhT yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, lle gall trigolion wneud sylwadau. Byddwn yn cyhoeddi manylion unrhyw newidiadau ar ein gwefan.

Yn dilyn yr ymgynghoriadau GRhT, bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud ar unrhyw newidiadau fel rhan o brosesau gwneud penderfyniadau arferol y Cyngor.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu unwaith y byddwn wedi cwblhau ein hadolygiad.

Pasiodd y Senedd ddeddfwriaeth Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 yn 2022. Mae hyn yn golygu y bydd terfynau cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig yn gostwng o 30mya i 20mya o fis Medi 2023.

Mae ffyrdd cyfyngedig yn cynnwys goleuadau stryd sydd ddim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Maent fel arfer wedi’u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig gyda llawer o gerddwyr.

Gallai lleihau’r terfyn cyflymder rhagosodedig o 30mya i 20mya yn yr ardaloedd hyn arwain at nifer o fanteision, gan gynnwys:

  • gostyngiad yn nifer y gwrthdrawiadau ffordd
  • mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ein cymunedau
  • helpu i wella ein hiechyd a’n lles
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
  • diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • anafiadau llai difrifol os bydd gwrthdrawiadau’n digwydd

Cymru yw un o’r gwledydd cyntaf yn y byd a’r genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno deddfwriaeth i gael terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd lle mae ceir yn cymysgu â cherddwyr a beicwyr.

Mae’r newidiadau hyn yn cefnogi:

Mae gwybodaeth ychwanegol am Derfyn Cyflymder 20mya Diofyn Llywodraeth Cymru ar gael yma.