Uwch Swyddog Data a Chyllid, Ailgylchu a Gwastraff
Ydych chi wrth eich bodd gyda data? A ydych chi’n naturiol yn dadansoddi ac yn drylwyr tu hwnt? Fedrwch chi ddatrys problemau?
Rydyn ni’n edrych am rywun gyda dawn naturiol am gasglu, dadansoddi a chyflwyno data, rhywun sydd yn mwynhau her ymchwilio a datrys problemau, rhywun a all weithio i amserlenni statudol penodol, rhywun a all reoli ein cyllid contract ac adrodd ar y gyllideb.
A yw hyn yn swnio fel chi? Daliwch i ddarllen … gallai’r swydd hon fod yn berffaith i chi!
Cyfeirnod Swydd: OPWS08
Gradd: BAND G SCP 23 – SCP 27 £32,076 - £35,745
Oriau: 37 yr wythnos
Lleoliad: Rhaglan
Dyddiad Cau: 24/05/2024 12:00 pm
Dros dro: Na
Gwiriad DBS: Na