Skip to Main Content

Cynigion yn cael eu datblygu i gynyddu nifer yr ymwelwyr i Frynbuga trwy wella amgylchedd y stryd

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi penodi Roberts Limbrick Architects and Urban Designers a Chris Jones Regeneration i ddatblygu cynigion ar gyfer Stryd y Bont a Sgwâr Twyn ym Mrynbuga.

Fel rhan o Brif Gynllun Brynbuga a Woodside, mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda Chyngor Tref Brynbuga i ddatblygu cynigion. Bydd y cynigion yn cael eu llywio gan ymgynghoriad â busnesau, trigolion a rhanddeiliaid eraill. Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gael y gaeaf hwn. 

Mae cyllid ar gyfer y gwaith wedi’i roi gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Brynbuga.

Yn Stryd y Bont, y nod yw creu amgylchedd sy’n symud y flaenoriaeth ac yn ei rhoi ar gerddwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn a beicwyr. Y gobaith yw creu strydlun mwy diogel, mwy cyfforddus a deniadol sy’n hwyluso amrywiaeth eang o weithgareddau ac yn fodd o gynyddu nifer yr ymwelwyr. 

Bydd Sgwâr Twyn yn cael ei drawsnewid yn fan cyhoeddus bywiog, deniadol ac yn ganolfan teithio llesol ar gyfer y gymuned leol ac ymwelwyr â Brynbuga – bydd lle i fusnesau orlifo a gellid ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau a defnydd dros dro. 

Disgwylir i gynigion o ran cynlluniau cychwynnol ar gyfer Stryd y Bont a Sgwâr Twyn gael eu cwblhau erbyn gwanwyn 2024. Bydd chynigion cychwynnol yn cael eu defnyddio i gefnogi ceisiadau am gyllid ar gyfer cynlluniau mwy manwl a gwaith adeiladu yn y dyfodol.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths: “Mae Brynbuga yn lle hardd sydd â chymuned lewyrchus. Edrychaf ymlaen at weld cynigion ar gyfer y dref sy’n rhoi mwy o gyfle i bobl sy’n cerdded, yn olwyno neu’n beicio fwynhau’r lleoliad hyfryd.

“Mae potensial ardderchog yma i fusnesau ym Mrynbuga. Mae cyfle i groesawu mwy o bobl leol i elwa o’r amrywiaeth o siopau, caffis, bwytai a thafarndai yn yr ardal.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Steve O’Brien, Maer Brynbuga: “Trwy greu awyrgylch mwy croesawgar a bywiog, gallwn ddenu pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddarganfod swyn ac arlwy unigryw Brynbuga.  Trwy roi ystyriaeth ofalus a chyflwyno syniadau creadigol, gallwn drawsnewid ein strydoedd yn fannau croesawgar a fydd nid yn unig o fudd i’n busnesau lleol ond a fydd hefyd yn creu ymdeimlad o falchder ac ymdeimlad o gymuned i bawb”.

Dywedodd llefarydd ar ran Roberts Limbrick: “Rydym yn falch iawn ein bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Brynbuga ar y prosiect cyffrous a phwysig hwn.”

“Mae cyfle gwirioneddol yma i gyfoethogi a dathlu cymeriad a naws Brynbuga.  Ein brîff yw unioni’r fantol o ran y gofod a roddir i draffig ar draul y gofod a roddir i bobl.

“Gwelir hyn yn berffaith yn Sgwâr Twyn. Mae ein dadansoddiad cynnar wedi dangos yn amlwg nad yw bron i 80% o ofod y sgwâr ar gyfer pobl. Rydym yn gyffrous iawn am yr hyn y gallai Sgwâr Twyn fod yn y dyfodol. Oherwydd ei dimensiynau ffisegol a’i chyfyngiadau, bydd Stryd y Bont yn fwy o her, ond mae’n un yr ydym yn edrych ymlaen yn fawr ati.”

I gael rhagor o wybodaeth neu i gael eich ychwanegu at restr bostio ar gyfer ymgynghoriad ar y cynigion hyn, cysylltwch â: mccregeneration@monmouthshire.gov.uk