
Ar gael drwy dendr anffurfiol – 12:00 hanner dydd, dydd Gwener 14 Awst 2026
Prif Nodweddion
Arwynebedd Mewnol Net 13.9 metr sgwâr / 150 troedfedd sgwâr
Blaen Siop Amlwg
Tref Farchnad Brysur
Dogfennau Tendro
Disgrifiad
Mae Tîm Ystadau Cyngor Sir Fynwy yn hysbysebu’r cyfle i osod Uned 20 yn Neuadd y Farchnad, Y Fenni, drwy gytundeb trwydded. Lleolir Neuadd y Farchnad, Y Fenni, ar Cross Street yng nghanol y dref. Mae’r stondin ar y llawr gwaelod yng nghanol y neuadd, gan ddenu niferoedd uchel o bobl sy’n mynd heibio a lefelau uchel o fasnach.
Er y gall y telerau fod yn hyblyg, cynigir y bydd y siop ar gael o dan gytundeb trwydded am gyfnod o 12 mis, a fydd wedyn yn newid i drefniant misol. Bydd y masnachwr yn gyfrifol am baratoi ac arddangos y siop; rhaid cytuno ar fanylion addurno, arwyddion a gosodiadau gyda’r Cyngor.
I ddechrau, bydd y ffi drwydded fisol yn cynnwys y costau hyn (dŵr, trydan a threthi busnes). Fodd bynnag, mae gan y Cyngor yr hawl i ail-godi costau neu gasglu tâl gwasanaeth mewn perthynas â’r costau hyn. Bydd y ffi drwydded yn cael ei hadolygu’n flynyddol.
Cysylltu
Tîm Ystadau
E-bost: Estates@monmouthshire.gov.uk
Ffôn: 01633 644471