Trwydded maes carafannau a gwersylla
Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol gadw cofrestr o drwyddedau safle a ddyroddwyd yn eu hardal.
Mae’r canlynol yn rhestr o’r safleoedd trwyddedig yn Sir Fynwy (nid yw’r gofrestr hon yn cynnwys trwyddedau a roddwyd i garafannau preswyl sengl a ddefnyddir fel anheddau preifat):
Carafannau teithiol:
- Maes Carafannau Church Cottage, Llanwytherin, Y Fenni, NP7 8RG
- Maes Carafannau Pont Kemys, Pont Kemys Farm, Chainbridge, Brynbuga, NP15 9DS
- The Chainbridge, Cemais Comawndwr, Brynbuga, NP15 1PP
- Maes Carafannau Wernddu, Wernddu Farm, Y Fenni, NP7 8NG
- Maes Carafannau Pyscodlyn, Pyscodlyn Farm, Llanwenarth, Y Fenni, NP7 7ER
- Maes Carafannau St Pierre, Ifton Hill, Porthysgewin, NP16 4TT
- Maes Carafannau Pen-y-Dre, Pen-y-Dre Farm, Llanfihangel Crucornau, Y Fenni, NP7 8DH
- Maes Carafannau Trefynwy, Rockfield Road, Trefynwy, NP25 3BA
- Parc Carafannau a Gwersylla Glentrothy, Llanfihangel Troddi, Trefynwy, NP25 4BD
- Maes Carafannau a Gwersylla Bridge, Llanddingad, Trefynwy, NP25 4DY
- Maes Carafannau Tump Farm, Gwenffrwd, Trefynwy, NP25 4TT
Carafannau sefydlog:
- Clwb Gwersylla Western Sunfolk, The Brakes, Croes Roberts Farm, Tryleg, Trefynwy
- Park Pen-y-Van, Narth, Trefynwy
- Kings Orchard, Withy Lane, Trefynwy, NP25 5LF
- The Caravan Site, Court Farm, Llandeilo Gresynni, ger Y Fenni, NP7 8SU
- Maes Carafannau Pont Mynwy, Drybridge Street, Trefynwy, NP25 5AD
Carafannau preswyl:
- Parc Carafannau Riverside, Old Hadnock Road, Trefynwy, NP25 3LT
- Mr L Pritchard, The Beeches, Gwndy, ger Cil-y-coed
- The Halfway House, Talycoed, ger Y Fenni, NP7 8TL (safle bach, preifat)
Crynodeb o’r drwydded |
Cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi sicrhau bod gan eich safle ganiatâd cynllunio. Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol i weithredu maes carafannau a gwersylla. Gellir rhoi amodau ar y drwydded sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r canlynol:
|
Meini prawf cymhwysedd |
Rhaid i’r ymgeisydd fod â’r hawl i ddefnyddio’r tir fel maes carafannau. Ni roddir trwydded i ymgeiswyr y cafodd trwydded safle ei thynnu oddi arnynt o fewn tair blynedd i’r cais cyfredol. |
Crynodeb o’r rheoliadau |
Crynodeb o’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y drwydded hon |
Proses gwerthuso cais |
Cyflwynir cais am drwydded safle i’r awdurdod lleol lle mae’r tir. Rhaid i geisiadau fod yn ysgrifenedig, a dylent nodi’r darn tir y mae’r cais yn berthnasol iddo ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol. |
A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol? |
Bydd. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau. |
Gwneud cais ar-lein |
Gwneud cais i weithredu maes carafannau neu faes pebyll |
Camau unioni pan fydd cais yn methu |
Fe’ch cynghorir i drafod unrhyw broblem â’r awdurdod lleol yn gyntaf. Os gwrthodir cais deiliad trwydded i newid amod, gall gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol. Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o dderbyn hysbysiad ysgrifenedig o wrthod y cais, a rhaid cyflwyno hysbysiad o’r apêl i’r cyngor dosbarth lleol. |
Camau unioni ar gyfer deiliaid trwydded |
Fe’ch cynghori i drafod unrhyw broblem â’r awdurdod lleol yn gyntaf. Os yw deiliad trwydded yn dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm â thrwydded, gall gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol neu, yn yr Alban, y Siryf. Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o gyflwyno’r drwydded. Gall y cyngor dosbarth lleol addasu’r amodau ar unrhyw adeg, ond rhaid iddynt roi cyfle i ddeiliad y drwydded gyflwyno sylwadau am y newidiadau arfaethedig. Os yw deiliad trwydded yn anghytuno â’r newidiadau, gall gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol. Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o dderbyn hysbysiad ysgrifenedig am y newid, a rhaid cyflwyno hysbysiad o’r apêl i’r cyngor dosbarth lleol. |
Cwynion gan ddefnyddwyr |
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â’r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf – ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf anfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyswllt Defnyddwyr roi cyngor i chi. Y tu allan i’r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU. |
Camau unioni eraill |
E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, os bydd deiliad trwydded yn cwyno am un arall. |
Cymdeithasau masnach |
Cymdeithas Sefydliadau Carafannau a Gwersylla Eithriedig (ACCEO) |
Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartref Prydain (BH&HPA) | |
Cymdeithas Cyrchfannau Prydain | |
Hyfforddiant y Diwydiant Carafannau (CITO) | |
Ffederasiwn y Trefnwyr Teithiau (FTO) | |
Cymdeithas Trefnwyr Teithiau Grŵp (GTOA) | |
Cymdeithas Marchnata Gwestai | |
Y Cyngor Carafanio Cenedlaethol (NCC) |