Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys
Mae trosglwyddo o fewn y flwyddyn yn cyfeirio at geisiadau gan rieni/ gofalwyr i drosglwyddo eu plant rhwng ysgolion tu allan i’r cylch derbyn arferol. Ni fydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried ceisiadau nes bydd y dyddiad dechrau a geisiwyd fwy na thymor ymlaen llaw. Mae’r ceisiadau hyn yn cael eu trin yn ôl y dyddiad y cawsant eu derbyn.
Pan fydd mwy o geisiadau yn cael eu derbyn ar yr un diwrnod nag o leoedd sydd ar gael, bydd meini prawf yr Awdurdod yn cael eu gweithredu i benderfynu pwy sy’n derbyn y lle/lleoedd.
Os byddwch yn penderfynu symud eich plentyn yn ystod y flwyddyn academaidd mae angen i chi wneud cais am le yn eich dewis ysgol. Mae copi o ffurflen derbyn trosglwyddo o fewn yr ysgol ar gael yn Citizen Portal neu gan Uned Ysgolion a Derbyn Myfyrwyr ar 01633 644508.
Ni ddylid defnyddio’r ffurflen hon ar gyfer derbyn plant ar ddechrau’r Flwyddyn Academaidd.
Fel arfer bydd ceisiadau yn cael eu prosesu ymhen 7 diwrnod gwaith ar ôl eu derbyn. Mewn rhai amgylchiadau lle nodwyd fod gan y plentyn anghenion penodol efallai na fydd yn bosibl prosesu’r cais o fewn yr amser hwn. Bydd y rhiant/gofalydd yn cael ei hysbysebu ynglŷn â hyn.
Fel rhan o’r broses ystyried, bydd yr Awdurdod Lleol yn cysylltu ag ysgol bresennol y plentyn i gael gwybodaeth i’w rhannu gyda’r ysgol sy’n derbyn. Mae hyn i sicrhau fod yr ysgol a ffafrir mewn sefyllfa i gefnogi pontio priodol rhwng ysgolion.
Pan wneir cais am le mewn ysgol o ganlyniad i symud i fyw i’r sir mae angen i’r rhiant anfon prawf o gyfeiriad y cartref yn y sir ar ffurf Cyfnewid Contractau neu Gytundeb Tenantiaeth hirdymor. Ni fydd y cais yn cael ei brosesu hyd oni dderbynnir y dystiolaeth hon. Pwrpas hyn yw sicrhau nad yw rhieni/gofalwyr yn ymgeisio yn rhy fuan cyn symud a thrwy wneud hyn amddifadu rhywun sydd angen lle ynghynt.
Unwaith y dyfarnwyd lle mewn ysgol, caiff ei gadw’n agored am gyfnod o 1 tymor o ddyddiad y derbyniad a awdurdodwyd, ac ar ôl hynny gall y lle gael ei ddiddymu os nad yw’r plentyn wedi cymryd y lle yn ystod y cyfnod hwn. Unwaith y cynigiwyd lle ysgol, bydd gan ysgolion 7 diwrnod gwaith i drefnu ar gyfer ymrestru’r plentyn dan sylw lle mae angen dechrau ar unwaith.
Os na allwn gynnig lle yn eich dewis ysgol, bydd manylion eich plentyn yn cael eu cadw ar restr aros tan 31 Awst y flwyddyn academaidd dan sylw yn y cais. Byddwch hefyd yn cael yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad fel ur amlinellir.
Plant sy’n derbyn Gofal
Yn achos plant sy’n derbyn gofal, rhaid i’r Gweithiwr Cymdeithasol gwblhau’r ceisiadau a’u dychwelyd i’r cyfeiriad uchod. Y Gweithiwr Cymdeithasol fydd yn arwain y broses o gael yr wybodaeth ganlynol a fydd yn cael ei rhannu â’r ysgol yn ystod cyfarfod, cyn cynnig lle i’r plentyn.
- Cynllun cefnogi disgybl
- Adroddiad Seicolegydd Addysg
- Barnau’r rhieni
- Manylion o’r ysgol flaenorol
- Gwybodaeth gan Anghenion Dysgu Ychwanegol (os yw hyn yn briodol)