Mae asesiadau strwythurol wedi nodi pryderon gyda’r bont sy’n gofyn am weithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch a chadw’r bont ar agor.
I fynd i’r afael â’r mater, mae angen system rheoli traffig dros dro tra byddwn yn gweithio tuag at atebion canolig a hir dymor.
O Dydd Llun, 19 Ionawr, hyd nes rhoddir gwybod yn wahanol, bydd y cyfyngiadau canlynol yn berthnasol:
- Cyfyngiad Pwysau: Bydd gan y bont derfyn pwysau o 3 tunnell.
- Lleihau Lôn: Bydd traffig yn cael ei leihau i un lôn redeg ar draws y bont. Bydd goleuadau traffig dros dro yn rheoli’r traffig.
- Mynediad i Gerddwyr: Bydd cerddwyr dal yn gallu defnyddio’r bont.
Mae’r mesurau rhagofalus hyn yn hanfodol i leihau straen ar y bont a sicrhau bod pob cerbyd yn gallu teithio’n ddiogel. Rydym yn cydweithio ag ymgynghorwyr arbenigol i lunio atebion tymor canolig a hirdymor i ddatrys y materion strwythurol a nodwyd.
Bydd cyflwr y bont ac effeithiolrwydd y mesurau rheoli traffig yn cael eu monitro’n barhaus trwy gydol y cyfnod hwn.
Hyd
Ar hyn o bryd, ni ellir cadarnhau dyddiad cwblhau, a disgwylir i’r trefniadau rheoli traffig newydd barhau mewn grym am gyfnod estynedig.