Skip to Main Content

Dinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir 

‘Mae dinasyddion yr UE’ yn cyfeirio at ddinasyddion yr UE ac eithrio’r DU. Mae hyn yn cynnwys Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Croatia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg, Hwngari, Iwerddon, yr Eidal, Latfia, Lithiwania, Lwcsembwrg, Malta, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania, Slofacia, Slofenia, Sbaen a Sweden. 

Mae’r AEE yn cynnwys Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy. Nid yw’r Swistir yn rhan o’r AEE ond mae’n aelod o’r Farchnad Sengl – mae hyn yn golygu bod gan ddinasyddion y Swistir yn un hawl i fyw a gweithio yn y DU â dinasyddion eraill yr AEE. 

Bydd angen i ddinasyddion Gweriniaeth Iwerddon barhau i ddangos eu hawl i weithio yn y DU fel y mae nawr. 

Cymorth ar gyfer dinasyddion yr UE gan Lywodraeth Cymru 

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cymorth ar gyfer dinasyddion yr UE sy’n gwneud cais o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog y mae angen cyngor cyfreithiol arnyn nhw. Mae gwybodaeth am wasanaethau sy’n darparu cyngor diduedd yn rhad ac am ddim ar gael ar wefan yr EUSS (y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE) http://www.eusswales.com/cy/. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cyflogwyr, a byddwn ni’n cynnal digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Bydd gwybodaeth am fynegi diddordeb yn y digwyddiadau hyn ar gael yn https://llyw.cymru/paratoi-cymru-brexit/busnes-economi ac https://businesswales.gov.wales/brexit/cy 

Cymorth ar gyfer dinasyddion yr UE gan Lywodraeth y DU 

Mae’r Swyddfa Gartref wedi datblygu pecyn cymorth ar gyfer cyflogwyr https://www.gov.uk/government/publications/eu-settlement-scheme-employer-toolkit. 

Dinasyddion yr UE sy’n cyrraedd y DU cyn 1 Ionawr 2020 

Ar hyn o bryd mae gan bob dinesydd yr UE, yr AEE a’r Swistir sy’n preswylio yng Nghymru (ac aelodau o’u teuluoedd sy’n gymwys) yr un hawl i fyw a gweithio a chael mynediad at wasanaethau â dinasyddion y DU. Mae dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon, sydd o fewn yr Ardal Deithio Gyffredin, hefyd yn parhau i fod â’r un hawliau a dinasyddion y DU. 

Felly, bydd hawliau dinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir yn parhau i fod yr un peth ag y maen nhw ar hyn o bryd, ac ni fydd angen i gyflogwyr, landlordiaid na darparwyr gwasanaethau eraill wahaniaethu rhwng gwahanol grwpiau o Ddinasyddion yr UE. 

Pan fydd yn ofynnol ichi gynnal gwiriad statudol1 bydd yn ddigon i ddinasyddion yr UE ddangos eu hawl i wasanaethau drwy ddangos: 

 pasbort neu gerdyn adnabod cenedlaethol2 os yw’r unigolyn yn ddinesydd yr UE, yr AEE neu’r Swistir 

 cerdyn preswylio biometrig os nad yw’r unigolyn yn ddinesydd yr UE, yr AEE na’r Swistir, ond ei fod yn gymwys fel aelod o deulu dinesydd yr UE, yr AEE neu’r Swistir 

 prawf o’u statws o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE neu’r Cynllun Caniatâd i Aros Dros Dro i Ddinasyddion Ewropeaidd, gan ddefnyddio gwasanaeth gwirio hawl i weithio ar-lein y Swyddfa Gartref 

Mae dyletswydd ar gyflogwyr a darparwyr gwasanaethau eraill i beidio â gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir. 

Dinasyddion yr UE sy’n cyrraedd ar ôl y diwrnod ymadael ond cyn 1 Ionawr 2021 

Bydd rhaid i ddinasyddion yr UE sy’n cyrraedd ar ôl y diwrnod ymadael ond cyn 1 Ionawr 2021, ac sy’n dymuno aros yn y DU ar ôl 31 Rhagfyr 2020, wneud cais am Ganiatâd i Aros Dros Dro i Ddinasyddion Ewropeaidd. 

Dinasyddion yr UE sy’n cyrraedd o 1 Ionawr 2021 ymlaen 

O 1 Ionawr 2021 ymlaen, bydd rhaid i ddinasyddion yr UE sy’n dod i’r DU i fyw, gweithio neu astudio fodloni gofynion newydd o dan system fewnfudo newydd y DU. Mae manylion y system hon yn cael eu llunio gan Lywodraeth y DU. Bydd gan bobl o Weriniaeth Iwerddon, sydd o fewn yr Ardal Deithio Gyffredin, yr un hawliau â dinasyddion y DU. 

Cyngor ar wneud cais o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE 

Bydd gan ddinasyddion yr UE sy’n preswylio’n gyfreithlon yn y DU cyn y diwrnod ymadael ac aelodau cymwys o’u teuluoedd yr hawl i aros yn y DU am gyfnod amhenodol, ar yr amod 

Dalenni Ffeithiau