Skip to Main Content

Bydd Sir Fynwy yn cynnal Cymal 5 o Ras Lloyds Tour of Britain I ddynion ar ddydd Sadwrn 6 Medi 2025.

Dyma’r digwyddiad beicio broffesiynol fwyaf Prydain ac yn un o’r digwyddiadau chwaraeon byw mwyaf yn y DU sy’n rhad ac am ddim i’w wylio.

Bydd Cymal 5 yn cychwyn ym Mhont-y-pŵl, Torfaen ac yna teithio i mewn i Sir Fynwy, wrth orffen trwy ddringo’r Tymbl dwywaith.

Yn ystod Cymal 5 o’r Lloyds Tour of Britain, byddwn yn gweithredu system cau heol fesul cam dros dro wrth i’r ras pasio er mwyn lleihau’r perygl i’r athletwyr, swyddogion, cefnogwyr ar gymunedau lleol.

Wrth ddefnyddio system cau heol fesul cam dros dro rydym yn anelu i leihau’r tarfu ar y cymunedau lleol cymaint ag sy’n bosib. Bydd y ffyrdd ar gau am uchafswm o 30-45muned wrth i’r peloton pasio.

Byddwn yn rhyddhau rhagor o wybodaeth mor gynted ag sy’n bosib.

Er mwyn galluogi’r pentref ardal terfyn i gael i’w adeiladu ar Y Tymbl, bydd y B4246 rhwng Gofilon a Blaenafon ar gael rhwng 06:30am a 18:00pm ar ddydd Sadwrn 6 Medi 2025.

Bydd mynediad ar gyfer gwasanaethau brys yn parhau.