Skip to Main Content

Ble ydym yn gweithio

Mae gennym therapyddion chwarae mewn ysgolion cynradd ledled Sir Fynwy, ac mewn lleoliadau cymunedol lle bo’n briodol.

Sut gallwn ni helpu

Mae chwarae yn fath o gyfathrebu plentyn. Dyma pam, ar gyfer plant iau, efallai nad yw therapïau siarad mor briodol â’r rhai sy’n defnyddio chwarae.

Mae Therapi Chwarae wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi plant ers blynyddoedd lawer ac yn cael ei ddefnyddio i helpu plant ar draws sbectrwm eang o anawsterau. Mae Therapi Chwarae yn cynnig cymorth i’ch plentyn a bydd yn ei helpu i ddeall y pethau y mae wedi’u profi a’r ffordd y mae’n teimlo amdanynt. Gall y plentyn wneud hyn trwy ail-greu neu chwarae allan brofiadau anodd neu feddyliau anodd, naill ai gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau chwarae gwahanol, neu chwarae gyda’r Therapydd Chwarae. Gall hyn helpu’r plentyn i wneud synnwyr o’u meddyliau a’u teimladau.

Mae Therapi Chwarae yn cynnig man diogel lle gall plant archwilio a mynegi eu teimladau a’u profiadau. Mae hyn yn hybu gwytnwch o fewn pob plentyn i’w galluogi i weithio trwy a darganfod golwg mwy gobeithiol o’u byd.

Gyda Therapi Chwarae, mae plant yn cael eu derbyn oherwydd pwy ydyn nhw a beth maent yn cynnig. Gall fod yn ddefnyddiol gweld Therapydd Chwarae yn y tymor hir a’r tymor byr. Mae pob plentyn yn wahanol, a gellir trafod hyn yn ystod ein proses asesu.

Gwybodaeth am ein tîm

Mae ein tîm o Therapyddion Chwarae i gyd yn aelodau achrededig a chofrestredig o Gymdeithas Therapyddion Chwarae Prydain (BAPT) neu PTUK. Mae hyn yn golygu eu bod yn dilyn cod moeseg proffesiynol ac yn dilyn canllawiau arfer da a osodwyd gan y corff proffesiynol hwn. Mae’r ddwy gofrestr achrededig yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol

Donna Benson

Helo, Donna Benson ydw i a fi yw’r arweinydd ar gyfer Therapïau Creadigol yn Sir Fynwy, ac felly fi sy’n rheoli’r Gwasanaeth Therapi Chwarae a Therapi Teuluol. Mae fy nghefndir ym myd addysg, lle bûm yn addysgu cerddoriaeth a drama am flynyddoedd lawer, cyn penderfynu hyfforddi fel Therapydd Chwarae. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phlant a’u teuluoedd ac yn teimlo ei bod yn fraint gallu gweithio’n agos gyda phobl, yn enwedig pan nad yw pethau cystal ag y gallant fod. Pan nad wyf yn gweithio, gallwch ddod o hyd i mi yn yr awyr agored – rwyf wrth fy modd yn cerdded, yn treulio amser gyda fy nheulu, ac ar fy bwrdd padlo. Mae wedi dod yn obsesiwn newydd i mi, ond rydw i wrth fy modd, ac mae gennym ni gymaint o ddŵr i’w archwilio yng Nghymru!

Laura Bone

Helo, Laura ydw i ac rwy’n therapydd chwarae cofrestredig BAPT, therapydd filial (sy’n golygu fy mod yn gweithio gyda rhieni a phlant gyda’n gilydd weithiau) a goruchwyliwr clinigol. Rwyf hefyd wedi cael hyfforddiant mewn Theraplay a DDP Lefel 1, ac rwy’n mwynhau defnyddio’r sgiliau hyn pan fyddaf yn gweithio gyda rhieni neu ofalwyr a’u plant. Cymhwysais gyda fy ngradd Meistr mewn Therapi Chwarae yn ôl yn 2013 a chyn hynny roeddwn yn gweithio gyda phlant ag AAA, gan ddefnyddio fy ngradd flaenorol mewn Seicoleg. Rwyf wrth fy modd fel therapydd chwarae ac yn angerddol iawn am sut y gall helpu i gefnogi plant. Yn fy amser hamdden rwyf wrth fy modd yn teithio, yn dysgu Sbaeneg, yn pobi ac yn cerdded. Rwyf wrth fy modd yn byw a’n gweithio yn Sir Fynwy, gan fod rhai lleoedd anhygoel i gerdded a dydw i byth yn diflasu!

Naomi Johnson

Helo! Fy enw i yw Naomi ac rwy’n un o’r Therapyddion Chwarae yn y tîm. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda phlant ers dros 14 mlynedd, ac mae fy nghefndir ym myd addysg ac rwy’n athro cynradd cymwysedig ac yn arbenigwr ADY. Cymhwysais fel Therapydd Chwarae yn 2018 ac rwyf wrth fy modd gyda fy swydd yn helpu plant a theuluoedd i gryfhau eu lles a ffynnu, sydd mor arbennig i’w weld. Fy hoff deganau yn fy nghit chwarae yw’r celf a chrefft a’r hambwrdd tywod a miniaturau. Yn fy amser hamdden rwy’n hoffi treulio amser yn yr awyr agored yn mynd am dro braf gan weld pethau hardd, a threulio amser gyda theulu a ffrindiau. Rwyf hefyd yn hoffi bod yn greadigol a gwneud pethau.

Camilla Crowter

Helo, fy enw i yw Camilla ac rwy’n therapydd chwarae a chelfyddydau creadigol. Rwy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i’w helpu i weithio trwy deimladau a phrofiadau anodd. Gallant ddefnyddio chwarae a ffyrdd creadigol o fynegi eu hunain yn hytrach na geiriau. Rwyf hefyd yn gweithio’n agos gyda rhieni/gofalwyr ac yn cynnig ymyriadau perthynas rhiant-plentyn pan fo’n briodol. Rwy’n caru fy swydd ac rwyf bob amser yn dysgu mwy! Pan nad wyf yn gweithio, rwy’n hoffi treulio amser gyda fy ffrindiau a’m teulu. Rwyf hefyd wrth fy modd yn cerdded yng nghefn gwlad neu ar lan y môr.

Adnoddau

PDF Taflen Plentyn