Skip to Main Content

Fel arfer caiff terfynau cyflymder eu cyflwyno i gyfrannu at wella diogelwch ffyrdd a dylent geisio cydbwyso hyn gyda hygyrchedd ac amcanion amgylcheddol.

Terfynau cyflymder yw’r cyflymder uchaf y gall cerbydau deithio’n gyfreithiol  arno – nid cyflymder targed mohono. Dylech bob amser yrru yn ôl amodau’r briffordd ar y pryd fel y cyfeirir o fewn Rheolau’r Ffordd Fawr, yn neilltuol:

  • Lle mae cynllun y ffordd yn cyflwyno peryglon, tebyg i drofeydd
  • Lle’r ydych yn rhannu’r ffordd gyda cherddwyr
  • Mewn tywydd anffafriol
  • Gyrru yn y nos gan ei bod yn anos gweld defnyddwyr ffordd eraill a rhwystrau posibl

Terfynau Cyflymder mewn Ardaloedd Gwledig

Mae cyflymder is o fudd i holl ddefnyddwyr ffyrdd trefol, yn arbennig ddefnyddwyr ffordd bregus. Wrth benderfynu ar derfyn cyflymder priffordd, mae Sir Fynwy yn defnyddio dull hierarchaeth ffyrdd sy’n adlewyrchu swyddogaeth y briffordd, y cyfuniad o draffig cerbydau y mae’n eu cario a’i defnydd gan ddefnyddwyr ffordd bregus. Caiff unrhyw derfynau cyflymder newydd neu addasiadau i derfynau presennol eu hystyried ar sail unigol.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn annog ac yn cefnogi terfyn cyflymder a pharthau 20mya mewn lleoliadau addas.

Gellid defnyddio terfynau cyflymder 40mya lle mae’r nodweddion priffordd yn rhoi cyfleusterau addas i ddarparu ar gyfer symudiad pob defnyddiwr ffordd sydd fel arfer yn defnyddio’r darn hwnnw o ffordd. Bydd terfynau cyflymder 40mya fel arfer ar ffyrdd ansawdd uwch mewn maestrefi neu ar gyrion trefi a phentrefi lle mae datblygiad cyfyngedig.

Gellir gosod terfynau cyflymder 50mya ar ffyrdd deuol trefol, ffyrdd cylchol neu ffyrdd osgoi lle mae amgylchedd a nodweddion y ffordd yn addas. Fel arfer ni fydd defnyddwyr ffyrdd bregus yn defnyddio na cheisio croesi’r ffyrdd hyn.

Terfynau Cyflymder mewn Ardaloedd Gwledig

Y terfyn cyflymder cenedlaethol presennol ar ffyrdd gwledig un ffrwd 60mya ac mae terfyn o 70mya ar ffyrdd deuol gwledig. Gellir defnyddio terfynau cyflymder 40 a 50mya lle’n briodol, ac mae’r terfyn cyflymder mewn trefi a phentrefi gwledig fel arfer yn 30mya. Mae Sir Fynwy yn ystyried y terfyn cyflymder mewn lleoliadau gwledig ar sail unigol, gan roi ystyriaeth i Ganllawiau Rheoli Diogelwch Gwledig y Sefydliad Priffyrdd a Chludiant.

Caiff terfynau cyflymder eu gosod yn addas ar gyfer natur y ffordd a’i defnydd gan bob math o ddefnyddiwr ffordd. Mae’r ffactorau a gaiff eu hystyried wrth benderfynu ar derfyn cyflymder priffordd wledig yn cynnwys:

  • Ei phwysigrwydd strategol
  • Os oes ganddi fynediad lleol neu os caiff ei defnyddio ar gyfer hamdden
  • Os yw’n mynd drwy neu’n torri ar draws cymuned leol

Yn ychwanegol caiff geometreg a topograffeg yr ardal a’i defnydd gan gerbydau a defnyddwyr ffordd bregus hefyd eu hystyried.