Diweddariad: Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu’r camau nesaf, yn y datganiad hwn i’r wasg, ar gyfer y terfyn cyflymder o 20mya ledled Cymru.
Rydym am glywed eich adborth ar derfynau cyflymder 20mya yn Sir Fynwy, defnyddiwch y ffurflen ymateb isod i gyflwyno eich sylwadau. Nod yr arolwg hwn yw casglu adborth ar leoliadau y mae preswylwyr yn credu y dylid eu heithrio neu eu cadw ar 20mya.
Bydd yr holl sylwadau dilys, sy’n ymwneud â ffyrdd sy’n rhan o System Priffyrdd Mabwysiedig Cyhoeddus Sir Fynwy, yn cael eu cofnodi a’u hadolygu yn ddiweddarach eleni. Gellir dod o hyd i ganllawiau eithriadau diwygiedig Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yma.
Byddwch yn ymwybodol na fyddwn yn cofnodi unrhyw sylwadau cyffredinol am y Polisi Cenedlaethol 20mya, gan mai mater yw hwn i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, os yw eich sylwadau’n ymwneud â Chefnffyrdd, gan nad yw’r rhain yn gyfrifoldeb Awdurdodau Lleol, e-bostiwch yn lle hynny TrunkRoads20mph@llyw.cymru.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ba ffyrdd yw Cefnffyrdd yma.
Map o ffyrdd yr effeithir arnynt gan y terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya
![Map o ffyrdd yr effeithir arnynt gan y terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya](https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2021/11/road.png)
Terfynau cyflymder 20mya lleol yn Sir Fynwy
![Terfynau cyflymder 20mya lleol yn Sir Fynwy](https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2021/11/street.png)
Cwestiynau Cyffredin
![Cwestiynau Cyffredin](https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2021/11/orders.png)
Pasiodd y Senedd ddeddfwriaeth Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 yn 2022. Mae hyn yn golygu y bydd terfynau cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig yn gostwng o 30mya i 20mya o fis Medi 2023.
Mae ffyrdd cyfyngedig yn cynnwys goleuadau stryd sydd ddim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Maent fel arfer wedi’u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig gyda llawer o gerddwyr.
Gallai lleihau’r terfyn cyflymder rhagosodedig o 30mya i 20mya yn yr ardaloedd hyn arwain at nifer o fanteision, gan gynnwys:
- gostyngiad yn nifer y gwrthdrawiadau ffordd
- mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ein cymunedau
- helpu i wella ein hiechyd a’n lles
- gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
- diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
- anafiadau llai difrifol os bydd gwrthdrawiadau’n digwydd
Cymru yw un o’r gwledydd cyntaf yn y byd a’r genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno deddfwriaeth i gael terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd lle mae ceir yn cymysgu â cherddwyr a beicwyr.
Mae’r newidiadau hyn yn cefnogi:
- Ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru
- Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, sy’n rhoi blaenoriaeth i gerdded a beicio uwchlaw pob dull arall o deithio
- Cymru’r Dyfodol: cynllun cenedlaethol 2040, sy’n gosod y nod i bobl fyw mewn mannau lle mae teithio’n cael effaith amgylcheddol isel
Mae gwybodaeth ychwanegol am Derfyn Cyflymder 20mya Diofyn Llywodraeth Cymru ar gael yma.