Yma, dylech ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am gost gwasanaethau gofal i oedolion a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael i chi.
Nid oes tâl ar gyfer plant o dan 18 oed.
Efallai y bydd gan rai pobl ag anghenion cymhleth hawl i dderbyn gofal iechyd am ddim gan y GIG.
Talu am ofal
Os mai gofal preswyl yw’r dewis gorau i chi, gall y gwasanaethau gofal cymdeithasol asesu eich anghenion a’ch helpu i ddod o hyd i gartref gofal sy’n addas i chi.
Yn dilyn asesiad gofal cymdeithasol, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu tuag at gost eich gofal, ond efallai y gofynnir i chi wneud cyfraniad.
Byddwch yn cael eich gwahodd i gwblhau ffurflen asesiad ariannol. Byddwn yn ystyried eich incwm a’ch cynilion a phenderfynu a allwch chi fforddio gwneud cyfraniad tuag at eich gofal. Byddwch yn cael gwybod am unrhyw gyfraniad cyn i chi fynd i gostau.
Wrth gynnal yr asesiad ariannol, byddwn yn rhoi gwybod i chi am fudd-daliadau y gallech fod yn gymwys i wneud cais amdanynt.
Os ydych eisoes wedi cael gwybod beth fydd y tâl am eich gofal, mae yna amrywiaeth o opsiynau talu.
Gall y dolenni canlynol roi gwybodaeth bellach i chi:
- www.gov.uk
- www. wales.gov.uk/docs/dhss/publications/120710crag28en.doc
Os ydych eisoes wedi derbyn bil am eich gwasanaethau gofal ac yn cael trafferth talu amdano, cysylltwch ag aelod o’n tîm ar 01633 644451 neu 01633 644772.
Os oes angen cyngor am reoli eich arian arnoch, mae gwybodaeth bellach ar gael yn:
- www.moneyadviceservice.net
- www.adviceguide.org.uk/wales
- www.citizensadvice.org.uk
Cyngor budd-daliadau
Efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth os oes gennych anabledd, rydych yn sâl, neu os ydych yn gofalu am rywun. Mae hefyd yn rhoi incwm ychwanegol i chi os ydych yn ddi-waith ac yn chwilio am swydd, os yw eich enillion yn isel, os ydych yn magu plant, neu os ydych wedi ymddeol.
- Yr offeryn ar-lein – Gall Cyngor Budd-daliadau Directgov eich helpu i gael gwybod am yr hyn sydd ar gael www.gov.uk
- Mae gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, CAB, gyngor ar-lein, neu fe allwch gysylltu â’ch swyddfa leol. www.citizensadvice.org.uk
- Bydd Age UK yn helpu pobl hŷn i gael budd-daliadau. www.ageuk.org.uk/money-matters
Mae yna hefyd nifer o linellau cymorth sy’n rhoi cyngor cyffredinol am hawl i fudd-daliadau:
- Llinell Ymholiadau am Fudd-daliadau: 0800 88 22 00
- Llinell Gymorth y Lwfans Byw i’r Anabl a’r Lwfans Gweini: 08457 123 456
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Budd-dal Analluogrwydd: 0800 055 6688
Ffurflenni
- Ffurflen asesiad ariannol
Os ydych yn ystyried gwasanethau nyrsio, gofal preswyl, gofal dydd, gofal cartref neu gefnogi pobl, byddwch yn cael eich gwahodd i lenwi Ffurflen Asesiad Ariannol. Unwaith y byddwch wedi llenwi’r ffurflen, bydd ein Swyddogion Asesu Ariannol yn cyfrifo a allwch chi fforddio i wneud cyfraniad tuag at gost eich gofal. - Ffurflen Debyd Uniongyrchol
Os ydych wedi cael gwybod y bydd yn rhaid i chi wneud cyfraniad tuag at gost eich gofal, bydd angen i chi drefnu taliad am y gwasanaethau yr ydych yn eu derbyn. Rydym yn ffafrio Debyd Uniongyrchol fel dull o dalu am wasanaethau gofal. Os hoffech chi dalu eich cyfraniad trwy ddebyd uniongyrchol, cwblhewch y ffurflen isod.
Gweler isod ein hamserlen anfonebu, sy’n nodi pryd y bydd angen i chi gyflwyno eich anfonebau i ni ar gyfer taliad:
http://wales.gov.uk/topics/health/socialcare/care/residential-care/?lang=en