Y Tîm Strategaeth Tai sydd yng ngofal y rhaglen Grant Tai Cymdeithasol, sy’n galluogi cyflenwi tai fforddiadwy yn Sir Fynwy.
Gallwn ddarparu cartrefi fforddiadwy ar draws y sir drwy ddefnyddio Grant Tai Cymdeithasol a gweithio gyda’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n bartneriaid i ni.
Mae gwahanol opsiynau tai fforddiadwy ar gael, sef Rhent Cymdeithasol, Rhent Canolraddol, Perchentyaeth Cost Isel a Rhentu i Brynu
Mae’n bosibl y bydd opsiwn hefyd i bobl leol adeiladu eu cartref fforddiadwy eu hunain, er mwyn diwallu eu hanghenion tai eu hunain o dan rai amgylchiadau, drwy’r polisi eithriadau gwledig, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y polisi ‘Adeiladu Eich Cartref Fforddiadwy Eich Hun’.
Rydym hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr Adran Cynllunio i sicrhau y caiff pob cyfraniad Adran 106 eu gwneud yn unol â’r Canllawiau Cynllunio Atodol cyfredol ar Dai Fforddiadw https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2019/04/190404-Revised-AH-SPG-for-consultation.pdf)**
Mae prinder tai fforddiadwy yn Sir Fynwy/ Mae pris cyfartalog cartrefi yn £336,760 (Hometrack – 09/2020), sydd tu allan i gyrraedd llawer o bobl leol a phrynwyr tro cyntaf. Mae cost llety rhent preifat wedi cynyddu ac mae lefelau rhent y farchnad yn uwch nag y gall llawer o bobl ei fforddio. Mae’r pwysau hyn yn golygu fod miloedd o gartrefi wedi cofrestru ar Homesearch Sir Fynwy ac yn cael disgwyl cael mynediad i dai fforddiadwy. Mae mwy o wybodaeth ar yr angen am dai fforddiadwy ar gael yn Asesiad y Cyngor o’r Farchnad Tai Leol
**see attachment, can we highlight LHMA so it goes straight to the report**
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:
Sally Meyrick – Swyddog Strategaeth a Pholisi – Tai Fforddiadwy
Ffôn: 07970 957 039