Swyddog Statudol i Blant sy’n Derbyn Gofal LLSIS104
Rydym yn chwilio am Swyddog Statudol brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â’n tîm cyfeillgar a chefnogol. Mae’n rhaid i chi feddu ar wybodaeth ymarferol drylwyr o ddeddfwriaeth, prosesau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â Phlant sy’n Derbyn Gofal ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r gallu i ymdrin yn bwyllog ac yn effeithlon ag ysgolion, teuluoedd ac asiantaethau allanol. Byddai’r rôl yn cynnwys rheoli gwaith achos yn ymwneud â Phlant sy’n Derbyn Gofal a’r gallu i ddefnyddio systemau rheoli TG. Bydd y rôl heriol ond gwerth chweil iawn hon yn rhoi cyfle i chi weithio mewn Gwasanaeth Cynhwysiant cyfeillgar, sy’n edrych i’r dyfodol.
Cyfeirnod Swydd: LLSIS104
Gradd: BAND I SCP 31 £37,261 – SCP 35 £41,496
Oriau: 37 awr yr wythnos
Lleoliad: Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga
Dyddiad Cau: 17/05/2024 12:00 pm
Dros dro: NAC OES
Gwiriad DBS: OES