Skip to Main Content

Mae’r dreth gyngor yn helpu ariannu gwasanaethau lleol fel ysgolion, gofal cymdeithasol, gwasanaethau casglu gwastraff, goleuo’r strydoedd, hamdden a diwylliant, gwasanaethau brys a llawer iawn mwy.  

Mae’r rhan fwyaf o’r dreth gyngor yn mynd i’r Awdurdod Lleol, Cyngor Sir Fynwy, er mwyn gwario ar wasanaethau lleol, ond hefyd, mae rhannau o’r dreth yn mynd i’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent a’r Cynghorau Cymuned.

Mae’r Cyngor hefyd yn derbyn incwm gan  ardrethi busnes, grantiau llywodraeth, ffioedd eraill – sydd ôl yn cyfrannu at y gost o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor.   

Mae’r dreth gyngor hefyd yn cyfrannu at gostau a gwasanaethau eraill  gan gynnwys rheoli adeiladau’r Cyngor, costau sydd yn gysylltiedig gyda pholisi, strategaeth a chyfathrebu, y costau o redeg y gwasanaethau refeniw a’r gwasanaethau budd-daliadau, cyllidebau corfforaethol a’r costau benthyg. 

Cyllideb 2022/23

Mae gwariant y Cyngor yn cael ei rannu’n  ddau gategori – sef refeniw a chyfalaf.

Mae cynllun cyllideb y Cyngor yn cynnwys cynnydd cyffredinol yn y gyllideb refeniw ar gyfer2022/23 o £192.2 miliwn.

Bydd y gyllideb refeniw yn cael ei hariannu gan:

  • Grant cymorth refeniw o £77,524,232
  • Ailddosbarthu’r Ardreth Annomestig o £34,753,304
  • Y Dreth Gyngor (CSF) o £62,596,197
  • Y Dreth Gyngor (Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent) o £14,190,984
  • Y Dreth Gyngor (Cynghorau Cymuned) o £3,157,992

Mae’r gyllideb yn bwriadu taro cydbwysedd rhwng y costau cynyddol a’r galw am wasanaethau wrth gefnogi anghenion ein trigolion ifanc a hŷn, ymateb i anghenion y digartref a’n darparu buddsoddiad pellach yn ein seilwaith priffyrdd a chludiant.

Mae cynllun cyllideb y Cyngor yn  cynnwys cyllideb cyfalaf o £31.1 miliwn  ar gyfer 2022/23.  

Bydd y gyllideb cyfalaf yn cefnogi:

  • Buddsoddiad pellach yn ein  seilwaith priffyrdd a chludiant.
  • Rheoli’r clefyd  (Chalara) coed ynn a choed peryglus eraill.
  • Buddsoddi yn ein TGCh a’n rhwydwaith er mwyn gwella dygnwch y gwasanaethau a ddarperir,
  • Buddsoddi i fynd i’r afael ag anghenion tai hirdymor y digartref o fewn y Sir.   

Cliciwch yma i weld sut mae eich Treth y Cyngor yn cael ei defnyddio i gefnogi’r gwasanaethau rydym yn eu darparu ac i weld ble rydym yn parhau u fuddsoddi yn ein hasedau.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig

Cynllun Ariannol Tymor Canolig pedair blynedd y Cyngoryw sylfaen ein cynllunio ariannol ac mae’n amlinellu’r heriau ariannol a’r risgiau yr ydym yn wynebu yn y tymor canolig. 

Bydd y fersiwn nesaf yn ffocysu ar yr heriau cynyddol gyda  chynnal y gwasanaethau sydd yn cael eu darparu ar hyn o bryd. Bydd hyn yn gyson gyda blaenoriaethau cynllun corfforaethol y Cyngor a bydd yn cael ei ddiweddaru, ar ôl mis Mai, er mwyn sicrhau ei fod yn gyson gyda’r weinyddiaeth newydd.

Bydd yn amlinellu’r goblygiadau  a’r effaith ar wasanaethau cyhoeddus, a hynny o effaith hirdymor y pandemig ar gymunedau Sir Fynwy a’r economi ehangach.

Mae’r rhain wedi eu cyfuno gyda’r risg a’r ansicrwydd sydd yn ymwneud gyda’r setliadau ariannol a ragwelir ar gyfer y tymor canolig. Tra bod Llywodraeth Cymru wedi dynodi cynnydd mewn cyllid craidd ar gyfer  2023/24 a 2024/25, efallai y bydd hyn yn newid