Skip to Main Content

I gael help i atal digartrefedd mae angen i chi gysylltu ag Opsiynau Tai Sir Fynwy a fydd yn gofyn cwestiynau i chi ac mae’n bosibl y byddant yn eich gwahodd i gyfarfod gyda nhw i asesu eich anghenion.

Gallwch gael cwmni unrhyw un er enghraifft ffrind, teulu, eiriolwr neu weithiwr cefnogi. Gall fod yn ddefnyddiol i chi gofio’r hyn sydd wedi cael ei ddweud wrthych. Gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda os hoffech gymorth i ddod o hyd i eiriolwr neu weithiwr cefnogi i’ch helpu.

Dyrennir Swyddog Tai i chi a fydd yn eich cynghori a’ch cefnogi hyd nes ydych dan fygythiad o fod yn ddigartref.

Os byddai’n well gennych siarad â swyddog o’r un rhyw â chi, nodwch hyn pan fyddwch yn gwneud eich apwyntiad a byddwn yn ceisio trefnu hyn.

Efallai y byddwn yn cysylltu â’ch cwmni morgais neu gyn-landlord/landlordiaid i gasglu gwybodaeth ac i drafod gyda hwy i atal eich digartrefedd.

Rhif ffôn: 01633 644 644 · Cyfeiriad E-bost: housingoptions@monmouthshire.gov.uk

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Iau 8.45 – 5.00pm, Dydd Gwener 8.45 – 4.30pm

Rhif argyfwng tu allan i oriau: 01633 644 644