Skip to Main Content

Yn Nhachwedd/Rhagfyr, roeddem wedi cynnal y rownd gyntaf o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer gwneud gwelliannau teithio llesol posib ar hyd Stryd Monnow. Roedd cyfanswm o 561 o aelodau’r cyhoedd wedi cwblhau’r holiadur ar-lein a chyfanswm o 44 o bobl wedi cwblhau’r arolwg  rhyngdoriadol. Mae’r adborth wedi helpu llywio’r cam cyntaf o dri cham sydd yn arwain at ddewis yr ymyrraeth arfaethedig. Mae prosiectau mwy fel hyn fel arfer yn cael eu datblygu dros nifer o flynyddoedd, a hynny o’r syniad gwreiddiol i’r dyluniad manwl ac yna’n ddibynnol ar  dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cam adeiladu.   

Rydym eisoes wedi gofyn am eich adborth ar y pedwar opsiwn canlynol: 

  • Opsiwn 1: caniatáu’r traffig i deithio unffordd mewn cyfeiriad de-orllewinol yn unig, llwybr beicio neilltuedig ar gyfer seiclwyr sydd yn teithio mewn cyfeiriad gogledd-ddwyreiniol a throedffyrdd sydd wedi eu lledaenu. 
  • Opsiwn 2: cynnal llif traffig dwy ffordd,  llwybr beicio neilltuedig ar gyfer seiclwyr sydd yn teithio mewn cyfeiriad gogledd-ddwyreiniol a throedffordd sydd wedi ei lledaenu. 
  • Opsiwn 3: Gwella cyflwr y droedffordd a’r lôn gerbydau heb unrhyw newidiadau i’r  cynllun cyfredol. 
  • Opsiwn 4A: Yn ychwanegol at Opsiwn 1, darparu  llwybr beicio amgen a throedffordd o Stryd Monnow, drwy Feysydd Chippenham ac i Stryd Chippenhamgate. 
  • Opsiwn 4B: Yn ychwanegol at Opsiwn 2, darparu  llwybr beicio amgen a throedffordd o Stryd Monnow, drwy Feysydd Chippenham ac i Stryd Chippenhamgate.  

Mae Opsiynau 1, 2 4A a 4B yn arwain at newidiadau, yn enwedig gwelliannau penodol ar gyfer cerddwyr a seiclwyr – ac roedd y rhan fwyaf o unigolion a ymatebodd o blaid un o’r opsiynau yma yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad.  Fodd bynnag, yr opsiwn system unffordd (Opsiwn 1) oedd y cynnig lleiaf  poblogaidd ac roedd wedi derbyn adborth negatif  gan drigolion a busnesau pan roddwyd cynnig ar hyn yn 2020. Nid yw’r llwybr seiclo a’r  droedffordd amgen sydd yn rhan o opsiynau  4A a 4B yn gymwys ar hyn o bryd ar gyfer cyllid Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, ac felly, rydym wedi tynnu’r cynigion yma er mwyn osgoi unrhyw oedi  gyda’r newidiadau sydd i’w gwneud ar Stryd  Monnow. 

Yn sgil y rhesymau yma, rydym yn ffocysu yn Rownd Dau o’r ymgynghoriad cyhoeddus ar Opsiwn 2, sydd yn cynnal llif traffig dwy ffordd tra’n cynnal  darpariaeth ar gyfer cerddwyr a seiclwyr. Hoffem glywed eich barn i’n helpu ni lywio ein cynigion, i ddarparu llwybr teithio llesol i gymudwyr a’r gymuned ar hyd Stryd Monnow er mwyn cyrraedd y siopau, llefydd cyflogaeth a’r cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus. Ein nod yw annog pobl i ymweld gyda’r ardal ar droed a thrwy seiclo, a hynny drwy ddarparu gofod diogel a deniadol.    

CLICIWCH YMA ER MWYN LLENWI’R HOLIADUR YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS 

OS YDYCH YN BERCHNNEOG/RHEOLWR AR FUSNES AR STRYD MONNOW, CLICIWCH YMA ER MWYN  LLENWI’R HOLIADUR YMGYNGHORIAD BUSNES 

Y DYDDIAD CAU AR GYFER YMATEB YW 12pm 2/3/2022