Skip to Main Content

Anelu i godi hunan-barch ac ysgogi cariad at ddysgu.

Mae’n hanfodol sicrhau geirfa golwg (200 HF gair cyntaf).

Mae cynllun darllen wedi’i strwythuro sy’n cynnwys ailadrodd a chyflwyno geiriau newydd yn araf yn bwysig. Mae’r strwythur yn sicrhau y caiff ffoneg eu dysgu mewn trefn briodol. Mae’r ailadrodd yn sicrhau fod plant yn datblygu hyder.

Arbedwch y plentyn dyslecsig rhag gorfod ‘darllen yn uchel’ yn y dosbarth. Ystyriwch gyfnod tawel gyda’r athro i ddarllen neu roi amser ymlaen llaw i ddarllen deunydd darllen a ddewiswyd ymlaen llaw i’w ymarfer adref.

Bydd darllen mewn parau – brawddeg/paragraff – yn aml yn ysgogi brwdfrydedd.

Bydd gwrando ar dapiau stori yn cyfoethogi gyrfa. Dylai’r plentyn dracio.

Torri ffenestri allan neu ddefnyddio ffon fesur gorddalen liawr neu ffon fesur Cooler i helpu cadw lle.

Sicrhau fod y deunydd darllen o lefel oedran darllen/oedran diddordeb perthnasol.

Ystyried llyfrau gyda phrint/papur cyfeillgar i ddyslecsia megis Barrington Stoke gyda’r lefelau wedi’u nodi’n glir.

Mae gemau darllen fel SWAP  yn ardderchog – adalw geiriau’n gyflym a hwyliog mewn patrymau ffoneg.