Skip to Main Content

Ymgynghori ar Ddrafft Strategaeth Iaith Gymraeg 5 mlynedd 2022-2027 Cyngor Sir Fynwy

Rydym am sicrhau cynnydd o 8.986% yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Fynwy erbyn 2027.

Ein nod fel cyngor hefyd yw hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg a’r diwylliant a’r etifeddiaeth Gymreig a galluogi pobl i fyw, gweithio, mwynhau gweithgareddau hamdden a defnyddio gwasanaethau yn Gymraeg trwy’r sir gyfan. Er mwyn cyflawni’r nodau hyn bydd angen gweithio mewn partneriaeth rhyngom ni fel cyngor, â phartneriaid sector cyhoeddus, busnesau, y sector addysg a phobl a chymunedau Sir Fynwy. Er mwyn cefnogi cyflawni’r uchod rydym wedi nodi 4 amcan.

  • Amcan 1: Cynyddu’r nifer o blant sy’n cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Amcan 2: Rhoi mwy o gyfleoedd i oedolion ddysgu a defnyddio’r iaith
  • Amcan 3: Cynyddu’r nifer o gyfleoedd i’r cyhoedd ryngweithio â gwasanaethau cyhoeddus a gyflwynir trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Amcan 4: Gweithio gyda phartneriaid i greu mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol yn eu bywydau bob dydd.

Un o ofynion statudol safonau newydd y Gymraeg yw creu a chyhoeddi strategaeth 5 mlynedd sy’n nodi sut y byddwn yn hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Dyma drafft o’r ail Strategaeth Iaith Gymraeg 5 Mlynedd Cyngor Sir Fynwy sy’n trin y cyfnod 2022 – 2027 ac yn amlinellu ein 4 amcan arfaethedig uchod. Rydym wedi cynnwys targed i gynyddu’r nifer a’r ganran o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn Sir Fynwy. Dogfen bwysig sydd â chysylltiad agos â’r strategaeth hon yw ein gofyn statudol i fod â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn ei le. Hefyd, rydym ni fel cyngor wedi ymrwymo i chwarae ein rhan wrth gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 (Cymraeg 2050).

Bydd cyflawni’r 4 amcan a restrir uchod yn digwydd trwy weithredu’r cynllun gweithredu’n effeithiol, y cytunir arno yn dilyn y broses ymgynghori statudol hon. Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar ddydd Llun 13 Rhagfyr 2021 ac yn cau ar ddydd Gwener 28 Ionawr 2022.

Cliciwch ar y ddolen isod i lenwi’r ffurflen ymgynghori.

Sir Fynwy a’r Iaith Gymraeg