Skip to Main Content
a Photo collage of places in monmouthshire including, the severn bridge, Shire hall, Wye River, the blorenge mountain and Abergavenny and chepstow high streets

Mae Awdurdod Lleol yn ecosystem gymhleth o ddinasyddion, cymunedau, cyfreithiau, gwasanaethau, gweithwyr, asedau a llawer mwy. Ar lefel sylfaenol, mae’n ymwneud â dod o hyd i ffordd o gysylltu anghenion, dymuniadau a dyheadau’r holl bobl sy’n byw ac yn gweithio mewn lle â phensaernïaeth ariannol a chyfreithiol sylweddol sefydliad sy’n gwneud popeth o goginio prydau mewn ysgolion i’w hadeiladu, llenwi tyllau, gofalu am y rhai sydd ei angen, goleuo strydoedd, gofalu am ein hamgylchedd, cefnogi pobl i gadw’n iach drwy gynnal a chadw llwybrau troed i byllau nofio a chymaint mwy. Mae’r cysylltiad rhwng pobl ein Sir a’r Cyngor yn amlwg yn ein Cynghorwyr sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd a natur agored y sefydliad a’r llwybrau i gymryd rhan. Yn fwy na strategaeth, mae hwn yn borth sy’n ceisio nodi rhai o’r rhyngwynebau allweddol a’r ffyrdd y mae gan bob dinesydd y mae’r hyn y mae’r Cyngor yn ei wneud yn effeithio arnynt y gallu i lunio a dylanwadu ar eu cymuned a’u Sir i weithio gyda’i gilydd i greu amgylchedd sir sydd yn decach, gwyrddach a mwy llwyddianus.

Beth mae’r Cyngor yn gwneud?

Mae gan Gyngor gannoedd o gyfreithiau sydd naill ai’n dweud wrtho fod yn rhaid iddo wneud rhywbeth (e.e. darparu addysg i blant) neu’n rhoi pŵer iddo wneud rhywbeth (e.e. gwahardd yfed alcohol mewn lleoliad penodol).

Gallwch ddefnyddio ein gwefan i weld pwy yw eich cynrychiolwyr a’r ystod o wasanaethau a ddarperir neu ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i weld yr enghreifftiau diweddaraf o waith sy’n cael ei wneud.
(cliciwch ar y botymau cyfryngau cymdeithasol ar waelod y dudalen)

Gallwch hefyd weld ein cyfansoddiad (neu’r canllaw symlach) sy’n nodi sut y caiff yr holl bwerau a dyletswyddau hynny eu dirprwyo i wahanol gyrff neu bobl a’r rheolau sy’n nodi sut y mae’n rhaid inni weithredu.

Sut mae darganfod pa benderfyniadau mae’r Cyngor yn eu gwneud?

Gellir gweld pob penderfyniad a wneir gan Gynghorydd neu Bwyllgor ar ein gwefan lle mae cofnodion a chofnodion cyfarfodydd ar gael (Calendr Cyfarfodydd)
 
Cyn y cyfarfod lle gwneir y penderfyniad hwnnw, bydd yr agenda yn cael ei gyhoeddi wythnos ynghynt gyda’r holl ddogfennau perthnasol.
 
Ar gyfer rhai materion, bydd Pwyllgor Craffu yn trafod y mater ychydig wythnosau cyn y cyfarfod sy’n gwneud y penderfyniad.
 
Gallwch hefyd fynychu’r cyfarfodydd hynny neu eu gwylio’n fyw drwy ein Sianel YouTube .
 
Gwneir penderfyniadau mewn gwahanol leoedd. Mae materion strategol mawr fel y gyllideb flynyddol a’r cynllun cymunedol a chorfforaethol yn cael eu trin gan y Cyngor llawn o 46 Aelod.
 
Gall materion sy’n dod o fewn y fframwaith polisi a’r gyllideb a osodwyd gan y Cyngor ddisgyn i’r Pwyllgor Gwaith – y Cabinet a ddewisir gan Arweinydd y Cyngor sydd, yn ei dro, yn cael ei ethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol bob blwyddyn.
 
Mae yna hefyd bwyllgorau pwysig fel Cynllunio a Thrwyddedu sy’n gallu gwneud penderfyniadau am faterion unigol – estyniad, trwydded ar gyfer tacsi ac ati.
Cyfansoddiad

Sut wyf yn medru dod yn Gynghorydd?

Y cwestiwn cyntaf sydd angen i chi ei ystyried yw ‘pa fath o Gynghorydd?’
Gallwch ddarganfod mwy yn ein dogfen Sut i ddod yn Gynghorydd.
 
Yng Nghymru mae tair haen i lywodraeth a chyngor
Llywodraeth
Senedd Cymru | Welsh Parliament
Welsh Government

Cynghorau Tref a Chymuned
Gwefannau Cyngor Tref a Chymuned

Pleidiau Etholaethol
Plaid Geidwadol Sir Fynwy
Plaid Lafur Sir Fynwy
Plaid Werdd Gwent
Plaid Cymru

Cynhelir etholiadau ar gyfer pob haen bob 5 mlynedd – cynhelir yr etholiadau Sir a Chynghorau Cymuned ar yr un diwrnod.

Sut mae gwneud fy marn yn hysbys i’r Cyngor a dylanwadu ar Benderfyniadau?

Efallai yr hoffech siarad â’ch cynrychiolydd lleol i fynegi eich barn neu weld a fydd yn siarad ar eich rhan, neu gallwch gymryd rhan yn uniongyrchol. Gallai hynny gynnwys mynd i gyfarfod i ofyn cwestiwn neu efallai y byddwch am drefnu deiseb. Mae 4 adran gyntaf y Cyfansoddiad, tudalennau 1-21, yn nodi’r gwahanol ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan a sut mae’r Cyngor yn gweithredu.   

Canllaw Craffu
E-Ddeisebau Cyfredol
Canllaw ar gyfer E-Ddeisebau

Beth yw Craffu?

Mae Pwyllgorau Craffu yn grŵp trawsbleidiol o Gynghorwyr nad ydynt yn rhan o’r Cabinet, oherwydd eu rôl yw dwyn y Cabinet i gyfrif. Nid oes gan Bwyllgorau Craffu unrhyw bwerau gwneud penderfyniadau, ond gallant lywio penderfyniadau a pholisi’r Cyngor ac maent wedi dod yn gyfrwng hynod effeithiol i’r cyhoedd helpu i lywio cyfeiriad y Cyngor.
 
Mae pedwar pwyllgor o’r enw Pobl, Lle, Gwasanaethau Cyhoeddus a Pherfformiad a Throsolwg ac maent yn darparu ‘gwiriad a chydbwysedd’ i’r Cabinet i sicrhau bod y Cyngor yn gwneud y penderfyniadau cywir ac yn mabwysiadu’r polisïau cywir ar gyfer pobl Sir Fynwy.
 
Mae Pwyllgorau Craffu bob amser yn awyddus i glywed llais y cyhoedd ar faterion y maent yn eu dadlau. Drwy’r fforwm agored cyhoeddus sy’n rhan o’r agenda, gall y cyhoedd fynychu unrhyw gyfarfod Pwyllgor Craffu yn bersonol, neu anfon recordiad fideo neu sain neu anfon safbwyntiau’n ysgrifenedig cyn cyfarfodydd. Ewch i ddarllen y canllaw ar gyfer mynychu Fforwm Agored Cyhoeddus mewn Pwyllgor Craffu.
 
Gall Pwyllgorau Craffu hefyd gyflwyno deisebau i’w cyfarfodydd. Ewch i ddarllen y canllaw sydd yn esbonio beth sydd digwydd i e-ddeiseb sydd wedi ei derbyn gan y Pwyllgor Craffu

Beth Arall?

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i nodi’r atebion i’r cwestiynau uchod. Ond dim ond y dechrau yw hyn ..…pan wnaethom adolygiad mewnol o sut mae pobl yn cymryd rhan fe wnaethom ddarganfod cannoedd o ffyrdd o ryngweithio na ddylid eu hanwybyddu. Mae pob defnyddiwr gwasanaeth yn rhyngweithio â’n haelodau staff a gallant ofyn cwestiynau iddynt a chodi materion neu awgrymiadau. Mae gennym y wefan, yr ap, ein sianeli cyfryngau cymdeithasol lle gallwn ymdrin â materion yr ydych yn eu codi a thrwyddynt gallwch ddylanwadu ar y miloedd o benderfyniadau dydd-i-ddydd y mae’n rhaid i adrannau ar draws y Cyngor eu gwneud.
Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau penodol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau sy’n medru elwa’r mater dan sylw. Edrychwch ar yr ymgysylltu â’r gyllideb (dolen), proses y CDLl (dolen), a digwyddiadau fel Sioe Brynbuga.

Beth nesaf?

Nid yw cyfranogiad y cyhoedd yn rhywbeth statig. Yr hyn sydd gennych uchod yw porth i’r myrdd o ffyrdd y gallwch gynnwys eich hun yn y penderfyniadau y mae Cyngor Sir Fynwy yn eu gwneud. Bydd y cam nesaf yn dod â ni atoch chi. Byddwn yn treulio amser yn deall sut y gall fod yn bosibl dod â phenderfyniadau i’r cymunedau yr effeithir arnynt a chydgynhyrchu ymagwedd wahanol at gyfranogiad y cyhoedd.

Dolenni cyfryngau cymdeithasol