Skip to Main Content

Spelling Mastery A B a C.

Mae Spelling Mastery yn rhaglen sillafu seiliedig ar strategaeth sy’n seiliedig ar fyfyrwyr yn dysgu deall y berthynas rhwng seiniau, rhannau geiriau a phatrymau sillafu. Mae Spelling Mastery yn plethu tair strategaeth sillafu i gynyddu datblygiad sgiliau eich myfyrwyr i’r eithaf:

Ffonemig

Morphemig

Geiriau cyfan

Bydd y gwersi syml yn eich galluogi i:

Adeiladu strategaethau sillafu dibynadwy yn ofalus

Rhoi’r sgiliau mae myfyrwyr eu hangen i sillafu miloedd o eiriau

Rydym yn hoffi:

y gwobrau: yn seiliedig ar brofi bob 5 gwers – gall myfyrwyr ddod yn sillafwyr da ac ennill tystysgrifau

ei bod yn tanlinellu pwysigrwydd ddweud enwau wrth sillafu ond hefyd y pwyslais ar y plentyn yn ynganu’r synau a wneir mewn geiriau.

ei fod yn clymu mewn mor dda gyda llawysgrifen – mae llinellau llawysgrifen ar y tudalennau fel y caiff ysgrifen rhedeg gyda llythyrau o’r maint cywir ac yn y lle cywir eu cyfnerthu yr un pryd â dysgu sillafu.

Gwneud Sillafu’n Rhwydd

(Nodau: Adnabod teuluoedd geiriau mewn darllen a sillafu a’i ddefnyddio i brawfddarllen. Mae hon yn rhaglen sillafu strwythuredig, gronnol, aml-synhwyraidd sydd o fudd i bob plentyn, yn cynnwys rhai gydag anawsterau dyslecsig. Mae’r llyfrau gwaith yn cynyddu mewn cymhlethdod wrth i’r dysgwr ddatblygu hyder o eiriau syml, drwy weithgareddau ymwybyddiaeth ffonolegol, i destunau deall a gweithgareddau ysgrifennu, i gyd wedi’u cynllunio i ymarfer sillafu.

Dalenni gwaith i’w llungopïo.

A Hand for Spelling.

Cynllun sy’n cyfuno llawysgrifen a sillafu.

Cyfuno patrymau sillafu a phatrymau llawysgrifen.

Wordshark

Ar gyfer cyfrifiadur :      Rydym wrth ein bodd gyda Wordshark. Gallwn fewnbynnu’r rhestri geiriau a’r patrymau ffonig mae plentyn unigol eu hangen.

Nessy

Mae myfyrwyr wrth eu bodd yn chwarae gemau sillafu yn Nessy. Dilyn patrymau ffonig a rheolau sillafu. Gemau hwyl gwych gyda gwobrau. Mae Nessy hefyd yn cynhyrchu apiau hwyliog fel Hairy Words ar gyfer dysgu geiriau cyffredin.

Spellasaurus

Spellasaurus:  Rydym yn edrych ymlaen at roi cynnig ar hwn! Ap am ddim sy’n gadael i fyfyrwyr roi’r geiriau maent eisiau eu dysgu. Yn wahanol i apiau eraill sydd wedi eu cyfyngu i set o eiriau penodol, gyda Spellosaur rydych yn rhoi’r geiriau y dymunwch eu dysgu – eich rhestr sillafu wythnosol neu ddim ond set o eiriau y buoch yn ymdrechu eu dysgu. Gwneud dysgu’n hwyl gyda set o gemau i helpu dysgu pob sillafiad yn gynyddol. Gwrando a dewis y gair cywir, llenwi’r gair drwy ychwanegu’r llythyrau coll ac ail-drefnu’r llythyrau i wneud y gair.