Skip to Main Content

Hoffem eich hysbysu y cyflwynwyd strwythur prisio newydd ar gyfer trwyddedau sgiliau a sgaffaldau ar 1 Ebrill 2014. Y gost newydd fydd £51.25 y mis ar gyfer sgipiau a sgaffaldau, gyda phro-rata ychwanegol o £12.82 yr wythnos am bob wythnos ychwanegol.

Ffurflenni cais

Cyn gosod sgip adeiladwr ar briffordd gyhoeddus, mae gofyn i chi gael trwydded ar gyfer pob lleoliad gan yr awdurdod priffyrdd. Ni fydd hon yn cael ei rhoi i chi oni bai eich bod yn ymrwymo i gadw at yr amodau a restrir isod, yn ogystal ag unrhyw amodau eraill y bydd yr Awdurdod Priffyrdd efallai yn ystyried yn angenrheidiol. Bydd amodau ychwanegol o’r fath yn cael eu cynnwys yn y drwydded sgip ei hun. Dylech fod yn ymwybodol y gall methiant i gadw at y rhain eich gadael yn agored i gael eich erlyn o dan y ddeddf a enwir isod.

Dylech nawr ddarllen a dod yn gyfarwydd â’r amodau a restrir isod. Pan fyddwch yn hollol sicr eich bod yn deall y rhain ac yn fodlon ymrwymo i gadw atynt (ac nid cyn hynny), y dylech lofnodi’r datganiad i’r perwyl hwnnw ar ddiwedd y ddogfen. Yna dylech ddychwelyd un copi wedi’i lofnodi i’r Siop Un Stop a chadw copi arall i gyfeirio ato eich hun.

Ar ôl derbyn y copi sydd wedi’i lofnodi, bydd y Rheolwr Ardal neu gynrychiolydd yn sicrhau bod enw’r cwmni sgipiau a manylion perthnasol eraill yn ymddangos yn y gofrestr o gwmnïau sgipiau cymeradwy a gedwir gan Gyngor Sir Fynwy. Anfonir llythyr sy’n cadarnhau hyn at y cwmni a enwir.

Ni fydd ceisiadau am drwyddedau sgipiau yn cael eu hystyried oni bai iddynt gael eu gwneud gan gwmni sydd wedi’i gofrestru, ac ni fydd cwmni arall yn cael caniatâd i osod sgip ar briffyrdd cyhoeddus yn Sir Fynwy.

Gall Cyngor Sir Fynwy gymryd hyd at bum diwrnod gwaith llawn i gymeradwyo a rhoi trwydded. Fe’ch cynghorir i BEIDIO â gosod unrhyw beth ar y safle hyd nes i chi dderbyn y drwydded.

Bydd yr amodau hyn yn cael eu hadolygu bob blwyddyn neu pan fydd newidiadau mewn deddfwriaeth neu bolisi yn gwneud hyn yn ofynnol. Bydd gofyn i chi lofnodi dogfen newydd sy’n eich ymrwymo i gadw at yr amodau diwygiedig bob blwyddyn.

Amodau a rheoliadau

I osod sgip adeiladwr ar y Briffordd Gyhoeddus
Deddf Priffyrdd 1980, Adrannau 139, 140 ac 140a
Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, Adran 65
Rheoliadau Sgipiau Adeiladwyr (Marcio) 1984 (OS 1984, Rhif 1933)
Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, Adran 34

Rhan Un: Amodau i’w bodloni gan berchennog sgip adeiladwr wrth osod sgip ar y briffordd

1. Pan roddir cymeradwyaeth i osod sgip ar y briffordd gyhoeddus, golyga hyn bod caniatâd i osod sgip y tu allan i’r safle lle mae gwaith adeiladu yn mynd rhagddo. Ni ddylid gosod sgip unrhyw le arall heb ganiatâd ymlaen llaw gan swyddog priffyrdd. Efallai mai dim ond sgipiau caeedig sy’n dderbyniol mewn rhai lleoliadau sensitif.

2. Dylid gosod pob sgip ar y ffordd neu lain ymyl y ffordd (dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y rhoddir caniatâd i osod sgipiau ar lwybr troed) fel a ganlyn:

(a) Fel bod ei ochrau hiraf yn gyfochrog ag ymyl y ffordd ac mor agos iddo ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(b) Fel nad yw’n blocio draeniad dŵr wyneb ar y briffordd nac yn rhwystro mynediad i unrhyw dwll archwilio neu offer unrhyw ymgymerwr statudol neu’r cyngor.

(c) Nid yn agosach na 20 metr i gyffordd.

(d) Nid o fewn dolenni goleuadau traffig a reolir cyffordd.

(e) Nid ar safle bws neu mewn cilfan.

(f) Nid o fewn marciau “igam-ogam” croesfannau i gerddwyr neu ysgolion.

(g) Yn amodol ar unrhyw amodau arbennig eraill a amlinellir ar y drwydded pan fyddwch yn ei derbyn.

3. Pan osodir sgip mewn man ar y briffordd sy’n destun i orchymyn rheoleiddio traffig ynglŷn â pharcio ar y stryd, rhaid i berchennog y sgip ad-dalu Cyngor Sir Fynwy am y golled incwm.

4. Mae gosod sgip ar linellau melyn dwbl, llinellau melyn sengl neu linellau melyn sydd wedi’u torri (os ydynt yn weithredol) yn gofyn am gymeradwyaeth ychwanegol gan y Rheolwr Rhwydwaith Traffig neu gynrychiolydd. Ni fydd cymeradwyaeth o’r fath yn cael ei gwrthod yn afresymol ar yr amod y gall mesurau ategol gael eu cyflwyno i ddiogelu diogelwch ar y ffyrdd.

5. Ni ddylid gosod sgip ar y ffordd neu ran o’r ffordd fel ei fod yn rhwystro llwybr cerbydau neu gerddwyr ar hyd y ffordd i un cyfeiriad o leiaf; ac ni ddylai rwystro llwybr cerddwyr os y’i gosodir mewn parth cerddwyr.

6. Ni ddylid gosod sgip ar y ffordd neu ran o’r ffordd fel ei fod yn rhwystro mynediad cerbydau neu gerddwyr i fangre, oni bai bod meddiannydd y fangre honno wedi rhoi caniatâd yn gyntaf.

7. Dylid gosod y sgip fel y gellir ei weld yn glir gan draffig sy’n dod o’r naill ochr a’r llall ar bellter nad yw’n llai na 75 metr ar ffyrdd sy’n darostyngedig i derfyn cyflymder o 30 mya. Ar ffyrdd lle mae terfyn cyflymder uwch yn gymwys, bydd angen i’r sgip fod yn fwy amlwg byth.

8. Ni ddylai sgip fod yn fwy na 5 metr o hyd wrth 2 fetr o led.

9. Mae’n ofynnol wrth wneud unrhyw waith ar y priffyrdd i’r gwaith gael ei arwyddo, ei warchod a’i oleuo mewn modd digonol yn ystod oriau tywyllwch, fel y nodir yn Pennod 8 o’r “Llawlyfr Arwyddion Traffig” a “Chod Ymarfer Diogelwch Gwaith Stryd a Gwaith Ffyrdd”.

Er mwyn cyrraedd y safonau hyn, rhaid i bob cwmni fod â chyflogai sydd wedi’i gofrestru gyda’r cyngor ac sydd wedi cael ei hyfforddi a’i achredu yn y modiwl “Arwyddo, Goleuo a Gwarchod” fel a ragnodir yn Neddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Mae modiwl a gymeradwywyd ar gyfer gosodwyr sgipiau hefyd yn dderbyniol.

Pan fydd y gofyniad arwyddo a goleuo a bennir am unigolyn yn fwy beichus na’r drefn safonol (fel a ddangosir yn y rheoliadau hyn), yna mae’n rhaid i’r sawl sy’n cyflwyno’r sgip fod yn weithiwr achrededig neu weithiwr achrededig y cwmni, ac rhaid iddo fod yn bresennol wrth osod y sgip i sicrhau bod yr arwyddion priodol yn cael eu gosod yn y lle iawn i ddiogelu’r cyhoedd.

10. Bydd pob sgip, neu grŵp o sgipiau, tra bo ar y briffordd, yn cael ei farcio, ei warchod a’i oleuo yn unol â’r gofynion canlynol:

(a) Bydd pob pen y sgip (hynnyw yw, yr ochrau sy’n wynebu’r traffig i’r ddau gyfeiriad pan leolir y sgip yn unol ag amod 2 uchod) wedi’u peintio’n felyn a’u marcio â marciau fertigol yn unol â gofynion Rheoliadau Sgipiau Adeiladwyr (Marcio) 1984 (OS 1984, Rhif 1933), trwy gael streipiau lletraws mewn coch eang fflworoleuol a melyn adlewyrchol (gweler adran A yn rhan 2 o’r ddogfen hon). Bydd y paent a’r streipiau o ddeunydd yn cael eu cadw’n lân drwy’r amser. Nid yw sgipiau sydd wedi’u difrodi yn dderbyniol, ac fe ellir gorfodi perchennog i’w symud.

(b) Bydd pob sgip yn cael ei warchod gan linell o bedwar côn traffig o leiaf, yn unol â gofynion BS 873: Rhan 8 1985, sydd wedi’u gosod ar y ffordd ar bellter o 1.2 metr rhwng canolau ar ochr ddynesu’r sgip, ar 45′ o ymyl y ffordd (gweler adran B yn rhan dau o’r ddogfen hon). Pan osodir dau neu fwy o sgipiau mewn rhes, fel nad yw’r pellter rhwng sgipiau cyfagos yn fwy na 2 fetr, bydd y rhes yn cael ei gwarchod fel pe bai’n un sgip.

(c) Yn y nos (hynny yw, rhwng hanner awr ar ôl machlud haul a hanner awr cyn y wawr), dylai lamp gael ei chysylltu â, neu ei gosod yn erbyn, pob cornel o’r sgip neu ar gorneli’r sgipiau blaen mewn rhes o sgipiau (pan osodir mwy nag un sgip mewn rhes ac nad yw’r pellter rhwng sgipiau cyfagos yn fwy na 2 fetr), a bydd lampau hefyd yn cael eu rhoi rhwng pob côn a’r nesaf ar y ffordd (gweler adran B yn rhan dau o’r ddogfen hon).

Bydd lampau yn cydymffurfio â Rheoliadau Arwyddion Traffig a Chyfeiriadau Cyffredinol. Ni fydd goleuni pob lamp yn llai nag un gannwyll a bydd yn olau drwy gydol y nos.

(d) Amod ar y caniatâd hwn yw i’r holl gonau a lampau angenrheidiol gael eu darparu ar gyfer defnydd y cwsmer gen berchennog y sgip ac eu bod i gyd mewn cyflwr da.

(e) Rhaid i berchennog y sgip sicrhau bod y conau a goleuadau angenrheidiol yn cael eu gosod yn syth ar ôl i’r sgip gael ei roi ar y briffordd.

(f) Bydd rhaid i bob sgip neu gynhwysedd gael ei farcio’n glir ac yn ddarllenadwy gydag enw, cyfeiriad a rhif ffôn y perchennog, gan gynnwys rhif cyswllt mewn argyfwng y tu allan i oriau.

11. Ni fydd unrhyw sgip, pan fydd yn sefyll ar y briffordd, yn cynnwys unrhyw ddeunydd fflamadwy, ffrwydrol, gwenwynig neu beryglus, neu unrhyw ddeunydd sy’n debygol o bydru neu’n debygol o fod yn niwsans i ddefnyddwyr y briffordd.

12. Ni ddefnyddir unrhyw sgip yn y fath fodd fel bod ei gynnwys yn disgyn ar y briffordd neu bod llwch o gynnwys y sgip yn cael ei chwythu allan pan mae’n sefyll ar y briffordd.

13. Bydd pob sgip yn cael ei gasglu i’w wagio mor fuan ag sy’n bosibl ac, mewn pob achos, dim mwy na dau ddiwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei lenwi.

14. Yn dilyn y caniatâd hwn, ni fydd unrhyw sgip yn parhau ar y briffordd ar ôl i gyfnod y caniatâd a nodwyd ddod i ben.

15. Ceir gwared ar yr holl ddeunydd a roddir ym mhob sgip yn briodol a gadewir y briffordd lle y gosodwyd y sgip neu sgipiau yn lân a thaclus, pan ddaw’r caniatâd hwn i ben.

16. Yn unol â Deddf Priffyrdd 1980, bydd perchennog y sgip yn sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r gofynion hyn tra bod y sgip ar y briffordd.

17. Mae’r trwyddedai yn gyfrifol am sicrhau bod y sgip yn cael ei gadw yn rhydd o bosteri anghyfreithlon a graffiti. Rhaid i unrhyw enghreifftiau o’r fath yn cael eu symud o fewn 48 awr. Bydd methiant i wneud hynny yn arwain at ddiddymu’r drwydded, gyda’r cyngor yn cael gwared ar y posteri anghyfreithlon neu graffiti ac ailgodi’r tâl ar y trwyddedai.

18. Os deuir o hyd i sgip heb drwydded ar y briffordd gyhoeddus, bydd y cyngor sir yn ei symud oddi yno a gosod taliadau ychwanegol ar y cwmni sgipiau.

19. Rhaid i’r trwyddedai (cwmni neu unigolyn) sy’n bwriadu gosod sgip adeiladwr fod â yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a ddylai fod ar gael i’w archwilio (isafswm yswiriant o £5 miliwn). Mae’n rhaid i’r yswiriant hwn indemnio’r awdurdod priffyrdd rhag ac yn erbyn pob achos, hawliad, colled a thraul o unrhyw fath mewn perthynas â cholli bywyd, anaf personol neu ddifrod i eiddo, sut bynnag y’i hachosir, sy’n deillio o bresenoldeb y sgip adeiladwr, neu y gellir ei briodoli iddo, mewn unrhyw ffordd.

 

Rhan Dau: Amodau a rheoliadau sgipiau adeiladwyr

A. Rheoliadau Sgipiau Adeiladwyr (Marcio) 1984 yr Adran Drafnidiaeth

Atodlen 1 (Rheoliad 3): Manyleb Dylunio

Nodiadau:

(a) Rhaid i led pob hanner y marciau beidio â bod yn llai na 140 milimetr nag yn fwy na 280 milimetr.

(b) Rhaid i hyd pob hanner y marciau beidio â bod yn llai na 350 milimetr nag yn fwy na 700 milimetr.

(c) Rhaid i ongl pob streipen beidio â bod yn llai na 40 gradd i’r fertigol nag yn fwy na 50 gradd i’r fertigol.

(d) Rhaid i bob hanner y marciau fod ag ardal lleiaf o centimetr sgwâr.

(e) Rhaid i led pob streipen beidio â bod yn llai na 133 milimetr nag yn fwy na 147 milimetr.

Atodlen 2 (Rheoliad 3): Gofynion o ran Marciau

1. Bydd y marciau a bennir yn Atodlen 1 yn cynnwys dau blât o’r un maint a siâp fel ei gilydd.

2. Rhaid i bob plât hwn gydymffurfio â’r gofynion a bennir yn y Manyleb Safonau Prydeinig ar gyfer Platiau Cefn Cerbydau, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 1 Ebrill 1970 o dan rif BS AU152: 1970, a bydd pob plât wedi’i farcio fel a nodir ym mharagraff 5 o’r safon hwnnw.

3. Bydd y ddau blât sy’n cynnwys y marciau wedi’u cysylltu’n ddiogel â deupen y sgip adeiladwr yn y modd canlynol:

(a) Mae pob plât mor agos at ymyl allanol y sgip ag y mae adeiladwaith y sgip yn ei ganiatáu, ond yn y fath fodd fel nad oes unrhyw ran o’r plât yn estyn y tu hwnt i ymyl allanol pen y sgip.

(b) Mae ymyl dyfnaf pob plât yn gyfochrog â, a’r un pellter o, y plân fertigol sy’n mynd trwy echelin hydredol y sgip.

(c) Mae ymyl uchaf pob plât yn gyfochrog â, a’r un pellter o, ymyl uchaf pen y sgip.

(d) Nid oes rhan o’r naill plât neu’r llall yn gysylltiedig â:

i. Unrhyw gaead

ii. Unrhyw ddrws heblaw mewn achos pan mai drws yw’r unig beth y gellir gosod y plât iddo yn gyfleus.

(e) Nid yw ymyl uchaf pob plât:

i. Yn fwy nag 1.5 metr uwchben y ddaear

ii. Yn is nag ymyl uchaf y sgip ac eithrio i’r graddau y gall hyn fod yn angenrheidiol oherwydd adeiladwaith y sgip, darpariaethau Rheoliadau 4 neu ddarpariaethau’r is-baragraff (i) uchod.

4. Rhaid i’r ardaloedd â dotiau yn y diagram yn Atodlen 1 fod o ddeunydd fflworoleuol coch, a’r ardaloedd heb dotiau yn y diagram hwnnw o ddeunydd adlewyrchol melyn.

B. Gofynion o ran Gwarchod a Goleuo Sgipiau Adeiladwyr

Sylwer ar y canlynol:

(a) Mae Adran 139(4) o Ddeddf Priffyrdd 1980 yn ei wneud yn ofynnol i berchennog sgip adeiladwr sydd wedi’i osod ar y briffordd sicrhau bod y sgip yn cael ei oleuo yn briodol yn ystod oriau tywyllwch, ei fod wedi’i farcio’n glir ac yn annileadwy gydag enw’r perchennog a’i rif ffôn neu gyfeiriad, ei fod yn cael ei symud ymaith cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo gael ei lenwi, a bod cydymffurfiad â phob un o amodau caniatâd yr awdurdod priffyrdd. Os caiff y perchennog neu gwsmer yn euog o drosedd o dan yr is-adran, gallai fod yn atebol i ddirwy.

(b) Mae Adran 139(10) o Ddeddf Priffyrdd 1980 yn darparu na chaiff unrhyw beth yn yr adran ei gymryd i olygu bod caniatâd i greu niwsans neu berygl i ddefnyddwyr priffordd. Nid yw ychwaith yn gwneud awdurdod priffyrdd sydd wedi rhoi caniatâd o dan yr adran yn atebol am unrhyw anaf, difrod neu golled sy’n deillio o bresenoldeb ar briffordd y sgip y mae’r caniatâd yn berthnasol iddo.

(c) Mae Adran 140 o Ddeddf Priffyrdd 1980 yn rhoi pŵer i awdurdod priffyrdd neu swyddog yr heddlu i fynnu y caiff sgip adeiladwr ar briffordd ei symud neu ail-leoli er iddo gael ei osod yn unol â chaniatâd yr awdurdod priffyrdd, i adennill oddi wrth y perchennog y gost o symud neu ail-leoli’r sgip, ac i gael gwared ar sgip nad yw’n cael ei gasglu gan ei berchennog. Efallai y bydd methu cydymffurfio â chais i symud neu ail-leoli sgip o dan yr adran yn arwain at ddirwy.

 

Crynodeb o’r drwydded

Cyn rhoi sgip adeiladwr ar ffordd gyhoeddus, mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol.

Meini prawf cymhwysedd

Nid oes darpariaeth mewn deddfwriaeth

Crynodeb o’r rheoliadau

Crynodeb o’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y drwydded hon

Proses gwerthuso cais

Gellir rhoi caniatâd yn ddarostyngedig i amodau a allai fod yn ymwneud â’r canlynol:

  • lleoli’r sgip
  • mesuriadau’r sgip
  • gwneud sgipiau yn weladwy i draffig
  • gofal am a chael gwared ar gynnwys y sgip
  • goleuo a gwarchod sgipiau
  • symud y sgip

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?

Na fydd. Er budd y cyhoedd, rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch ag ef. Gallwch wneud hyn ar-lein yma os gwnaethoch gais trwy wasanaeth UK Welcomes, neu fel arall defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Gwneud cais ar-lein

(Noder bod ymgeiswyr, trwy wneud cais ffurfiol am drwydded sgip, yn derbyn telerau ac amodau Cyngor Sir Fynwy. Gallai methiant i wneud hyn arwain at geisiadau yn cael eu gwrthod neu eu tynnu’n ôl.) Gwneud cais am drwydded i osod sgip ar ffordd neu briffordd gyhoeddus Ymestyn neu adnewyddu eich trwydded sgip bresennol

Gwneud iawn am gais a fethodd

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn y lle cyntaf.

Gwneud iawn i’r deiliad trwydded

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn y lle cyntaf.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori mai chi sy’n gwneud y cyswllt cyntaf â’r masnachwr – a hynny’n ddelfrydol ar ffurf llythyr (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio, ac rydych yn byw yn y DU, bydd Cyswllt Defnyddwyr yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i’r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig.

Gwneud iawn am bethau eraill

E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd os bydd un deiliad trwydded yn gwneud cwyn am un arall.

Cymdeithasau masnach

Ffederasiwn Cyflenwyr Adeiladwyr (BMF)
Cyngor Contractwyr Arbenigol Cenedlaethol (NSCC)
Ffederasiwn Cenedlaethol Contractwyr Dymchwel (NFDC)
Ffederasiwn Cenedlaethol Adeiladwyr (NFB)