Skip to Main Content

Cyngor Sir Fynwy sydd yn gyfrifol am orfodi safonau yn y sector tai preifat. Is-adran iechyd cyhoeddus yr adran Iechyd Amgylcheddol sydd yn gyfrifol am:

  • Asesu peryglon mewn cartrefi rhent preifat trwy gynnal asesiadau dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) i sicrhau bod pob safle preswyl yn darparu amgylchiadau diogel iach ar gyfer y preswylwyr (meddianwyr) presennol ac unrhyw ddarpar breswylwyr neu ymwelwyr. Taflen Landlordiaid ar yr HHSRS.
  • Archwilio Tai Amlfeddiannaeth i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau presennol o ran darparu amgylchiadau diogel iach ar gyfer preswylwyr.
  • Darparu cyngor a gwybodaeth ar gyfer landlordiaid a thenantiaid.

MPage Content

mae dyletswyddau maeMae dyletswyddau landlord yn cynnwys cadw a chynnal elfennau allanol a strwythurol yr eiddo yn ogystal â gofalu’n ddiogel ac yn effeithiol am:

  • gyflenwadau dŵr, nwy a thrydan;
  • systemau hylendid personol, glanweithdra a draenio;
  • awyru;
  • cynhesu’r eiddo, a
  • cynhesu dŵr.

Gellir gweld gwybodaeth fanylach am gyfrifoldebau landlordiaid​​​​​​​​​​​​. ar wefan y llywodraeth ganolog. Mae llawlyfr i landlordiaid ar gael hefyd, yn cynnig ystod eang o wybodaeth hanfodol i landlordiaid.

Mae gwybodaeth ddefnyddiol i’w chael isod:

Diogelwch Nwy – http://www.hse.gov.uk/gas/landlords/index.htm

Diogelwch Trydan – http://www.electricalsafetyfirst.org.uk/guides-and-advice/for-landlords/

Diogelwch Trydan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch – http://www.hse.gov.uk/electricity/maintenance/safety.htm

Cofrestru a Thrwyddedu

 

Rhentu Doeth Cymru – ydych chi’n cydymffurfio?

Hoffem atgoffa landlordiaid ac asiantau gydag eiddo yn Cyngor Sir Fynwy neu unrhyw ardal arall yng Nghymru bod pwerau gorfodi Rhentu Doeth Cymru ar waith bellach.

Yn ôl cynllun Llywodraeth Cymru, sy’n helpu i godi safonau yn y sector rhentu preifat, mae gofyn i bob landlord preifat gofrestru ei hun a’i eiddo. Rhaid i Landlordiaid ac Asiantau sy’n gosod neu reoli eiddo gael trwydded yn ogystal.

Ers 23 Tachwedd 2016 mae’r pwerau gorfodi mewn grym, a gallai landlordiaid ac asiantau nad ydynt yn cydymffurfio wynebu amrywiaeth o sancsiynau gan gynnwys erlyn, Hysbysiadau Cosb Benodedig, atal rhent a gorchmynion ad-dalu rhent.

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gynnwys Cyngor Sir Fynwy, yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i amlygu’r rhai sy’n dal i beidio â chydymffurfio â’r gyfraith. Mae Cynghorau bellach yn erlyn y rheiny sydd wedi methu â chydymffurfio.

Os ydych chi’n landlord neu asiant sydd heb gydymffurfio eto, peidiwch ag oedi. Mae’n bwysig eich bod yn cymryd y camau angenrheidiol nawr i gydymffurfio ac osgoi unrhyw weithredu.

Os ydych chi’n denant ac yn dymuno cadarnhau a yw’ch landlord a/neu asiant yn cydymffurfio, gallwch weld gofrestr gyhoeddus Rhentu Doeth Cymru ar-lein yma: https://www.rentsmart.gov.wales/ên/check-register

Os nad yw wedi cofrestru, gallwch gysylltu â Rhentu Doeth Cymru yma: https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/contact/

I gael rhagor o wybodaeth am Rhentu Doeth Cymru cysylltwch â https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/  neu ffoniwch 03000 133344

Cartrefi Amlfeddiannaeth

Mae Cartref Mae Cartref Amlfeddiannaeth (HMO) yn adeilad, neu’n rhan o adeilad:

  • a feddiannir gan unigolion nad ydynt yn ffurfio un aelwyd, ac
  • a feddiannir gan yr unigolion hynny fel unig neu brif breswylfa, ac
  • lle y mae rhent yn daladwy gan un o leiaf o’r meddianwyr hyn, ac
  • lle y mae dwy neu fwy o aelwydydd yn rhannu un neu fwy o’r amwynderau sylfaenol.

Nid yw blociau fflatiau hunangynhwysol a godwyd i’r pwrpas yn HMOs, ond gall tai neu adeiladau sydd wedi cael eu trosi’n flociau fflatiau fod yn HMO:

  • os nad yw safon y gwaith trosi’n cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu 1991; ac
  • os yw llai na dau draean o’r fflatiau yn nwylo perchennog-breswyl.

 

Cewch weld rhagor o wybodaeth am Gartrefi Amlfeddiannaeth ​​​​ ar wefan y llywodraeth ganolog.

 

Trwyddedu Cartrefi Amlfeddiannaeth

Mae’n rhaid i landlordiaid sy’n berchnogion ar fathau penodol o HMO geisio am drwydded.

Mae’r drefn drwyddedu HMO yn gosod gofynion o ran diogelwch tân, ynghyd â safonau yng nghyswllt cyfleusterau cegin ac ystafell ymolchi. Mae’n gosod terfynau o ran nifer uchaf y meddianwyr ac yn rheoli safonau rheolaethol parhaus.

Yn Sir Fynwy nid oes ond un math o drwyddedu mewn grym, sef Trwyddedu Gorfodol.

Mae trwyddedu gorfodol ar gartrefi amlfeddiannaeth yn gynllun sydd mewn grym ledled y DU. Nid yw’r cynllun hwn yn berthnasol ond i’r cartrefi amlfeddiannaeth hynny sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Mae’r cartref amlfeddiannaeth neu unrhyw ran ohono yn cynnwys tri neu fwy o loriau; ac
  • Mae pump neu fwy o bobl yn byw yn yr eiddo; ac
  • Mae’r bobl sydd yn yr eiddo yn byw mewn dwy neu fwy o aelwydydd unigol, lle y rhennir cyfleusterau.

Os ydych chi’n landlord ar eiddo sy’n bodloni’r meini prawf ynghylch trwyddedu, mae cyfrifoldeb arnoch chi i gysylltu â’r Cyngor i geisio am drwydded.

Rheoliadau Tân mewn Llety Rhent

  • Yn ôl y math o eiddo yr ydych chi’n ei osod ar rent, bydd gwahanol ofynion mewn grym o ran rhagofalon tân. Os oes angen cyngor arnoch chi ynghylch y math o ragofalon tân a fydd yn berthnasol i’ch eiddo chi, dylech chi gysylltu â’r Tîm Iechyd Amgylcheddol, neu cewch weld Cyfarwyddyd diweddaraf LACoRS o’r enw ‘HOUSING – FIRE SAFETY’ (Cyfarwyddyd ynghylch rhagofalon diogelwch tân ar gyfer mathau penodol o gartrefi sydd yn bodoli eisoes), a gyhoeddir gan y Sefydliad Siartredig Iechyd Amgylcheddol ar y cyd â Chymdeithas y Prif Swyddogion Tân.